Neidio i'r prif gynnwy

4. Dormer newydd

Yn gyffredinol, caiff dormer ei hadeiladu o bren.  Prif rannau'r ddormer fydd y to, y waliau ochr (genau) a'r wal flaen sy'n wynebu'r ardd. Gellir cynnal y genau mewn dwy ffordd:

  • Gellir dyblu'r ceibrennau a'u bolltio wrth ei gilydd, gan adeiladu'r genau oddi ar y ceibrennau.
  • Os yw lled y ddormer yn golygu bod y genau ar ymylon y to, gellir mynd â'r genau i lawr i'r llawr a gallant gael eu cynnal gan y distiau llawr (sydd wedi'u dyblu) neu gan drawst, neu gan wal allanol neu fur cyd mewn rhai achosion.

Waliau dormer

Gall wal flaen y ddormer gael ei chynnal gan y wal allanol, neu os bwriedir ei gosod yn nes yn ôl na llinell allanol y tŷ, gall gael ei chynnal gan y distiau llawr newydd, a ddylai fod wedi'u dylunio i ddarparu ar gyfer llwyth ychwanegol y wal hon (gweler waliau allanol hefyd).

Mae'n bosibl iawn y bydd angen adeiladu'r ddormer yn y fath fodd fel y gall wrthsefyll tân sy'n ymledu i eiddo cyfagos neu o eiddo cyfagos - bydd natur yr adeiladwaith a'r graddau y gall gynnig y gallu hwn i wrthsefyll tân yn dibynnu ar faint gên y ddormer a pha mor agos y mae i'r ffin.

Cael gwared â cheibrennau

Er mwyn ei gwneud yn bosibl gosod ffenest to neu ddormer wrth greu ystafell(oedd) newydd, bydd angen creu agorfa yn y ceibrennau presennol fel rheol.

Gall y rhannau sy'n weddill o'r ceibren(nau) a dorrwyd gael eu cynnal gan y ddormer newydd neu, yn achos ffenest to newydd, bydd angen iddynt gael eu cynnal drwy osod prennau newydd (a elwir yn ddistiau fframio) ar draws pen uchaf neu sil yr agorfa newydd.

Yn dibynnu ar faint yr agorfa newydd, efallai y bydd angen i'r prennau hyn fod yn ddau bren sydd wedi'u clymu wrth ei gilydd (dist fframio dwbl) er mwyn iddynt allu trosglwyddo'r llwyth yn ddigonol i'r ceibrennau presennol bob ochr i'r agorfa newydd.

Yn gyffredinol mae'n arfer da cryfhau'r ceibrennau bob ochr i'r agorfa, oherwydd byddant yn cario mwy o lwyth yn awr. Gellir gwneud hynny drwy folltio ceibren arall o'r un maint a'r un hyd yn sownd wrth y ceibren presennol.