Canllawiau ar drafodiadau Tir ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir.
Cynnwys
Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn
Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn, rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).
DTTT/2000 Trafodiadau Tir
Treth ddatganoledig sy'n berthnasol i drafodiadau sy'n ymwneud â chaffael buddiannau trethadwy mewn tir ac adeiladau yng Nghymru yw’r Dreth Trafodiadau Tir. Mae’r Dreth hon yn cymryd lle Treth Dir y Dreth Stamp yng Nghymru.
Cyflwynwyd y dreth gan Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Bwriad y canllawiau hyn yw ategu ac egluro manylion y Ddeddf a chefnogi is-ddeddfwriaeth.
Mae’r dreth yn weithredol yng nghyswllt trafodiadau tir yng Nghymru a fydd yn digwydd o 1 Ebrill 2018 ymlaen.
Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rheolau trosiannol yn berthnasol i drafodiadau penodol a fydd yn dod i ben ar 1 Ebrill 2018 neu ar ôl hynny ar gyfer estyniadau penodol i lesoedd, ac ar gyfer trafodiadau tir penodol gan bartneriaid mewn partneriaethau.
Mae'r canllawiau hyn, yn fras, yn dilyn trefn y ddeddfwriaeth, ond mae’r manylion ynghylch y mathau o ryddhad unigol y gallai’r trethdalwr eu hawlio yn y fan hon.
DTTT/2010 Trafodiadau tir a buddiannau trethadwy
(Adrannau 2-4 LTTA)
Codir y Dreth Trafodiadau Tir (‘LTT’) ar drafodiadau tir. Mae’r dreth yn berthnasol os oes unrhyw offeryn (er enghraifft, contract) yn effeithio ar y trafodiad, lle bynnag y caiff offeryn o’r fath ei weithredu a lle bynnag y gallai unrhyw barti yn y trafodiad fod yn byw. Yn ogystal â hyn, mae trafodiadau tir yr effeithir arnynt yn sgil gorchymyn gan lys neu yn sgil deddfu, hefyd yn cael eu hystyried yn drafodiadau tir at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir.
Pan fydd prynwr yn caffael buddiant trethadwy, gelwir hyn yn drafodiad tir.
Mae ‘buddiant trethadwy’ yn golygu:
- ystâd, buddiant, hawl neu bŵer mewn tir neu dros dir yng Nghymru, neu
- fuddiant rhwymedigaeth, cyfyngiad neu amod sy’n effeithio ar werth unrhyw ystâd, unrhyw fuddiant, unrhyw hawl neu unrhyw bŵer o’r fath
heblaw am ‘fuddiant esempt’.
Mae buddiannau trethadwy yng Nghymru yn cynnwys:
- ystâd rydd-ddaliadol (yr agosaf at berchnogaeth absoliwt)
- ystâd cyfunddaliad (sy'n gyffredin mewn blociau o fflatiau lle mae’r perchennog yn berchen ar fuddiant rhydd-ddaliadol yn ei fflat ac yn aelod o’r gymdeithas cyd-ddeiliaid sy'n berchen ar yr ardaloedd cyffredin ac yn eu rheoli)
- ystâd lesddaliadol (a elwir weithiau'n ‘gyfnod o flynyddoedd’);
- cyfran anrhanedig mewn tir
- hawl mewn tir neu dros dir, fel hawddfraint profit à prendre, er enghraifft, hawl i olau
- rhent-dal
- yr hawl i gael rhent gan gynnwys rhent tir
- buddiant o gael cyfamod cyfyngol
- buddiant o gael cyfamod cadarnhaol (enghraifft o fuddiant rhwymedigaeth)
- buddiant llesiannol neu ecwitïol mewn tir, fel buddiant am oes neu fuddiant mewn rifersiwn neu mewn gweddill
- pŵer penodi ysgutor neu ymddiriedolwr (yr unig enghraifft debygol wrth arfer pŵer dros dir)
- opsiwn
Buddiant mewn tir yw buddiant trethadwy, felly ni fyddai'n cynnwys eitemau y mae modd eu symud yn yr eiddo neu ar y tir, fel ffitiadau (e.e. llenni, carpedi a dodrefn). Fodd bynnag, rhaid trin y pethau y cyfeirir atynt yn gyffredin fel gosodiadau fel rhan o'r buddiant trethadwy. Er enghraifft, rhaid trin cypyrddau cegin, bath a thoiledau fel rhan o’r buddiant trethadwy. Mae rhagor o ganllawiau ar gael yn DTTT/2261.
Nid yw tir yng Nghymru yn cynnwys tir o dan y marc distyll, ond mae’n cynnwys glanfeydd, pierau a strwythurau tebyg lle mae un pen ynghlwm wrth dir yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnwys tir o dan ddŵr sydd uwchben y marc distyll, er enghraifft llynnoedd ac afonydd.
DTTT/2020 Buddiannau Esempt
(Adran 5 LTTA)
Gelwir rhai buddiannau ym maes tir yn ‘fuddiannau esempt’. Nid yw trafodiadau sy’n ymwneud â buddiannau esempt yn drethadwy i LTT. Mae rhai trafodiadau sy'n cynnwys buddiannau trethadwy wedi'u heithrio.
Mae’r canlynol yn fuddiannau esempt:
- ‘buddiant sicrhad’, sef buddiant neu hawl (ar wahân i rent-dal) a ddelir i sicrhau taliad ariannol neu berfformiad unrhyw rwymedigaeth arall. Yr enghraifft fwyaf cyffredin o fuddiant sicrhad yw morgais
- trwydded i ddefnyddio neu i feddiannu tir (fodd bynnag, gallai dogfen sy'n disgrifio ei hun fel trwydded fod yn les mewn gwirionedd, yn enwedig os yw meddiant ecsgliwsif gan y derbynnydd yn ganlyniad ymarferol)
- tenantiaeth wrth ewyllys (fodd bynnag, gallai tenantiaeth a ddisgrifir fel tenantiaeth wrth ewyllys fod yn fath arall o denantiaeth mewn gwirionedd, fel tenantiaeth gyfnodol, yn enwedig os telir rhent)
- rhyddfraint a roddir gan y Goron, er enghraifft, yr hawl i gynnal marchnad neu i godi toll;
- maenor (‘Arglwydd y Faenor’ neu arglwyddiaeth, ond dylid cofio y gallai buddiannau trethadwy, fel profit à prendre, ddod law yn llaw ag arglwyddiaeth)
Hawl a roddir gan berchennog y tir i rywun arall ddefnyddio’r tir yw ‘trwydded’. Mae trwydded yn caniatáu i rywun gael mynediad i dir rhywun arall. Mae’n caniatáu iddynt gael mynediad at y tir, neu byddai mynd ar y tir yn gyfystyr â thresmasu fel arall. Yn bwysig iawn, nid yw’n rhoi unrhyw fuddiant yn y tir i’r unigolyn sy'n cael y drwydded. Fodd bynnag, os yw’r drwydded yn rhoi meddiant llwyr-gyfyngedig, mae’r trefniant yn debygol o fod yn les yn hytrach na thrwydded.
Mae 'tenantiaeth wrth ewyllys’ yn drefniant, p’un ai a yw'n cael ei gofnodi ai peidio, lle mae’r tenant yn meddiannu tir fel tenant gyda chaniatâd y perchennog ar y sail bod modd i’r naill barti, a hynny ar unrhyw adeg, ddod â’r trefniant i ben. Daw’r trefniant i ben yn awtomatig hefyd os bydd un o'r partïon yn marw neu os bydd y perchennog yn gwerthu’r tir. Gan nad yw'n creu ystâd, ac nad oes modd ei aseinio gan y tenant na’r ysgutor oherwydd hynny, nid yw tenantiaeth wrth ewyllys yn cael ei thrin fel les at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir.
Gallai buddiant trethadwy sefydliad ariannol, fel rhan o drefniant cyllid arall sy'n ymwneud ag eiddo, fod yn fuddiant esempt os yw'n bodloni amodau penodol.
DTTT/2030 Caffael a Gwaredu Buddiant Trethadwy
Rhaid i'r prynwr, neu’r prynwr tybiannol, sef yr unigolyn neu'r unigolion y mae’r buddiant trethadwy yn dod i’w ran/rhan, fodloni rhwymedigaethau’r Dreth Trafodiadau Tir.
Bydd buddiant trethadwy yn dod i ran person (sef y prynwr):
- pan fydd y person hwnnw’n cael hawl i’r buddiant (pan gaiff ei greu neu ar ôl hynny)
- pan fydd buddiannau’r person hwnnw’n elwa yn sgil ildio neu ryddhau’r buddiant, neu
- pan fydd y person hwnnw’n elwa yn sgil unrhyw achos o amrywio’r buddiant
Bydd person, y gwerthwr, yn cael gwared ar fuddiant trethadwy:
- pan fydd hawl y person hwnnw i’r buddiant yn dod i ben, neu pan fydd y buddiant sydd newydd ei greu yn berthnasol i’r buddiant
- pan fydd hawl y person hwnnw i’r buddiant yn dod i ben yn sgil ildio neu ryddhau, neu
- pan fydd buddiant y person yn cael ei gyfyngu yn sgil amrywio’r buddiant, neu'n wynebu hynny
Felly, bydd caffael buddiant yn cynnwys caffael buddiant rhydd-ddaliadol ac aseinio les gan ei symud o gyn-denant i denant newydd. Bydd hefyd yn cynnwys creu buddiant, felly, pan roddir les o fuddiant arall (les rydd-ddaliadol neu les uwch) bydd y person sy'n cael y les yn caffael y buddiant hwnnw, ac ef fydd prynwr y buddiant sydd newydd ei greu yn yr eiddo.
Os bydd les yn cael ei hildio neu os bydd y tenant yn cael ei ryddhau o’r les, bydd y landlord yn caffael buddiant yn yr eiddo.
Ar ben hynny:
- os bydd y tenant yn rhoi cydnabyddiaeth ariannol i’r landlord, neu swm cyfwerth ariannol am amrywio’r les, ond nad yw’r rhent na thelerau’r les yn newid, a chaiff yr amrywiad ei drin fel caffael buddiant trethadwy gan y tenant
- os bydd amrywio les yn gostwng y rhent, caiff hyn ei drin fel caffael buddiant trethadwy gan y tenant, neu
- os bydd amrywio les yn lleihau cyfnod y les, caiff ei drin fel caffael buddiant trethadwy gan y landlord
DTTT/2040 Trafodiadau cysylltiol
(adran 8 LTTA)
Ceir rhai sefyllfaoedd lle mae dau neu ragor o drafodiadau eiddo sy’n cynnwys yr un prynwr a gwerthwr neu unigolion cysylltiedig yn cael eu trin fel petaent yn gysylltiol i ddibenion LTT (gweler DTTT 6100 a 6110 i gael rhagor o arweiniad ar gyfrifo’r dreth sy'n daladwy ar drafodiadau cysylltiol a lle bydd angen ffurflen Treth Trafodiadau Tir neu ffurflen arall o bosibl yn sgil trafodiad cysylltiol diweddarach).
Mae trafodiadau’n gysylltiol pan fyddant yn ffurfio rhan o un cynllun, trefniant neu gyfres o drafodiadau rhwng yr un prynwr a gwerthwr neu unigolion sy'n gysylltiedig â nhw. Gallant fod yn cydredeg neu’n olynol. Mae Adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 yn berthnasol i bennu a oes cysylltiad rhwng y partïon.
Nid yw trafodiadau’n gysylltiol pan fo'r un unigolion yn cyflawni gwahanol rolau ym mhob trafodiad. Er enghraifft pan:
- mewn un trafodiad, Mr A yw'r prynwr a Mr B yw'r gwerthwr, ac
- mewn ail drafodiad, Mr B yw'r prynwr a Mr A yw'r gwerthwr
ni fydd y trafodiadau’n gysylltiol, oni bai bod cysylltiad rhwng Mr A a Mr B.
Mae’r rheolau hyn yn anelu at sicrhau nad oes modd i drafodiadau gael eu rhannu’n artiffisial yn drafodiadau llai (nac yn rhannau ar wahân wedi'u prynu gan unigolion cysylltiol) yn y gobaith y gellir lleihau neu ddileu’r Dreth Trafodiadau Tir sy'n daladwy. Bydd pobl sy'n gysylltiedig â’r prynwr neu’r gwerthwr yn cyfrif fel yr un prynwr neu werthwr pan fydd y trafodiadau tir yn rhan o un cynllun, trefniant neu gyfres o drafodiadau.
Os cofnodir dau drafodiad ar wahân, ni fydd y ffurflen lle mae’r trafodiadau wedi’u nodi yn dweud a ydynt wedi'u cysylltu ai peidio. Er enghraifft, ni fydd dogfennu trafodiadau gyda chontractau ar wahân yn eu hatal rhag bod yn gysylltiol os oes trefniadau'n berthnasol i'r trafodiadau sy'n dangos eu bod yn rhan o un cynllun ayb. Nid oes angen i’r trafodiadau hyn fod yn ysgrifenedig na bod yn gyfreithiol rwymol.
Mae cyfres o drafodiadau'n golygu rhywbeth mwy na bod un trafodiad yn dilyn y llall. Rhaid bod rhywbeth arall yn cysylltu'r trafodiadau.
Fodd bynnag, byddai’n gwestiwn o ffaith a yw’r pryniannau'n gwbl ddigyswllt. Yn benodol, mae’n rhaid i’r prynwr ystyried a yw’r ffaith bod y trafodiad cyntaf wedi digwydd wedi effeithio ar delerau’r ail drafodiad.
Pan fydd trafodiadau olynol wedi'u cysylltu, er enghraifft, rhoi opsiwn a’i ddefnyddio, mae’n bosibl y codir mwy o dreth ar y trafodiad cyntaf.
Bydd angen talu unrhyw dreth ychwanegol yr un pryd ag y mae’r dreth yn daladwy ar yr ail drafodiad.
Os yw’r prynwr yn dewis, mae modd nodi trafodiadau cysylltiol sydd â’r un dyddiad dod i rym fel un trafodiad hysbysadwy gan ddefnyddio un ffurflen trafodiad tir.
Wrth wneud hyn, bydd y trafodiadau’n cael eu trin fel un trafodiad, a bydd pob prynwr, os oes mwy nag un, yn cael ei drin fel cyd-brynwyr.
Achosion arbennig
Lle y mae opsiwn wedi ei ganiatáu, bydd dyfarnu’r opsiwn ac ymarfer yr opsiwn yn drafodiadau cysylltiol. Fodd bynnag, os na fydd yr unigolyn sydd wedi caffael yr opsiwn yn ei weithredu o fewn y cyfyngiadau amser pryd y gellir gweithredu’r hawliau dan yr opsiwn, yna, os yw’r prynwr wedi ceisio prynwyr amgen, ni fydd rhoi’r opsiwn a’i weithredu yn drafodiadau cysylltiol.
Lle bo trafodiadau yn gysylltiol ond bod natur y tir yn y trafodiad dilynol yn wahanol i’r un yn y trafodiadau cyntaf neu gynharach, gallai’r cyfraddau a’r bandiau treth a oedd yn berthnasol i’r trafodiadau cynharach newid. Er enghraifft, bydd caffael eiddo preswyl yn y trafodiad cyntaf yn atebol i’r cyfraddau preswyl (neu breswyl uwch), os bydd trafodiad cysylltiol diweddarach yn digwydd ar gyfer tir amhreswyl yna bydd angen i’r ddau drafodiad gael eu trin fel trafodiadau cymysg gan gymhwyso’r cyfraddau amhreswyl (yn amodol ar unrhyw hawliadau perthnasol o ran rhyddhad am anheddau lluosog).
Fodd bynnag, os bydd llai o dreth yn daladwy ar drafodiad blaenorol, o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach, ni chaiff y trethdalwr hawlio ad-daliad ond os bydd yn cwrdd â’r amodau ar gyfer ad-daliad. Yn benodol, os yw’r terfyn amser ar gyfer hawlio ad-daliad wedi mynd heibio, yna ni ellir gwneud hawliad.
DTTT/2050 Trafodiadau sy’n esempt rhag codi treth arnynt
(Atodlen 3 LTTA)
Mae caffael buddiant esempt yn golygu nad yw tâl y Dreth Trafodiadau Tir yn berthnasol.
Mae pum math o drafodiad tir sy’n benodol wedi'u hesemptio rhag y Dreth Trafodiadau Tir. Ni chodir treth ar y mathau hyn o drafodiadau, ac ni fydd angen ffurflen y Dreth Trafodiadau Tir.
DTTT/2050a Dim cydnabyddiaeth drethadwy
Gellir rhoi tir neu adeiladau’n rhodd, neu drosglwyddo perchnogaeth i rywun arall, heb ddim ‘cydnabyddiaeth drethadwy’. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw arian (na gwerth ariannol) yn cael ei roi gan y prynwr (neu ar ei ran) i’r gwerthwr, ac nad oes cydnabyddiaeth arall gyda gwerth ariannol.
Fodd bynnag, os yw’r prynwr yn cael eiddo'n rhodd ac yn ysgwyddo dyled gyfredol fel rhan o drafodiad tir (er enghraifft, talu dyled morgais), mae'r ddyled yn gydnabyddiaeth drethadwy at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir.
Nid yw’r esemptiad hwn yn berthnasol lle y mae’r rheoliadau gwerth marchnadol tybiedig yn berthnasol. Mewn achosion o'r fath, mae rheolau penodol yn berthnasol fel bod y gydnabyddiaeth a roddir yn seiliedig ar werth testun y trafodiad ar y farchnad agored.
DTTT/2050b Caffaeliadau gan y Goron
Mae caffael buddiant trethadwy gan un neu fwy o’r canlynol yn drafodiad esempt:
- Gweinidogion Cymru, Prif Weinidog Cymru a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru
- un neu ragor o Weinidogion y Goron
- Gweinidogion yr Alban
- adran yng Ngogledd Iwerddon
- Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Swyddog Corfforaethol Tŷ’r Arglwyddi neu Dŷ'r Cyffredin
- Corff Corfforaethol Senedd yr Alban, a
- Chomisiwn Cynulliad Gogledd Iwerddon
Fodd bynnag, ni fydd unrhyw drafodiadau tir sy'n cynnwys prynwr sy'n un o’r unigolion uchod ac unigolyn sydd ddim wedi'i restru uchod yn drafodiad esempt. Bydd angen talu’r Dreth Trafodiadau Tir ar y gydnabyddiaeth lawn oni bai fod rhyddhad penodol yn berthnasol, er enghraifft rhyddhad ar gyfer caffael gan gyrff cyhoeddus (lle mae’r gwerthwr ac un o’r prynwyr yn gorff cyhoeddus), neu, ryddhad cefnffyrdd.
DTTT/2050c Trafodiadau mewn cysylltiad ag ysgariad neu ddiddymu partneriaeth sifil
Mae rhai trafodiadau a wneir mewn cysylltiad â dod â phriodas, neu bartneriaeth sifil a ffurfiwyd o dan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004, i ben, wedi'u heithrio rhag y Ddeddf Trafodiadau Tir.
Trafodiadau esempt yw’r rheini sy’n cael eu gwneud rhwng y partïon sy’n ffurfio priodas neu bartneriaeth sifil yn sgil:
- mathau penodol o orchymyn llys
- cytundeb rhwng partneriaid sifil/priod gan ystyried neu mewn cysylltiad â’r broses o ddiddymu neu ddod â’r briodas neu’r bartneriaeth sifil i ben, neu
- eu gorchymyn gwahanu neu wahaniad barnwrol
Nid yw’r esemptiad ar gael os yw’r trafodiad yn cynnwys rhywun heblaw am y partneriaid priod neu sifil. Er enghraifft, os yw’r eiddo’n cael ei drosglwyddo yn unol â chytundeb neu orchymyn llys i un partner priod neu sifil a’u partner newydd, neu i un partner priod neu sifil a phlant y briodas neu’r bartneriaeth sifil.
DTTT/2050d Cydsyniadau a pherchnogiadau gan gynrychiolwyr personol
Mae’r esemptiad hwn yn berthnasol pan fydd eiddo'n cael ei drosglwyddo i berson arall mewn ewyllys neu mewn achos pan nad oedd yr unigolyn o dan sylw wedi gwneud ewyllys. Mae’r esemptiad yn cynnwys eiddo sydd â dyled heb ei thalu wedi ei sicrhau arno, er enghraifft dyled a sicrhawyd gan forgais.
Pan fo’r cynrychiolydd personol yn dod yn ymddiriedolwr yr eiddo pan fydd profiant wedi’i roi, mae trosglwyddo’r ased yn esempt oni fo unrhyw gydnabyddiaeth yn cael ei rhoi am drosglwyddo’r eiddo. Yn yr un modd, os yw’r unigolyn hwnnw hefyd yn fuddiolwr yr ewyllys, pan gaiff yr eiddo ei drosglwyddo iddo fel buddiolwr, bydd y trafodiad yn esempt oni fo unrhyw gydnabyddiaeth yn cael ei rhoi am drosglwyddo’r eiddo.
Nid yw’r trafodiad yn drafodiad esempt os rhoddir cydnabyddiaeth ar gyfer yr eiddo (fel eithriad, nid yw hyn yn cynnwys ysgwyddo dyled sicredig h.y. dyled a sicrhawyd ar yr eiddo yn syth ar ôl marwolaeth yr unigolyn).
Er enghraifft, os bydd yr unigolyn y trosglwyddir yr eiddo iddo yn gwneud taliad i ysgutor yr ewyllys i alluogi buddiolwyr eraill yr ewyllys i gadw’r gyfran o'r ystâd a adawyd iddynt, caiff y swm a roddir ei drin fel cydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad tir.
DTTT/2050e Amrywio gwarediadau testamentaidd etc.
Mae’r esemptiad hwn yn berthnasol i drafodiadau sy'n newid telerau ewyllys neu mewn achosion pan nad oes ewyllys (o fewn dwy flynedd ar ôl marwolaeth rhywun) fel bod buddiolwr gwahanol yn cael eiddo. Ar yr amod nad yw buddiolwr newydd yn talu unrhyw iawndal, gan gynnwys, o bosibl, ysgwyddo morgais neu ddyled arall, bydd y trafodiad wedi’i eithrio rhag y Ddeddf Trafodiadau Tir. Nid yw amrywiad yn nhelerau ewyllys neu pan nad oes ewyllys o blaid y buddiolwr gwreiddiol yn cyfrif fel taliad iawndal – er enghraifft, gadael rhywbeth arall iddynt yn hytrach na’r eiddo.
Os bydd cydnabyddiaeth drethadwy yn cael ei rhoi am yr eiddo (megis taliad cyfartalu), yn ddibynnol ar fod y trafodiad yn un hysbysadwy, bydd trafodiad trethadwy. Mewn achosion o’r fath y partïon yn y trafodiad yw’r buddiolwr gwreiddiol fel gwerthwr a’r unigolyn sy’n caffael y budd yn yr eiddo o ganlyniad i’r amrywiad fel prynwr.