Cofrestrwch fel partner y Gronfa os ydych yn gweithio i awdurdod lleol, elusen, asiantaeth gynghori neu gymdeithas dai i ymgeisio ar ran rhywun.
Bydd angen ichi gofrestru fel partner hyd yn oed os yw’r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo eisoes wedi’i gofrestru.
Gallwch fod yn bartner os ydych:
- yn weithiwr cymorth
- yn swyddfa tai
- yn weithiwr cymdeithasol
- yn weithiwr proffesiynol tebyg arall
Sut i ymgeisio
E-bostiwch DAF.Partners@necsws.com. Byddwch yn cael pecyn cofrestru a bydd angen ichi ei gwblhau a’i anfon yn ôl.
Beth fydd yn digwydd nesa
Bydd eich manylion yn cael eu gwirio. Os cewch eich cymeradwyo, byddwch yn dod yn bartner.
Byddwch yn cael hyfforddiant i’ch helpu i gynorthwyo pobl i gwblhau eu cais.
Ar ôl ichi gofrestru, byddwch yn cael ‘cod partner cymeradwy’. Bydd angen y cod hwn pan fyddwch yn ymgeisio i’r Gronfa ar ran rhywun.