Bydd cyffordd Croesbychan yn cysylltu Hirwaun a Llwydcoed.
Beth ydyn ni'n ei wneud
- symud ac ailblannu coetir hynafol
- adeiladu ffordd dros dro
- symud cyfleustodau
- adeiladu pont dros reilffordd Cwm Nedd
- adeiladu ffordd a chylchfannau newydd
Byddwn yn adeiladu cyffordd newydd yn lle’r un sydd yno nawr. Caiff y gyffordd a’r ffordd eu hadeiladu yn bennaf ar arglawdd hyd at 42tr (13m) o uchder.
Byddwn hefyd yn adeiladu traphont dros Nant Melyn, a fydd yn cario’r A465 newydd. Bydd Traphont bresennol Nant Melyn yn cael ei neilltuo ar gyfer Defnyddwyr Di-Beiriant.
Byddwn yn adeiladu ffordd dros dro i greu lle i adeiladu’r ffordd barhaol.
Caiff y gwaith ei wneud fesul cam.
Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen
Rydym wedi:
- cynnal arolygon amgylcheddol
- clirio llystyfiant i baratoi ar gyfer dechrau’r gwaith
- dechrau paratoi’r safle i symud cyfleustodau
- adeiladu cylchfan dros dro i’r gorllewin o danbont Court Lodge
- codi ffensys
- adeiladu dwy gylchfan barhaol a ffyrdd cysylltu i ddiweddaru’r rhwydwaith ffyrdd lleol
- dechrau adeiladu traphont newydd dros Nant Melyn
- creu cynefin newydd ar gyfer pathewod
- dechrau adeiladu ategwaith pont Rheilffordd Cwm Nedd
Y camau nesaf
- Parhau i fonitro cynefinoedd pathewod
- Bwrw ymlaen ag adeiladu pont Rheilffordd Cwm Nedd a thanbontydd Croesbychan a Court Lodge
- Parhau i adeiladu Traphont Nant Melyn
I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.