Neidio i'r prif gynnwy

2. Cymhwysedd

Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP)

Er mwyn cael grant, rhaid eich bod:

  • yn wynebu caledi ariannol difrifol, er enghraifft eich bod wedi colli eich swydd, wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf - ac nad oes gennych unrhyw fodd arall o gael cymorth ariannol
  • yn profi argyfwng annisgwyl sy’n golygu nad oes gennych arian i brynu bwyd, nwy a/neu drydan, neu eitemau hanfodol eraill
  • mewn sefyllfa o argyfwng ac angen cefnogaeth ariannol ar unwaith
  • yn byw yng Nghymru
  • dros 16 oed (nid oes terfyn oedran uchaf ar gyfer y grant hwn)
  • heb unrhyw arian arall, er enghraifft cynilion

Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP)

Dim ond trwy bartner a gymeradwywyd y gallwch wneud cais am oergell neu beiriant golchi dillad (nwyddau gwynion) a dodrefn.

Rhaid i’r canlynol fod yn wir amdanoch:

  • yn byw yng Nghymru
  • dros 16 oed (nid oes terfyn oedran uchaf ar gyfer y grant hwn)
  • heb fynediad at unrhyw arian arall a bod wedi ceisio pob ffynhonnell fforddiadwy o gyllid, er enghraifft arian gan undeb credyd
  • nid ydych yn preswylio mewn cartref gofal (oni bai eich bod yn cael eich rhyddhau o fewn 6 wythnos)
  • nid ydych yn y carchar (oni bai eich bod yn cael eich rhyddhau o fewn 6 wythnos)
  • nid ydych yn aelod o urdd grefyddol a gynhelir yn llawn

Rhaid i chi fod yn derbyn un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceiswyr Gwaith ar sail incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm
  • Elfen Credyd Gwarantedig o'r Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol 

Rhaid i chi fodloni un o’r amodau canlynol:

  • rydych yn gadael cartref gofal neu sefydliad (ysbyty, carchar neu ofal maeth) ar ôl 3 mis (o leiaf), i fyw'n annibynnol
  • rydych eisiau parhau i fyw yn y gymuned yn hytrach na gorfod mynd i sefydliad (ysbyty neu gartref gofal)
  • rydych yn sefydlu cartref ar ôl cyfnod o fyw yn ansefydlog
  • mae angen i chi symud cartref ar frys gan fod perthynas wedi chwalu neu oherwydd trais domestig
  • rydych yn mynd i ofalu am garcharor neu droseddwr ifanc a ryddhawyd ar drwydded dros dro