Neidio i'r prif gynnwy

Dim ond os bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn cymeradwyo’r cais hwn drwy eich hysbysu chi y cewch gymhwyso disgownt. Bydd Hysbysiad o Benderfyniad ACC yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd yn y cais yma, ac unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen ar ACC. Os yw Cynhyrchydd Gwastraff yn dymuno cael disgownt ar gyfer dyddodi ei ddeunydd gwastraff yn safleoedd tirlenwi Cymru, rhaid iddo gysylltu â gweithredwr y safle tirlenwi sy’n gyfrifol am lenwi'r cais.

Cyn i chi ddechrau arni

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch i lenwi'r ffurflen yma: 

  • eich rhif cofrestru ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) (os ydych chi’n ei wybod)
  • eich rhif trwydded Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • manylion eich busnes cofrestredig a’r safleoedd tirlenwi rydych chi'n eu gweithredu, gan gynnwys cyfeiriad pob safle tirlenwi awdurdodedig neu ddisgrifiad ohono
  • manylion Cynhyrchydd y Gwastraff
  • manylion y cynnwys dŵr, gan gynnwys y canrannau (%) sy'n bresennol yn y gwastraff
  • manylion unrhyw driniaeth y mae’r gwastraff yn mynd drwyddi tra bydd gyda’r cynhyrchydd gwastraff er mwyn lleihau ei gynnwys dŵr, gan gynnwys y math o wastraff a sut cafodd ei gynhyrchu
  • tystiolaeth i gefnogi'r cais o’r rhestr a ddarparwyd gyda’r ffurflen yma

Rhagor o arweiniad i helpu i lenwi’r ffurflen hon

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.