Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r canllawiau yma'n disgrifio'r gwahanol gynnyrch sydd i gael o fewn LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cynnyrch LLYW.CYMRU yn dod o dan y categorïau cynnyrch hyn.

Craidd LLYW.CYMRU

Mae craidd LLYW.CYMRU yn cynnwys canllawiau ar sut i wneud pethau, a chefndir ar beth ry'n ni'n ei wneud. Mae hefyd yn cynnwys categorïau LLYW.CYMRU megis cyhoeddiadau, ymgynghoriadau, ystadegau a chyhoeddiadau.

Gwasanaethau LLYW.CYMRU

Mae gwasanaethau LLYW.CYMRU yn galluogi defnyddwyr i wneud 1 neu fwy o drafodion.

Gallai gwasanaeth alluogi:

  • myfyriwr sy'n gorffen ysgol i ddod o hyd i brentisiaeth i barhau eu haddysg
  • cyfreithiwr sy'n gweithio ar brynu eiddo i ffeilio cofnod Treth Trafodiadau Tir

Mae gwasanaethau yn amrywio yn eu maint a'u cwmpas, ac maent yn cynnwys dolenni at wybodaeth gysylltiedig.

Esiampl o wasanaeth LLYW.CYMRU.

Teclynnau LLYW.CYMRU

Mae teclynnau LLYW.CYMRU yn galluogi defnyddwyr i wirio pethau.

Gallai teclyn alluogi:

  • darpar berchennog tŷ i wirio pa gynlluniau y maent yn gymwys ar eu cyfer
  • cyfreithiwr yn gweithio ar brynu eiddo i wirio os yw eiddo yng Nghymru ai peidio

Mae teclynnau yn fach eu sgôp ar y cyfan, ac yn rhoi dolenni i wybodaeth berthnasol.

Esiampl o teclynnau LLYW.CYMRU.

Microwefannau LLYW.CYMRU

Mae microwefannau LLYW.CYMRU yn arunigol, ac maent fel arfer wedi eu brandio.

Yn aml iawn mae gan microwefannau ddatganiad eang, a gallant fod yn fawr iawn. Maent yn parhau i fod yn rhan o LLYW.CYMRU, ac wedi eu hadeiladu i safonau LLYW.CYMRU.

Esiampl o ficrowefan LLYW.CYMRU.

Ymgyrchoedd LLYW.CYMRU

Mae ymgyrchoedd LLYW.CYMRU yn darparu gwybodaeth ddarbwyllol i helpu codi ymwybyddiaeth ynghylch rhywbeth.

Efallai bydd nifer o ymgyrchoedd ynghylch gwahanol agweddau o bwnc.

Nid ydynt ar gyfer rhoi canllawiau craidd ar bwnc.

Mae gan ymgyrchoedd ddatganiad cul, maent fel arfer yn fach (yn aml 1 tudalen), ac yn cynnwys dolenni i wybodaeth berthnasol.

Ystyried yr holl opsiynau i gefnogi gweithgareddau hyrwyddo.

Esiampl o ymgyrch LLYW.CYMRU.

Sefydliadau LLYW.CYMRU

Sefydliadau LLYW.CYMRU yw presenoldeb digidol ar gyfer sefydliadau unigol Llywodraeth Cymru.

Maent yn darparu gwybodaeth am sefydliad. Maent hefyd yn cynnwys canllawiau a gwasanaethau gan y sefydliad hwnnw.

Mae gan sefydliadau ddatganiad cyson. Mae eu maint yn amrywio, ac yn darparu dolenni i ganllawiau a gwasanaethau o'r sefydliad.

Esiampl o sefydliad LLYW.CYMRU.