Bydd cyffordd Dowlais Top yn darparu cysylltiad â’r A4060, stryd fawr Dowlais Top ac ystâd ddiwydiannol Pen-garn-ddu.
Trosolwg
Mae’r gwaith terfynol yn parhau a’r nod yw sicrhau y bydd y gyffordd ar agor erbyn Nadolig 2024.
Bydd hyn yn caniatáu i’r traffig drwy’r A465 deithio dros y gyffordd.
Beth ydyn ni wedi ei wneud
Rydyn ni wedi:
- symud cyfleustodau
- adeiladu ffordd dros dro
- adeiladu ffyrdd ymuno
- adeiladu pont yn Jones Street a chyffordd Dowlais Top
- creu cynefin ar gyfer cornchwiglod
- ymchwilio i waith trin ar byllau glo
- gosod ac agor pont newydd i gerddwyr ym Mhyllau Dowlais
Mae’r ffordd wedi’i hadeiladu ar arglawdd hyd at 30tr (9m) uwchlaw’r lefel bresennol.
I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.