Bydd cyffordd y Rhigos yn cysylltu Hirwaun, Heol y Rhigos, yr A4059, Heol y Tŵr a’r A465.

Beth ydyn ni’n ei wneud
- ymchwiliadau archeolegol
- gosod ffordd dros dro
- symud cyfleustodau
- creu cwlfertau
- gosod ffordd newydd
- adeiladu pontydd
Byddwn yn codi’r ffordd dros y gyffordd newydd ac yn adeiladu pont rhwng y cylchfannau.
Byddwn yn ail-alinio Heol y Rhigos A4061 ar gyfer y cynllun newydd.
Byddwn yn adeiladu pont er mwyn codi’r A465 dros Nant y Bwlch, i’r dwyrain o’r gyffordd.
Byddwn yn adeiladu ffordd i’r dwyrain o gyffordd y Rhigos i’w chymryd o’r A465 bresennol. Bydd yn pasio i’r de o dir llesiant Hirwaun ac yn ailymuno â’r A465 bresennol yn Nhre-waun.
Byddwn yn adeiladu ffordd dros dro i greu lle i adeiladu’r ffordd barhaol.
Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen
Rydym wedi:
- clirio llystyfiant yn barod i'r gwaith ddechrau
- gwneud gwaith ymchwilio archaeolegol
- symud gwasanaethau cyfleustodau presennol i ffwrdd o’r ardal adeiladu
- adeiladu ffordd dros dro newydd fel y dangosir gan y llinellau oren ar y map. Mae hyn wedi ein galluogi i symud holl draffig yr A465 i'r hyn a arferai fod yn ochr yr A465 tua'r gorllewin. Bydd traffig yn llifo i'r ddau gyfeiriad.

Y camau nesaf
- haf 2021 i wanwyn 2022: byddwn yn adeiladu'r ffordd ymuno ac ymadael newydd tua'r dwyrain a'r gylchfan dros dro (gweler y llinellau coch ar y map).
- byddwn hefyd yn adeiladu cwlfertau (strwythurau twnelau ar gyfer draenio dŵr), symud cyfleustodau a gosod ffensys.
I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.