Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y bont newydd a’r waliau cynnal yng Nghefn Coed yn cadw’r cysylltiad rhwng gogledd a de Cefn Coed tra’n caniatáu i ni ledu’r A465.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:
Image
Llun lloeren o'r newidiadau i gyffordd Cefn coed
Map yn dangos y newidiadau i gyffordd Cefn coed.

Beth ydyn ni'n ei wneud

  • adeiladu ffordd dros dro
  • symud cyfleustodau
  • adeiladu pont newydd yn High Street
  • adeiladu pont droed newydd
  • lledu traphont Taf Fechan
  • adeiladu waliau cynnal

Byddwn yn codi wal 688tr (210m) o hyd ar hyd yr A470 wrth fynwent Cefn Coed.

Byddwn yn adeiladu pont newydd yn lle pont High Street er mwyn inni allu lledu’r ffordd newydd i’r gogledd a’r de.

Byddwn yn cryfhau ac yn lledu traphont Taf Fechan i gario ffordd newydd yr A465.

Byddwn yn adeiladu ffordd tua’r dwyrain o draphont Taf Fechan am ryw hanner milltir (0.8km). Caiff y ffordd ei hadeiladu mewn cyfres o drychiadau hyd at 52tr (16m) o ddyfnder ac argloddiau hyd at 44tr (13.5m) o uchder.

Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen

Rydym wedi:

  • cyflwyno dau gylchfan bach dros dro.
  • cau Pont y Stryd Fawr.
  • adeiladu llwybr gwyro dros dro ar gyffordd Heol y Faenor a Stryd Fawr Uchaf.
  • rhoi llwybr dargyfeirio yn Ffordd yr Orsaf.
  • cau Lôn Grawen dros dro i draffig trwodd, fel bod modd dargyfeirio cyfleustodau.
  • gweithio ar sylfeini pont Taf Fawr ar ochr orllewinol yr afon.
  • pont/pont droed gwasanaethau dros dro dros yr A465.
  • cloddio pier dwyrain Taf Fawr a chwblhau sylfeini pier y gorllewin.
  • cwblhau Seilbyst Cefn Coed i'r de a chloddio o flaen seilbyst y de-ddwyrain.
  • gwaith paratoi ar gyfer ategweithiau Pont Taf Fechan i'r gorllewin.
  • Taf Fawr: Gwaith parhaus ar y pier dwyreiniol.
  • dechrau adeiladu deciau y bont.
  • Cefn Coed: Dechrau gwaith cwblhau y wal gynnal ddeheuol, gan gynnwys wyneb cerrig a thrawst capio.
  • Taf Fechan: Gwaith parhaus i'r bwâu, y soffit a'r pier.
Image
Works at Cefn Coed junction
Y gwaith yng Nghefn Coed

Y camau nesaf

  • Cefn Coed: Gwaith cladin carreg y De Ddwyrain a'r De-orllewin.
  • adeiladu ategweithiau newydd i Bont y Stryd Fawr. Ar ôl ei gwblhau, bydd y bont bresennol yn cael ei dymchwel. Rhai ffyrdd yn debygol o fod ar gau ar benwythnosau ar ddechrau 2023.
  • gosod trawstiau concrit newydd wedi’u rhag-gastio i’r bont. Rhai ffyrdd yn debygol o gau ar benwythnosau yn ystod gwanwyn 2023.
  • gwyriad i gyfleustodau trwy bont newydd y Stryd Fawr.  Ar agor i draffig haf 2023. 
  • adeiladu A465 newydd tua'r gorllewin. Bydd ar agor i draffig yn ystod haf 2023.
  • Taf Fechan: Gwaith parhaus i'r bwâu, y soffit a'r pier.

I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.