Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y gwaith yn darparu ffordd ddeuol newydd a chynnal cysylltiad ar draws y ffordd ddeuol newydd ym Mhen-twyn Cynon, Afon Cynon, Court Farm a Chwm Nedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:
Image
Llun lloeren o'r newidiadau i gyffordd Croesbychan
Map yn dangos gwaith Afon cynon i Gwm Nedd.

Beth rydyn ni'n ei wneud

  • symud cyfleustodau
  • adeiladu tanffordd yn Court Farm
  • adeiladu pont dros linell reilffordd Afon Cynon a Chwm Nedd
  • adeiladu pont newydd dros yr A465 ym Mhen-twyn Cynon
  • gosod ffordd newydd

Byddwn yn adeiladu strwythurau newydd i ganiatáu i'r A465 groesi Afon Cynon, ac i ganiatáu mynediad i Court Farm a rheilffordd Cwm Nedd.

Bydd y strwythurau a'r ffordd yn cael eu hadeiladu mewn dau hanner gan ddechrau gyda'r rhan o'r ffordd tua'r gorllewin.

Pan symudir yr holl draffig i'r rhan o briffordd tua'r gorllewin, byddwn yn adeiladu'r strwythurau a'r ffordd tua'r dwyrain.

Bydd pont Pen-twyn Cynon yn cael ei hadeiladu dros y ffordd newydd ar gyfer Defnyddwyr Nad ydynt yn Fodurwyr (NMUs).

Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen

Rydym wedi:

  • clirio’r safle a’r llystyfiant
  • symud uwchbridd rhwng Court Farm a Chwm Nedd
  • adeiladu ac agor pont Pentwyn Cynon ar gyfer Defnyddwyr Di-fodur
  • dechrau adeiladu’r ategweithiau ar gyfer pont Afon Cynon
  • adeiladu’r ategweithiau ar gyfer pont Cwm Neddg
  • gosod y prif strwythur ar gyfer tanffordd Court Farm

Y camau nesaf

  • Pont Afon Cynon
  • Tanffordd Court Farm
  • Pont Rheilffordd Cwm Nedd

O ddiwedd 2023, byddwn yn dechrau gwaith ar yr ochr ogleddol ar gyfer y strwythurau hyn.

I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.