Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Ionawr i Mawrth 2024
Ein hystadegau chwarterol Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir. Mae data’n cynnwys nifer y trafodiadau, y dreth sy'n ddyledus a dadansoddiad ar gyfer ardaloedd yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yn ein datganiad ym mis Ionawr, fe wnaethom ddechrau cyhoeddi data chwarterol ar gyfer ardaloedd lleol am y tro cyntaf. O’r blaen, dim ond yn flynyddol yr oeddem wedi cyhoeddi data ardal leol a hynny yn ein datganiad blynyddol. Ym mis Ionawr, gwnaethom ofyn am farn ynglŷn ag a oes angen i ni gyhoeddi ein datganiad ystadegol blynyddol yn y dyfodol. Ar ôl ystyried yr adborth, rydym yn bwriadu rhoi’r gorau i gyhoeddi datganiad ystadegol blynyddol gan fod rhywfaint o ddadansoddi bellach yn cael ei gofnodi mewn modd mwy amserol yn ein datganiadau chwarterol. Rydym yn dal i ystyried sut i ddiweddaru ein herthygl sy’n egluro sut i ddefnyddio data ar gyfer ardaloedd lleol. Os oes gennych unrhyw farn ar y newidiadau hyn, cysylltwch â ni yn data@acc.llyw.cymru.
Mae Treth Trafodiadau Tir yn daladwy ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.
Mae’r datganiad ystadegol hwn yn dadansoddi’r prif dueddiadau mewn trafodiadau a threth sy’n ddyledus ar gyfer Treth Trafodiadau Tir. Mae'r daenlen atodol a'n tablau StatsCymru yn cynnwys data manylach.
Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn rhoi gwybodaeth gymharol amserol am weithgarwch yn y farchnad eiddo yng Nghymru. Defnyddir yr ystadegau hefyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i ragweld refeniw Treth Trafodiadau Tir.
Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn ystadegau swyddogol achrededig. Ym mis Chwefror 2022, fe wnaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau adolygu ac achredu’r ystadegau hyn yn annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio â safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Ein polisi cyhoeddiad ystadegol yn esbonio’r Polisïau a gweithdrefnau sydd gennym ar waith ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol, gan gynnwys ein dull o ddiwygio. Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.
Wrth gymharu ystadegau Treth Trafodiadau Tir dros amser, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o newidiadau blaenorol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir sy’n effeithio ar swm y dreth sy’n ddyledus:
Newidiadau i drothwy cyfradd sero o 27 Gorffennaf 2020 i 31 Mawrth 2021
Ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth o 31 Mawrth 2021 i 30 Mehefin 2021
Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir o 27 Rhagfyr 2022
Newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir o 10 Hydref 2022
Prif bwyntiau
Trafodiadau preswyl
- Yn Ionawr i Fawrth 2024, roedd trafodiadau preswyl i lawr 7% o'r un chwarter flwyddyn ynghynt, tra bod y dreth ddyledus i lawr 13%.
- Ym mhob mis ers Ionawr 2023, mae nifer y trafodiadau a swm y dreth sy'n ddyledus wedi bod yn is na'r un mis flwyddyn ynghynt. Roedd y tueddiadau hyn yn debygol o fod wedi eu dylanwadu gan amodau economaidd ehangach.
- Yn gyffredinol, mae canran y trafodiadau yn y bandiau eiddo uwch wedi bod yn cynyddu yn y pum mlynedd diwethaf, er ei fod wedi bod yn fwy sefydlog yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Yn yr un modd, mae cyfraniad y trafodiadau hyn i’r dreth sy'n ddyledus wedi codi'n gyffredinol.
Trafodiadau amrheswyl
- Yn Ionawr i Fawrth 2024, roedd trafodiadau amhreswyl i lawr 6% o’r un chwarter flwyddyn ynghynt, tra bod y dreth ddyledus i lawr 12%.
- O fis Ionawr 2023 ymlaen, roedd y dreth fisol a oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn is na’r cyfartaledd misol (£6.9 miliwn) bob mis ac eithrio mis Mawrth 2023.
- Yn Ionawr i Fawrth 2024, cyfrannwyd 71% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus gan drafodiadau lle'r oedd pryniant o dros £1 miliwn, er fod hyn yn cynrychioli dim ond 6% o’r trafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hwn.
Treth wedi’i ryddhau
- Rhyddhad grŵp oedd y rhyddhad a gafodd yr effaith fwyaf ar y dreth a oedd yn ddyledus bob blwyddyn, gan gyfrif am 68% o’r dreth a ryddhawyd yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019, a gostwng i 55% yn Ebrill 2023 i Fawrth 2024.
- Roedd rhyddhad anheddau lluosog i gyfrif am 29% o werth yr holl ryddhadau yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, gan ostwng yn y ddwy flynedd ddiweddaraf i 12% yn Ebrill 2023 i Fawrth 2024.
Dadansoddiad o fewn Cymru (data ar gyfer y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2024)
Yn ôl awdurdod lleol, roedd trafodiadau cyfraddau uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl yn amrywio o 15% yn Nhorfaen a Sir y Fflint i 34% yn Ynys Môn.
O gymharu â’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn diweddu Mawrth 202), yr awdurdodau lleol oedd â’r newidiadau canrannol mwyaf oedd:
- Ynys Môn (cynnydd o 5 pwynt canran)
- Wrecsam a Sir Gaerfyrddin (y dau â chynnydd o 3 pwynt canran)
Roedd gan bob awdurdod lleol arall newidiadau o 2 bwynt canran neu lai.
Yn ein datganiad chwarterol blaenorol a'n datganiad blynyddol blaenorol, dywedsom fod y gostyngiadau mewn trafodiadau cyfradd uwch mewn rhai awdurdodau lleol yn rhannau gorllewinol neu ogleddol Cymru yn awgrymu bod cyfraddau prynu fel ail gartrefi newydd neu a oedd yn bodoli eisoes yn arafu ar y pryd. Er bod y data mwy newydd hyn yn awgrymu y gallai'r arafu ymddangosiadol fod wedi sefydlogi, bydd angen data pellach er mwyn penderfynu a yw hyn yn dangos tueddiad mwy newydd, mwy gwastad, neu dim ond llai o symudiad o fewn y duedd flaenorol honno.
Mae'n bwysig nodi bod gall amryw ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Mae'r rhain yn cynnwys:
- prynu eiddo prynu-i-osod
- prynu ail gartref neu gartref gwyliau
- prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes
- cwmnïau er enghraifft darparwyr tai cymdeithasol yn prynu eiddo
Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.
Cyflwynir mwy o wybodaeth ar sut i ddefnyddio ystadegau cyfraddau uwch Treth Trafodiadau Tir yn
- yr erthygl sy'n cyd-fynd â ein datganiad blynyddol blaenorol ac
- erthygl ystadegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru: ‘Ail gartrefi: Beth mae’r data yn ei ddweud wrthym?’
Sylw'r ystadegydd
Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:
Roedd refeniw Treth Trafodiadau Tir preswyl chwarterol yn Ionawr i Fawrth 2024 yn is na tair blynedd blaenorol. Roedd y refeniw is yn ddiweddar yn adlewyrchu niferoedd is o drafodiadau, yn debygol o fod wedi cael eu dylanwadu gan amodau economaidd ehangach.
Ym mhob un o’r pedwar chwarter diweddaraf, roedd y refeniw o drafodiadau amhreswyl yn is na’r is nag yn y ddau i dri blwyddyn cyn hynny. Roedd y tueddiadau cynharach wedi’u llywio’n bennaf gan nifer fach o drafodiadau mawr, ac rydym wedi gweld llai o’r rhain yn ddiweddar.
Dadansoddiad ar y lefel Cymru
Nodwch bod drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.
Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol pe bai eiddo neu ddarn o dir yn cael ei werthu sawl gwaith o fewn chwarter neu flwyddyn, byddai’n ymddangos sawl gwaith yn yr ystadegau ar gyfer y cyfnod hwnnw. Yn Ebrill 2023 i Fawrth 2024, rydym yn amcangyfrif bod rhwng 2.5% a 3% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.
Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn wedi'i echdynnu ar 15 Ebrill 2024, oni nodir yn wahanol.
Math o drafodiad | Ionawr i Fawrth 2024 [dros dro] | Newid o ran % (o gymharu ag Ionawr i Fawrth 2023) [nodyn 2] |
---|---|---|
Trafodiadau [nifer] | ||
Preswyl | 9,760 | -7% |
O'r rhain: cyfraddau uwch preswyl | 2,430 | -6% |
Amhreswyl | 1,360 | -6% |
Pob trafodiadau | 11,120 | -7% |
Treth yn ddyledus [£ miliwn] | ||
Preswyl | 47.2 | -13% |
O'r rhain: Refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch [nodyn 1] | 18.6 | -6% |
Amhreswyl | 15.5 | -12% |
Pob trafodiadau | 62.7 | -13% |
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[Nodyn 1] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.
[Nodyn 2] Amcangyfrifon ar gyfer Ionawr i Fawrth 2023 a wnaed yn Ebrill 2023.
Yn bennaf oherwydd patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gall fod yn ddefnyddiol cymharu’r cyfnod presennol â data o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Felly, Gan gymharu Ionawr i Fawrth 2024 gyda Ionawr i Fawrth 2023 ar sail tebyg am debyg:
- gostyngodd cyfanswm y trafodiadau o 7% a gostyngodd y dreth oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny o 13%
- gostyngodd trafodiadau preswyl gan 7% a gostyngodd threth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 13%
- o’r rhain, gostyngodd trafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch gan 6%
- gostyngodd refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 6%
- gostyngodd trafodiadau amrheswyl gan 6%. Gostyngodd treth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 12%
Ffigur 1: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod gostyngiad sydyn yn ystod y gwyliau. Yn gyffredinol, roedd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ers Ebrill 2022 yn is na’r un wythnos yn y flwyddyn flaenorol.
Ffynhonnell: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (Taenlen Dogfen Agored, 120 Kb) (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym yn Ebrill 2024.
Mae Ffigur 1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer y ddair flwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ’30-Maw’ yn 2024-25 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 30 Mawrth i 5 April 2024 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr wythnos cyfwerth yn y blwyddyn blaenorol yn rhedeg rhwng 1 i 7 Ebrill 2023 (yn gynwysedig).
Mae Ffigur 1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno ac nid yw'n defnyddio data sydd wedi’i echdynnu ar ddyddiad penodol. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn ac yr ydym yn echdynnu data dyddiad penodol ar ei gyfer (15 Ebrill 2024 yn y datganiad hwn).
Ffigur 2: Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl math a mis y daeth y trafodiad i rym
Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer misol y trafodiadau preswyl o Ebrill 2023 i Ragfyr 2024 yn is na’r un mis flwyddyn ynghynt, er bod y bwlch yn llai ar gyfer mis Mehefin. Ers mis Ebrill 2023, roedd trafodiadau amhreswyl ar lefel is ac yn amrywio, gyda chynnydd mawr ym mis Mawrth 2023 a Mawrth 2024 ers y misoedd blaenorol.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[p] Mae'r gwerth ar gyfer Mawrth 2024 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae'r gweth ar gyfer Rhagfyr 2023 i Chwefror 2024 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi'u diwygio i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.
Mewn blwyddyn nodweddiadol, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn ôl mis dod i rym yn amrywio rhywfaint ers Ebrill 2019. Mae natur dymhorol gyffredinol gyda mwy o drafodiadau yn ystod misoedd yr haf a'r hydref, er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na phedwar, ac mai dydd Gwener yw'r diwrnod mwyaf cyffredin o'r wythnos i drafodiadau ddod i rym.
Ers Ebrill 2023, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn is na’r flwyddyn flaenorol, er bod y gwahaniaeth yn llai ar gyfer mis Mehefin, sy’n debygol o fod oherwydd bod pum dydd Gwener ym mis Mehefin 2023.
Ar gyfer trafodiadau amrheswyl, ym mis Mawrth bob blwyddyn, gwelwn gynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror). Yn gyffredinol, gall hyn fod oherwydd lesoedd amhreswyl sydd i'w hadnewyddu ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, yn Mawrth 2023 a Mawrth 2024, pryniannau oedd i gyfrif am y cynnydd mewn trafodiadau amhreswyl dros fis Chwefror, ac nid yw'r rhesymau am hyn yn glir.
Ffigur 3: Treth yn ddyledus ar y trafodiadau preswyl, yn ôl mis dod i rym [£ miliwn] [nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r siart llinell yn dangos, ers Ebrill 2023, bod swm misol y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl yn is na’r un mis yn y flwyddyn flaenorol. O fis Ionawr 2023 ymlaen, roedd y dreth amhreswyl fisol a oedd yn ddyledus yn is na’r cyfartaledd misol (£6.8 miliwn) bob mis ac eithrio mis Mawrth 2023, er ei bod yn bosibl y bydd ffigwr dros dro Mawrth 2024 yn cael ei adolygu am i fyny yn y dyfodol.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[Nodyn 1] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Mawrth 2024 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae’r gwerthoedd preswyl ar gyfer Chwefror 2024 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu. Mae’r gwerthoedd amrheswyl ar gyfer Rhagfyr 2023 i Chwefror 2024 wedi’I ddiwygio hefyd.
Fel y gellir disgwyl, gwelir tueddiadau tebyg yn gyffredinol yn y dreth breswyl fisol sy'n ddyledus ag y nifer misol y trafodiadau.
Gostyngodd refeniw o drafodiadau preswyl yn sylweddol ym mis Ionawr 2023 o’i gymharu â’r mis blaenorol. Mae'n debygol bod tueddiadau tymhorol yn y farchnad eiddo yn dylanwadu ar hyn ac amodau economaidd ehangach yn dechrau effeithio ar drafodiadau. Yn y misoedd dilynol, arhosodd y refeniw yn is na'r refeniw a welwyd yn yr un misoedd y flwyddyn flaenorol.
Roedd y refeniw amhreswyl misol yn arbennig o uchel ym mis Mehefin a mis Medi 2022. Roedd yn eu hachosi'n bennaf gan nifer fach o drafodiadau amhreswyl mawr, y rhan fwyaf ohonynt yn bryniannau. Rydym wedi gweld llai o drafodiadau mawr o’r fath yn y misoedd ers hynny.
Yn gyffredinol, mae’r gyfres fisol ar gyfer trafodiadau amhreswyl yn fwy cyfnewidiol (nag ar gyfer trafodiadau preswyl). Maent hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth sy'n ddyledus na'r gyfran o nifer y trafodiadau.
Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth
Mae Ffigurau 4 a 5 yn isod yn dangos tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau preswyl a swm y dreth yn ddyledus ym mhob band treth. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £750,000.
Mae trafodiadau o dan £400,000 wedi’u rhannu’n ddau gategori yn seiliedig ar y trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau a oedd ar waith ar yr adegau perthnasol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch, mae’r trothwy cyfradd sero wedi bod yn sefydlog ar £180,000 dros y pum mlynedd diwethaf. Felly mae unrhyw drafodiadau cyfraddau uwch sydd â gwerth hyd at £180,000 yn gael eu cynnwys yn y band ‘hyd at a chan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ a mae trafodiadau cyfraddau uwch gyda gwerth rhwng £180,001 a £400,000 yn gael eu cynnwys yn y band ‘uwchben y trothwy cyfradd sero, hyd at a chan gynnwys £400,000’.
Ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau, y trothwy cyfradd sero oedd:
- £180,000 o 1 Ebrill 2018 i 26 Gorffennaf 2020 ac o 1 Gorffennaf 2021 i 9 Hydref 2022
- £250,000 o 27 Gorffennaf 2020 i 30 Mehefin 2021 (oherwydd y cyfnod gostyngiad treth dros dro)
- £225,000 o 10 Hydref 2022 ymlaen (oherwydd newid parhaol yn y prif gyfraddau a bandiau preswyl)
Yn y cyfnodau amser pan oedd y trothwy cyfradd sero ar gyfer y prif gyfraddau’n uwch (27 Gorffennaf 2020 i 30 Mehefin 2021 ac ers 20 Hydref 2022), dylanwadodd hyn ar nifer y trafodiadau yn y ddau gategori ‘hyd at a gan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ ac ‘uwch na’r trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’.
Ffigur 4: Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym
Disgrifiad o Ffigur 4: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau preswyl yn y bandiau ‘hyd at a gan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ a ‘dros y trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’ wedi amrywio’n sylweddol dros amser. Roedd nifer chwarterol y trafodiadau yn y bandiau ‘£400,001 i £750,000’ a ‘dros £400,000’ ar eu huchaf yn Hydref i Ragfyr 2022 a Gorffennaf i Fedi 2022 a wedi bod yn llai ers hynny.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2024 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.
Ffigur 5: Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]
Disgrifiad o Ffigur 5: Mae’r siart llinell yn dangos bod symiau chwarterol y dreth oedd yn ddyledus yn y bandiau treth gwerth uwch yn sylweddol uwch yn y dair flynedd diwethaf nag yn y blynyddoedd cyn hynny. Roedd sym y dreth oedd yn ddyledus oedd yn deillio o’r band ‘£400,001 i £750,000’ ar ei uchaf yng Ngorffennaf i Fedi 2022 a Hydref i Ragfyr 2022, ac roedd y swm ar gyfer y band ‘dros £750,000’ ar ei uchaf yng Ngorffennaf i Fedi 2022, gyda gwerthoedd is i'w gweld yn y chwarteri dilynol.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2024 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu.
Er gwaethaf effaith coronafeirws (COVID-19) ers Mawrth 2020 a'r adferiad a dilynodd, mae tueddiadau tymhorol i’w gweld yn nifer y trafodiadau o hyd. Yn Ffigur 4, mae mwyafrif o'r bandiau treth yn dangos gostyngiad y nifer y trafodiadau yn Ionawr i Fawrth (o'i gymharu â'r Hydref i Ragfyr blaenorol). Cyflwynir dadansoddiad o effaith COVID-19 a newidiadau blaenorol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir mewn datganiadau blaenorol.
Ar gyfer bandiau ‘dros y trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’, a ‘dros £750,000’ a ddangosir yn Ffigur 1.5, symiau’r dreth a oedd yn ddyledus yn Ngorffennaf i Fedi 2023 oedd y gwerth uchaf a welwyd hyd yma, gyda gwerthoedd is i'w gweld ers hynny. Yn yr un modd, roedd y dreth chwarterol oedd yn ddyledus yn y band £400,001 i £750,000 ar ei huchaf yn Ngorffennaf i Fedi 2023 a Hydref i Ragfyr 2022 gyda gwerthoedd is i’w gweld yn fwy diweddar. Mae’r cynyddau blaenorol hwn mewn treth sy’n ddyledus yn cael ei yrru’n bennaf gan gynnydd yng ngwerth yr eiddo dan sylw.
Ffigur 6: Canran y trafodiadau preswyl a treth preswyl sy'n ddyledus ym mhob band treth, Ionawr i Fawrth 2024 [nodyn 1] [dros dro]
Disgrifiad o Ffigur 6: Mae’r siart bar yn dangos, yn Ionawr i Fawrth 2024, bod trafodiadau preswyl a oedd hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero i gyfrif am dair rhan o bump o’r holl drafodiadau ac ychydig dros un rhan o ddeg o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus. Yn y cyfamser, roedd yr 1% o drafodiadau a oedd dros £750,000 i gyfrif am 12% o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
Dengys Ffigur 6 fod 60% o drafodiadau preswyl yn Ionawr i Fawrth 2024, hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero (a ddiffinnir o dan Ffigur 4). Roedd y canrannau ar gyfer y chwarteri blaenorol yn amrywio rhwng 45% a 71%. Yn Ionawr i Fawrth 2024, roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 12% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus. Mae hyn yn is na’r 22% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2018 (na ddangosir yn Ffigur 6), gyda thuedd cyffredinol am i lawr i’w weld yn y chwe mlynedd yn y cyfamser, er yn fwy sefydlog yn y ddwy flynedd ddiweddaf.
Yn Ionawr i Fawrth 2024, cyfrannodd yr 1% o drafodiadau preswyl gyda gwerth dros £750,000 18% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus. Ar gyfer chwarteri blaenorol, roedd canran y trafodiadau yn y categori hwn yr un mor fach, tra ar gyfer y dreth breswyl oedd yn ddyledus, mae’r canrannau wedi codi yn ngyffredinol o’r 4% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2018 (nas dangosir yn Ffigur 6).
Cododd canran y trafodiadau gwerth £400,001 i £750,000 yn gyffredinol yn y rhan fwyaf o’r chwarteri, o 3% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 8% yn Ionawr i Fawrth 2024. Yn yr un modd, cododd canran y dreth breswyl oedd yn ddyledus a gyfrannwyd gan y trafodiadau hyn o 24% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 36% yn Ionawr i Fawrth 2024.
Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth
Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 7 a 8 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 5 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 3 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.
Ffigur 7: Nifer y trafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym
Disgrifiad o Ffigur 7: Mae'r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau amhreswyl yn y pedwar band a gyflwynwyd wedi syrthio'n sylweddol yn Ebrill i Fehefin 2020. Cynyddodd nifer y trafodiadau yn y chwarteri dilynol tra bod amrywiadau llai wedi'u gweld yn ystod y ddair flynedd ddiwethaf. Gostyngodd nifer y trafodiadau ym mhob band yn y chwarter diweddaraf.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru
[Nodyn 1] Mae nifer fach o'r prydlesau newydd a ganiatawyd bremiwm a gwerth rhent. Felly, mae'r trafodiadau hyn wedi'u cynnwys ddwywaith yn Ffigur 1.7, o dan y gwerth nad yw'n werth rhent a'r gwerth rhent.
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2024 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.
Ffigur 8: Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]
Disgrifiad o Ffigur 8: Mae’r siart llinell yn dangos bod y dreth chwarterol oedd yn ddyledus o werth nad yw’n werth rhent eiddo dros £1 miliwn yn sylweddol uwch yn y chwe chwarteri o Ebrill 2021 i Fedi 2022, na’r chwe chwarteri ers neu chwarteri blaenorol. Roedd y dreth oedd yn ddyledus o’r categori hwn yn sylweddol uwch na’r ddau fand nad yw’n werth rhent a gyflwynwyd a’r gwerth rhent.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2024 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Hydref i Ragfyr 2023 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.
Ffigur 9: Canran y treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl ym mhob band gwerth, Ionawr i Fawrth 2024 [dros dro]
Disgrifiad o Ffigur 9: Mae’r siart bar yn dangos bod yn Ionawr i Fawrth 2024, bron hanner y trafodiadau amhreswyl werth hyd at ac yn cynnwys £250,000, gyda'r trafodiadau hynny'n cyfrannu llai nag 1% o'r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus. Cyfrannodd y 6% o drafodiadau amhreswyl gyda gwerth nad yw’n werth rhent o fwy nag £1 miliwn dros dwy ran o dair o’r dreth oedd yn ddyledus. Roedd dros y chwarter y trafodiadau amhreswyl werth rhent yn gysylltiedig â’r trafodiad, gan gyfrannu tuag 8% o’r dreth amhreswyl.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
Rhyddhadau
Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.
Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:
- i sero, a elwir yn rhyddhad llawn
- neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol
Ffigur 10: Nifer y trafodiadau sydd wedi'u rhyddhau a gafodd effaith ar y dreth oedd yn ddyledus, yn ôl chwarter y daeth y trafodiad i rym
Disgrifiad o Ffigur 10: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau gyda rhyddhad anheddau lluosog a hawliwyd wedi gostwng yn sylweddol yn y flwyddyn diwethaf ond wedi codi ym mhob un o’r pedair blynedd cyn hyn. Yn y blwyddyn diwethaf, rhyddhad i elusennau oedd y math mwyaf cyffredin o ryddhad a hawliwyd.
Ffigur 11: Treth wedi’i rhyddhau, yn ôl blwyddyn y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]
Disgrifiad o Ffigur 11: Mae’r siart llinell yn dangos bod gwerth y dreth a ryddhawyd ym mhob un o’r chwe blynedd diwethaf yn fwy ar gyfer rhyddhad grŵp nag unrhyw fath arall o ryddhad. Ar lefel gyffredinol is, gostyngodd gwerth rhyddhad anheddau lluosog yn y dwy flynedd ddiweddaraf, tra bod gwerth rhyddhadau i elusennau wedi codi i’r ffigur blynyddol uchaf a welwyd hyd yma ar gyfer y rhyddhad hwn.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ryddhadau a effeithiodd ar dreth yn ôl mesur a math o drafodiad ar StatsCymru
Y math o ryddhad a gafodd yr effaith fwyaf ar y dreth a oedd yn ddyledus bob blywddyn oedd rhyddhad grŵp. Roedd hyn yn cyfrif am 68% o'r dreth a ryddhawyd yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019, gan ostwng i 47% yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Cafodd gwerth y rhyddhad anheddau lluosog a hawliwyd yn Ebrill 2019 i Fawrth 2020 ei ddiwygio am i fyny’n sylweddol oherwydd bod rhai achosion treth wedi’u cwblhau ar gyfer y flwyddyn honno. Roedd y rhyddhad hwn i gyfrif am 29% o werth yr holl ryddhadau yn Ebrill 2021 i Fawrth 2022, gan ostwng yn y ddwy flynedd ddiweddaraf i 12% yn Ebrill 2023 i Fawrth 2024, sy’n cynrychioli tua £9 miliwn o dreth yn y flwyddyn honno a allai fod wedi bod yn ddyledus fel arall.
Dadansoddiad o fewn Cymru
Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno dadansoddiadau daearyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir preswyl. Rydym yn cyflwyno data ar gyfer Ebrill 2023 i Fawrth 2024 (a echdynnwyd yn Ebrill 2024) ac yn gwneud cymariaethau â data ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023 (a echdynnwyd yn Ebrill 2023). Mae data manylach ar gyfer awdurdodau lleol, Parciau Cenedlaethol ac etholaethau’r Senedd ar gael ar StatsCymru.
Nid ydym wedi darparu dadansoddiadau fesul mis na chwarter, gan na fyddai digon o drafodiadau yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ddarparu ystadegau dibynadwy.
Mae ym mha awdurdod lleol mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn gorfodol ar y ffurflen dreth, ond mae cod post y lle mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn dewisol ar y ffurflen dreth. Rydym wedi cyfuno'r ddau ddarn yma o wybodaeth er mwyn cyfrifo ein hystadegau awdurdodau lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ac ansawdd y data ar gael yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd ar gyfer ystadegau Treth Trafodiadau Tir.
Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r etholaeth y Senedd, Parc Cenedlaethol, neu ardal adeiledig.
Ffigur 12: Trafodiadau cyfradd uwch, fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl awdurdod lleol a Pharc Cenedlaethol, Ebrill 2023 i Fawrth 2024 ac Ebrill 2022 i Fawrth 2023
Disgrifiad o Ffigur 12: Mae’r siart yn dangod bod roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn uwch yn gyffredinol yn Ynys Môn, Gwynedd a rhai awdurdodau yn y De Cymru. Yn y flwyddyn sy’n dod i ben Mawrth 2024, bu gostyngiad mewn gweithgarwch cyfraddau uwch mewn rhai ardaloedd o Gymru, yn enwedig yn rhai o’r awdurdodau lleol gorllewinol neu ogleddol, gyda nifer o eithriadau.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl mesur a Pharc Cenedlaethol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
Roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn uwch yn gyffredinol yn awdurdodau a leolir yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru. Gwelwyd y canrannau uchaf yn Ynys Môn (34%), Gwynedd (32%) a Merthyr Tudful (30%).
Gwelwyd y canrannau isaf yn Thor-faen (15%) a Sir y Fflint (15%).
O ran pwyntiau canran, yr awdurdodau lleol gyda'r newidiadau mwyaf oedd:
- Ynys Môn (cynnydd o 5 pwynt canran)
- Wrecsam a Sir Gaerfyrddin (y dau â chynnydd o 3 pwynt canran)
Roedd gan bob awdurdod lleol arall newidiadau o 2 bwynt canran neu lai.
Y newidiadau cyfatebol â’r flwyddyn flaenorol ar gyfer y tri Pharc Cenedlaethol oedd:
- Arfordir Sir Benfro: 47% i 48%, cynnydd o 1 pwynt canran
- Eryri: 39% i 35%, gostyngiad o 4 phwynt canran
- Bannau Brycheiniog: 23% i 19%, gostyngiad o 2 bwynt canran
Ar gyfer Ebrill 2023 i Fawrth 2024, mae trefn y rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol yn y siart hon yn aros tebyg i flwyddyn flaenorol (data wedi’i echdynnu yn Ionawr 2023). Yn ein datganiad chwarterol blaenorol a'n datganiad blynyddol blaenorol, dywedsom fod y gostyngiadau mewn trafodiadau cyfradd uwch mewn rhai awdurdodau lleol yn rhannau gorllewinol neu ogleddol Cymru yn awgrymu bod cyfraddau prynu fel ail gartrefi newydd neu a oedd yn bodoli eisoes yn arafu ar y pryd. Er bod y data mwy newydd hyn yn awgrymu y gallai'r arafu ymddangosiadol fod wedi sefydlogi, bydd angen data pellach er mwyn penderfynu a yw hyn yn dangos tueddiad mwy newydd, mwy gwastad, neu dim ond llai o symudiad o fewn y duedd flaenorol honno.
Dylai defnyddwyr gofio bod rhywfaint o orgyffwrdd yn y cyfnodau amser a ddefnyddir wrth, er enghraifft, ystyried data ar gyfer y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2023 a’r flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024. Felly er mwyn cyfrifo newidiadau cronnol dros amser, byddai ond yn briodol cyfrifo newidiadau canrannol am y flwyddyn ddiweddaraf yn erbyn blwyddyn ynghynt.
Data pellach ar gael
Nid yw data amrywiol arall yn cael ei ddadansoddi yn y datganiad hwn ond rydym yn cyhoeddi'r data hwn yn y daenlen atodol sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru.
Treth yn ddyledus ar drafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr neu gyda manylion cyfyngedig
Mae rhai trafodiadau wedi'u heithrio o'r ystadegau a adroddir arnynt yn y datganiad hwn. Mae’r rhain yn cynnwys:
- trafodiadau annodweddiadol o fawr, sy'n ymwneud â phryniant Trafnidiaeth Cymru o ased rheilffordd Craidd y Cymoedd oddi wrth Network Rail yn 2019-20. Roedd £28.2 miliwn o dreth yn ddyledus ac wedi’i thalu ar y trafodiad hwn.
- nifer fach o drafodiadau gwerth isel lle nad ydym yn gallu darparu unrhyw wybodaeth ar wahân i gyfanswm y ffigur treth yn y flwyddyn. Mae hyn oherwydd bod risg o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol.
Cyhoeddir ystadegau ar y dreth flynyddol oedd yn ddyledus ar gyfer y trafodiadau hyn ar StatsCymru:
Ad-daliadau cyfradd uwch
Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Cyhoeddir ystadegau ad-daliadau ar amrywiaeth o seiliau yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:
Treth a dalwyd
Rydym yn cyhoeddi ystadegau ar swm y dreth a dalwyd yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:
Dadansoddiad o ddiwygiadau i'n hamcangyfrifon cyhoeddedig
Cyhoeddir ein hamcangyfrifon cyntaf o drafodiadau ar dreth sy’n ddyledus ar gyfer mis penodol fel amcangyfrifon dros dro. Mewn datganiadau dilynol, rydym yn adolygu'r amcangyfrifon hynny a'r rhai ar gyfer misoedd cynharach yn rheolaidd. Mae'r newidiadau canrannol rydym yn ei weld rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail amcangyfrif ar gyfer mis penodol bellach yn gymharol fach. Dangosir y canrannau hyn yn y daenlen sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254 729
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.