Yn y canllaw hwn
1. Trosolwg
Mae cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru yn helpu pobl i brynu cartref pan nad oes digon o gyllid ganddynt i gyfrannu at flaendal morgais. Mae'r cynllun yn helpu tenantiaid mewn eiddo rhent sy'n rhan o'r cynllun i gynilo cyfandaliad tuag at flaendal tra byddant yn rhentu eu cartref. Yna, gall y cyfandaliad tuag at flaendal gael ei ddefnyddio i sicrhau morgais er mwyn prynu cartref.
Sut mae'n gweithio
O ran Rhentu i Berchnogi – Cymru:
- cewch gyfle i brynu'r cartref yr ydych yn ei rentu a gallwch gynilo cyfandaliad i gyfrannu at flaendal morgais tra byddwch yn rhentu'r cartref
- byddwch yn rhentu'r cartref yn y lle cyntaf, a gallwch gael 25% o'r rhent a dalwyd gennych dros gyfnod y denantiaeth, a 50% o'r cynnydd yng ngwerth yr eiddo (os bydd cynnydd) yn ystod y cyfnod y byddwch yn rhentu'r eiddo – i’w defnyddio fel blaendal i gyfrannu at brynu'r eiddo
- bydd eich cytundeb ar gyfer cynllun Rhentu i Berchnogi – Cymru yn para am bum mlynedd. Gallwch wneud cais i brynu eich cartref unrhyw bryd rhwng diwedd yr ail flwyddyn a diwedd y cytundeb.
Enghraifft ariannol 1: Wedi'i seilio ar eiddo gwerth £150,000 a chynnydd o 2% o ran gwerth blynyddol yr eiddo ar y farchnad
Gwerth marchnadol | Rhent misol | Rhent a dalwyd | Blaendal a gronnwyd (£) | Blaendal a gronnwyd (%) | |
---|---|---|---|---|---|
Blwyddyn 1 (dechrau) | £150,000 | - | - | - | - |
Blwyddyn 1 (diwedd) | £153,000 | £600 | £7,200 | - | - |
Blwyddyn 2 | £156,060 | £600 | £14,400 | £6,630 | 4.2% |
Blwyddyn 3 | £159,181 | £610 | £21,720 | £10,021 | 6.3% |
Blwyddyn 4 | £162,365 | £610 | £29,040 | £13,442 | 8.3% |
Blwyddyn 5 | £165,612 | £620 | £36,480 | £16,926 | 10.2% |
Enghraifft ariannol 2: Wedi'i seilio ar eiddo gwerth £150,000 a gostyngiad o 2% o ran gwerth blynyddol yr eiddo ar y farchnad
Gwerth marchnadol | Rhent misol | Rhent a dalwyd | Blaendal a gronnwyd (£) | Blaendal a gronnwyd (%) | |
---|---|---|---|---|---|
Blwyddyn 1 (Start) | £150,000 | - | - | - | - |
Blwyddyn 1 (End) | £147,000 | £600 | £7,200 | - | - |
Blwyddyn 2 | £144,060 | £600 | £14,400 | £3,600 | 2.5% |
Blwyddyn 3 | £141,179 | £610 | £21,720 | £5,430 | 3.8% |
Blwyddyn 4 | £138,355 | £610 | £29,040 | £7,260 | 5.2% |
Blwyddyn 5 | £135,588 | £620 | £36,480 | £9,120 | 6.7% |