Neidio i'r prif gynnwy

8. Trin Cwsmer yn Deg

Mae Trin Cwsmeriaid yn Deg yn gofyniad yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae’n gyfres o egwyddorion a fynegir fel ‘canlyniadau defnyddwyr’ y dylai cwmnïau a awdurdodir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ymdrechu i’w cyflawni er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg:

  1. Gall defnyddwyr fod yn hyderus eu bod yn delio â chwmnïau lle mae’r driniaeth deg o gwsmeriaid yn ganolog i'r diwylliant corfforaethol.
  2. Mae cynhyrchion a gwasanaethau sy'n cael eu marchnata a'u gwerthu yn y farchnad adwerthu wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion grwpiau defnyddwyr a nodwyd a chânt eu targedu yn unol â hynny.
  3. Rhoddir gwybodaeth glir i ddefnyddwyr a chânt eu hysbysu'n briodol cyn, yn ystod ac ar ôl y pwynt gwerthu.
  4. Lle mae defnyddwyr yn cael cyngor, mae'r cyngor yn addas ac yn ystyried eu hamgylchiadau.
  5. Darperir cynhyrchion i ddefnyddwyr sy'n perfformio yn unol â’r honiadau sydd wedi’u gwneud amdanynt gan gwmnïau, ac mae'r gwasanaeth cysylltiedig o safon dderbyniol ac yn unol â’r hyn sydd i'w ddisgwyl.
  6. Nid yw defnyddwyr yn wynebu rhwystrau ôl-werthu afresymol a osodir gan gwmnïau i newid cynnyrch neu ddarparwr, cyflwyno hawliad, neu wneud cwyn.

Ein polisi

  • Rhaid i'n huwch-reolwyr sefydlu a chynnal diwylliant o degwch drwy’r sefydliad i gyd.
  • Rhaid i'n staff gymryd pob cam rhesymol i ddeall anghenion y cwsmer.
  • Mae Trin Cwsmeriaid yn Deg yn ymwneud ag ystyried buddiannau cwsmeriaid yn ein holl weithgareddau.
  • Rhaid i’n huwch-reolwyr ystyried gwybodaeth reoli Trin Cwsmeriaid yn Deg ac unrhyw beth arall y mae’n ei ystyried yn angenrheidiol yn rheolaidd ac yn weddol aml er mwyn bodloni eu hunain bod Trin Cwsmeriaid yn Deg wedi’i ymgorffori mewn gweithgareddau bob dydd ac yn parhau i fod.
  • Nid oes angen trin cwsmeriaid yn gyfartal er mwyn eu trin yn deg. Mewn rhai achosion, byddai triniaeth anghyfartal yn annheg; mewn eraill byddai'n deg, e.e. pan fydd cwsmer agored i niwed gyda chyfyngiadau galluedd meddyliol yn cael mwy o amser i feddwl am benderfyniadau ariannol.

Yr hyn y mae'n ei olygu i chi

Rydym yn ceisio defnyddio’r dulliau canlynol fel modd o gyflawni canlyniadau da i gwsmeriaid:

  • Cadw pethau'n syml – Cyfathrebu'n glir ac egluro pethau mewn Cymraeg clir. Helpu i sicrhau bod benthycwyr yn deall eu rhwymedigaethau.
  • Cadw pethau'n hawdd – Rhoi enw cyswllt i fenthycwyr ar bob cam o gais. Cysylltu â benthycwyr ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw. Darparu diweddariadau rheolaidd.
  • Cadw pethau'n bersonol – Trin pob benthyciwr fel unigolyn. Cynnig dewis o opsiynau i fenthycwyr yn seiliedig ar eu hamgylchiadau unigol.
  • Cadw pethau yn agored – Gwrando ar farn benthycwyr. Ateb unrhyw gwestiynau yn onest. Delio ag unrhyw broblemau yn gyflym ac yn deg.
  • Cadw pethau'n broffesiynol – Trin benthycwyr gyda chwrteisi a pharch. Dilyn y safonau uchaf o ran uniondeb a safonau proffesiynol.

Os teimlwch nad ydym wedi cyflawni'r canlyniadau hyn a'ch bod wedi cael eich trin yn annheg, rhowch wybod i ni. Gallwch gael rhagor o fanylion am ein gwybodaeth cwsmeriaid: taflen gwynion.