Yn y canllaw hwn
3. Wneud cais
Defnyddiwch y gwasanaeth yma i:
- wneud cais am Daliad Cymorth mewn Argyfwng
- wneud cais am Daliad Cymorth i Unigolion
- wneud cais ar ran rhywun arall (partneriaid a gymeradwywyd yn unig)
Cyn i chi ddechrau
Ni allwch chi wneud cais am grant os ydych:
- eisoes wedi cael grant yn y 7 diwrnod diwethaf
- eisoes wedi derbyn 3 grant o fewn y cyfnod 12 mis treigl diwethaf h.y. nid y flwyddyn galendr na’r flwyddyn dreth ddiwethaf
Gallwch hefyd wneud cais drwy'r post neu dros y ffôn drwy'r manylion ar ein tudalen Cysylltu â ni, neu gael cymorth gan un o'n partneriaid a gymeradwywyd.
Mae swyddfa brosesu DAF ar gau ar wyliau banc. Gallwch barhau i wneud cais ar-lein i'r DAF, fodd bynnag, ni fydd eich cais yn cael ei brosesu nes i'r swyddfa ailagor (y diwrnod gwaith nesaf).