Bydd cyffordd Ysbyty’r Tywysog Siarl yn darparu mynediad i Ysbyty’r Tywysog Siarl, ffordd gylchol Gurnos a Heol Bryniau.

Beth ydyn ni'n ei wneud
- adeiladu wal gynnal
- adeiladu ffordd gyswllt
- symud cyfleustodau
- creu cwlfertau
- adeiladu cylchfan a phontydd
- adeiladu pont Heol Bryniau
Byddwn yn adeiladu 2 bont i gario’r gyffordd ar y ffordd hon dros yr A465.
Byddwn yn adeiladu waliau bob ochr y ffordd i gynnal y ffyrdd ymuno.
Byddwn yn lledu’r ffordd bresennol rhwng cyffordd Ysbyty’r Tywysog Siarl a chyffordd Dowlais.
Byddwn yn adeiladu pont newydd ar Heol Bryniau i ddarparu mynediad i Galon Uchaf.
Byddwn yn symud cyfleustodau er mwyn gallu adeiladu’r ffordd newydd, gan gynnwys 2 biben cyflenwi dŵr fawr.
Sut mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen
Rydym wedi:
- clirio llystyfiant yn barod i'r gwaith ddechrau
- ymchwilio i leoliad y cyfleustodau presennol o dan y ddaear
- codi ffensys dros dro
Y camau nesaf
- Haf 2021 i haf 2022: byddwn yn adeiladu waliau cynnal i gefnogi ffordd newydd yr A465 y naill ochr a'r llall i drosbontydd y Tywysog Siarl (gweler y map: lleoliad A).
- Haf 2022 i wanwyn 2023: byddwn yn adeiladu ffyrdd newydd i'r gogledd o'r A465 presennol i ffurfio'r ffyrdd ymuno ac ymadael â’r gyffordd newydd a chysylltiad lleol sy'n cysylltu â Heol Bryniau (gweler y map: lleoliad B).
- Gwanwyn 2022 i hydref 2022: byddwn yn adeiladu tanffordd ehangach newydd i gymryd lle'r un presennol sy'n cario'r A465 dros fynediad Fferm Gurnos
I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.