Canllawiau ar ffeilio ffurflenni Treth Gwarediadau Tirlenwi
Canllawiau ar sut i lenwi ffurflen y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pa wybodaeth fydd ei hangen arnoch
Gwarediadau ar ôl disgowntiau a rhyddhadau
Bydd angen i chi gofnodi gwybodaeth am y rhan fwyaf o'r deunydd cyfradd safonol yn yr adran hon. Bydd hwn yn cael ei gofnodi fel un cyfanswm.
Bydd angen i chi hefyd gofnodi symiau unigol ar gyfer pob deunydd gwastraff sy’n ddarostyngedig i gyfradd dreth is yn erbyn pob cod Cod Gwastraff Ewropeaidd (EWC).
Gwarediadau y mae disgownt dŵr yn berthnasol iddynt
Bydd angen i chi gael cymeradwyaeth gennym i weithredu cynllun disgownt dŵr.
Bydd angen gwybodaeth ar gyfer pob cymeradwyaeth:
- ar bwysau cyffredinol y deunydd gwastraff, ac
- a yw'n cael ei godi ar y gyfradd dreth safonol neu is
Bydd y system yn cyfrifo'r disgownt, ond ni fydd yn cyfrifo'r ffigwr treth.
Rhyddhadau
Bydd angen i chi gofnodi tunnelled y gwarediadau deunyddiau lle rydych yn hawlio rhyddhad.
Cymysgeddau o ddeunyddiau sy'n cynnwys dim ond gronynnau mân
Mae angen i chi ddarparu mwy o wybodaeth am 'gymysgeddau o ronynnau mân' a dderbynnir.
Mae cymysgeddau o ronynnau mân yn ronynnau o ddeunydd a gynhyrchir gan broses trin gwastraff sy'n cynnwys triniaeth fecanyddol.
Er mwyn i gymysgedd o ddeunyddiau sy'n cynnwys dim ond gronynnau mân gael ei drin fel cymysgedd cymwys o ddeunyddiau sy'n gymwys ar gyfer y gyfradd is, bydd angen iddo fodloni gofynion penodol o fewn:
- Deddfwriaeth Cymru (adrannau 16 a 17 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) ('DTGT')
- ein hysbysiad 'Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi: gronynnau mân'
- ein Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018 Rheoliadau 4 a 5
Bydd arnoch hefyd angen:
- nifer y profion colled wrth danio a fethwyd
- nifer y profion colled wrth danio a gollwyd
- pwysau'r llwythi dan sylw
Ar gyfer pob cynhyrchydd gwastraff sy'n dodi cymysgeddau o ronynnau mân, bydd angen i chi:
- ddisgrifio'r cymysgeddau o 'ronynnau mân' o'r Nodyn Dyletswydd Gofal/Trosglwyddo Gwastraff
- nodi a yw hon yn ffrwd wastraff risg uchel a/neu risg isel
- darparu pwysau cyffredinol y llwythi sydd wedi'u profi
- darparu nifer y profion colled wrth danio a basiwyd
- darparu nifer y profion na dderbyniwyd y canlyniadau eto
Gwybodaeth Bwysig
- Ni fyddwch yn gallu cael mynediad at unrhyw ffurflenni TGT a gyflwynwyd gennych rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2021. Cysylltwch â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid os oes angen copïau o'r ffurflenni hyn arnoch.
- Mae eich safleoedd tirlenwi wedi'u rhestru ar dabiau ar wahân. Mae'n rhaid i chi gyflwyno gwybodaeth ar gyfer pob safle tirlenwi rydych chi'n eu gweithredu yng Nghymru.
- Bydd gwybodaeth a roddwch yn cael ei chadw'n awtomatig wrth i chi fynd drwy'r ffurflen.
- Mae'r ffurflen dreth yn benodol i'ch safle tirlenwi a'r hyn y mae'n ei dderbyn. Mae'n cynnwys gwybodaeth wedi'i darparu ymlaen llaw am:
- ddeunydd gwastraff cyfradd is
- disgowntiau dŵr
- 'cymysgeddau o ronynnau mân'
- Os oes unrhyw wybodaeth ar goll o'ch ffurflen pan fyddwch yn dod i'w chwblhau, cysylltwch â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid ar unwaith i ddiweddaru'r system ar eich rhan. Os ydych wedi cychwyn eich ffurflen dreth, ac yna’n sylweddoli fod angen i chi ychwanegu codau newydd, bydd yn rhaid i chi ddileu'r drafft a'i hail-greu unwaith y bydd y codau newydd wedi'u hychwanegu.
- Dim ond os oes gennych wybodaeth i'w hychwanegu y mae angen i chi gael mynediad at adrannau.
Gwarediadau ar ôl disgowntiau a rhyddhadau
Gwastraff cyfradd safonol
Os nad ydych wedi derbyn unrhyw ddeunydd gwastraff cyfradd safonol yn ystod y cyfnod hwn, bydd y system yn rhagosod i sero.
Rhowch un ffigur tunelledd ar gyfer pob gwarediad sy’n ddarostyngedig i’r gyfradd safonol yn y cyfnod hwn.
Dylech gynnwys gwybodaeth am:
- y pwysau ar gyfer yr holl wastraff cyfradd safonol
- unrhyw gytundebau disgownt dŵr ar gyfer gwastraff cyfradd safonol, pwysau'r gwastraff ar ôl i'r disgownt gael ei gymhwyso
- y pwysau ar gyfer unrhyw gymysgedd o ddeunyddiau sy'n cynnwys dim ond gronynnau mân a godir ar y gyfradd safonol
Cyfeiriwch at gyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Rhowch y ffigur i 2 le degol.
Peidiwch â chynnwys gwybodaeth am:
- gymysgeddau o ronynnau mân sy'n gymwys ar gyfer y gyfradd is
- cymysgeddau safonol o ronynnau mân oherwydd profion colled wrth danio a fethwyd neu a gollwyd
- gwarediadau y mae unrhyw un o'r rhyddhadau’n berthnasol iddynt, er enghraifft, adfer safle
- gwarediadau y mae disgownt dŵr yn berthnasol iddynt
Dewiswch 'Golygu' a rhowch un ffigur ar gyfer cyfanswm y pwysau.
Dewiswch 'Cadw', a byddwch yn dychwelyd i brif dudalen y safle tirlenwi.
Cyfradd is
Darparwch wybodaeth ar gyfer deunydd gwastraff a dderbyniwch sy’n ddarostyngedig i’r gyfradd dreth is.
Fe welwch restr o godau 6 digid a disgrifiad. Cyfeirir at y cod hwn hefyd fel y Cod Gwastraff Ewropeaidd (EWC) neu god Rhestru Gwastraff. Mae'r disgrifiad yr un fath â'r un yng nghatalog y Cod Gwastraff Ewropeaidd.
Os nad ydych wedi derbyn deunydd gwastraff ar gyfer cod 6 digid a disgrifiad penodol yn y cyfnod hwn, bydd y system yn rhagosod i sero.
Dewiswch 'Golygu' wrth y cod perthnasol a rhowch y pwysau mewn tunelli ar gyfer y deunydd gwastraff hwn i 2 le degol.
Dylech gynnwys gwybodaeth am:
- ddeunydd sy’n gymwys yn gyfan gwbl
- unrhyw gytundebau disgownt dŵr ar gyfer gwastraff cyfradd is, pwysau'r gwastraff ar ôl i'r disgownt gael ei gymhwyso
- cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau ac eithrio cymysgeddau o ronynnau mân
Dewiswch 'Cadw', a byddwch yn dychwelyd i’r rhestr o godau 6 digid a disgrifiadau.
Ailadroddwch ar gyfer pob cod lle mae angen i chi gofnodi gwybodaeth ar gyfer y cyfnod. Peidiwch â chofnodi gwarediadau rydych chi'n hawlio rhyddhad ar eu cyfer.
Ar gyfer codau lle nad yw pwysau'n cael ei gofnodi ar gyfer y cyfnod, bydd y system yn rhagosod i sero.
Gwarediadau y mae disgownt dŵr yn berthnasol iddynt
Os nad oes gennych unrhyw gytundebau disgownt dŵr gyda ni, ni fyddwch yn gweld yr adran hon.
Os oes gennych gytundebau disgownt dŵr ar waith gyda ni, bydd cyfeirnod y cytundeb yn cael ei restru gyda:
- chynhyrchwyr gwastraff
- disgrifiad o'r gwastraff
Byddwn wedi rhoi'r cyfeirnod hwn i chi pan roesom y cytundeb disgownt dŵr i chi.
Cysylltwch â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid os:
- nad ydych yn adnabod y cyfeirnod hwn
- y credwch ei fod yn anghywir
- rydych yn defnyddio cytundeb disgownt dŵr nad yw yn y rhestr hon
Os oes angen i chi, gwnewch gais i weithredu cytundeb disgownt dŵr newydd.
Os nad ydych wedi derbyn deunydd gwastraff ar gyfer cytundeb disgownt dŵr penodol yn y cyfnod hwn, bydd y system yn rhagosod i sero.
Dewiswch 'Golygu' ar enw’r disgownt a rhif y cytundeb perthnasol i gofnodi gwybodaeth.
Bydd y sgrin yn cynnwys rhif y cytundeb, y cod dosbarthu gwastraff a disgownt canrannol ar gyfer y cytundeb hwn.
Cyfradd safonol neu is
Dewiswch a yw'r deunydd gwastraff sy'n ddarostyngedig i'r disgownt dŵr ar gyfradd safonol neu gyfradd is.
Pwysau’r gwastraff cyn disgownt
Nodwch bwysau cyffredinol y gwarediad cyn i'r disgownt gael ei gymhwyso i 2 le degol.
Dewiswch 'Cyfrifo', a bydd y system yn cyfrifo Pwysau’r gwastraff ar ôl disgownt, a byddwch yn gweld y pwysau newydd. Dylid cofnodi'r pwysau hwn yn yr adran 'Gwarediadau ar ôl disgowntiau a rhyddhadau', fel cyfradd safonol neu gyfradd is.
Dewiswch 'Cadw', a byddwch yn gallu cofnodi gwybodaeth ar gyfer y cytundeb disgownt dŵr nesaf os oes gennych un.
Rhyddhadau
Os nad ydych yn hawlio unrhyw ryddhadau, bydd y system yn rhagosod i sero.
Ar gyfer pob un o'r 4 categori o ryddhadau, dewiswch 'Golygu' a rhowch y pwysau mewn tunelli.
Ar gyfer deunydd a ddefnyddir wrth adfer safleoedd, bydd angen i chi wneud cais am ryddhad adfer safle tirlenwi, y mae'n rhaid ei gymeradwyo cyn y gallwch hawlio'r rhyddhad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar ryddhad adfer safle.
Dewiswch 'Cadw', a byddwch yn dychwelyd i dudalen y safle tirlenwi.
Cymysgeddau o ddeunyddiau sy'n cynnwys dim ond gronynnau mân
Os nad ydych yn derbyn 'cymysgeddau o ronynnau mân' ar y safle tirlenwi, ni fydd angen i chi lenwi’r adran hon. Bydd y system yn rhagosod i sero.
Mae cymysgeddau o ronynnau mân yn ronynnau o ddeunydd a gynhyrchir gan broses trin gwastraff sy'n cynnwys triniaeth fecanyddol.
Dylech gynnwys gwybodaeth yn yr adran hon am gymysgeddau o ronynnau mân.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar brofion colled wrth danio ochr yn ochr:
- â'n hysbysiad Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi: gronynnau mân, a'n
- a'n Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu)(Cymru) 2018 Rheoliadau 4 a 5
Cyfanswm y gyfradd safonol o brofion a fethwyd neu a gollwyd
Profion colled wrth danio – cyfanswm a fethwyd
Dylech gynnwys cyfanswm y profion colled wrth danio a fethwyd yn y cyfnod hwn a chyfeirio at ein Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: hysbysiad gronynnau mân ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Profion colled wrth danio – cyfanswm a gollwyd
Dylech gynnwys cyfanswm y profion colled wrth danio a gollwyd yn y cyfnod hwn a chyfeirio at ein Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau: hysbysiad gronynnau mân ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
Cyfanswm cyfradd safonol
Rhowch y pwysau cyffredinol mewn tunelli ar gyfer pob llwyth, i 2 le degol, lle rydych wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r gofynion yn ein hysbysiad 'Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi: gronynnau mân'.
Gallai hyn gynnwys:
- profion a gollwyd neu brofion hwyr
- methu gwiriadau gweledol
- gwiriadau cyn-derbyn anghyflawn neu sydd ar goll
Dewiswch 'Cadw', a byddwch yn dychwelyd i dudalen y safle tirlenwi.
Cyfanswm y gyfradd is o brofion a basiwyd
Dylid cofnodi gwybodaeth am unrhyw gymysgeddau o ronynnau mân a waredwyd ar y gyfradd dreth is yma, ar yr amod eich bod wedi bodloni'r gofynion canlynol:
- yn adrannau 16 ac 17 o DTGT
- 1 i 4 yn rheoliad 4 o Reoliadau 2018
- yn ein hysbysiad 'Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi: gronynnau mân'
Gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth ar gyfer pob ffrwd wastraff cyfradd is sy’n gymysgedd o ronynnau mân. Darperir tablau yn rhestru eich cwsmeriaid a'u codau gwastraff EWC 6 digid.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar brofion colled wrth danio ochr yn ochr â'n hysbysiad 'Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi: gronynnau mân'.
Dewiswch 'ychwanegu ffrwd wastraff'.
Cynhyrchydd gwastraff
Dewiswch y cynhyrchydd gwastraff perthnasol o'r gwymplen a fydd yn ymddangos os byddwch yn 'dewis opsiwn'.
Cod dosbarthu gwastraff
Dewiswch y cod dosbarthu gwastraff 6 digid perthnasol a neilltuwyd i'r deunydd gwastraff hwn.
Disgrifiad o’r gwastraff
Rhowch ddisgrifiad manwl o'r cymysgeddau gwastraff o ronynnau mân gan ddangos pam eu bod yn perthyn i’r gyfradd dreth is. Os ydych wedi cysylltu â ni a bod gennych ddisgrifiad cytunedig wedi'i nodi yn system TG eich pont bwyso, gellir defnyddio hwn.
A yw hon yn ffrwd wastraff risg uchel neu isel?
Dewiswch a yw'r cymysgeddau o ronynnau mân wedi’u dosbarthu fel rhai risg uchel neu risg isel.
Os bydd cymysgedd o ddeunydd gronynnau mân yn symud rhwng risg uchel a risg isel o fewn y cyfnod, yna bydd angen i chi gofnodi'r wybodaeth ar wahân yn erbyn pob lefel risg.
Er enghraifft:
- sgrin ar gyfer gwybodaeth yn ymwneud â phryd roedd y gymysgedd o ronynnau mân yn risg uchel
- sgrin ar wahân ar gyfer gwybodaeth yn ymwneud â phryd roedd y gymysgedd o ronynnau mân yn risg isel
Dewch o hyd i wybodaeth am y tabl dangosyddion risg yn ein hysbysiad 'Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi: gronynnau mân'.
Cyfanswm y pwysau
Rhowch gyfanswm y pwysau mewn tunelli ar gyfer y cymysgeddau o ddeunydd gronynnau mân gan y cynhyrchydd gwastraff ar gyfer y cyfnod hwn i 2 le degol.
Profion colled wrth danio - cyfanswm y profion a basiwyd
Nodwch nifer y profion colled wrth danio a basiwyd ar gyfer y cymysgeddau o ronynnau mân.
Profion colled wrth danio – cyfanswm na dderbyniwyd y canlyniadau eto
Nodwch nifer y profion colled wrth danio rydych yn dal i aros am y canlyniadau ar eu cyfer.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar brofion colled wrth danio ochr yn ochr â'n hysbysiad 'Cymysgeddau cymwys o ddeunyddiau ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi: gronynnau mân'.
Dewiswch 'Cadw', a byddwch yn dychwelyd i'r sgrin lle gallwch ychwanegu ffrwd wastraff arall.
Dewiswch 'Ychwanegu ffrwd wastraff' i naill ai:
- gofnodi gwybodaeth yn erbyn cymysgedd gwahanol o ddeunydd gronynnau mân
- ychwanegu gwybodaeth ar gyfer yr un cymysgedd o ddeunydd gronynnau mân sydd ar lefel risg wahanol
Pan fyddwch wedi cofnodi'r holl wybodaeth am gymysgeddau o ddeunydd gronynnau mân, dewiswch 'Yn ôl', a bydd hyn yn mynd â chi i dudalen y safle tirlenwi.
Os oes gennych fwy nag un safle tirlenwi, naill ai:
- dewiswch 'Nesaf' ar waelod y sgrin, neu
- dewiswch y tab nesaf ar frig y sgrin, gydag enw eich safle tirlenwi arall
Ailadroddwch y broses uchod.
Gweld crynodeb a chyflwyno’r ffurflen dreth
Unwaith y bydd yr holl wybodaeth wedi'i chwblhau ar gyfer y safle(oedd) tirlenwi yr ydych yn ei weithredu/eu gweithredu o dan eich rhif cofrestru, naill ai:
- dewiswch 'Nesaf’ neu
- dewiswch 'Tab crynodeb'
Fe welwch grynodeb o'r wybodaeth rydych wedi'i nodi ar y ffurflen. Os oes gennych fwy nag un safle tirlenwi, mae'r crynodeb yn cyfuno'r safleoedd tirlenwi unigol.
Mae'r crynodeb yn dangos pwysau (tunelli) a swm (£).
Os oes angen i chi olygu unrhyw wybodaeth, defnyddiwch y tabiau ar gyfer eich safleoedd tirlenwi i lywio'n ôl.
Credyd ansolfedd cwsmer
Faint o gredyd ansolfedd cwsmer ydych chi'n ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn?
Dylech gynnwys unrhyw gredydau yr hoffech eu hawlio oherwydd ansolfedd cwsmer ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu. Caiff hyn ei ddidynnu o'r ffigur terfynol sy'n ddyledus ar gyfer y dreth yng nghyfrifiad y system a gall fod yn destun gwiriadau gennym ni.
Cyfeiriwch at ein canllawiau ar Benderfynu faint o Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy'n daladwy (DTGT/4190 i 4280)
Nid oes angen i chi gynnwys arwydd £. Nodwch yn y fformat 1.00.
Argraffu neu gadw crynodeb o’r dreth
Adolygwch y wybodaeth rydych chi wedi'i nodi.
Ar y pwynt yma, gallwch:
- argraffu'r ffurflen
- ei chadw'n electronig, er enghraifft drwy dde clicio a dewis 'Argraffu i PDF'
Efallai y bydd angen i chi ddewis 'Argraffu' neu 'Cadw' eto os oes ail ffenestr wedi agor. Gall weithio'n wahanol yn dibynnu ar y porwr gwe rydych chi'n ei ddefnyddio.
Os oes gennych gyfnodau cyfrifyddu safonol
A ydych yn cytuno â chyfrifiad y dreth?
Ydw
Dewiswch 'ydw' os yw'r wybodaeth a gofnodwyd yn gywir a'ch bod yn cytuno â'r cyfrifiad treth a ddarparwyd. Dim ond hyd at 2 le degol y bydd y system yn talgrynnu.
Gallwch argraffu'r ffurflen neu ei chadw'n electronig ar y pwynt yma.
Dewiswch y 'Datganiad' a 'Cyflwyno eich ffurflen dreth'.
Nac ydw
Os nad ydych yn cytuno â'r cyfrifiad ac yr hoffech gywiro'r wybodaeth rydych wedi'i chofnodi, defnyddiwch y tabiau i newid gwybodaeth ar gyfer pob safle tirlenwi.
Os ydych wedi cofnodi'r wybodaeth gywir ond nad ydych yn cytuno â'r ffigur treth a gyfrifwyd, dewiswch 'nac ydw'. Os gwnewch hyn, rhowch wybod i'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid.
Dewiswch 'Newid eich ffurflen dreth'.
Bydd angen i chi gyfrifo eich ffigur eich hun drwy nodi cyfanswm y ffigur treth ar gyfer y gyfradd dreth safonol a’r gyfradd dreth is. Rhowch y ffigur hwn i 2 le degol.
Dylai'r ffigur hwn ystyried unrhyw ryddhadau neu ostyngiadau a gymhwysir.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch ffurflen, gallwch adolygu crynodeb o'r data rydych wedi'i gofnodi. I gael gafael ar fanylion cyflawn y wybodaeth rydych wedi'i nodi naill ai:
- cysylltwch â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid, neu
- cofnodwch hyn wrth i chi symud ymlaen drwy sgriniau'r ffurflen
Os oes gennych gyfnodau cyfrifyddu ansafonol
Os ydych wedi cofnodi'r wybodaeth gywir ond nad ydych yn cytuno â'r ffigur treth a gyfrifwyd oherwydd bod eich cyfnod cyfrifyddu’n rhychwantu cyfraddau treth gwahanol, dewiswch 'Nac ydw'.
Dewiswch 'Newid eich ffurflen dreth'.
Bydd angen i chi gyfrifo eich ffigur eich hun drwy nodi cyfanswm y ffigur treth ar gyfer y gyfradd dreth safonol a’r gyfradd dreth is. Rhowch y ffigur hwn i 2 le degol.
Dylai'r ffigur hwn ystyried unrhyw ryddhadau neu ostyngiadau a gymhwysir.
Dewiswch 'Cadw', a byddwch yn dychwelyd i dudalen y crynodeb.
Ar y pwynt yma, gallwch:
- argraffu'r ffurflen
- ei chadw'n electronig, er enghraifft drwy dde clicio a dewis 'Argraffu i PDF'
Efallai y bydd angen i chi ddewis 'Argraffu' neu 'Cadw' eto os oes ail ffenestr wedi agor. Gall weithio'n wahanol yn dibynnu ar y porwr gwe rydych chi'n ei ddefnyddio.
Ydw
Os ydych yn cytuno â'r crynodeb o’r dreth sy’n ddyledus, dewiswch y 'Datganiad' a 'Cyflwyno eich ffurflen dreth'.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch ffurflen, gallwch adolygu crynodeb o'r data rydych wedi'i gofnodi. I gael gafael ar fanylion cyflawn y wybodaeth rydych wedi'i nodi naill ai:
- cysylltwch â'ch rheolwr cysylltiadau cwsmeriaid, neu
- cofnodwch hyn wrth i chi symud ymlaen drwy sgriniau'r ffurflen
Sut i dalu
Ar ôl cyflwyno'ch ffurflen, bydd angen i chi dalu’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi sy’n ddyledus.