Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw ar yr amseroedd ar gyfer llenwi ffurflen y Dreth Trafodiadau Tir a gwneud taliad y TTT i ACC.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynnwys

Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn

Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn, rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).

DTTT/6010 Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth trafodiadau tir

(adran 44)

Rhaid i drethdalwr ddychwelyd ffurflen dreth i ACC am bob trafodiad tir hysbysadwy sydd naill ai wedi'i gwblhau neu wedi'i gyflawni'n sylweddol.

Rhaid dychwelyd y ffurflen cyn diwedd y cyfnod o 30 diwrnod sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad pan fydd y trafodiad yn cael effaith. At hynny, pan fydd y trafodiad yn drafodiad trethadwy, rhaid i'r ffurflen hefyd gynnwys hunanasesiad. Diwrnodau calendr, nid diwrnodau gwaith yw'r cyfnod hwn.

Mae'r enghreifftiau isod yn dangos y dyddiadau ffeilio pan fydd y trafodiad tir yn digwydd mewn mis 30 diwrnod ac mewn mis 31 diwrnod.

Enghraifft 1

Mae Ms A yn caffael ei chartref newydd ac nid oes ganddi fuddiant yn yr un annedd arall. Mae'r trafodiad yn cael ei gwblhau ar 7 Ebrill 2020. Nid yw'r trafodiad wedi'i gyflawni'n sylweddol cyn y dyddiad hwnnw. Felly, mae gan Ms A tan ganol nos 7 Mai 2020 i ddychwelyd ei ffurflen dreth mewn pryd.

Enghraifft 2

Mae Mr B yn caffael ei gartref newydd ac nid oes ganddo fuddiant yn yr un annedd arall. Mae'r trafodiad yn cael ei gwblhau ar Ddydd Sadwrn, 7 Mawrth 2020. Nid yw'r trafodiad wedi'i gyflawni'n sylweddol cyn y dyddiad hwnnw. Felly, mae gan Mr B tan ganol nos 6 Ebrill 2020 i ddychwelyd ei ffurflen dreth mewn pryd.

DTTT/6020 Trafodiadau hysbysadwy

(adran 45)

Trafodiad hysbysadwy yw un sydd:

  • yn caffael prif fuddiant mewn tir nad yw'n dod o dan un o'r eithriadau a nodir isod
  • yn caffael buddiant trethadwy ar wahân i brif fuddiant mewn tir nad yw wedi'i eithrio rhag talu treth a bod treth yn daladwy (neu y byddai'n daladwy oni hawlid rhyddhad) ar gyfradd o fwy na 0%
  • yn drafodiad tir yr ystyrir y bydd rhywun yn ei wneud oherwydd y rheolau ynghylch cyflawni'n sylweddol sy'n berthnasol i gontract sy'n darparu ar gyfer trosglwyddo i drydydd parti (adran 11(3) DTTT), neu
  • yn drafodiad tir tybiannol neu dybiannol ychwanegol ar gyfer trafodiad cyn-gwblhau.

Enghraifft 1- caffael prif fuddiant

Mae Ms A wedi symud i fyw at Mr B ar ôl bod mewn perthynas am flynyddoedd lawer. Nid yw Ms A yn berchen ar yr un eiddo arall. Cytunir y bydd Ms A yn dod yn denant ar y cyd yng nghartref Mr B, sy'n gartref i'r ddau bellach. Y gydnabyddiaeth drethadwy a roddwyd gan Ms A ar gyfer y buddiant hwn yw £100,000. Er nad oes treth yn daladwy gan fod y gydnabyddiaeth o fewn y trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau preswyl, mae'r trafodiad yn hysbysadwy oherwydd tybir iddi gaffael prif fuddiant yn y tir oherwydd, yn sgil y trafodiad tir, mae'r prif fuddiant yn eiddo ar y cyd iddi hi a Mr B.

Enghraifft 2 – caffaeliad buddiant trethadwy ac eithrio prif fuddiant

Mae C Cyf yn talu £300,000 i Ms D, ffermwraig, i godi 30 o beilonau ar ei thir. Hawddfraint yw'r trefniant rhwng y ddau barti ac felly nid yw'n brif fuddiant mewn tir, ond mae serch hynny'n fuddiant trethadwy mewn tir. Gan fod y gydnabyddiaeth a roddwyd yn fwy na'r trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau amhreswyl, mae'r trafodiad yn hysbysadwy.

Enghraifft 3 – cyflawni'n sylweddol

Mae E Cyf wedi ymrwymo i gontract i brynu bloc o swyddfeydd. Mae telerau'r contract yn dweud y caiff E Cyf roi cyfarwyddyd i'r eiddo gael ei drosglwyddo i drydydd parti (F Cyf). Cyn i'r eiddo gael ei drosglwyddo gan y gwerthwr i F Cyf, mae E Cyf, gyda chytundeb y gwerthwr, yn meddiannu'r eiddo er mwyn cael mynediad i eiddo arall sydd yn ei berchnogaeth. Gan fod E Cyf wedi cyflawni'r contract yn sylweddol drwy feddiannu'r eiddo, bydd y trafodiad yn hysbysadwy, ac yn yr un modd hefyd y trafodiad a wnaeth F Cyf.

Enghraifft 4 – cyn-gwblhau tybiannol

Mae A Cyf wedi ymrwymo i gytundeb gwerthu a phrynu gyda B Cyf am dir gyda chydnabyddiaeth o £400,000 yn daladwy wrth gwblhau. Mae B Cyf wedi aseinio ei hawliau o dan y contract i C Cyf am daliad gan C Cyf o £50,000.

Gorffennodd C Cyf y caffaeliad a thalodd £400,000 i A Cyf Mae’r trafodiad rhwng B Cyf ac A Cyf yn drafodiad tir tybiannol ac felly yn drafodiad hysbysadwy a ymrwymwyd iddo gan B Cyf, ond dylai bod hawliad am ryddhad llawn ar gael os yw Adran 19 o Atodlen 2 yn gymwys [LINK to PRECOMPLETION GUIDANCE]. Mae’r trafodiad rhwng C Cyf a B Cyf a ymrwymwyd iddo gan C Cyf hefyd yn drafodiad hysbysadwy gyda chydnabyddiaeth drethadwy o £450,000.

DTTT/6030 Eithriadau i'r rheolau am drafodiadau hysbysadwy

(adran 46)

Pan fydd yr amodau a ganlyn yn berthnasol, ni fydd y trafodiad yn drafodiad hysbysadwy:

  • Esemptiadau:
    • trafodiad esempt rhag treth
  • Trafodion nad ydynt yn ymwneud â lesoedd:
    • caffaeliad ac eithrio rhoi, asesinio neu ildio les pan fydd y gydnabyddiaeth drethadwy (ynghyd ag unrhyw gydnabyddiaeth am drafodiadau cysylltiol) yn llai na £40,000
  • Lesoedd llai na 7 mlynedd:
    • rhoi les neu ildio les am gyfnod o lai na saith mlynedd pan na fydd y gydnabyddiaeth drethadwy'n fwy na'r trothwy cyfradd sero
    • aseinio neu ildio les pan roddwyd y les yn wreiddiol am gyfnod o lai na saith mlynedd ac nad yw'r gydnabyddiaeth drethadwy'n fwy na'r trothwy cyfradd sero
  • Lesoedd mwy na 7 mlynedd:
    • rhoi les am gyfnod o saith mlynedd neu ragor pan fydd y gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent yn llai na £40,000 a'r rhent blynyddol yn llai na £1,000, neu
    • aseinio neu ildio les pan roddwyd y les yn wreiddiol am gyfnod o saith mlynedd neu ragor a bod y gydnabyddiaeth drethadwy'n llai na £40,000.

Bydd y gydnabyddiaeth drethadwy'n croesi'r trothwy cyfradd sero os bydd yn cynnwys unrhyw swm y mae treth yn daladwy arno ar gyfradd o fwy na 0% neu pe bai treth yn daladwy oni fyddai rhywun yn hawlio rhyddhad.

Enghraifft 1

Mae mam Mr A yn rhoi annedd iddo. Does dim dyled heb ei thalu (er enghraifft morgais) ar yr eiddo. Nid oes dim cydnabyddiaeth drethadwy. Mae'r trafodiad yn esempt rhag treth ac nid yw'r trafodiad yn drafodiad hysbysadwy.

Enghraifft 2

Mae Ms B yn prynu darn o dir ar rydd-ddaliad sy'n costio £20,000. Nid yw'r trafodiad yn gysylltiol â'r un trafodiad arall. Oherwydd bod y gydnabyddiaeth drethadwy a roddir yn llai na £40,000, nid yw'r trafodiad yn drafodiad hysbysadwy.

Enghraifft 3

Rhoddir les i C Cyf ar lawr bloc o swyddfeydd am gyfnod o bum mlynedd. Y gydnabyddiaeth a roddir yw £100,000 ac mae'r swm hwnnw i gyd ar ffurf cydnabyddiaeth yn hytrach nag ar ffurf rhent (premiwm). Nid oes dim trafodion cysylltiol. Oherwydd bod y les a roddir am gyfnod o lai na saith mlynedd a'r gydnabyddiaeth o fewn y trothwy cyfradd sero, nid yw'r trafodiad yn hysbysadwy. Pe bai'r les yn parhau ac na fyddai bellach yn bodloni'r amod ynglŷn â'r cyfnod na'r gydnabyddiaeth, byddai'r trafodiad wedyn yn hysbysadwy.

Enghraifft 4

Rhoddir les i D Cyf am gyfnod o 6 blynedd ar 1 Mawrth 2020. Mae’r gydnabyddiaeth ar ffurf cydnabyddiaeth yn llwyr, nid  rhent, a'r swm yn £200,000. Felly, mae’r trafodiad hwn yn hysbysadwy oherwydd bod y gydnabyddiaeth yn fwy na'r trothwy cyfradd sero. Ar 1 Medi 2024, mae'r les yn cael ei haseinio i E Cyf, cwmni nad yw'n gysylltiol ag E Cyf, am £50,000. Nid yw'r trafodiad yn hysbysadwy oherwydd bod y les, pan roddwyd hi, am gyfnod o lai na saith mlynedd ac oherwydd nad yw'r gydnabyddiaeth a roddwyd am ei haseinio'n croesi'r trothwy cyfradd sero.

Enghraifft 5

Rhoddir les i Mr F am gyfnod o 15 mlynedd ar fflat yn Aberystwyth. Telir cydnabyddiaeth o £35,000 ar ffurf premiwm a rhent tir o £600 y flwyddyn. Nid yw'r trafodiad yn hysbysadwy oherwydd bod y gydnabyddiaeth heblaw am y rhent yn llai na £40,000 a'r rhent blynyddol yn llai na £1,000.

Enghraifft 6

Mae Mr F (o enghraifft 5 uchod), ar ôl tair blynedd, yn aseinio'i les i Ms G. Mae hi'n talu £35,000 am aseinio'r les (ac yn ysgwyddo'r atebolrwydd, yn unol ag un o amodau'r les, i dalu'r rhent tir, sef £600). Gan fod y gydnabyddiaeth a roddir gan Ms G am aseinio'r les yn llai na £40,000, nid yw'r trafodiad yn hysbysadwy.

DTTT/6040 Trafodiadau hysbysadwy - rheolau arbennig

Trafodiadau a gyflawnir yn sylweddol

(adrannau 10(5) a 45)

Lle bydd trafodiad wedi'i gyflawni'n sylweddol, gall cyflawni'r contract yn sylweddol a chwblhau'r contract ill dau fod yn drafodiadau hysbysadwy ar wahân, oni bai bod eithriadau i'r rheolau am drafodiadau hysbysadwy yn gymwys.

Os bydd y dreth a godir pan gaiff y contract ei gwblhau'n fwy na swm y dreth sy'n daladwy ar gyflawni'r contract yn sylweddol, rhaid cynnwys y swm ychwanegol hwnnw yn yr hunanasesiad ar gyfer y ffurflen dreth honno.  Rhaid i'r ffurflen dreth ar gyfer cyflawni'r contract yn sylweddol a'r ffurflen dreth ar gyfer cwblhau'r trafodiad ddangos swm llawn y gydnabyddiaeth daladwy sy'n hysbys ar ddyddiad cwblhau pob ffurflen dreth.

Bydd rheolau arbennig ychwanegol hefyd yn berthnasol i'r canlynol:

  • trefniadau sy'n cynnwys cyrff cyhoeddus neu addysgol,
  • trosglwyddo buddiannau partneriaethau, a,
  • threfniadau cyllid eiddo arall.

DTTT/6050 Cynnwys hunanasesiad gyda'r ffurflen dreth os yw'r trafodiad yn drafodiad trethadwy

(adran 44)

Ystyr hunanasesiad yw asesiad o swm y dreth sydd i'w godi mewn perthynas â'r trafodiad. 

Pan fydd y gydnabyddiaeth a roddir ar gyfer testun y trafodiad yn llai na'r trothwy cychwynnol ar gyfer y gyfradd gyntaf o dreth uwchben 0%, bydd angen hunanasesiad o hyd, er mai swm yr hunanasesiad hwnnw fydd £0.00.

Pan fydd y trafodiad yn un lle yr hawlir rhyddhad ond bod y rhyddhad hwnnw'n golygu bod peth o’r gydnabyddiaeth dal yn cael ei threthu (er enghraifft rhyddhad rhannol i elusennau), neu os bydd yn drethadwy, gan ddefnyddio cyfrifiad gwahanol i’r un arferol, ar y brif gyfradd neu ar gyfradd uwch (er enghraifft rhyddhad caffael lle y codir cyfradd dreth arbennig, neu ryddhad am anheddau lluosog), bydd y trafodiad yn drafodiad trethadwy o hyd a bydd angen hunanasesiad. Rhestrir y mathau perthnasol o ryddhad yn adran 30(3) DTTT.

DTTT/6060 Peidio â chynnwys hunanasesiad gyda’r ffurflen dreth pan na fydd y trafodiad yn drafodiad trethadwy

Os bydd y trethdalwr yn hawlio rhyddhad a fydd yn golygu na fydd dim o'r gydnabyddiaeth a roddir yn drethadwy, er enghraifft rhyddhad grŵp, yna, ni fydd y trafodiad yn drafodiad trethadwy. Dyma'r mathau o ryddhadau sydd wedi'u rhestru yn adran 30(2) DTTT. Bydd y trafodiadau hyn yn dal yn drafodiadau hysbysadwy.

Ar y llaw arall, pan fydd y trafodiad yn drafodiad yr hawlir rhyddhad ar ei gyfer ond na fydd hynny'n golygu bod y gydnabyddiaeth i gyd yn ddi-dreth, er enghraifft rhyddhad caffael lle y codir cyfradd dreth arbennig, bydd y trafodiad yn dal yn drafodiad trethadwy a bydd angen hunanasesiad. Rhestrir y mathau perthnasol o ryddhad yn adran 30(3) DTTT.

DTTT/6070 Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth - Digwyddiad dibynnol yn dod i ben neu gydnabyddiaeth yn cael ei chanfod

(adran 47)

Os bydd y gydnabyddiaeth drethadwy mewn trafodiad hysbysadwy yn ansicr, rhaid i'r trethdalwr, yn y ffurflen dreth ar gyfer y trafodiad hysbysadwy, gyfrifo'r gydnabyddiaeth drethadwy ar sail resymol.

Yn ychwanegol rhaid i brynwr ddychwelyd ffurflen dreth arall, gan gynnwys ffurflen hunanasesu i’r ACC, os oedd y gydnabyddiaeth yn ddibynnol, yn ansicr neu heb ei chanfod cyn diwedd 30 o ddiwrnodau sy'n dechrau:

  • pan fydd gydnabyddiaeth ddibynnol yn digwydd neu pan ddaw'n amlwg na fydd yn digwydd, neu
  • pan fydd y gydnabyddiaeth yn ansicr neu heb ei chanfod, a bod y swm sy'n berthnasol ar gyfer cyfrifo'r gydnabyddiaeth (neu unrhyw ran o'r gydnabyddiaeth) yn dod yn hysbys.

ac os o ganlyniad i'r digwyddiad:

  • y daw'r trafodiad yn hysbysadwy
  • y daw treth ychwanegol yn daladwy, neu
  • y daw treth yn daladwy am drafodiad lle nad oedd treth yn daladwy gynt.

Daw llog yn ddyledus hefyd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad y trafodiad y mae’r ffurflen dreth neu’r ffurflen dreth bellach yn cyfeirio ato.

Ni fydd y rheolau hyn yn berthnasol mewn achosion lle bydd y gydnabyddiaeth drethadwy'n rhent, nac i gydnabyddiaeth sy'n cael ei thalu ar ffurf blwydd-dal.

DTTT/6080 Ad-dalu treth - Digwyddiad dibynnol yn peidio neu ganfod cydnabyddiaeth

(adran 48)

Os bydd digwyddiad perthnasol yn digwydd, a bod llai o dreth yn daladwy ar gyfer trafodiad tir, a'r trethdalwr wedi talu'r dreth honno, caiff y trethdalwr hawlio ad-daliad gan ACC.   

Digwyddiad perthnasol gyda golwg ar y gydnabyddiaeth ddibynnol, neu'r gydnabyddiaeth ansicr neu'r gydnabyddiaeth heb ei chanfod, fydd:

  • pan fydd y digwyddiad dibynnol yn digwydd neu pan ddaw'n amlwg na fydd yn digwydd neu
  • pan fydd y gydnabyddiaeth yn ansicr neu heb ei chanfod, a bod y swm sy'n berthnasol ar gyfer cyfrifo'r gydnabyddiaeth (neu unrhyw ran o'r gydnabyddiaeth) yn dod yn hysbys.

Serch hynny, pan fydd y trafodiad tir yn berthnasol i roi les, ni cheir hawlio ad-daliad ar gyfer:

  • ad-dalu (yn llwyr ynteu'n rhannol) unrhyw fenthyciad neu flaendal a gafodd ei drin yn gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad, neu
  • ad-dalu unrhyw gydnabyddiaeth a roddwyd lle y gwneir yr ad-daliad hwnnw o dan drefniadau yng nghyswllt y trafodiad ac, sy'n ddibynnol ar derfynu neu aseinio'r les (neu roi buddiant trethadwy allan o'r les).

Caiff y trethdalwr hawlio ad-daliad drwy ddiwygio'i ffurflen dreth, os yw hynny o fewn y cyfnod a ganiateir, neu ar ôl y cyfnod hwnnw, drwy gyflwyno hawliad ysgrifenedig i ACC sy'n cydymffurfio â'r rheolau perthnasol. Fel rheol, dim ond hawliadau o fewn y cyfnod o bedair blynedd ar ôl dyddiad ffeilio'r ffurflen dreth a ganiateir o dan y rheolau sy'n ymwneud â hawlio ad-daliad. O dan amgylchiadau eithriadol, mae'r rheolau sy'n ymwneud ag ad-daliadau ar gyfer achosion dibynnol, ansicr neu heb eu canfod yn caniatáu cyfnod ychwanegol ar gyfer gwneud yr hawliad hwnnw, pan fydd y cyfnod arferol o bedair blynedd wedi mynd heibio. Y cyfnod ychwanegol ar gyfer gwneud hawliad yw cyfnod o 12 mis, gan ddechrau ar y dyddiad perthnasol sydd wedi sbarduno'r hawliad am ad-daliad.  

Ni fydd y rheolau hyn yn berthnasol mewn achosion lle bydd y gydnabyddiaeth drethadwy'n rhent, nac i gydnabyddiaeth sy'n cael ei thalu ar ffurf blwydd-dal.

DTTT/6090 Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth - ffurflen dreth bellach pan dynnir rhyddhad yn ôl

(adran 49)

Rhaid i brynwr ddychwelyd ffurflen dreth bellach os tynnir rhyddhad yn ôl mewn perthynas â digwyddiad datgymhwyso gyda golwg ar:

  • rhyddhad ar gyfer bondiau buddsoddi cyllid arall
  • rhyddhad ar gyfer mathau penodol o gaffael eiddo preswyl
  • rhyddhad grŵp
  • rhyddhad atgyfansoddi neu gaffael, neu
  • ryddhad i elusennau.

Os bydd gofyn dychwelyd ffurflen o'r fath, rhaid ei anfon i ACC o fewn 30 diwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y digwyddiad datgymhwyso, a rhaid iddi gynnwys hunanasesiad.

Daw llog yn ddyledus hefyd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad y trafodiad y mae’r ffurflen dreth neu’r ffurflen dreth arall yn cyfeirio ato.

DTTT/6100 Dyletswydd i ddychwelyd ffurflen dreth - Ffurflen dreth unigol mewn cysylltiad â thrafodiadau cysylltiol sy'n cael effaith ar yr un dyddiad

(adran 50)

Os bydd dau drafodiad cysylltiol neu ragor yn cael effaith ar yr un diwrnod, caiff y prynwr (neu'r prynwyr lle bydd hynny'n briodol) ddychwelyd un ffurflen dreth, fel pe bai'r holl drafodiadau'n un trafodiad hysbysadwy. Os bydd prynwyr y trafodiadau'n wahanol, ond eu bod yn bobl gysylltiol, cânt wneud cais am dystysgrifau ACC ar wahân at ddibenion cofrestru tir (er y bydd y tystysgrifau hynny'n dangos pob prynwr a enwir ar bob tystysgrif).

Enghraifft 1

Cwmnïau grŵp a phobl gysylltiol yw A Cyf a B Cyf. Mae'r naill a'r llall yn ymrwymo i gontract â Z Cyf i gaffael rhydd-ddaliad dwy siop (un ym Mangor a'r llall yn y Drenewydd). Yr un dyddiad cwblhau sydd ar gyfer y ddau gontract a bydd y ddau gontract yn cael eu cwblhau (heb eu cyflawni'n sylweddol cyn hynny) ar 1 Mehefin 2019. Gan mai ar yr un dyddiad y bydd y ddau drafodiad yn cael effaith ac mai'r un gwerthwr sydd i'r ddau (neu, lle bydd hynny'n berthnasol, person sy'n gysylltiedig â hwy) caniateir dychwelyd un ffurflen dreth.

DTTT/6110 Dyletswydd i gyflwyno ffurflen dreth - ffurflen dreth o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach

(adran 51)

Gall sefyllfa dreth gychwynnol newid o ganlyniad i drafodiad cysylltiol diweddarach. Gall trafodiad cysylltiol diweddarach olygu:

  • bod trafodiad cynharach yn dod yn hysbysadwy, lle nad oedd cyn hynny
  • y codir treth am y trafodiad cynharach, lle nad oedd tâl yn daladwy o'r blaen, neu
  • y daw treth ychwanegol yn daladwy mewn perthynas â'r trafodiad cynharach

Os bydd gofyn dychwelyd ffurflen o'r fath, rhaid ei hanfon i ACC cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy'n dechrau â'r diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y trafodiad diweddarach yn cael effaith. Rhaid iddi gynnwys hunanasesiad.

Pan fo trafodiad cysylltiol diweddarach yn golygu bod trafodiad cynharach yn dod yn hysbysadwy, lle nad oedd cyn hynny, yna dylid cofnodi y dyddiad y cafodd y trafodiad hwnnw effaith fel dyddiad y trafodiad diweddarach ar y ffurflen.

Enghraifft 1

Mae Mrs A yn caffael cae ar rydd-ddaliad gan Mr B ar 1 Mawrth 2020. Y gydnabyddiaeth a roddir am hyn yw £30,000. Felly, nid yw’r trafodiad yn hysbysadwy. Rhaid dychwelyd y ffurflen dreth erbyn 31 Mawrth 2020 fan hwyraf. Y caffaeliad hwn yw'r cyntaf mewn cyfres o drafodiadau cysylltiol.
 
Ar 1 Ebrill 2021, caffaelir ail gae ar rydd-ddaliad fel rhan o'r cynllun trafodiadau. Y gydnabyddiaeth am y cae hwnnw yw £255,000. Mae’r holl gydnabyddiaeth gysylltiol i’r ddau drafodiad felly yn £285,000, ac yn awr fe ddaw’r trafodiad cyntaf yn hysbysadwy.

Gan fod treth yn daladwy yn awr ar y trafodiad cyntaf pan nad oedd treth yn daladwy gynt, bydd gofyn dychwelyd ffurflen dreth bellach ar gyfer y trafodiad hwnnw. Mae angen ffurflen ar gyfer yr ail drafodiad hefyd.

Y dyddiad ffeilio olaf ar gyfer y ddwy ffurflen yw 1 Mai 2021, sef 30 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd yr ail drafodiad yn cael effaith.

DTTT/6120 Datganiad

(adran 53)

Rhaid i ffurflen dreth gynnwys datganiad gan y prynwr bod y ffurflen, hyd eithaf ei wybodaeth, yn gywir ac yn gyflawn.

Ar ffurflen bapur llofnod(ion) y prynwr neu’r prynwyr fydd hyn.
Lle bydd y prynwr wedi awdurdodi asiant i lenwi'r ffurflen, mae'n bosibl i'r asiant gwblhau neu gael ei drin fel pe bai'n cwblhau'r datganiad.

Mewn achosion lle bydd yr asiant yn gwneud y datganiad ar ran y prynwr, rhaid i'r prynwr fod wedi cadarnhau gyda’u hasiant bod y wybodaeth sydd yn y ffurflen, ac eithrio'r dyddiad perthnasol os oes angen, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y prynwr. Os yw'r prynwr yn gallu cadarnhau'r dyddiad perthnasol i’w hasiant, yna bydd yr asiant yn gwneud y datganiad ar ran y prynwr ar y ffurflen gyfan.

Fodd bynnag, lle nad yw’r prynwr wedi gallu cadarnhau dyddiad perthnasol, mae’r asiant yn datgan ar ran y prynwr bod y ffurflen yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y prynwr, a bod y dyddiad perthnasol hyd eithaf gwybodaeth yr asiant yn gywir ac yn gyflawn hefyd.

Felly mae 3 datganiad gwahanol ar y ffurflen dreth:

  1. Datganiad gan y prynwyr sy’n llenwi’r ffurflen dreth ei hunain
  2. Datganiad gan yr asiant ar ran y prynwr bod yr holl wybodaeth yn y ffurflen dreth, gan gynnwys y dyddiad perthnasol, wedi cael ei gadarnhau gan y prynwr a bod y ffurflen yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y prynwr
  3. Datganiad gan yr asiant ar ran y prynwr bod yr holl wybodaeth yn y ffurflen dreth, heblaw am y dyddiad perthnasol, wedi cael ei gadarnhau gan y prynwr a bod y ffurflen yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y prynwr, a bod yr asiant yn datgan eu hunain bod y dyddiad perthnasol yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth yr asiant.

Mae'r dyddiad perthnasol yn golygu, gan amlaf, y dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith. Serch hynny, bydd rheolau arbennig yn berthnasol yn yr achosion a ganlyn lle mai'r dyddiad perthnasol fydd: 

  • y dyddiad pan fydd y digwyddiad yn digwydd, sef rhaid cyflwyno ffurflen dreth os bydd achos dibynnol yn digwydd (neu os daw'n glir na fydd yn digwydd) neu os bydd y gydnabyddiaeth a oedd yn ansicr neu heb ei chadarnhau, yn cael ei chadarnhau
  • y dyddiad pan fydd y digwyddiad datgymhwyso'n digwydd, sy'n arwain at ofyniad i gyflwyno ffurflen dreth arall yn sgil tynnu rhyddhad yn ôl
  • y dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith ar gyfer y trafodiad cysylltiol diweddarach sy'n golygu bod gofyn cyflwyno ffurflen dreth ar gyfer trafodiad cynharach, neu
  • y dyddad y bydd trafodiad yn cael effaith sy'n golygu bod gofyn cyflwyno ffurflen dreth ar gyfer trafodiad dros dro mewn perthynas â thrafodiad eiddo preswyl ar gyfradd uwch.

DTTT/6130 Prynwr ag anabledd: datganiad gan y Cyfreithiwr Swyddogol

(Adran 54)

Caiff prynwr gael ei gynrychioli gan Gyfreithiwr Swyddogol yr Uwch Lysoedd ('y Cyfreithiwr Swyddogol') os bydd ganddo anabledd (at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010). Bydd ffurflen dreth wedi'i llenwi gan y Cyfreithiwr Swyddogol, lle y bydd yn datgan bod y ffurflen, hyd eithaf ei wybodaeth, yn gyflawn ac yn gywir, yn bodloni gofynion datganiad y prynwr.

Yn yr un modd, pan fydd asiant yn gweithredu ar ran y Cyfreithiwr Swyddogol, yna, pan fydd y datganiad yn cael ei wneud gan yr Asiant, rhaid i'r Cyfreithiwr Swyddogol fod wedi gwneud datganiad bod y wybodaeth sydd yn y ffurflen, ac eithrio'r dyddiad perthnasol, yn gywir ac yn gyflawn hyd eithaf ei wybodaeth. 

Dim ond mewn perthynas â'r dyddiad perthnasol y bydd y datganiad yn cael ei wneud gan yr asiant yn y ffurflen, a bydd datganiad yr asiant yn dweud bod y dyddiad perthnasol, hyd y gŵyr yr asiant, yn gywir.

DTTT/6140 Datganiad gan berson a awdurdodir i weithredu ar ran unigolyn

(adran 55)

Pan fydd y prynwr yn unigolyn, tybir ei fod wedi cyflawni'r gofyniad i wneud datganiad (naill ai ynghylch y ffurflen yn ei chrynswth, neu, yng nghyswllt y wybodaeth sydd yn y ffurflen ac eithrio dyddiad perthnasol pan fydd y datganiad wedi'i wneud gan rywun a awdurdodwyd i weithredu ar ran yr unigolyn.

Dim ond pan fydd gan rywun bŵer atwrnai ysgrifenedig wedi'i lofnodi gan yr unigolyn y mae'n gweithredu ar ei ran yr awdurdodir ef i weithredu.

DTTT/6150 Rhwymedigaeth ar gyfer treth a'i thalu

Rhwymedigaeth i dalu'r dreth

(adran 56)

Os bydd trafodiad trethadwy, bydd y prynwr yn atebol am y dreth ar sail hunanasesiad.  Rhaid iddo dalu'r dreth yn unol â gofynion Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Talu'r dreth

(adran 57)

Os bydd trethdalwr wedi cyflwyno ffurflen dreth a bod swm o dreth yn daladwy, rhaid i'r trethdalwr dalu'r swm hwnnw o dreth, erbyn dyddiad ffeilio'r ffurflen dreth fan hwyraf.

Os digwydd i drethdalwr ddiwygio'i ffurflen dreth; rhaid i'r trethdalwr dalu unrhyw dreth neu dreth ychwanegol yn sgil y diwygiad hwnnw, naill ai erbyn dyddiad ffeilio'r ffurflen dreth, neu pan gaiff ei diwygio, os yw hynny'n hwyrach na'r dyddiad ffeilio.

DTTT/6160 Gohirio'r Dreth – Cydnabyddiaeth ddibynnol neu ansicr

(adran 58)

Os bydd y gydnabyddiaeth yn ddibynnol, rhaid i'r trethdalwr, yn y ffurflen dreth ar gyfer y trafodiad, gyfrifo'r gydnabyddiaeth drethadwy ar y sail mai canlyniad y sefyllfa ddibynnol yw y bydd y gydnabyddiaeth yn daladwy, neu na fydd yn peidio â bod yn daladwy;

Os bydd y gydnabyddiaeth yn ansicr, rhaid i'r trethdalwr, yn y ffurflen dreth ar gyfer y trafodiad, gyfrifo'r gydnabyddiaeth drethadwy ar sail resymol.

Gweler y canllawiau yn DTTT/2440 am ragor o wybodaeth am beth sy’n gydnabyddiaeth ‘ddibynnol’ a beth sy’n gydnabyddiaeth ‘ansicr’.

Yn y naill achos a'r llall lle y bydd y gydnabyddiaeth yn ddibynnol neu'n ansicr, ond nid mewn achosion lle bydd y gydnabyddiaeth heb ei chanfod ar y dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith, caiff y trethdalwr wneud cais am ohirio'r dreth sy'n codi ar y gydnabyddiaeth ddibynnol neu ansicr.  Serch hynny, dim ond os bydd y gydnabyddiaeth ddibynnol neu ansicr, neu ran ohoni, yn daladwy fwy na chwe mis ar ôl y dyddiad pan fydd y trafodiad yn cael effaith y ceir gwneud cais am ohirio.

Ni cheir gwneud cais am ohirio os na fydd y gydnabyddiaeth yn ddibynnol neu'n ansicr, ond ei bod yn cael ei thalu fesul rhandaliad i'r gwerthwr. 

Os bydd y trethdalwr yn dymuno gohirio'r dreth, rhaid iddo:

  • gyflwyno'r ffurflen dreth a'r cais am ohirio cyn neu erbyn dyddiad ffeilio'r ffurflen dreth
  • pennu'r swm sydd i'w ohirio
  • rhoi'r cyfrifiad ar gyfer y swm sydd i'w ohirio (DTTT/6230)
  • egluro pam mae'r gydnabyddiaeth yn ddibynnol neu'n ansicr a pham y dylid talu'r gydnabyddiaeth ohiriedig ar ryw ddyddiad yn y dyfodol
  • cynnig dyddiad terfyn disgwyliedig ar gyfer cyfnod y gohiriad (DTTT/6180) (neu nodi dyddiad bum mlynedd o'r dyddiad y caiff effaith os nad oes modd gwybod beth fydd y terfyn disgwyliedig)
  • cyflwyno'r cais am ohirio mewn modd sy'n cydymffurfio â'r gofynion i'r trethdalwr hysbysu ACC

Os bydd cais y trethdalwr yn cyflawni'r gofynion hyn, cyn belled â bod ACC yn fodlon nad yw'r swm y gofynnwyd iddo gael ei ohirio yn fwy na'r swm gohiriadwy ac nad yw'r trafodiad tir yn drefniant osgoi treth (neu'n rhan o drefniant o'r fath), rhaid i ACC dderbyn y cais.

Os na fydd ACC yn fodlon bod y cais yn cydymffurfio â'r amodau, rhaid iddo wrthod y cais.

Serch hynny, os bydd ACC yn credu bod y swm y mae'r trethdalwr wedi gofyn am ei ohirio'n fwy na'r swm gohiriadwy cywir, ond bod pob agwedd arall ar y cais yn cydymffurfio â'r gofynion, caiff ganiatáu gohirio swm y mae'n credu ei fod yn gywir. Yn yr un modd, os bydd ACC yn credu bod dyddiad terfyn y cyfnod gohirio'n wahanol i'r cyfnod y mae'r trethdalwr wedi gofyn amdano, caiff bennu dyddiad gwahanol.

DTTT/6170 Cyfnod gohirio

(adran 58)

Mae'r cyfnod gohirio'n dechrau ar ddyddiad ffeilio'r ffurflen dreth ac yn dod i ben ar ba un bynnag fydd gynharaf:

  • y dyddiad terfyn disgwyliedig, neu
  • os yw'r gydnabyddiaeth ohiriedig yn ddibynnol - y dyddiad pan fydd yr achos dibynnol yn digwydd (neu pan fydd yn amlwg na fydd yn digwydd), neu
  • os yw'r gydnabyddiaeth ohiriedig yn ansicr - y dyddiad pan fydd y gydnabyddiaeth yn dod yn sicr.

Effaith y rheol hon yw pan fydd cais trethdalwr am ohirio'n cael ei ganiatáu, os telir y gydnabyddiaeth ohiriedig yn gynharach na'r dyddiad terfyn disgwyliedig, bydd y trethdalwr yn atebol am dalu'r swm perthnasol o dreth sy'n gysylltiedig â'r gydnabyddiaeth ohiriedig honno.

DTTT/6180 Dyddiad terfyn disgwyliedig

(adran 58)

Y dyddiad terfyn disgwyliedig yw:

  • y dyddiad pan ddisgwylir i'r achos dibynnol ddigwydd neu pan ddaw'n glir na fydd yn digwydd
  • y dyddiad pan ddisgwylir i'r gydnabyddiaeth ddod yn sicr, neu
  • os nad oes modd rhagweld y dyddiad terfyn, pumed pen-blwydd y dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith (a lle bydd amrywiad i'r cais am ohirio, pumed pen-blwydd y dyddiad terfyn disgwyliedig blaenorol).

Enghraifft 1

Mae A Cyf yn gwneud trafodiad fel prynwr a'r dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith yw 1 Mawrth 2020. Mae'n cyflwyno'i ffurflen dreth a'r cais am ohirio oherwydd ystyriaeth ddibynnol mewn pryd, gan ofyn am ohirio'r dreth tan 20 Ebrill 2021. Bydd y cyfnod gohirio'n felly'n dechrau 31 Mawrth 2020 (dyddiad ffeilio'r ffurflen dreth) ac yn dod i ben ar 20 Ebrill 2021 (y dyddiad terfyn disgwyliedig).

Enghraifft 2

Mae B Cyf yn gwneud trafodiad fel prynwr a'r dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith fydd 1 Mawrth 2020. Mae'n cyflwyno'i ffurflen dreth a'r cais am ohirio oherwydd ystyriaeth ddibynnol mewn pryd, gan ofyn am ohirio'r dreth tan Ddydd Mawrth, 31 Awst 2027. Bydd y cyfnod gohirio felly'n dechrau 31 Mawrth 2020 (dyddiad ffeilio'r ffurflen dreth) ac yn dod i ben ar 31 Awst 2027 (y dyddiad terfyn disgwyliedig). Oherwydd bod y dyddiad terfyn disgwyliedig yn hysbys, rhaid defnyddio hwnnw, er ei fod yn gyfnod hwy na'r cyfnod o bum mlynedd y dylid ei ddefnyddio pan na fydd modd rhagweld y dyddiad.

Enghraifft 3

Mae C Cyf yn gwneud trafodiad fel prynwr a'r dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith fydd 1 Mawrth 2020. Mae'n dychwelyd ei ffurflen dreth a chais am ohirio oherwydd cydnabyddiaeth ddibynnol mewn pryd. Er bod C Cyf yn gwybod faint o gydnabyddiaeth ddibynnol y bydd angen ei dalu (ac y bydd angen talu TTT yr un pryd), ni all ragweld ar ba ddyddiad y bydd angen talu'r gydnabyddiaeth ddibynnol honno. Bydd C Cyf felly'n gwneud cais am ohirio am gyfnod sy'n dechrau 31 Mawrth 2020 (dyddiad ffeilio'r ffurflen gais) ac yn dod i ben 1 Mawrth 2025 (pumed pen-blwydd y dyddiad pan fydd y trafodiad yn cael effaith). Os na fydd y digwyddiad wedi digwydd ar 1 Mawrth 2025 neu cyn hynny, caiff C Cyf ofyn am amrywiad i'r gohiriad. Os yw'r dyddiad terfyn disgwyliedig yn hysbys, rhaid defnyddio'r dyddiad hwnnw. Os nad yw'r dyddiad terfyn yn hysbys neu os nad oes modd ei ragweld, rhaid i C Cyf ddefnyddio pumed pen-blwydd y dyddiad terfyn disgwyliedig blaenorol. Y dyddiad terfyn disgwyliedig newydd o dan yr amgylchiadau hyn fydd 1 Mawrth 2030.

DTTT/6190 Hysbysiadau o benderfyniadau ACC

(adran 60)

Wrth ystyried cais am ohirio, naill ai'n unol â chais y trethdalwr, neu wedi'i amrywio ar gais y trethdalwr, rhaid i ACC:

  • benderfynu ar swm y dreth sydd i'w ohirio
  • penderfynu ar ba ddyddiad disgwyliedig y daw'r cyfnod gohirio i ben

ac fe gaiff:

  • orfodi amodau sydd yn ei farn ef yn briodol (er enghraifft, taliadau ar wahanol ddyddiadau, yn hytrach nag ar ddyddiad terfyn y gydnabyddiaeth ddibynnol ac ati.

Rhaid anfon yr hysbysiad ynghylch y penderfyniad am gais y trethdalwr am ohirio at y trethdalwr a rhaid i hwnnw ddweud:

  • faint yw'r swm a ohiriwyd (a lle bydd hynny'n berthnasol, unrhyw swm y gofynnodd y trethdalwr am ei ohirio ond nad yw ACC yn credu y dylid ei ohirio)
  • dyddiad terfyn disgwyliedig y cyfnod gohirio
  • unrhyw amodau y bydd AC yn eu gosod gyda golwg ar y swm gohiriedig, ac
  • os yw'r swm gohiriedig yn llai na'r hyn y gofynnodd y trethdalwr amdano, y rheswm dros y penderfyniad hwnnw.

Os bydd ACC yn gwrthod cais am ohirio'n llwyr neu'n rhannol, rhaid iddo roi hysbysiad i'r trethdalwr yn egluro'r rhesymau dros wrthod. Os bydd y trethdalwr yn anghytuno â'r penderfyniad, caiff ofyn am adolygu'r penderfyniad neu apelio yn ei erbyn.

DTTT/6200 Effaith penderfyniad ACC gyda golwg ar gais am ohirio

(adran 61)

ACC yn cytuno i gais am ohirio

Os caniateir cais am ohirio, rhaid i'r trethdalwr dalu'r swm gohiriedig (neu'r symiau pan fydd sawl dyddiad gohirio perthnasol), cyn diwedd y diwrnod y daw'r cyfnod gohirio i ben.

Bydd llog ar y swm gohiriedig yn dechrau cronni ar y dyddiad ar ôl y dyddiad y dylai'r swm hwnnw fod wedi'i dalu. Effaith hyn yw na chaiff llog ei godi yn ystod cyfnod y gohiriad, ond fe'i codir o'r diwrnod ar ôl y dyddiad y daw'r cyfnod gohirio i ben.

Lle bydd trethdalwr yn amcangyfrif y gydnabyddiaeth ansicr sy’n is na’r gydnabyddiaeth ychwanegol go iawn y mae’n rhaid ei thalu wedyn, bydd llog taliadau hwyr yn gymwys ar gyfer y gwahaniaeth rhwng y swm gohiriedig a’r gydnabyddiaeth ychwanegol go iawn a dalwyd. Bydd y llog hwn yn dyddio’n ôl i ddyddiad talu’r trafodiad gwreiddiol. Bydd llog ar y swm a ohiriwyd yn dechrau cronni ar y dyddiad ar ôl y dyddiad y dylai'r swm hwnnw fod wedi'i dalu. 

Enghraifft 1

Mae A Cyf yn gwneud cais am ohirio ac mae'n sicrhau cytundeb llawn ACC i'r cais. Digwyddodd y trafodiad tir ar 1 Medi 2020. Dychwelwyd y ffurflen dreth ar gyfer y trafodiad hwnnw ar 20 Medi 2020 ac, ar yr un diwrnod, anfonwyd cais am ohirio i ACC. Fe'i derbyniwyd ar 24 Medi 2020. Mae'r ffurflen dreth yn dangos bod £200,000 o dreth yn daladwy. Mae'r cais am ohirio'n golygu bod £50,000 yn daladwy erbyn 1 Hydref 2020 a'r gweddill yn daladwy mewn dau swm ar wahân sy'n berthnasol i ddwy gydnabyddiaeth ddibynnol unigol ar wahân yn y contract. Os digwydd y gydnabyddiaeth ddibynnol, bydd y swm cyntaf yn daladwy ar 1 Tachwedd 2021 (gan arwain at dreth o £30,000), a'r ail ar 1 Mawrth 2022 (gan arwain at dreth o £120,000). Mae'r swm cyntaf o dreth ohiriedig yn daladwy ar 2 Tachwedd (y diwrnod ar ôl i'r cyfnod gohirio ddod i ben). Ni fydd A Cyf yn talu'r swm hwn o dreth tan 20/12/2021. Bydd llog felly'n cronni dros y cyfnod rhwng 3 Tachwedd 2021 tan 19 Rhagfyr 2021.  Bydd A  Cyf yn talu'r dreth sy'n ddyledus ar yr ail gydnabyddiaeth ddibynnol mewn pryd ar 2 Mawrth 2022. Ni fydd dim llog yn cronni ar y swm hwn.

Enghraifft 2

Mae B Cyf yn gwneud cais am ohirio ac mae ACC yn cytuno’n llawn i’r cais. Digwyddodd y trafodiad tir ar 1 Medi 2020 ac roedd yn cynnwys cymal yn ymwneud â gorswm. Roedd hwn yn nodi pe bai’r prynwr yn cael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad preswyl, yna dylid talu 50% o’r codiad yng ngwerth y tir i’r gwerthwr fel cydnabyddiaeth ychwanegol. Dychwelwyd y ffurflen dreth ar gyfer y trafodiad hwnnw ar 20 Medi 2020 ac, ar yr un diwrnod, anfonwyd cais am ohirio i ACC. Derbyniwyd y ffurflen dreth ar 24 Medi 2020 ac roedd yn dangos bod £100,000 o dreth yn daladwy ac roedd yn cynnwys amcangyfrif rhesymol o werth y tir yn y dyfodol (pe bai B Cyf yn cael caniatâd cynllunio). Mae'r cais am ohirio’n golygu bod £75,000 yn daladwy erbyn 1 Hydref 2020, gyda’r £25,000 sy’n weddill yn daladwy os yw’r trethdalwr yn cael caniatâd cynllunio o fewn pum mlynedd.

Mae’r trethdalwr yn cael caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad preswyl ar 1 Hydref 2022, sy’n golygu bod gwerth y tir yn codi mwy nag amcangyfrif gwreiddiol y trethdalwr. Mae hyn yn arwain at £30,000 o dâl TTT ychwanegol, sydd £5000 yn fwy na’r hyn yr oedd wedi’i gynnwys yn ei gais am ohirio. Ar yr amod bod B Cyf yn dychwelyd ffurflen dreth ac yn talu’r dreth ychwanegol erbyn 1 Tachwedd 2022, yna ni fydd y swm gohiriedig o £25,000 yn cronni llog. Bydd y £5000 o dreth sy’n weddill yn cronni llog o 2 Hydref 2020 ymlaen.

ACC yn gwrthod (yn llawn neu’n rhannol) cais am ohirio

Os gwrthodir y cais am ohirio yn rhannol neu’n llawn, yna rhaid talu swm y dreth y gwrthodwyd ei gohirio erbyn y dyddiad hwyraf o’r canlynol:

  • y dyddiad y mae’r trethdalwr yn derbyn yr hysbysiad o benderfyniad ACC, neu’r
  • dyddiad ffeilio ar gyfer y ffurflen dreth

Os bydd y trethdalwr yn anghytuno â'r penderfyniad, caiff ofyn am adolygu'r penderfyniad neu apelio yn ei erbyn.

Bydd llog ar y swm na fydd ACC yn caniatáu ei ohirio yn dechrau cronni ar y dyddiad diweddaraf o'r ddau hyn:

  • y dyddiad pan fydd y trethdalwr yn cael hysbysiad ynghylch penderfyniad ACC, neu
  • ddyddiad ffeilio'r ffurflen gais.

Effaith hyn yw na fydd llog yn cronni i'r trethdalwr ar y dreth a delir yn hwyr yn ystod y cyfnod pan fydd ACC yn ystyried y cais am ohirio. Serch hynny, bydd llog yn cronni cyn gynted ag y daw'r trethdalwr yn ymwybodol o benderfyniad ACC.

DTTT/6210 Amrywio ceisiadau gohirio

(adran 62)

Pan fydd ACC wedi cytuno i gais am ohirio, caiff y trethdalwr ofyn am amrywiad i'r cytundeb gohirio hwnnw. Ni chaiff cais i amrywio ond cynnwys:

  • newid y dyddiad terfyn disgwyliedig, neu
  • amrywio neu ddileu amod a orfodwyd gan ACC.

Gydag unrhyw gais am amrywiad, rhaid hefyd esbonio'r newid yn yr amgylchiadau sydd wedi arwain y trethdalwr i gredu y dylid newid, amrywio neu ddileu'r penderfyniad i ohirio.

Caiff ACC gytuno i'r cais neu ei wrthod. Rhaid i ACC anfon hysbysiad ynghylch ei benderfyniad ynglŷn â'r cais am ohirio, gan gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, at y trethdalwr. Os bydd y trethdalwr yn anghytuno â'r penderfyniad, caiff ofyn am adolygu'r penderfyniad neu apelio yn ei erbyn.

DTTT/6220 Methu â chydymffurfio â chytundeb ACC i ohirio

(adran 63)

Gall sefyllfaoedd godi lle bydd ACC yn credu bod y trethdalwr wedi methu â chydymffurfio ag amod sy'n rhan o'r cytundeb (neu'r cytundeb wedi'i amrywio), neu fod y trethdalwr wedi rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol neu wedi dal gwybodaeth yn ôl rhag ACC. Mewn sefyllfa o'r fath, ymdrinnir â'r cais am ohirio fel pe na bai erioed wedi'i wneud, ac, yn sgil hynny, bydd llog yn cronni o'r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio'r ffurflen dreth.

Os bydd ACC yn dymuno dad-wneud y cais am ohirio, rhaid iddo roi hysbysiad i'r trethdalwr yn nodi'r penderfyniad a'r esboniad dros y penderfyniad hwnnw. Os bydd y trethdalwr yn anghytuno â'r penderfyniad, caiff ofyn am adolygu'r penderfyniad neu apelio yn ei erbyn.

DTTT/6230 Cyfrifo'r swm y gellir ei ohirio

(adran 59)

Rhaid cyfrifo'r swm y gellir ei ohirio fel a ganlyn:

Cam 1

Cyfrifo faint o dreth sy'n daladwy ar y gydnabyddiaeth drethadwy.

Cam 2

Penderfynu faint o'r gydnabyddiaeth drethadwy yw'r gydnabyddiaeth drethadwy ohiriedig. Dyma swm y gydnabyddiaeth drethadwy sydd:

  • heb ei dalu (ond nad yw'n rhent nac yn flwydd-dal)
  • yn ddibynnol neu'n ansicr
  • ddim yn cynnwys rhent (fel a ddiffinnir o dan Atodlen 6 DTTT) na blwydd-dal y mae adran 21 DTTT yn berthnasol iddo, ac
  • sydd i'w dalu ar ddyddiad neu ar ddyddiadau yn y dyfodol sydd fwy na chwe mis ar ôl y dyddiad y bydd y trafodiad yn cael effaith.

Cam 3

Cyfrifo swm y dreth sydd i'w chodi ar swm y gydnabyddiaeth drethadwy, llai swm y gydnabyddiaeth drethadwy a ohiriwyd. Hynny yw, swm y gydnabyddiaeth drethadwy, llai'r swm a sefydlwyd yng Ngham 2.

Cam 4

Tynnu swm y dreth a sefydlwyd yng Ngham 3 o'r swm a sefydlwyd yng Ngham 1. Swm y dreth a sefydlir yw'r swm y gellir ei ohirio.

Enghraifft 1

Mae A Cyf yn caffael adeilad o swyddfeydd gan B Cyf yng nghanol Wrecsam. Y gydnabyddiaeth a roddir yw £500,000 a bydd £300,000 arall yn daladwy os rhoddir caniatâd cynllunio i droi'r adeilad yn fflatiau preswyl. Bydd yr adeilad yn cael ei gaffael ar 1 Mehefin 2020 gan dalu'r £500,000 cyntaf.  Bydd A Cyf yn dychwelyd ei ffurflen gais ar 20 Mehefin 2020 yn dangos y gydnabyddiaeth drethadwy, sef £800,000, gyda chais am ohirio'r dreth ar y swm dibynnol o £300,000. Mae A Cyf yn rhagweld y bydd y penderfyniad cynllunio'n cael ei wneud erbyn 1 Chwefror 2021, ar ôl paratoi a chyflwyno'r cynlluniau. 

Mae A Cyf yn sefydlu'r swm treth y gellir ei ohirio drwy ddilyn y pedwar cam fel a ganlyn:

  1. y dreth ar gydnabyddiaeth drethadwy o £800,000 yw £27,750
  2. y gydnabyddiaeth drethadwy ohiriedig yw £300,000 (£800,000 - £500,000)
  3. y  dreth ar gydnabyddiaeth drethadwy o £500,000 (h.y. cydnabyddiaeth drethadwy (£800,000) llai'r gydnabyddiaeth drethadwy ohiriedig (£300,000)) yw £12,750
  4. y dreth y gellir ei gohirio (swm y dreth yng ngham 3 (£12,750) wedi'i thynnu o swm y dreth yng ngham 1 (£27,750) yw £15,000.

Felly, caiff A Cyf wneud cais am ohirio talu £13,000 o dreth. Gallai ffurflen gais ddod yn daladwy pan fydd digwyddiad dibynnol yn peidio â bod neu os nad yw’r gydnabyddiaeth wedi'i chanfod.

DTTT/6240 Cofrestru trafodiadau tir

(adran 65)

Mae'r ddeddfwriaeth TTT yn dweud na cheir cofrestru'r un trafodiad tir hysbysadwy, na'r un ddogfen sy'n dystiolaeth o drafodiad o'r fath nac yn rhoi effaith iddo, yng Nghofrestrfa Tir Ei Mawrhydi oni fydd ACC wedi cyhoeddi tystysgrif ACC, sy'n dystiolaeth bod ffurflen dreth trafodiad tir wedi'i llenwi'n briodol wedi'i chyflwyno.

Cyn cyhoeddi tystysgrif ACC, rhaid i ACC fod yn fodlon:

  • bod ffurflen dreth ar gyfer y trafodiad wedi'i derbyn, a
  • bod y ffurflen dreth yn gyflawn (gweler isod) ac yn cynnwys datganiad.

Os yw'r ffurflen dreth yn dangos bod y trafodiad yn drethadwy, rhaid i ACC hefyd fod yn fodlon:

  • bod y ffurflen dreth yn cynnwys hunanasesiad, ac
  • ar sail y wybodaeth sydd ar y ffurflen, bod yr hunanasesiad i bob golwg yn gywir.

Ystyrir bod ffurflen dreth yn gyflawn at ddibenion cyhoeddi tystysgrif ACC, os oes modd ei gwneud arlein neu os oes modd i ACC ei chipio'n electronig, os yw ar bapur. Nid yw cyhoeddi tystysgrif ACC yn gadarnhad bod y ffurflen gais a gyflwynwyd gan y trethdalwr yn gywir, na bod y dreth y mae'r trethdalwr wedi'i hunanasesu wedi'i thalu. Caiff ACC ddal i gywiro ffurflenni cais y mae tystysgrif ACC wedi'i chyhoeddi ar eu cyfer, neu wneud ymholiadau yn eu cylch.

Rhaid i dystysgrif ACC fod yn ysgrifenedig a rhaid iddi gynnwys y wybodaeth a ganlyn:

  • cyfeiriad y tir
  • rhif teitl y tir yn y Gofrestr Tir (os rhoddwyd hwnnw i ACC ar y ffurflen)
  • cyfeirif Eiddo Unigryw'r Rhestr Tir ac Eiddo Genedlaethol (os rhoddwyd hwnnw i ACC ar y ffurflen)
  • disgrifiad o'r trafodiad
  • y dyddiad y mae'r trafodiad yn cael effaith
  • enw'r prynwr a'r gwerthwr.

Rhaid anfon y dystysgrif gyda'r cais perthnasol er mwyn gallu cofrestru'r trafodiad tir gyda Chofrestrfa Tir Ei Mawrhydi.

Caiff ACC ddarparu tystysgrifau dyblyg os bydd yn fodlon bod y dystysgrif wreiddiol wedi mynd ar goll neu wedi cael ei difetha. Caiff y dystysgrif ddyblyg honno naill ai fod yn dystysgrif ACC sydd gyfwerth ac yn lle'r dystysgrif wreiddiol neu'n dystysgrif ACC newydd sy'n disodli'r dystysgrif wreiddiol.

Os bydd un ffurflen dreth trafodiad tir yn berthnasol i drafodiad sy'n ymwneud a nifer o eiddo, (hynny yw nifer o rifau teitl), caiff y trethdalwr ofyn i ACC ddarparu tystysgrifau ACC ar wahân ar gyfer pob eiddo a drosglwyddir. Oni wneir cais o'r fath, un dystysgrif ACC a gyhoeddir.

Serch hynny, ni ddylid anfon tystysgrif ACC a gyhoeddwyd ar gyfer trafodiad sy'n drafodiad tir at ddibenion DTTT, ond nad yw'n drafodiad tir at ddibenion Cofrestrfa Tir EM, i Gofrestrfa Tir EM. Dyma'r mathau o drafodion sy'n drafodion tir at ddibenion DTTT ond nid at ddibenion Cofrestrfa Tir EM:

  • contractau sydd wedi'u cyflawni'n sylweddol
  • trafodiadau tybiannol a thybiannol ychwanegol ar gyfer trafodiadau cyn-gwblhau
  • cytundebau i lesio yr ymdrinnir â hwy fel trafodiad tir, ac
  • amrywiadau ar les yr ymdrinnir â hwy fel trafodiad tir.

Mae rheolau arbennig i drafodiadau yng Nghymru a Lloegr lle mae tir yn cael ei drosglwyddo fel rhan o un trafodiad tir.