Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cyffordd yr A470 yn cysylltu’r A470 â’r A465.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:
Image
Map yn dangos y newidiadau i gyffordd yr A470/A465.
Map yn dangos y newidiadau i gyffordd yr A470/A465.

Beth ydyn ni'n ei wneud

  • adeiladu ffordd dros dro
  • symud cyfleustodau
  • adeiladu traphont newydd yn Nant Ffrwd a Thaf Fawr
  • adeiladu pont
  • gwelliannau i’r gyffordd

Byddwn yn adeiladu cyffordd newydd yn lle’r un bresennol yng nghylchfan yr A470/A465.

Bydd dwy gylchfan ar y gyffordd ar yr A470, gyda ffyrdd i’r A465.

Rydym am adeiladu pont i gario’r A465 dros y ffordd gysylltu rhwng y ddwy gylchfan.

Byddwn yn adeiladu traphont newydd dros Nant Ffrwd a Thaf Fawr.

Byddwn yn symud cyfleustodau, gan gynnwys ceblau foltedd uchel uwchben, er mwyn gallu adeiladu’r ffordd newydd.

Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen

Rydym wedi:

  • clirio llystyfiant yn barod i'r gwaith ddechrau
  • symud y ceblau foltedd uchel uwchben
  • adeiladu traciau mynediad i’r pontydd
  • cwblhau ffordd mynediad breifat i fferm/eiddo newydd i gymryd lle rhan bresennol y ffordd breifat
  • adeiladu ffordd newydd dros dro ar yr A470 i'r gogledd o'r gylchfan
  • cwblhau'r prif strwythur ar gyfer y bont newydd i gario'r A465 dros yr A470
  • adeiladu pieri ar gyfer y draphont newydd i gario ffordd gerbydau'r A465 dros Taf Fawr
  • dechrau adeiladu'r dec ffordd gerbydau ar gyfer y slipffordd newydd a fydd yn mynd dros Taf Fawr. Bydd hyn yn caniatáu i draffig ddod oddi ar yr A470 ac ymuno â'r A465 tua'r dwyrain
Image
Nant Ffrwd: Mai 2023
Nant Ffrwd: Mai 2023
Image
Taf Fawr: Mai2023
Taf Fawr: Mai 2023

Y camau nesaf

  • adeiladu pontydd newydd i gario'r ffordd ymuno ac ymadael tua'r dwyrain o’r A465 a phrif gerbytffordd yr A465 dros Nant Ffrwd.
  • parhau i adeiladu traphont newydd i gario cerbytffordd yr A465 dros Daf Fawr.

I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.