Neidio i'r prif gynnwy

Beth i'w gynnwys mewn troedyn LLYW.CYMRU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyluniad y troedyn

 

Image
Delwedd o droedyn GOV.WALES

 

Mae enghreifftiau o ddyluniad y troedyn ar gyfer cyfrifiadur bwrdd gwaith a dyfais symudol i’w gweld yn:

Llinell gyntaf y troedyn

Gall llinell gyntaf y troedyn gynnwys y dolenni canlynol:

  • ‘Ynghylch [gwasanaeth, offeryn neu ficrowefan LLYW.CYMRU]’ (dewisol)
  • ‘Sut i ddefnyddio [gwasanaeth, offeryn neu ficrowefan LLYW.CYMRU]’ (dewisol)
  • ‘Cysylltu â [enw’r endid y byddai’r defnyddiwr yn cysylltu ag ef]’ (dewisol)

Gallai dolenni eraill fod yn dderbyniol. Ebostiwch digital@llyw.cymru os bydd angen ichi gynnwys dolenni ychwanegol.

Ail linell y troedyn

Mae ail linell y troedyn yn cynnwys y dolenni canlynol:

  • ‘Hygyrchedd’ (gorfodol)
  • ‘Cwcis’ (gorfodol, os byddwch yn gosod cwcis)
  • ‘Datganiad hawlfraint’ (gorfodol)
  • ‘Preifatrwydd’
  • ‘Telerau ac amodau’

Hygyrchedd

Rhaid ichi fod â thudalen datganiad hygyrchedd a chynnwys dolen ati yn y troedyn.

Rhaid i’r datganiad fod wedi’i we-letya ar eich gwasanaeth, eich offeryn neu’ch microwefan LLYW.CYMRU.

Ebostiwch ddat@llyw.cymru i gael templed ar gyfer datganiad hygyrchedd.

Cwcis

Os yw’ch gwasanaeth, eich offeryn neu’ch microwefan LLYW.CYMRU yn gosod cwcis angenrheidiol yn unig, rhaid ichi fod â thudalen polisi cwcis a chynnwys dolen ati yn y troedyn.

Gallwch ddod o hyd i gyngor ar gwcis cwbl angenrheidiol gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Gall eich gwasanaeth, eich offeryn neu’ch microwefan LLYW.CYMRU osod cwcis nad ydynt yn hollol angenrheidiol. Os felly, rhaid ichi fod â thudalen gosodiadau cwcis a chynnwys dolen ati yn y troedyn. Rhaid ichi hefyd fod â thudalen polisi cwcis a chynnwys dolen ati ar y dudalen gosodiadau cwcis.

Rhaid i dudalen gosodiadau cwcis fod wedi’i gwe-letya ar eich gwasanaeth, eich offeryn neu’ch microwefan LLYW.CYMRU.

Rhaid i’r polisi cwcis fod wedi’i we-letya ar eich gwasanaeth, eich offeryn neu’ch microwefan LLYW.CYMRU. Dylai’r polisi cwcis fod ar ei dudalen ei hun ac nid o fewn hysbysiad preifatrwydd.

Datganiad hawlfraint

Rhaid ichi gynnwys dolen at ddatganiad hawlfraint yn y troedyn.

Onid oes gan eich gwasanaeth neu’ch offeryn LLYW.CYMRU ddatganiad hawlfraint mwy penodol, rhaid i’r ddolen fod at ddatganiad hawlfraint cyffredinol LLYW.CYMRU.

Efallai y bydd angen ddatganiad hawlfraint mwy penodol ar gyfer eich gwasanaeth neu’ch offeryn LLYW.CYMRU. Os felly, dylai gael ei we-letya yng nghraidd LLYW.CYMRU, ger tudalen gychwynnol ar gyfer eich gwasanaeth neu’ch offeryn LLYW.CYMRU, a dylech gynnwys dolen ato.

Ebostiwch digital@llyw.cymru os bydd angen ichi we-letya datganiad hawlfraint yng nghraidd LLYW.CYMRU.

Ar gyfer microwefannau LLYW.CYMRU, rhaid ichi gynnwys dolen at ddatganiad hawlfraint yn y troedyn. Dylai gael ei we-letya yn y ficrowefan.

Preifatrwydd

Rhaid ichi ystyried goblygiadau’ch gwasanaeth, eich offeryn neu’ch microwefan o ran preifatrwydd, er enghraifft prosesu data.

Dylech ofyn am gyngor gan eich tîm cyfreithiol.

Efallai y bydd angen datganiad preifatrwydd ar gyfer eich gwasanaeth neu’ch offeryn LLYW.CYMRU. Os felly, dylai gael ei we-letya yng nghraidd LLYW.CYMRU, ger tudalen gychwynnol ar gyfer y gwasanaeth neu’r offeryn, a dylech gynnwys dolen ato yn y troedyn.

Ebostiwch digital@llyw.cymru os bydd angen ichi we-letya datganiad preifatrwydd yng nghraidd LLYW.CYMRU.

Ar gyfer microwefannau LLYW.CYMRU, os oes angen datganiad preifatrwydd arnoch, dylai gael ei we-letya yn y ficrowefan a dylech gynnwys dolen ato yn y troedyn.

Telerau ac amodau

Dylech ystyried a oes angen telerau ac amodau arnoch.

Dylech ofyn am gyngor gan eich tîm cyfreithiol.

Efallai y bydd angen telerau ac amodau ar gyfer eich gwasanaeth neu’ch offeryn LLYW.CYMRU. Os felly, dylent gael eu gwe-letya yng nghraidd LLYW.CYMRU, ger tudalen gychwynnol ar gyfer y gwasanaeth neu’r offeryn, a dylech gynnwys dolen atynt yn y troedyn.

Ebostiwch digital@llyw.cymru os bydd angen ichi we-letya telerau ac amodau yng nghraidd LLYW.CYMRU.

Ar gyfer microwefannau LLYW.CYMRU, os oes angen telerau ac amodau arnoch, dylent gael eu gwe-letya yn y ficrowefan a dylech gynnwys dolen atynt yn y troedyn.