Yn y canllaw hwn
4. Ad-dalu'ch morgais ecwiti
Mae angen ad-dalu'r Morgais Ecwiti o fewn 25 mlynedd. Fodd bynnag, rydych yn rhydd i dalu eich Morgais Ecwiti ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod hwnnw.
Gallwch ad-dalu naill ai cyfran neu'r cyfan o'r swm sy'n ddyledus o dan eich Morgais Ecwiti trwy werthu neu heb werthu eich Eiddo.
Os byddwch yn gwneud ad-daliad rhannol rhaid i weddill eich Morgais Ecwiti fod o leiaf 5% o werth marchnad eich Eiddo.
Ni allwch wneud ad-daliad rhannol os oes gennych ôl-ddyledion gyda’ch taliadau misol, oni bai bod yr ôl-ddyledion hynny ac unrhyw ffioedd neu dreuliau eraill yn cael eu talu ar yr un pryd ag y byddwch yn gwneud yr ad-daliad.
Rhaid i chi gyfarwyddo eich prisiwr eich hunan o’r Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) i gynnal y prisiad a chadarnhau Gwerth presennol y Farchnad. Darllenwch y canllaw prisio.
Os ydych am newid perchnogaeth eich Eiddo, bydd angen i chi lenwi'r Ffurflen Newid Perchnogaeth a chael ein caniatâd ni.
Os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw addasiadau i'r eiddo nad ydynt yn rhai cosmetig, bydd angen ein caniatâd ni arnoch.
Os yw unrhyw un o’r amgylchiadau hyn yn berthnasol i chi, bydd angen i chi lenwi’r Ffurflen Canllaw Ôl-gwblhau.
Mae rhagor o wybodaeth am eich cytundeb Cymorth i Brynu – Cymru ar gael yn Cymorth i Brynu - Cymru: Canllaw Ôl-gwblhau.
Bydd angen i bob cartref sy'n cael ei werthu drwy'r cynllun gwrdd ag isafswm gradd EPC o B a'r cap pris prynu yw £300K. Lawrlwythwch y ffurflen gais ar gyfer y cynllun estynedig.