Neidio i'r prif gynnwy

Ar 27 Medi 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd prif gyfraddau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) yn newid ar 10 Hydref 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Newidiadau ar gyfer trafodiadau eiddo preswyl yng Nghymru

O 10 Hydref 2022:

  • bydd y trothwy cychwynnol ar gyfer talu prif gyfraddau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir yn cynyddu o £180,000 i £225,000
  • bydd y band treth cyntaf yn ymdrin â thrafodiadau o £225,000 i £400,000 sydd wedi eu trethu ar 6%

Nid yw'r cyfraddau treth a’r bandiau ar gyfer cyfraddau preswyl uwch a thrafodiadau amhreswyl wedi newid o'r rhai a ddaeth i rym o 22 Rhagfyr 2020.

Cyfraddau a bandiau

Rydym wedi diweddaru'r dudalen ar gyfraddau a bandiau sydd wedi’u gosod gan Lywodraeth Cymru, a'n cyfrifianellau.

Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell Treth Trafodiadau Tir i’ch helpu i gyfrifo faint o dreth i’w thalu. Bydd y gyfrifiannell yn defnyddio'r dyddiad y byddwch yn ei nodi i gyfrifo pa gyfraddau a bandiau sy'n berthnasol.

Rheolau trosiannol

Os yw'r prynwr yn cwblhau pryniant eiddo:

  • cyn 10 Hydref byddwch chi'n talu'r cyfraddau treth blaenorol
  • ar neu ar ôl 10 Hydref byddwch yn talu’r cyfraddau treth newydd

Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir defnyddio’r cyfraddau blaenorol pan fydd contractau’n cael eu cyfnewid cyn 10 Hydref 2022, ond nad yw’r pryniant wedi’i gwblhau tan ar neu ar ôl y dyddiad hwn.

Mae gennym ganllawiau trosiannol ar gyfer newid prif gyfraddau preswyl Hydref 2022. Mae hyn yn ymhelaethu ar y rheoliadau ac yn cwmpasu pa gyfraddau fydd yn berthnasol i drafodiad.

Fel cyfreithiwr neu drawsgludydd, i ffeilio ffurflen dreth ar-lein yn dangos eich bod yn defnyddio rheolau trosiannol

  1. Anghytunwch â'r cyfrifiad treth a gaiff ei gynhyrchu.
  2. Nodwch y dreth a gyfrifir gan ddefnyddio'r cyfraddau a'r bandiau blaenorol.
    Gallwch ddefnyddio ein cyfrifiannell dreth i’ch helpu i gyfrifo’r dreth sy’n dduledus, ond dylech ddefnyddio'r dyddiad cyfnewid fel y dyddiad dod i rym fel bod y cyfrifiad yn cael ei wneud gan ddefnyddio'r cyfraddau a’r bandiau cywir.
  3. Dewiswch ‘rheolau trawsnewidiol yn berthnasol' fel y rheswm dros anghytuno â'r cyfrifiad treth ac eglurwch sut y daethoch i'ch cyfrifiad.

Os ydych chi'n ffeilio ffurflen dreth bapur

O dan gwestiwn 100, dewiswch 'mae rheolau trosiannol yn berthnasol' os ydych wedi defnyddio'r rheolau trosiannol i gyfrifo'r dreth yn seiliedig ar y cyfraddau a'r bandiau ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir cyn 10 Hydref 2022.

Gwybodaeth a chefnogaeth

Rydym wedi diweddaru ein canllawiau a'n gwasanaethau, gan gynnwys canllawiau penodol ar gyfer gweithwyr treth proffesiynol.

Os oes gennych ymholiad ynglŷn â thrafodiad, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.