Neidio i'r prif gynnwy

1. Crynodeb

Ar hyn o bryd rydym yn wynebu problemau gyda daliadau Paypoint sy'n arwain at oedi gyda daliadau. Rydym yn gweithio i ddatrys hyn cyn gynted â phosibl, yn y gyfamser bydd taliadau yn mynd allan trwy BACS. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol yn cynnig dau grant gwahanol nad oes angen i chi eu talu yn ôl.

Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP)

Grant i helpu â chostau hanfodol, megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng os ydych:

  • yn wynebu caledi ariannol difrifol
  • wedi colli eich swydd
  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf

Ni allwch ei ddefnyddio i dalu biliau parhaus nad ydych yn gallu fforddio eu talu.

Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP)

Grant i’ch helpu chi, neu rywun yr ydych yn rhoi gofal iddo, i fyw'n annibynnol yn ei gartref neu eiddo yr ydych chi neu'r unigolyn yn symud iddo.

Beth y gallwch ddefnyddio'r grant ar ei gyfer

Bydd y grant yn darparu:

  • oergell, peiriant golchi a 'nwyddau gwyn' eraill
  • dodrefn i'r cartref megis gwelyau, soffas a chadeiriau