Yn y canllaw hwn
4. Beth fydd yn digwydd nesaf
Taliadau Cymorth mewn Argyfwng
Mae'n cymryd 24 awr i brosesu ceisiadau (a wneir rhwng ddydd Llun a dydd Gwener).
Os byddwch yn gwneud cais ar ôl 12pm ddydd Gwener, ni fyddwn yn cysylltu â chi tan y dydd Llun canlynol.
Byddwn yn anfon llythyr atoch drwy e-bost neu’r post yn nodi canlyniad eich cais (a yw wedi’i gymeradwyo neu ei wrthod).
Os caiff eich cais ei gymeradwyo
Byddwch yn cael:
- taleb PayPoint neu daliad BACS i dalu am fwyd, nwy, trydan a theithio mewn achos o argyfwng
- talebau i'ch helpu i brynu dillad
Os na chaiff eich cais ei wrthod
Bydd y llythyr a dderbyniwch yn esbonio’r rhesymau pam mae eich cais wedi’i wrthod. Bydd yn nodi’r hyn y mae angen i chi ei wneud ac erbyn pryd os nad ydych yn cytuno a’r penderfyniad. Gallwch ofyn am i’r penderfyniad gael ei ailystyried.
Taliadau Cymorth i Unigolion
Mae'n cymryd 10 diwrnod gwaith i brosesu ceisiadau.
Byddwn yn anfon llythyr atoch drwy e-bost neu’r post yn nodi canlyniad eich cais (a yw wedi’i gymeradwyo neu ei wrthod).
Os caiff eich cais ei gymeradwyo
Byddwch yn cael:
- nwyddau gwyn eraill megis oergell neu beiriant golchi a gan AO Retail Limited
- dodrefn i'r cartref megis gwelyau, soffas a chadeiriau gan The Furnishings Service (TFS)
Manylion cyswllt
Bydd manylion cyswllt eich cyflenwr yn eich llythyr.
Byddwch yn cael galwad ffôn, neges destun neu e-bost gan y cyflenwr i drefnu i’r dodrefn gael eu cludo atoch. Dylech ganiatáu 24 awr ar ôl i'ch cais gael ei gymeradwyo cyn cysylltu â nhw.
Os caiff eich cais ei wrthod
Bydd y llythyr a dderbyniwch yn esbonio’r rhesymau pam mae eich cais wedi’i wrthod. Os nad ydych yn cytuno a’r penderfyniad, gallwch ofyn am iddo gael ei ailystyried.