Crynodeb o’r hyn y mae rhaid i bawb sy’n ysgrifennu ar gyfer LLYW.CYMRU ei wneud i fodloni anghenion y defnyddiwr.
Cynnwys
Sut mae pobl yn darllen ar-lein
Mae defnyddwyr yn darllen mewn ffordd wahanol ar y we o gymharu â darllen ar bapur. Maen nhw:
- yn annhebygol o ddarllen y cynnwys i gyd
- yn tueddu i fwrw golwg dros y cynnwys i ddod o hyd i’r darn y maen nhw ei angen
Mae cynnwys ar-lein da yn hawdd ei ddarllen, gan ddefnyddio:
- brawddegau byr
- is-benawdau
- Cymraeg clir
Mae hyn yn helpu pobl i ddod o hyd i’r hyn maen nhw ei angen, a’i ddeall, yn gyflym. Mae hefyd yn ei gwneud yn haws i ni ddiweddaru cynnwys, gyda llai o eiriau i’w diweddaru a’u cyfieithu.
Mae ein canllawiau ar ysgrifennu ar gyfer LLYW.CYMRU wedi’u seilio ar ymchwil i sut mae pobl yn darllen ar-lein ac yn defnyddio LLYW.CYMRU.
Bodloni anghenion y defnyddiwr
Peidiwch â chyhoeddi popeth y gallwch chi ar-lein. Dechreuwch drwy feddwl beth mae angen i’r defnyddiwr ei wybod ac yna ysgrifennu i fodloni’r angen hwnnw.
Cymraeg clir
Defnyddiwch Gymraeg clir: mae'n haws i ddefnyddwyr ei ddarllen a'i ddeall.
Y prif egwyddorion yw:
- bod yn fyr ac yn gryno, hyd at 20 gair y frawddeg
- peidio â defnyddio ffurfiau benywaidd a lluosog ansoddeiriau ond lle bo’r ffurf honno yn air cyffredin iawn
- defnyddio iaith neu gystrawen syml
- defnyddio brawddegau uniongyrchol a gweithredol yn hytrach na brawddegau goddefol
- defnyddio llai o ferfau amhersonol
- rhannu brawddeg amlgymalog yn frawddegau llai
- defnyddio berfenw yn lle enw ac ansoddair lle bo modd
- osgoi glynu’n rhy gaeth wrth gystrawen y Saesneg
- osgowch idiomau a phriod-ddulliau os oes ffordd fwy eglur ac arferol o fynegi’r un ystyr
Cynnwys ar gyfer arbenigwyr
Mae’n well gan bobl â lefelau llythrennedd uwch iaith syml (yn GOV.UK) gan ei bod yn eu galluogi i ddeall yr wybodaeth yn gyflym.
Mae pobl yn deall iaith arbenigol gymhleth, ond nid ydyn nhw eisiau ei darllen os oes dewis arall. Y rheswm dros hyn yw bod pobl â’r lefelau llythrennedd uchaf a’r arbenigedd mwyaf yn tueddu i fod â mwy i’w ddarllen.
Peidiwch â defnyddio Cwestiynau Cyffredin
Peidiwch â defnyddio Cwestiynau Cyffredin. Maen nhw fel arfer yn gorfodi defnyddwyr i weithio’n galetach i ddod o hyd i gynnwys, a’i ddeall.
Mwy am Gwestiynau Cyffredin a beth i’w wneud os yw defnyddwyr yn gofyn cwestiwn yn aml.
Teitlau tudalennau
Mae’r mwyafrif o ddefnyddwyr yn cyrraedd o beiriant chwilio. Defnyddiwch eiriau’ch defnyddwyr i’w helpu i ddod o hyd i’ch cynnwys, a’i ddeall. Mae modd cymharu gwahanol eiriau drwy Google Trends.
Defnyddiwch ddim mwy na 65 o nodau a byddwch yn benodol, er enghraifft peidiwch â defnyddio:
- newidiadau i wasanaethau iechyd
Byddwch yn fwy penodol, er enghraifft nodi’r gynulleidfa a’r diben:
- gwneud newidiadau i wasanaethau iechyd: canllawiau i’r GIG
Penawdau
Ambell i air o destun disgrifiadol ddylai penawdau fod. Dylen nhw helpu’r darllenydd i fwrw golwg dros y dudalen.
Ceisiwch ddefnyddio pennawd bob 2 baragraff i helpu ymwelwyr i weld pa ddarnau o destun maen nhw eu hangen wrth iddyn nhw fwrw dros y dudalen.
Defnyddiwch yr arddull pennawd briodol ar gyfer pob pennawd. H1 (lefel pennawd 1) yw teitl y dudalen ac yna H2 yw’r is-bennawd cyntaf.
Dylech osgoi cyflwyno penawdau ar ffurf cwestiwn. ‘Pwy all ymgeisio’ nid ‘Pwy all ymgeisio?’.
Dolenni
Defnyddiwch ddolenni i helpu defnyddwyr i ddod o hyd i wybodaeth sy’n berthnasol i’w gweithgarwch presennol.
Mae testun dolen da:
- yn disgrifio ei ddiben
- yn gwneud synnwyr heb gyd-destun
Peidiwch â defnyddio dolenni fel:
- cliciwch yma
- mwy o wybodaeth
- lawrlwytho
Defnyddiwch ddolenni fel:
- gwneud cais am grant cartrefi gwag
- dysgu mwy am newidiadau i derfynau cyflymder yn eich ardal chi
- cofrestru eich penderfyniad rhoi organau yn gyflym ac yn hawdd ar-lein neu dros y ffôn
Tablau
Dim ond er mwyn cyflwyno data y dylech ddefnyddio tablau. Dylai’r data yma fod yn rhifol fel arfer.
Peidiwch â defnyddio tablau i gyflwyno gwybodaeth y gallech ei dangos ar ffurf rhestr.
Delweddau
Peidiwch â defnyddio delweddau oni bai eu bod:
- yn angenrheidiol er mwyn egluro rhywbeth na ellid ei egluro drwy ddefnyddio testun, map er enghraifft
- yn helpu defnyddwyr i ddeall gwybodaeth mewn ffordd wahanol, graff er enghraifft
Caiff testun ei ffafrio oherwydd:
- mae’n fwy hygyrch, er enghraifft mae’n haws i’w ddarllen gan ddefnyddio chwyddwydr sgrin
- mae’n haws newid maint testun rhwng gwahanol ddyfeisiau
- mae’n dueddol o fod yn fwy amlwg wrth wneud chwiliad
Dylech osgoi delweddau sy’n cynnwys testun. Ysgrifennwch yn y corff yn hytrach.
Ysgrifennwch yn unol ag arddull LLYW.CYMRU
Dilynwch ganllaw arddull LLYW.CYMRU. Mae wedi’i seilio ar brofion gyda defnyddwyr a chyngor gan gydweithwyr ar iaith briodol, gan gynnwys:
- osgoi rhoi priflythrennau i bob llythyren mewn geiriau ac osgoi rhoi priflythrennau i lythrennau cyntaf geiriau
- bod yn benodol am ystod dyddiadau, er enghraifft mis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022 nid 2021 i 2022
- geiriau i’w defnyddio wrth ysgrifennu am anabledd
- peidiwch â defnyddio testun trwm
- peidiwch â defnyddio ffont italig
- sut i ysgrifennu rhifau
Defnyddiwch y fformat cywir
Dylai’r mwyafrif o ddeunyddiau gael eu cyhoeddi fel tudalennau gwe (a elwir weithiau’n dudalennau HTML). Bydd hyn yn golygu y gall pawb ddefnyddio ein gwefan.
Ar ôl cyhoeddi
Gwnewch yn siŵr bod eich cynnwys yn bodloni anghenion defnyddwyr, drwy:
- adolygu data dadansoddeg gwe
- annog ac adolygu adborth
Adolygwch eich cynnwys i sicrhau ei fod yn gywir o hyd a’i fod yn cael ei ddileu pan nad oes ei angen mwyach.