Neidio i'r prif gynnwy

Treth ar waredu gwastraff i safleoedd tirlenwi yw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) a godir yn unol â phwysau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae 3 cyfradd o Dreth Gwarediadau Tirlenwi:

  • cyfradd is ar gyfer deunyddiau sy’n bodloni’r amodau a amlinellir yn Neddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017
  • cyfradd safonol ar gyfer yr holl ddeunyddiau eraill
  • cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi ar gyfer gwarediadau trethadwy a wneir mewn mannau heblaw safleoedd tirlenwi awdurdodedig
Cyfraddau TGT o 1 Ebrill, £ y dunnell
  Cyfradd safonol Cyfradd is Cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi 
2023 i 2024 £102.10 £3.25 £153.15
2022 i 2023 £98.60 £3.15 £147.90
2021 i 2022 £96.70 £3.10 £145.05
2020 i 2021 £94.15 £3.00 £141.20
2019 i 2020 £91.35 £2.90 £137.00
2018 i 2019 £88.95 £2.80 £133.45

Mae cyfraddau is a safonol y dreth yn parhau i fod yn gyson â’r cyfraddau yng ngweddill y DU.

Mae’r gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi yn 150% o’r gyfradd safonol. Mae hyn yn ataliaeth ariannol ychwanegol ar gyfer pobl sy’n bwriadu gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon.

Disodlodd TGT y Dreth Dirlenwi yng Nghymru ym mis Ebrill 2018. Os oes gennych ymholiadau ynglŷn â’r Dreth Dirlenwi yng Nghymru hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2018, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM.