Neidio i'r prif gynnwy

Dilynwch y safonau hyn i sicrhau bod cynnyrch LLYW.CYMRU yn bodloni safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Rhaid i holl wefannau ac apiau ar gyfer dyfeisiau symudol Llywodraeth Cymru fodloni WCAG 2.2, sef cyfres o argymhellion a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer gwella hygyrchedd ar y we.

Mae'r canllawiau hyn yn esbonio sut mae gwneud gwasanaethau digidol, gwefannau ac apiau yn hygyrch i bawb, gan gynnwys defnyddwyr â nam mewn perthynas â’r canlynol:

  • golwg: fel nam difrifol ar y golwg (dall), nam ar y golwg (rhannol ddall) neu bobl liwddall
  • clyw: fel pobl sy'n fyddar neu’n drwm eu clyw
  • symudedd: fel y rhai sy'n ei chael yn anodd defnyddio llygoden neu fysellfwrdd
  • meddwl a deall: fel pobl â dyslecsia, awtistiaeth neu anawsterau dysgu

Egwyddorion dylunio WCAG 2.2

Mae WCAG 2.2 yn seiliedig ar 4 egwyddor dylunio:

  • clir
  • ymarferol
  • dealladwy
  • cadarn

Drwy ganolbwyntio ar egwyddorion, nid ar dechnoleg, mae’r egwyddorion hyn yn pwysleisio'r angen i feddwl am y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn rhyngweithio â chynnwys. Er enghraifft, gallai defnyddwyr fod yn gwneud y canlynol:

  • defnyddio bysellfwrdd yn hytrach na llygoden
  • newid gosodiadau porwr i wneud cynnwys yn haws i'w ddarllen
  • defnyddio rhaglen darllen sgrin i 'ddarllen' (adrodd) cynnwys yn uchel
  • defnyddio chwyddwydr sgrin i wneud rhan o’r sgrin neu’r sgrin gyfan yn fwy
  • defnyddio gorchmynion llais i lywio gwefan

Mae'r egwyddorion yn berthnasol i bob agwedd ar eich gwasanaeth (gan gynnwys y cod, y cynnwys a’r rhyngweithiadau), sy'n golygu bod angen i bob aelod o'ch tîm eu deall a'u hystyried.

Cymhwyso canllawiau WCAG 2.2

Egwyddor 1: clir

Er mwyn cwrdd ag egwyddor ‘clir’ WCAG 2.2 rhaid ichi sicrhau y gall defnyddwyr adnabod a defnyddio eich gwasanaeth gyda'r synhwyrau sydd ar gael iddynt.

Mae hyn yn golygu bod angen ichi wneud pethau fel:

  • darparu testunau amgen ar gyfer cynnwys nad yw'n destun
  • darparu trawsgrifiadau ar gyfer sain a fideo
  • darparu teitlau ar y sgrin a disgrifiadau sain ar gyfer fideo
  • sicrhau bod cynnwys wedi'i strwythuro'n rhesymegol a bod modd i raglen darllen sgrin ei lywio a'i ddarllen (dylech gynnwys penawdau, rhestrau ac elfennau semantig eraill i gyfleu strwythur dogfennau)
  • defnyddio'r marc priodol ar gyfer pob nodwedd (er enghraifft, ffurflenni a thablau data), fel bod y berthynas rhwng gwahanol gynnwys yn cael ei diffinio’n briodol
  • peidio â defnyddio lliw fel yr unig ffordd o egluro rhywbeth neu wahaniaethu pethau
  • defnyddio lliwiau testun sy'n ymddangos yn glir yn erbyn lliw y cefndir
  • sicrhau y gellir defnyddio pob nodwedd pan fydd maint y testun yn cynyddu gan 200% a bod y cynnwys yn ail-lifo i un golofn pan gaiff ei gynyddu gan 400%
  • peidio â defnyddio delweddau o destun
  • sicrhau bod eich gwasanaeth yn ymatebol, er enghraifft i ddyfais y defnyddiwr, gogwydd y dudalen a maint y ffont y mae’n hoffi ei ddefnyddio
  • sicrhau bod eich gwasanaeth yn gweithio'n dda gyda thechnoleg gynorthwyol, er enghraifft, mae negeseuon pwysig yn cael eu marcio mewn ffordd sy’n dangos i’r rhaglenni darllen sgrin eu bod yn bwysig
  • ar gyfer cynnwys nad yw’n html defnyddiwch ffont sans-serif (er enghraifft Arial neu Calibri) o faint 12 pwynt o leiaf

Egwyddor 2: ymarferol

I gwrdd ag egwyddor ‘ymarferol’ WCAG 2.2, rhaid ichi sicrhau bod defnyddwyr yn gallu dod o hyd i'ch cynnwys a'i ddefnyddio, ni waeth sut y maent yn dewis cael gafael arno (er enghraifft, defnyddio bysellfwrdd neu orchmynion llais).

Mae hyn yn golygu bod angen ichi wneud pethau fel:

  • sicrhau bod popeth yn gweithio i rai sy’n defnyddio bysellfwrdd yn unig
  • galluogi pobl i chwarae, rhewi a stopio unrhyw gynnwys sy'n symud
  • peidio â defnyddio cynnwys sy'n fflachio, na gadael i'r defnyddiwr analluogi animeiddiadau
  • darparu dolen 'ymlaen i’r cynnwys'
  • defnyddio teitlau disgrifiadol ar gyfer tudalennau a fframiau
  • sicrhau bod defnyddwyr yn gallu symud drwy’r cynnwys mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr
  • defnyddio dolenni disgrifiadol fel bod defnyddwyr yn gwybod i ba le y bydd dolen yn mynd â nhw, neu beth yw’r cynnwys cysylltiedig y mae modd ei lawrlwytho
  • defnyddio penawdau a labeli ystyrlon, gan sicrhau bod unrhyw labeli hygyrch yn cyfateb neu'n debyg iawn i'r label yr ydych yn ei ddefnyddio yn y rhyngwyneb
  • ei gwneud yn hawdd i rai sy’n defnyddio bysellfwrdd weld yr eitem y mae eu bysellfwrdd neu dechnoleg gynorthwyol yn canolbwyntio arno ar unrhyw adeg, gelwir hyn yn 'ffocws gweithredol'
  • defnyddio pethau fel digwyddiadau llygoden neu ryngweithiadau deinamig (fel sweipio neu binsio) dim ond pan fyddant yn gwbl angenrheidiol, neu adael i'r defnyddiwr eu hanalluogi a rhyngweithio â'r rhyngwyneb mewn ffordd wahanol
  • ei gwneud yn hawdd i ddefnyddwyr analluogi a newid llwybr byr ar y bysellfwrdd
  • sicrhau bod elfennau rhyngweithiol fel botymau yn ddigon mawr neu fod digon o le rhyngddynt i’w gwneud yn hawdd dewis yr un cywir

Egwyddor 3: dealladwy

Er mwyn cwrdd ag egwyddor ‘dealladwy’ WCAG 2.2, rhaid ichi sicrhau bod pobl yn gallu deall eich cynnwys a sut mae'r gwasanaeth yn gweithio.

Mae hyn yn golygu bod angen ichi wneud pethau fel:

  • defnyddio Cymraeg clir
  • cadw brawddegau'n fyr
  • peidio â defnyddio geiriau ac ymadroddion na fydd pobl yn eu deall, neu roi esboniad os na allwch osgoi gwneud hynny
  • esbonio'r holl fyrfoddau ac acronymau, oni bai eu bod yn adnabyddus ac yn cael eu defnyddio'n gyffredin, er enghraifft ‘y DU’, ‘yr UE’, ‘TAW’
  • ei gwneud yn glir ym mha iaith y mae'r cynnwys wedi'i ysgrifennu, a nodi os bydd hyn yn newid
  • sicrhau bod nodweddion yn edrych yn gyson ac yn ymddwyn mewn ffyrdd y gellir eu rhagweld
  • sicrhau bod labeli gweladwy ac ystyrlon ar gyfer pob blwch ar ffurflen, a'u bod wedi'u marcio'n briodol
  • ei gwneud yn hawdd i bobl adnabod a chywiro gwallau mewn ffurflenni
  • dylech osgoi dolenni, rheolaethau, neu flychau mewn ffurflenni os ydynt yn achosi newid i’r cyd-destun yn awtomatig
  • ei gwneud yn hawdd i bobl ail-roi gwybodaeth maent wedi’i rhoi ar ffurflen yn flaenorol
  • ei gwneud yn hawdd i bobl fewngofnodi heb orfod cofio gwybodaeth neu ddatrys problem

Egwyddor 4: cadarn

Er mwyn cwrdd ag egwyddor ‘cadarn’ WCAG 2.2, rhaid ichi sicrhau y gall eich cynnwys gael ei ddehongli'n ddibynadwy gan amrywiaeth eang o asiantau defnyddiwr (gan gynnwys porwyr a thechnolegau cynorthwyol eithaf hen, rhai cyfredol a rhai a ragwelir).

Mae hyn yn golygu bod angen ichi wneud pethau fel:

  • sicrhau bod eich cod yn rhoi gwybod i dechnolegau cynorthwyol ar gyfer beth mae pob cydran o'r rhyngwyneb defnyddiwr, beth yw eu cyflwr ar unrhyw adeg ac a ydynt yn newid
  • sicrhau bod negeseuon statws pwysig neu ddeialogau moddol yn cael eu marcio mewn ffordd sy'n rhoi gwybod i'r defnyddiwr am eu presenoldeb a'u diben, ac yn gadael iddynt ryngweithio â nhw gan ddefnyddio eu technoleg gynorthwyol

Profi hygyrchedd

Rhaid profi hygyrchedd cynhyrchion newydd. Defnyddiwch yr adroddiad profi:

  • i sicrhau bod y cynnyrch yn bodloni o leiaf safon WCAG 2.2 AA
  • i’ch helpu i lunio eich datganiad hygyrchedd

Dylid adolygu cynhyrchion presennol:

  • pan fo newidiadau sylweddol
  • pan fo archwiliad blaenorol wedi nodi methiannau rydych chi wedi ceisio’u datrys
  • pan fo’r rheoliadau hygyrchedd yn cael eu diweddaru
  • pan fo cryn dipyn amser wedi bod ers y prawf diwethaf

E-bostiwch ddat@llyw.cymru i gael cyngor.

Mae Gwasanaeth Digidol Llywodraeth y DU yn profi sampl o wefannau'r sector cyhoeddus i weld a ydynt yn hygyrch. Mae’n bosibl y byddwch yn cael adroddiad sy’n rhestru materion i'w datrys. Gallai’r adroddiad gael ei gyhoeddi a gallai unrhyw faterion gael eu rhannu â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Darllenwch fwy am fonitro hygyrchedd gwefannau’r sector cyhoeddus (ar GOV.UK).

Datganiad hygyrchedd

Rhaid ichi fod â thudalen datganiad hygyrchedd a chynnwys dolen ati yn y troedyn.

Rhaid i’r datganiad fod wedi’i we-letya ar eich gwasanaeth, eich offeryn neu’ch microwefan LLYW.CYMRU.

Rhaid adolygu’r datganiad o leiaf unwaith y flwyddyn, hyd yn oed os nad oes newidiadau sylweddol wedi bod i’r wefan. Cofiwch gynnwys dyddiad yr adolygiad diwethaf.

E-bostiwch ddat@llyw.cymru i gael templed ar gyfer datganiad hygyrchedd.

Darllen pellach

Darllenwch yr adnoddau a ganlyn i gael rhagor o wybodaeth am ddilyn canllawiau WCAG: