Bydd cyffordd Hirwaun yn cysylltu heol Aberhonddu, heol Hirwaun a’r A465 bresennol, ac yn gadael i ffordd ddeuol newydd yr A465 basio o dan y gyffordd.
Beth ydyn ni’n ei wneud
- ymchwiliadau archeolegol
- dymchwel tai
- gosod ffordd dros dro
- adeiladu pontydd
- creu draeniau a chwlfertau
- symud cyfleustodau
- adeiladu cylchfan
I adeiladu’r ffordd hon, byddwn yn palu hyd at ddyfnder o 40 troedfedd (12.5 metr) i’r arwyneb.
Byddwn yn adeiladu pont dros yr A465 i sicrhau mynediad at Fferm Wynt Mynydd Bwllfa.
Byddwn yn adeiladu cylchfan i Dre-waun i gysylltu Pen-y-waun a Hirwaun. Byddwn yn adeiladu 2 bont i gysylltu Heol Aberhonddu â’r A465.
Byddwn yn adeiladu ffordd dros dro i greu lle ar gyfer y ffordd newydd. Ni fydd cyffordd newydd Hirwaun yn cysylltu â’r A465.
Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen
Rydym wedi:
- clirio llystyfiant a’r safle yn barod i'r gwaith adeiladu
- gwneud gwaith ymchwilio archaeolegol ger ffordd fynediad y fferm wynt
- chwalu adeilad o fewn ardal y cynllun.
- adeiladu is-strwythur newydd ar gyfer Pont Gorllewin Hirwaun, a codi trawstiau concrit wedi’u rhag-gastio ar gyfer adeiladu dec y bont.
- adeiladu priffordd dros dro newydd i greu lle i adeiladu pont Dwyrain Hirwaun.
- gwyro traffig ar gylchfan dros dro er mwyn caniatáu adeiladu y bont.
- gosod cwlfert draenio newydd o dan Ffordd Hirwaun.
- cychwyn adeiladu pont Dwyrain Hirwaun.
- agor ffordd dros dro ar yr A465 er mwyn creu lle i adeiladu waliau cynnal Trewaun.
Y camau nesaf
- adeiladu wal gynnal wrth ymyl y tai yn Nhrewaun.
- ymestyn y ffordd dros-dro o Dramffordd i gylchfan dros-dro newydd i'w lleoli i'r gorllewin o'r cynllun presennol ar gyffordd Hirwaun (Trewaun).
- adleoli'r gylchfan dros dro yn Hirwaun (Trewaun) i leoliad newydd ymhellach i'r dwyrain yn Windfarm Road.
- adeiladu ffordd A465 newydd tua'r gorllewin rhwng Castell-nedd a Hirwaun.
- gwaith parhaus i adeiladu trosbont Dwyrain Hirwaun a fydd yn cysylltu Ffordd Aberhonddu a Ffordd Hirwaun (A4059).
I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.