Egluro sut i ymgeisio ar ran cleient.
Cynnwys
Proses ymgeisio
Mae’n hanfodol eich bod wedi asesu gallu eich cleient i ymgymryd â benthyciad gan ddefnyddio’r meini prawf sydd yn ein cyfrifiannell a’r canllawiau atodol.
Gwnewch yn siŵr bod y wybodaeth sy’n cael ei rhoi ar y dechrau yn ddarlun cywir o allu eich cwsmeriaid i gynnal benthyciad Cymorth i Brynu – Cymru yn y tymor hir.
Gellir argraffu fersiwn bapur o'r ffurflen gais, ei chwblhau a'i dychwelyd drwy e-bost neu drwy'r post ynghyd â chopi o'r ffurflen cadw eiddo, a ddarperir fel arfer gan ddatblygwr yr eiddo.
Bydd angen i'ch cleient/cleientiaid lofnodi a dyddio'r ffurflen gais gyda llofnod gwlyb.
Gwnewch yn siŵr bod y ffurflen yn cael ei llenwi'n llawn gyda llawysgrifen glir er mwyn osgoi oedi.
Egwyddorion y cynllun Cymorth i Brynu – Cymru yw rhoi cymorth i bobl na fyddent fel arall yn gallu cael morgais fforddiadwy na chychwyn ar yr ysgol eiddo, i fod yn berchnogion cartrefi. Ni ddylid defnyddio'r cynllun i ddarparu benthyciad cost-effeithiol i'r rhai a allai fforddio prynu eu cartref heb y cynllun.
Felly, bydd unrhyw geisiadau sy'n dangos y gallai ymgeisydd fforddio mwy na 90% o'r pris prynu llawn yn rhesymol yn cael ei wrthod.
Y camau nesaf
Os caiff y cais ei gymeradwyo, byddwn yn rhoi Awdurdod i Fwrw Ati. Mae'r broses o brynu cartref drwy Cymorth i Brynu - Cymru: Benthyciad Ecwiti yn cael ei hegluro yn ein Canllaw i Brynwyr, felly bydd angen i chi lawrlwytho copi er gwybodaeth i chi.