Rhaid i gynnyrch LLYW.CYMRU fodloni safonau sy'n ymwneud â dylunio, diogelwch, parthau a chynnwys.
Cynnwys
Dylunio
Rhaid i gynnyrch LLYW.CYMRU ddilyn system ddylunio Global Experience Language (GEL) a chael cymeradwyaeth dylunio.
Mae canllawiau manwl ar agweddau ar GEL yn cynnwys:
Cynnwys
Rhaid ysgrifennu'r cynnwys ar gyfer cynnyrch LLYW.CYMRU mewn ffordd sy'n gweithio'n dda ar-lein. Cewch wybod mwy yn y cyflwyniad i ysgrifennu ar gyfer LLYW.CYMRU.
Hygyrchedd a chymorth digidol
Rhaid i'ch cynnyrch fod yn hygyrch i bawb sydd ei angen neu efallai y byddwch yn torri'r gyfraith. Dilynwch y safonau hygyrchedd ar gyfer LLYW.CYMRU.
Dwyieithog
Ni ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Dilynwch y cyngor ar y Gymraeg mewn cyfathrebu digidol.
Y tîm
Mae angen amrywiaeth o sgiliau i greu cynnyrch da. Dysgwch sut mae creu tîm i gynnig gwasanaeth LLYW.CYMRU.
Technoleg
Dylech sicrhau bod eich cynnyrch yn cynnig gwerth am arian, yn ddibynadwy, yn gweithio ar draws gwahanol ddyfeisiau ac yn ddiogel. Dilynwch y cyngor ar y canlynol:
- diogelwch
- enwau parthau
- cymorth porwr
Yr Awdurdod Cynllunio Atebion TG
Rhaid cael cymeradwyaeth ar gyfer prosiectau sy'n gwario dros £2,000 ar Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh).
Gall staff Llywodraeth Cymru gael help drwy chwilio'r fewnrwyd am 'Awdurdod Cynllunio Datrysiadau'.
Ymchwil defnyddwyr
Dylai timau ddefnyddio ymchwil i'w helpu i ddeall defnyddwyr a chreu cynnyrch sy'n diwallu eu hanghenion.
Gall staff Llywodraeth Cymru gael help drwy chwilio'r fewnrwyd am 'Cyngor ar Ddigidol, Data a Thechnoleg (DDaT)'.
Safonau gwasanaeth digidol Cymru
Dilynwch yr egwyddorion a ddisgrifir yn y safonau gwasanaethau digidol Cymru a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.