Darganfyddwch pryd a sut i dalu Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) i Awdurdod Cyllid Cymru.
Cynnwys
Pryd i dalu
Ar ôl cyflwyno ffurflen TGT, bydd angen i chi dalu unrhyw dreth sy'n ddyledus.
Rhaid i chi gwblhau’r taliad erbyn diwrnod gwaith olaf y mis sy'n dilyn y mis y daw’r cyfnod cyfrifyddu i ben.
Er enghraifft, os bydd eich cyfnod cyfrifyddu yn dod i ben ar 15 Mawrth, bydd angen i chi gwblhau'r taliad erbyn 30 Ebrill.
Sut i dalu
Ar ôl i chi gyflwyno’ch ffurflen, i dalu bydd angen i chi ddefnyddio’ch Cyfeirnod Unigryw Treth Trafodiad (CUT) 12 digid o’ch cyfrif ar-lein.
Mae'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i wneud y taliad wedi'i chynnwys yn y slip talu. Gallwch lawrlwytho hwn pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflen.
Ffyrdd o dalu
Taliadau digidol
Gallwch dalu drwy:
- Daliadau Cyflymach
- CHAPS
- Bacs (rhaid derbyn y taliad 4 diwrnod gwaith cyn dyddiad mae’n ddyledus)
Mae angen i chi:
- ddefnyddio eich CUT fel eich cyfeirnod talu
- gwirio fod y taliad yn cyfateb i'r union swm a ddangosir ar y ffurflen dreth
- gwneud taliad ar wahân ar gyfer pob ffurflen dreth
Os hoffech ychwanegu cyfeirnod ychwanegol ar gyfer eich prosesau mewnol, rhestrwch hyn ar ôl y cyfeirnod.
Enw'r cyfrif | Welsh Revenue Authority Tax |
---|---|
Cod didoli | 60 70 80 |
Rhif y cyfrif | 10028838 |
Banc | NatWest |
Cyfeiriad | Government Banking CST Parklands De Havilland Way Horwich Bolton BL6 4YU |
Taliadau tramor
Defnyddiwch y manylion hyn i dalu o gyfrif tramor:
Rhif y cyfrif (IBAN) | GB46NWBK60708010028838 |
---|---|
Cod Adnabod Banc (BIC) | NWBKGB2L |
Taliadau gyda siec
Cymorth a chefnogaeth
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am dalu neu os oes angen help arnoch, cysylltwch â ni.