Neidio i'r prif gynnwy

9. Cwsmeriaid agored i niwed

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn diffinio cwsmer agored i niwed fel “rhywun sydd, oherwydd ei amgylchiadau personol, yn enwedig o agored i niwed, yn enwedig pan nad yw cwmni yn gweithredu gyda lefelau priodol o ofal”. Yn unol â hynny, efallai y bydd angen lefel wahanol o ymgysylltu ar gwsmeriaid o'r fath er mwyn diwallu eu hanghenion penodol. Cwsmeriaid sy'n ‘arbennig’ o agored i niwed yw'r rhai efallai nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau ariannol.

Gall defnyddwyr mewn amgylchiadau agored i niwed fod yn sylweddol lai abl i gynrychioli eu buddiannau eu hunain na’r defnyddiwr cyffredin, ac yn fwy tebygol o ddioddef niwed. Gall unrhyw ddefnyddiwr ddod yn agored i niwed ar unrhyw adeg yn ei fywyd, er enghraifft trwy salwch difrifol, profedigaeth neu golli incwm. Disgwylir y bydd mwy o ddefnyddwyr mewn amgylchiadau agored i niwed ers dechrau COVID-19, a bydd llawer o’r rheini newydd fod yn agored i niwed a/neu â nifer o yrwyr sy’n achosi iddynt fod yn agored i niwed.

Ein polisi

  • Mynediad – Prif amcan ymdrin â chwsmeriaid agored i niwed yw ceisio rhoi'r un mynediad iddynt at gynhyrchion a gwasanaethau ag sydd ar gael i bob cwsmer.
  • Cymorth – Bydd cwsmeriaid agored i niwed yn cael cymorth sy'n addas ar gyfer y peth penodol sy’n gwneud iddynt fod yn agored i niwed.
  • Triniaeth fwy ffafriol – Pan fo'n briodol, gellir cynnig triniaeth fwy ffafriol i gwsmeriaid agored i niwed na chwsmeriaid nad ydynt yn agored i niwed er mwyn rhoi ystyriaeth i’r hyn sy’n gwneud iddynt fod yn agored i niwed, e.e. rhoi mwy o amser iddynt wneud penderfyniadau ariannol.
  • Systemau a phrosesau – Byddwn yn ceisio sicrhau nad yw ein systemau a'n prosesau yn achosi straen ychwanegol i gwsmeriaid agored i niwed.

Yr hyn y mae'n ei olygu i chi

Os ydych yn agored i niwed neu’n dod yn agored i niwed, byddwn yn ceisio, lle bo’n briodol:

  • sicrhau nad ydych dan anfantais wrth gael mynediad at ein cynhyrchion a’n gwasanaethau,
  • rhoi cymorth i chi sy’n addas ar gyfer eich amgylchiadau penodol,
  • cymryd agwedd hyblyg at gymhwyso ein polisïau, e.e. ar gyfer casglu ôl-ddyledion, a
  • chymryd agwedd hyblyg at gymhwyso ein gweithdrefnau gweithredu safonol i ddarparu ar gyfer eich gofynion.