Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Gorffennaf i Medi 2024
Ein hystadegau chwarterol Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir. Mae data’n cynnwys nifer y trafodiadau, y dreth sy'n ddyledus a dadansoddiad ar gyfer ardaloedd yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Am y tro cyntaf, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad o’r bwriad y tu ôl i drafodiadau cyfraddau uwch ar gyfer Treth Trafodiadau Tir, gan gynnwys prynu ail gartrefi ac eiddo prynu-i-osod. Rydym yn cyhoeddi hyn mewn erthygl ar wahân ochr yn ochr â’r datganiad hwn. Rydym yn croesawu eich adborth ar ddefnyddioldeb y dadansoddiad newydd hwn, pa mor aml y dylem gyhoeddi'r data hwn yn y dyfodol ac unrhyw sylwadau eraill sydd gennych. Cysylltwch â ni yn data@acc.llyw.cymru.
Mae Treth Trafodiadau Tir yn daladwy ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.
Mae’r datganiad ystadegol hwn yn dadansoddi’r prif dueddiadau mewn trafodiadau a threth sy’n ddyledus ar gyfer Treth Trafodiadau Tir. Mae'r daenlen atodol a'n tablau StatsCymru yn cynnwys data manylach.
Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn rhoi gwybodaeth gymharol amserol am weithgarwch yn y farchnad eiddo yng Nghymru. Defnyddir yr ystadegau hefyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i ragweld refeniw Treth Trafodiadau Tir.
Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn ystadegau swyddogol achrededig. Ym mis Chwefror 2022, fe wnaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau adolygu ac achredu’r ystadegau hyn yn annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio â safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Ein polisi cyhoeddiad ystadegol yn esbonio’r Polisïau a gweithdrefnau sydd gennym ar waith ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol, gan gynnwys ein dull o ddiwygio. Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.
Wrth gymharu ystadegau Treth Trafodiadau Tir dros amser, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o newidiadau blaenorol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir sy’n effeithio ar swm y dreth sy’n ddyledus:
- Newidiadau i drothwy cyfradd sero o 27 Gorffennaf 2020 i 31 Mawrth 2021
- Ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth o 31 Mawrth 2021 i 30 Mehefin 2021
- Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir o 27 Rhagfyr 2022
- Newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir o 10 Hydref 2022
Prif bwyntiau
Trafodiadau preswyl
- Yn Ngorffennaf i Fedi 2024, roedd trafodiadau preswyl i fyny 8% o'r un chwarter flwyddyn ynghynt, tra bod y dreth ddyledus i fyny 17%.
- O Ebrill i Fedi 2024, mae nifer misol y trafodiadau a swm y dreth sy'n ddyledus wedi bod yn uwch na'r un mis flwyddyn ynghynt (heblaw am Mehefin a Medi ar gyfer trafodiadau yn unig).
- Yn gyffredinol, mae canran y trafodiadau yn y bandiau eiddo uwch wedi bod yn cynyddu yn y pum mlynedd diwethaf, er ei fod wedi bod yn fwy sefydlog yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Mae’r duedd wedi bod yn debyg ar gyfer cyfraniad y trafodiadau hyn i gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.
Trafodiadau amrheswyl
- Yn Ngorffennaf i Fedi 2024, roedd trafodiadau amhreswyl i fyny 4% o’r un chwarter flwyddyn ynghynt, tra bod y dreth ddyledus i fyny 43%.
- Yn Medi 2024, roedd y dreth fisol a oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn uwch na’r cyfartaledd misol (£6.9 miliwn).
- Yn Ngorffennaf i Fedi 2024, cyfrannwyd 74% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus gan drafodiadau lle'r oedd pryniant o dros £1 miliwn, er fod hyn yn cynrychioli dim ond 6% o’r trafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hwn.
Dadansoddiad o fewn Cymru (data ar gyfer y flwyddyn yn diweddu Medi 2024)
Yn ôl awdurdod lleol, roedd trafodiadau cyfraddau uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl yn amrywio o 14% yn Sir Fynwy i 32% yn Ynys Môn.
O gymharu â’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn diweddu Medi 2023), yr awdurdodau lleol oedd â’r newidiadau canrannol mwyaf oedd:
- Blaenau Gwent, Conwy a Bro Morgannwg (pob un gyda lleihad o 4 pwynt canran)
- Ceredigion a Chastell-Nedd Port Talbot (pob un gyda lleihad o 3 pwynt canran)
Roedd gan bob awdurdod lleol arall newidiadau o 2 bwynt canran neu lai.
Mae’r data ar gyfer Hydref 2023 i Fedi 2024 yn dangos cyfnod o sefydlogrwydd yn dilyn cwymp mewn trafodiadau cyfraddau uwch mewn rhai awdurdodau lleol yn y gogledd a’r gorllewin rhwng 2021-22 a 2022-23. Gall hyn awgrymu bod yr arafu blaenorol hwn mewn pryniannau cyfraddau uwch bellach wedi sefydlogi’n duedd fwy gwastad.
Mae'n bwysig nodi bod gall amryw ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Am y tro cyntaf, rydym yn gallu cyhoeddi dadansoddiad am rai rhesymau pam mae trafodiadau ar y cyfraddau uwch. Mae hyn yn defnyddio cwestiwn newydd ar y Ffurflen Dreth ar y bwriad y tu ôl i'r trafodiad cyfradd uwch. Rydym yn cyhoeddi hyn mewn erthygl ar wahân sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn.
Mae'r categorïau rydym yn cyhoeddi data ar eu cyfer yn cynnwys:
- landlord prynu-i-osod
- ail gartref, cartref gwyliau neu lety gwyliau
- pontio (prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes)
- arall
Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.
Cyflwynir mwy o wybodaeth ar sut i ddefnyddio ystadegau cyfraddau uwch Treth Trafodiadau Tir yn erthygl ystadegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru: ‘Ail gartrefi: Beth mae’r data yn ei ddweud wrthym?’
Sylw'r ystadegydd
Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:
Rydym yn falch o gyhoeddi dadansoddiad newydd o ddata ar y rhesymau dros drafodiadau cyfradd uwch. Mae hyn mewn erthygl ar wahân ochr yn ochr â'r datganiad hwn. Rydym yn croesawu adborth ar ba mor ddefnyddiol yw’r data hwn a pha mor aml y dylem ei gyhoeddi yn y dyfodol.
Mae’r data newydd yn dangos bod mwy o bryniannau prynu-i-osod ledled Cymru yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin na phryniannau ail gartrefi, tai haf neu lety gwyliau. Mae’r tebygolrwydd bod trafodiad preswyl yn bryniant prynu-i-osod yn amrywio’n sylweddol yn ôl awdurdod lleol ac mae’r pryniannau hyn yn tueddu i fod yn fwyaf tebygol yn ôl cyfran yng nghymoedd y de. Mae pryniannau ail gartrefi, tai haf neu lety gwyliau hefyd yn amrywio'n sylweddol fesul ardal, er bod y rhain yn tueddu i fod yn fwy tebygol yn ardaloedd gogleddol neu orllewinol Cymru.
Ar lefel Cymru gyfan, roedd refeniw Treth Trafodiadau Tir preswyl chwarterol yn Ngorffennaf i Fedi yn uwch na’r un chwarter blwyddyn yn ôl ond yn gyffredinol ddim mor uchel a'r ddwy flynedd cyn hyny. Mae'r cynnydd yn y chwarter presennol o gymharu â blwyddyn ynghynt yn adlewyrchu cynnydd mewn trafodiadau preswyl a gwerthoedd eiddo ar gyfartaledd dros y cyfnod hwnnw.
“Roedd refeniw o drafodiadau amhreswyl yn y chwarter presennol yn uwch na’r un cyfnod flwyddyn ynghynt, ond yn is na’r chwarter blaenorol.
Dadansoddiad ar y lefel Cymru
Nodwch bod drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.
Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol pe bai eiddo neu ddarn o dir yn cael ei werthu sawl gwaith o fewn chwarter neu flwyddyn, byddai’n ymddangos sawl gwaith yn yr ystadegau ar gyfer y cyfnod hwnnw. Yn Ebrill 2023 i Fawrth 2024, rydym yn amcangyfrif bod rhwng 2.5% a 3% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.
Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn wedi'i echdynnu ar 21 Hydref 2024, oni nodir yn wahanol.
Math o drafodiad | Trafodiadau [nifer] - Gorffennaf i Fedi 2024 [dros dro] | Newid o ran % (o gymharu ag Gorffennaf i Fedi 2023) [nodyn 2] |
---|---|---|
Preswyl | 12,790 | 8% |
O'r rhain: cyfraddau uwch preswyl | 2,590 | -2% |
Amhreswyl | 1,500 | 4% |
Holl trafodiadau | 14,290 | 8% |
Math o drafodiad | Treth yn ddyledus [£ miliwn] - Gorffennaf i Fedi 2024 [dros dro] | Newid o ran % (o gymharu ag Gorffennaf i Fedi 2023) [nodyn 2] |
---|---|---|
Preswyl | 69.5 | 17% |
o'r rhain: Refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch [nodyn 1] | 22.0 | 9% |
Amhreswyl | 19.2 | 43% |
Holl trafodiadau | 88.7 | 22% |
[Nodyn 1] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.
[Nodyn 2] Amcangyfrifon ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2023 a wnaed yn Hydref 2023.
Yn bennaf oherwydd patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gall fod yn ddefnyddiol cymharu’r cyfnod presennol â data o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Felly, Gan gymharu Gorffennaf i Fedi 2024 gyda Gorffennaf i Fedi 2023 ar sail tebyg am debyg:
- cynnyddodd cyfanswm y trafodiadau o 8% a chynnyddodd y dreth oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny o 22%
- cynnyddodd trafodiadau preswyl gan 8% a chynnyddodd y dreth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 9%
- o’r rhain, gostyngodd trafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch gan 2%
- cynnyddodd refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 9%
- cynnyddodd trafodiadau amrheswyl gan 4%. Cynnyddodd treth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 43%
Ffigur 1: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod gostyngiad sydyn yn ystod y gwyliau. Yn gyffredinol, roedd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ers Ebrill 2024 yn uwch na’r un wythnos yn y flwyddyn flaenorol, ond yn is na’r flwyddyn cyn hynny.
Ffynhonnell: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (Taenlen Dogfen Agored, 120 Kb) (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym yn Hydref 2024.
Mae Ffigur 1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer y ddair flwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ’30-Maw’ yn 2024-25 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 30 Mawrth i 5 April 2024 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr wythnos cyfwerth yn y blwyddyn blaenorol yn rhedeg rhwng 1 i 7 Ebrill 2023 (yn gynwysedig).
Mae Ffigur 1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno ac nid yw'n defnyddio data sydd wedi’i echdynnu ar ddyddiad penodol. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn ac yr ydym yn echdynnu data dyddiad penodol ar ei gyfer (21 Hydref 2024 yn y datganiad hwn).
Ffigur 2: Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl math a mis y daeth y trafodiad i rym
Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart llinell yn dangos o Ebrill 2024, bod nifer misol y trafodiadau preswyl yn uwch na’r un mis flwyddyn ynghynt ac eithrio Mehefin a Medi 2024. Roedd trafodiadau amhreswyl ar lefel is ac yn amrywio gyda chynnydd yn Mawrth 2024 ers y mis blaenorol.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[p] Mae'r gwerth ar gyfer Medi 2024 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae'r gweth ar gyfer Awst 2024 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi'u diwygio i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.
Mewn blwyddyn nodweddiadol, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn ôl mis dod i rym yn amrywio rhywfaint ers Ebrill 2019. Mae natur dymhorol gyffredinol gyda mwy o drafodiadau yn ystod misoedd yr haf a'r hydref, er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na phedwar, ac mai dydd Gwener yw'r diwrnod mwyaf cyffredin o'r wythnos i drafodiadau ddod i rym.
O Ebrill 2024, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn uwch na’r un mis yn y flwyddyn flaenorol, ond roedd yn is na blwyddyn ynghynt, ac eithrio Mehefin a Medi 2024.
Ar gyfer trafodiadau amrheswyl, ym mis Mawrth bob blwyddyn, gwelwn gynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror). Yn gyffredinol, gall hyn fod oherwydd lesoedd amhreswyl sydd i'w hadnewyddu ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag yn Mawrth 2024, pryniannau oedd i gyfrif am y cynnydd mewn trafodiadau amhreswyl dros fis Chwefror ac nid yw'r rhesymau am hyn yn glir.
Ffigur 3: Treth yn ddyledus ar y trafodiadau, yn ôl mis dod i rym [£ miliwn] [nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r siart llinell yn dangos o Ebrill 2024, bod swm misol y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl yn uwch na’r un mis yn y flwyddyn flaenorol. O Ebrill 2023 ymlaen, roedd y dreth amhreswyl fisol a oedd yn ddyledus yn is na’r cyfartaledd misol (£6.9 miliwn) bob mis ac eithrio Mawrth, Ebrill, Mehefin a Medi 2024. Gall y dreth amhreswyl sy’n ddyledus amrywio’n sylweddol o fis i fis, yn aml wedi’i dylanwadu gan nifer fach o drafodiadau gwerth uchel.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a’r math o drafodiad ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[Nodyn 1] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Medi 2024 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae’r gwerthoedd preswyl ar gyfer Awst 2024 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu. Mae’r gwerthoedd amrheswyl ar gyfer Awst 2024 wedi’I ddiwygio hefyd.
Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth
Mae Ffigurau 4 a 5 yn isod yn dangos tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau preswyl a swm y dreth yn ddyledus ym mhob band treth. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £750,000.
Mae trafodiadau o dan £400,000 wedi’u rhannu’n ddau gategori yn seiliedig ar y trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau a oedd ar waith ar yr adegau perthnasol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch, mae’r trothwy cyfradd sero wedi bod yn sefydlog ar £180,000 dros y pum mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfradd wedi amrywio dros amser ac ar hyn o bryd mae'n £225,000. Ar gyfer ein dadansoddiad, rydym wedi grwpio’r trafodiadau hyn fel ‘hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero’ yn seiliedig ar drothwyon a oedd mewn grym ar adeg y trafodiad. I weld y gyfres lawn o drothwyon cyfradd sero, ewch i gyfraddau a bandiau’r Dreth Trafodiadau Tir.
Ffigur 4: Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym
Disgrifiad o Ffigur 4: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau preswyl yn y bandiau ‘hyd at a gan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ a ‘dros y trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’ wedi amrywio’n sylweddol dros amser, gyda chynnydd yn y ddau chwarter diwethaf. Roedd nifer chwarterol y trafodiadau yn y bandiau ‘£400,001 i £750,000’ a ‘dros £750,000’ ar eu huchaf yn Hydref i Ragfyr 2022 a Gorffennaf i Fedi 2022 a wedi bod yn llai ers hynny, er eu bod wedi codi yn y ddau chwarter diweddaf.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2024 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.
Ffigur 5: Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]
Disgrifiad o Ffigur 5: Mae’r siart llinell yn dangos bod symiau chwarterol y dreth oedd yn ddyledus yn y bandiau treth gwerth uwch yn sylweddol uwch yn y dair flynedd diwethaf nag yn y blynyddoedd cyn hynny, gydag effeithiau penodol i’w gweld ar drafodiadau yn 2020 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19). Roedd sym y dreth oedd yn ddyledus oedd yn deillio o’r band ‘£400,001 i £750,000’ ar ei uchaf yng Ngorffennaf i Fedi 2022 a Hydref i Ragfyr 2022, ac roedd y swm ar gyfer y band ‘dros £750,000’ ar ei uchaf yng Ngorffennaf i Fedi 2022, gyda gwerthoedd is i'w gweld yn fwy diweddar, er bod cynnydd wedi ei weld yn y ddau chwarter diwethaf.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2024 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu.
Ffigur 6: Canran y trafodiadau preswyl a treth preswyl sy'n ddyledus ym mhob band treth, Gorffennaf i Fedi 2024 [dros dro]
Disgrifiad o Ffigur 6: Mae’r siart bar yn dangos yn Ngorffennaf i Fedi 2024, bod trafodiadau preswyl a oedd hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero i gyfrif am rhwng hanner a thair rhan o bump o’r holl drafodiadau ac ychydig dros un rhan o ddeg o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus. Yn y cyfamser, roedd yr 1% o drafodiadau a oedd dros £750,000 i gyfrif am 16% o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau preswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
Dengys Ffigur 6 fod 56% o drafodiadau preswyl yn Ngorffennaf i Fedi 2024, hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero (a ddiffinnir o dan Ffigur 4). Roedd y canrannau ar gyfer y chwarteri blaenorol yn amrywio rhwng 45% a 71%. Yn Ebrill i Fehefin 2024, roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 9% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus. Mae hyn yn is na’r 22% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2018 (na ddangosir yn Ffigur 6), gyda thuedd cyffredinol am i lawr i’w weld yn y chwe mlynedd yn y cyfamser, er yn fwy sefydlog yn y ddwy flynedd ddiweddaf.
Yn Ngorffennaf i Fedi 2024, cyfrannodd yr 1% o drafodiadau preswyl gyda gwerth dros £750,000 15% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus. Ar gyfer chwarteri blaenorol, roedd canran y trafodiadau yn y categori hwn yr un mor fach, tra ar gyfer y dreth breswyl oedd yn ddyledus, mae’r canrannau wedi codi yn ngyffredinol o’r 4% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2018 (nas dangosir yn Ffigur 6).
Cododd canran y trafodiadau gwerth £400,001 i £750,000 yn gyffredinol yn y rhan fwyaf o’r chwarteri, o 3% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 9% yn Ngorffennaf i Fedi 2024, er hynny mae wedi bod yn fwy sefydlog yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Yn yr un modd, cododd canran y dreth breswyl oedd yn ddyledus a gyfrannwyd gan y trafodiadau hyn o 24% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 39% yn Ngorffennaf i Fedi 2024, y ganran chwarterol uchaf a welwyd hyd yma.
Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth
Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 7 a 8 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 5 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 3 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.
Ffigur 7: Nifer y trafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 7: Mae'r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau amhreswyl yn y pedwar band a gyflwynwyd wedi syrthio'n sylweddol yn Ebrill i Fehefin 2020. Cynyddodd nifer y trafodiadau yn y chwarteri dilynol tra bod amrywiadau llai wedi'u gweld yn ystod y bedair flynedd ddiwethaf.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru
[Nodyn 1] Mae nifer fach o'r prydlesau newydd a ganiatawyd bremiwm a gwerth rhent. Felly, mae'r trafodiadau hyn wedi'u cynnwys ddwywaith yn Ffigur 1.7, o dan y gwerth nad yw'n werth rhent a'r gwerth rhent.
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2024 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.
Ffigur 8: Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]
Disgrifiad o Ffigur 8: Mae’r siart llinell yn dangos bod y dreth chwarterol oedd yn ddyledus o werth nad yw’n werth rhent eiddo dros £1 miliwn yn y chwarter yn sylweddol is na'r chwarter blaenorol ac yn debyg i'r chwarter cyn hynny. Roedd y dreth oedd yn ddyledus o’r categori hwn yn sylweddol uwch na’r ddau fand nad yw’n werth rhent a gyflwynwyd a’r gwerth rhent. Gall y dreth amhreswyl sy’n ddyledus amrywio’n sylweddol o chwarter i chwarter, yn aml wedi’i dylanwadu gan nifer fach o drafodiadau gwerth uchel.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2024 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2024 wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn.
Ffigur 9: Canran y treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl ym mhob band gwerth, Gorffennaf i Fedi 2024 [dros dro]
Disgrifiad o Ffigur 9: Mae’r siart bar yn dangos bod yn Ngorffennaf i Fedi 2024, ychydig dan hanner y trafodiadau amhreswyl werth hyd at ac yn cynnwys £250,000, gyda'r trafodiadau hynny'n cyfrannu 0.3% o'r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus. Cyfrannodd y 6% o drafodiadau amhreswyl gyda gwerth nad yw’n werth rhent o fwy nag £1 miliwn bron dri ran o bedair o’r dreth oedd yn ddyledus. Roedd dros y chwarter y trafodiadau amhreswyl werth rhent yn gysylltiedig â’r trafodiad, gan gyfrannu tuag 10% o’r dreth amhreswyl.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn ôl cyfnod amser a gwerth trafodiadau amhreswyl ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
Dadansoddiad o fewn Cymru
Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno dadansoddiadau daearyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir preswyl. Rydym yn cyflwyno data ar gyfer Hydref 2023 i Fedi 2024 (a echdynnwyd yn Hydref 2024) ac yn gwneud cymariaethau â data ar gyfer Hydref 2022 i Fedi 2023 (a echdynnwyd yn Hydref 2023). Mae data manylach ar gyfer awdurdodau lleol, Parciau Cenedlaethol ac etholaethau’r Senedd ar gael ar StatsCymru.
Nid ydym wedi darparu dadansoddiadau fesul mis na chwarter, gan na fyddai digon o drafodiadau yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ddarparu ystadegau dibynadwy.
Mae ym mha awdurdod lleol mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn gorfodol ar y ffurflen dreth, ond mae cod post y lle mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn dewisol ar y ffurflen dreth. Rydym wedi cyfuno'r ddau ddarn yma o wybodaeth er mwyn cyfrifo ein hystadegau awdurdodau lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ac ansawdd y data ar gael yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd ar gyfer ystadegau Treth Trafodiadau Tir.
Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r etholaeth y Senedd, Parc Cenedlaethol, neu ardal adeiledig.
Ffigur 10: Trafodiadau cyfradd uwch, fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl awdurdod lleol a Pharc Cenedlaethol, Hydref 2023 i Fedi 2024 a Hydref 2022 i Fedi 2023
Disgrifiad o Ffigur 10: Mae’r siart yn dangod bod roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn uwch yn gyffredinol yn Ynys Môn, Gwynedd a rhai awdurdodau yn y De Cymru. Ar gyfer y flwyddyn diweddaraf, nid yw'r rhan fwyaf o awdurdodau wedi gweld llawer o newid yn eu canran o drafodiadau preswyl a oedd ar y cyfraddau uwch, gyda nifer o eithriadau. Mae rhai o'r ardaloedd a gyflwynir yn fach ac mae ganddynt nifer fach o drafodiadau, felly gellir disgwyl mwy o anwadalrwyd dros amser ar gyfer yr ardaloedd hyn.
Ffynhonnell: Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl mesur ac awdurdod lleol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir amhreswyl yn ôl mesur a Pharc Cenedlaethol ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
Roedd trafodiadau cyfradd uwch yn gymharol uwch mewn awdurdodau yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru a hefyd mewn rhai awdurdodau yng nghymoedd y de. Roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn uwch yn gyffredinol yn awdurdodau a leolir yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru. Gwelwyd y canrannau uchaf yn Ynys Môn (32%), Gwynedd (31%) a Merthyr Tudful (30%). Mae'n ymddangos bod y ddau brif reswm dros drafodiadau cyfradd uwch, sef prynu-i-osod a phrynu ail gartref neu gartref/llety gwyliau, yn effeithio ar ba awdurdodau lleol sydd ar frig y dosbarthiad.
Gwelwyd y canran isaf yn Sir Fynwy (14%).
O ran pwyntiau canran, yr awdurdodau lleol gyda'r newidiadau mwyaf oedd:
- Blaenau Gwent, Conwy a Bro Morgannwg (pob un gyda lleihad o 4 pwynt canran)
- Ceredigion a Chastell-Nedd Port Talbot (pob un gyda lleihad o 3 pwynt canran)
Roedd gan bob awdurdod lleol arall newidiadau o 2 bwynt canran neu lai.
Y newidiadau cyfatebol â’r flwyddyn flaenorol ar gyfer y tri Pharc Cenedlaethol oedd:
- Arfordir Sir Benfro: 47% i 45%, gostyngiad o 2 pwynt canran
- Eryri: 36% i 32%, gostyngiad o 4 bwynt canran
- Bannau Brycheiniog: 23% i 18%, gostyngiad o 5 phwynt canran
Mae’r data ar gyfer Hydref 2023 i Fedi 2024 yn dangos cyfnod o sefydlogrwydd yn dilyn cwymp mewn trafodiadau cyfraddau uwch mewn rhai awdurdodau lleol yn y gogledd a’r gorllewin rhwng 2021-22 a 2022-23. Gall hyn awgrymu bod yr arafu blaenorol mewn pryniannau cyfraddau uwch bellach wedi sefydlogi’n duedd fwy gwastad.
Dylai defnyddwyr gofio bod:
- rhai o'r ardaloedd a gyflwynir yn fach ac mae ganddynt nifer fach o drafodiadau, felly gellir disgwyl mwy o anwadalrwydd dros amser ar gyfer yr ardaloedd hyn
- rhywfaint o orgyffwrdd yn y cyfnodau amser a ddefnyddir wrth, er enghraifft, ystyried data ar gyfer y flwyddyn hyd at Mehefin 2024 a’r flwyddyn hyd at Medi 2024. Felly er mwyn cyfrifo newidiadau cronnol dros amser, byddai’n well i gyfrifo newidiadau canrannol am y flwyddyn ddiweddaraf yn erbyn blwyddyn ynghynt.
Data pellach ar gael
Nid yw data amrywiol arall yn cael ei ddadansoddi yn y datganiad hwn ond rydym yn cyhoeddi'r data hwn yn y daenlen atodol sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru.
Treth yn ddyledus ar drafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr neu gyda manylion cyfyngedig
Mae rhai trafodiadau wedi'u heithrio o'r ystadegau a adroddir arnynt yn y datganiad hwn. Mae’r rhain yn cynnwys:
- trafodiadau annodweddiadol o fawr, sy'n ymwneud â phryniant Trafnidiaeth Cymru o ased rheilffordd Craidd y Cymoedd oddi wrth Network Rail yn 2019-20. Roedd £28.2 miliwn o dreth yn ddyledus ac wedi’i thalu ar y trafodiad hwn.
- nifer fach o drafodiadau gwerth isel lle nad ydym yn gallu darparu unrhyw wybodaeth ar wahân i gyfanswm y ffigur treth yn y flwyddyn. Mae hyn oherwydd bod risg o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol
Cyhoeddir ystadegau ar y dreth flynyddol oedd yn ddyledus ar gyfer y trafodiadau hyn ar StatsCymru:
Rhyddhadau
Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.
Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:
- i sero, a elwir yn rhyddhad llawn
- neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol
Cyhoeddir ystadegau ar ryddhadau yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:
Ad-daliadau cyfradd uwch
Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Cyhoeddir ystadegau ad-daliadau ar amrywiaeth o seiliau yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:
- Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol ar StatsCymru
- Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar ad-daliadau cyfradd uwch yn ôl dyddiad y trafodiad gwreiddiol a dyddiad cymeradwyo’r ad-daliad ar StatsCymru
- Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod) ar StatsCymru
Treth a dalwyd
Rydym yn cyhoeddi ystadegau ar swm y dreth a dalwyd yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:
Dadansoddiad o ddiwygiadau i'n hamcangyfrifon cyhoeddedig
Cyhoeddir ein hamcangyfrifon cyntaf o drafodiadau ar dreth sy’n ddyledus ar gyfer mis penodol fel amcangyfrifon dros dro. Mewn datganiadau dilynol, rydym yn adolygu'r amcangyfrifon hynny a'r rhai ar gyfer misoedd cynharach yn rheolaidd. Mae'r newidiadau canrannol rydym yn ei weld rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail amcangyfrif ar gyfer mis penodol bellach yn gymharol fach. Dangosir y canrannau hyn yn y daenlen sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254 729
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.