Rydym yn trawsnewid yr A465 o Dowlais Top i Hirwaun mewn i ffordd ddeuol yn y ddau gyfeiriad.
Trosolwg
Pam rydym yn ei wneud
Yr amcanion yw:
- gwella llif y traffig a'i gwneud yn fwy diogel i oddiweddyd
- gwneud y ffordd yn fwy diogel, yn enwedig o gwmpas cyffyrdd ac ardaloedd â gwelededd gwael
- gwella mynediad at wasanaethau, swyddi a marchnadoedd allweddol sy'n cefnogi mewnfuddsoddiad i ardaloedd fel Ardal Fenter Glyn Ebwy.
Cynnydd presennol
Dechreuodd y prif waith ym mis Mai 2021.
Mae'r gwaith wedi cynnwys:
- gwrthgloddiau mewn lleoliadau allweddol
- symud cyfleustodau gan gynnwys: dŵr, nwy, trydan, telathrebu, draenio
- gosod mesurau rheoli dŵr
- adeiladu cwlfertau
- gwaith amgylcheddol, gan gynnwys:
- creu cynefinoedd newydd ar gyfer madfallod cribog mawr, pathewod, cornchwiglod ac ystlumod
- plannu 1,200 o goed i greu coetir newydd ger Crematorium Road
- plannu bit scabious y diafol i annog cadwraeth gloÿnnod byw britheg y gors
- gosodwyd dros 78 o focsys ystlumod
- gosod cylchfannau dros dro yn Nowlais i ddarparu lle ar gyfer adeiladu 2 drosbont
- adeiladu dwy bont yn Nowlais ar gyfer y gyffordd newydd
- gosod pont droed yn Dowlais Ponds
- adeiladu pont gyntaf ar stryd Jones yn Pant
- adeiladu ail bont newydd ar stryd Jones yn Pant
- adeiladu wal cadw ffordd ymadael yng nghyffordd y Tywysog Charles
- dymchwel pont ar ffordd Pant
- dechrau gwaith i gryfhau ac ehangu traphont Taf Fechan
- gosod pont droed dros dro yng Nghefn Coed
- gosod seilbyst ar ochr ddeheuol a gogleddol yr A465 yng Nghefn Coed i lledu ar gyfer y ffordd osgoi newydd
- cwblhau seilbyst ar bont Heol Fawr yng Nghefn Coed
- gosod pileri i gefnogi'r bont newydd yn Taf Fawr
- adeiladu deciau ffyrdd ar y bont newydd yn Taf Fawr
- adeiladu pont dros yr A470
- A470 i’r gogledd o’r gyffordd ar y gylchfan ar yr A465 wedi’i symud i drychiad newydd
- gwella’r gyffordd â'r A470 a'r Stryd Fawr Uchaf
- pont ar gyfer y ffordd ymuno a waliau cynnal i'r dwyrain o Nant Ffrwd
- trawstiau wedi'u gosod ar gyfer prif bontydd ffordd ddeuol yr A465 Nant Ffrwd
- adeiladwyd rhan i'r de o danffordd Court Farm
- adeiladu pontydd yn Nant Melyn, Nant Moel a Chwm Nedd
- pont wedi'i dymchwel yng Nghwm Nedd
- adeiladu dau gylchfan newydd yng Nghroesbychan
- adeiladu traphont newydd yn Nant Hir
- gosod pont droed yn Hirwaun
- cwblhau seilbyst yn Nhrewaun
- adeiladu waliau cynnal yn Nhrewaun
- adeiladu pont newydd a fydd yn rhoi mynediad i Ffordd Fferm Wynt yn Hirwaun
- adeiladu pont dwyrain Trewaun
- adeiladu pont gorllewin Trewaun a’i hagor i draffig
- agor cylchfannau newydd ar Ffordd Merthyr a Ffordd Amlosgfa
- agor dwy gylchfan newydd ar gyffordd y Rhigos
Gwaith sy’n parhau
- adeiladu tanffordd Nant Moel
- cyflwyno mesurau dros dro ar yr A465 rhwng Hirwaun (Trewaun) a thramffordd cyn gwaith cloddio ar gyfer y ffordd newydd
- gosod draeniad newydd o dan Hirwaun Road
- aildrefnu’r traffig yn Rhigos i ganiatáu adeiladu cyffordd newydd
- adlinio traffig yr A465 mewn lleoliadau ar hyd y llwybr 11-milltir
- cyffordd Rhigos
- cyffordd Dowlais
- cyffordd Hirwaun / Trewaun
- gosod cyfleustodau ym Mhont y Stryd Fawr yng Nghefn Coed
- cwblhau gwaith adeiladu dec ffordd ar bont Taf Fawr
- ehangu a chryfhau traphont Taf Fechan yng Nghefn Coed
Rydym yn gweithio ar:
Amserlen
Arddangosfeydd cyhoeddus: diwedd 2015
Cyhoeddi Gorchmynion drafft a’r datganiad amgylcheddol: haf 2017
Cyhoeddi gorchmynion atodol drafft a datganiad amgylcheddol atodol: dechrau 2018
Ymchwiliad cyhoeddus lleol: gwanwyn 2018
Penderfyniad y Gweinidog: dechrau 2019
Llunio’r Gorchmynion: gwanwyn 2019
Cyhoedd i Gorchmynion Atodol drafft (Rhif 1): hydref 2019
Llunio Gorchmynion Atodol (Rhif 1): haf 2020
Cyhoeddi Gorchmynion Atodol drafft (Rhif 2): hydref 2020
Caffael contractwyr: hydref 2020
Dechrau’r gwaith adeiladu: yn gynnar yn 2021
Gorffen rhan newydd y gefnffordd: canol 2025
Y camau nesaf
Bydd y prif waith adeiladu yn dechrau yn ystod 2021. Bydd hyn yn cynnwys:
- adeiladu pontydd yn Nwyrain Afon Hirwaun, Tramffordd (Pont Droed), Rheilffordd Cwm Nedd, Nant Hir, Nant Ffrwd, Taf Fawr a Dowlais
- adeiladu danffordd newydd yn y Court Farm
- symud coetir hynafol yng Nghroesbychan a dechrau adeiladu cyffordd newydd Croesbychan
- adeiladu ffordd newydd o Abertawe a'r gyffordd newydd yn Baverstock
- adeiladu ffordd dros dro ar yr A470 i ddarparu lle ar gyfer adeiladu'r ffordd newydd
- cryfhau ac ehangu pont Taf Fechan
- dechrau adeiladu cyffordd newydd y Tywysog Charles
- adeiladu ffordd ochr newydd ar Ystâd Ddiwydiannol Pant
- adeiladu'r ffordd newydd tua'r gorllewin rhwng ffordd Bryniau a Ffordd y Pant er mwyn galluogi adeiladu pont newydd a wal gynnal yn Ffordd y Pant
Beth rydym yn ei wneud
Enw'r prosiect ffordd hwn yw adran A465 Blaenau'r Cymoedd 5 a 6. Bydd y prosiect yn ymestyn rhwng Hirwaun a Dowlais Top am 11 milltir (17.7km).
Bydd yn gadael ffordd bresennol yr A465 rhwng cyffyrdd Hirwaun a Threwaun am tua milltir (1.4km) a rhwng Traphont Taf Fechan a llwybr i Fferm Gurnos am tua hanner milltir (0.8km).
Bydd y ffordd newydd yn ffordd ddeuol 70mya gyda 6 chyffordd.
Bydd slip ffyrdd ar ffordd yr A465, ac oddi arni, yn cysylltu'r ffyrdd sy'n ymuno.
Sut gwnaethom ymgynghori
Buom yn ymgynghori ar welliannau i'r A465 rhwng Y Fenni a Hirwaun ym 1994 fel rhan o'r broses i ddatblygu'r llwybr a ffefrir ar gyfer y prosiect cyfan.
Fe wnaethom gynnal arddangosfeydd gwybodaeth i'r cyhoedd ym mis Rhagfyr 2015. Yn y digwyddiadau hyn fe wnaethom gyflwyno’r dyluniad a wnaed yn yr 1990au ac amlygu mannau lle rydym yn ystyried opsiynau i wella'r dyluniad hwn.
Rydym wedi cynnal cyfres o gyflwyniadau i grwpiau diddordeb lleol a chyfarfodydd gyda thirfeddianwyr lleol, busnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill. Rydym wedi defnyddio'r rhain i gasglu gwybodaeth a deall sut mae'r cynigion yn cyd-fynd â blaenoriaethau, amcanion a pholisïau lleol.
Fe wnaethom gynnal cyfres o arddangosfeydd ynghylch y gorchmynion drafft ym mis Awst 2017.
Cynhaliwyd Ymchwiliad lleol cyhoeddus ym mis Ebrill a Mai 2018.