Bydd y gwaith yn sicrhau cysylltiad rhwng yr ystâd ddiwydiannol a Heol y Pant.
Beth ydyn ni'n ei wneud
- adeiladu maes parcio dros dro
- ail-alinio ffordd fynediad i ystâd ddiwydiannol y Pant
- adeiladu traphont
- symud cyfleustodau
- adeiladu ffyrdd mynediad
- gosod draeniau
- codi ffensys
Byddwn yn codi pont newydd yn lle traphont y Pant. Byddwn yn ail-alinio’r ffordd o Heol y Pant i ystâd ddiwydiannol y Pant er mwyn gallu codi’r bont newydd.
Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen
Rydym wedi:
- adeiladu cylchfan dros dro yn lle’r gyffordd yn Pant
- gosod slabiau diogelu ar gyfer cyfleustodau
- adeiladu maes parcio dros dro i symud Merthyr Motor Auctions allan o ffordd y gwaith newydd
- clirio llystyfiant
- codi ffensys dros dro
- alinio ffordd fynediad Ystad Diwydiannol Pant
- ailgyfeirio gwasanaethau cyfleustodau o dan y gerbytffordd
- cynnal cloddwaith tua'r gorllewin
- dechrau adeiladu wal gadw Rocky Road
- adeiladu ategweithiau Jones Street tua'r dwyrain
- cwblhau y gwaith yn gysylltiedig a'r pwll glo.
Y camau nesaf - 2023 ymlaen
- adeiladu wal gynnal yn Rocky Road
- lledu'r arglawdd ffyrdd presennol i'r de o'r A465 rhwng Stad Ddiwydiannol Pant a Ffordd y Pant.
- alinio yr A465 i'r de er mwyn i'r gwaith ddechrau ar y gerbytffordd sy'n teithio tua'r dwyrain
- adeiladu pont newydd Pant Road mewn dau hanner. Bydd yr hanner cyntaf yn cael ei adeiladu i'r gogledd o'r bont bresennol. Pan gaiff ei chwblhau, bydd y traffig yn symud arni, er mwyn caniatáu i'r hen bont gael ei dymchwel ac yna bydd yr hanner deheuol yn cael ei hadeiladu
- adeiladu'r ffordd tua'r dwyrain.
I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.