Neidio i'r prif gynnwy

Rhoddir amlinelliad o’r ffordd y dylid trin y Gymraeg wrth baratoi a chyflenwi gwaith cyfathrebu a marchnata ar gyfer neu ar ran Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Dehongliad Llywodraeth Cymru o Safonau’r Gymraeg sydd yn y canllawiau hyn. Rhoddir amlinelliad o’r ffordd y dylid trin y Gymraeg wrth baratoi a chyflenwi gwaith Cyfathrebu a Marchnata ar gyfer neu ar ran Llywodraeth Cymru. Gwaith Cyfathrebu a marchnata i gynulleidfa allanol (yng Nghymru) sydd dan sylw yma.

Gofynnir i asiantaethau allanol sy’n gwneud gwaith Cyfathrebu a Marchnata i Lywodraeth Cymru ddilyn y canllawiau hyn a chyrraedd y safonau a nodir.

Dyma ein prif egwyddorion:

  • Cynhyrchir pob darn o waith Cyfathrebu a Marchnata yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Ni fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yn ein gwaith Cyfathrebu a Marchnata, o ran:
    • cyflwyniad, ee y ffont, maint, lliw a’r diwyg
    • safle ac amlygrwydd
    • pryd a sut y caiff y deunyddiau eu cyhoeddi, eu rhyddhau neu eu harddangos
  • Bydd pob allbwn cyfathrebu yn y Gymraeg yn briodol o ran ansawdd a safon.

Gobeithiwn y bydd y canllawiau hyn o gymorth i gyrff eraill yng Nghymru gyda’u gweithgarwch marchnata dwyieithog. Serch hynny ni fydd Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am allbwn sefydliadau eraill.

Cyfryngau cymdeithasol (Twitter, Facebook, Instagram, Tiktok, Snapchat)

Twitter

Mae hyn yn berthnasol i bob un o sianeli Twitter swyddogol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys rhai Gweinidogol, corfforaethol, ymgyrchoedd ac adrannol.

Bydd pob cyfrif yn ddwyieithog neu’n Gymraeg a Saesneg ar wahân. Os oes dau gyfrif ar wahân dylai’r y pwt o wybodaeth ar frig y cyfrif gynnwys enw Twitter y cyfrif cyfatebol yn yr iaith arall.

Bydd yr holl wybodaeth wreiddiol ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd.

Bydd pob enw trydar yn Gymraeg neu’n ddwyieithog ee @prifweinidog neu @LlywodraethCym @WelshGovernment

Ar gyfrifon dwyieithog, anogir creu un trydariad ddwyieithog pryd bynnag y bo modd, gyda’r Gymraeg i’w darllen yn gyntaf.

Wrth rannu dolen i un o wefannau Llywodraeth Cymru, dylai’r URL for yn yr iaith berthnasol.

Nid oes rheol ynghylch pa iaith ddylai ymddangos yn gyntaf ar ffrydiau dwyieithog. Argymhellir amrywio’r drefn.

Ar gyfrifon dwyieithog, ni fydd trydariadau’n cael eu pinio.

Dylid gallu cyfrannu at bob cyfrif yn Gymraeg neu yn Saesneg, a dylai pob trydariad sy’n ymateb fod yn yr un iaith â’r trydariad wreiddiol.

Dylai trydariadau sy’n targedu cynulleidfa ryngwladol fod yn Gymraeg ac yn Saesneg ar ein cyfrifon dwyieithog, a dylent roi’r un wybodaeth â’i gilydd.

Gellir ail-drydar yn yr iaith wreiddiol. Os ystyrir bod ail-drydariad Saesneg yn unig yn bwysig neu o ddiddordeb mawr i ddilynwyr cyfrif Cymraeg, gellir crynhoi’r trydariad yn Gymraeg a rhoi dolen i’r trydariad Saesneg gwreiddiol.

Hashnodau

Os defnyddir dau hashnod ar wahân, Cymraeg a Saesneg, rhaid cynnwys y ddau ar gyfrifon Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd, i sicrhau traws-hyrwyddo a sgwrs unedig.

Yr arfer gorau

Yr arfer gorau yw cael un cyfrif Twitter ddwyieithog. Ond, os oes dau gyfrif ar wahân, dylid hyrwyddo’r cyfrif Cymraeg yn rheolaidd (bob 2-3 wythnos) ar y cyfrif Saesneg a dylid egluro’r berthynas rhwng y ddau gyfrif.

Ni chaniateir fideos Saesneg ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Cymraeg. Mae nifer fach iawn o eithriadau i’r rheol hon - gweler yr adran ‘Cynhyrchu Clyweledol’.

Bydd ffrydio byw ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yn digwydd yn yr iaith a siaredir.

Am ganllawiau ar hysbysebion y telir amdanynt ar y sianeli cymdeithasol, ewch i ‘Hysbysebu’ isod.

Cynhyrchu clyweledol

Fideo – dwy iaith ar wahân

I gydymffurfio â safonau’r Gymraeg, mae’n hollbwysig paratoi’n dda ymlaen llaw.

Ar gyfer fideos astudiaethau achos, y cam cyntaf bob amser yw cael hyd i gyfranogwyr dwyieithog er mwyn gallu cynhyrchu fideos Cymraeg a Saesneg. Fel arall, gellir cynhyrchu dau wahanol astudiaeth achos o’r un teilyngdod, y naill yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg.

Peidiwch â bwrw ymlaen ag unrhyw brosiect clyweledol hyd nes y bydd digon o gyfranogwyr dwyieithog wedi’u sicrhau. Ni chaniateir defnyddio fideos Saesneg ar sianeli cymdeithasol Cymraeg.

Bydd is-deitlau’r fideos hyn yn yr iaith a siaredir.

Eithriadau

Gweinidogion Llywodraeth Cymru, Arbenigwyr Rhyngwladol neu ddeiliaid Swyddi Cyhoeddus Uchel, neu unigolion sy’n cyflwyno cynnwys o bwysigrwydd arbennig ac unigryw. Gellir dangos yr unigolion hyn yn siarad Saesneg ar sianeli cyfryngau Cymdeithasol Cymraeg, ond gydag is-deitlau Cymraeg.

Fideo - dwyieithog

Dylai fideos dwyieithog fod 50:50 Cymraeg:Saesneg. Dylid rhoi ystyriaeth ofalus i’r cydbwysedd iaith wrth baratoi’r cyfranogwyr ac wrth lunio bwrdd stori.

Bydd is-deitlau fideos dwyieithog yn ymddangos yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd pan siaredir Cymraeg NEU gellir cyhoeddi’r fideos 2 waith gydag is-deitlau Cymraeg ac is-deitlau Saesneg ar wahân.

Pan fo dwy sianel gymdeithasol, y naill yn Gymraeg a’r llall yn Saesneg, bydd yr is-deitlau yn iaith y sianel.

Cynnwys Cymraeg mewn fideo Saesneg

Gall fod yn fanteisiol cynnwys peth Cymraeg o fewn fideo Saesneg; mae’n gyfle da i hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Yn yr achosion hyn, rydym yn argymell y gyfradd ganlynol fel arfer gorau: 75% Saesneg:25% Cymraeg, gydag is-deitlau Saesneg trwy’r fideo cyfan.

Cynnwys Saesneg mewn fideo Gymraeg

Weithiau, bydd peth cynnwys Saesneg o fewn fideo Cymraeg yn gwella’r neges gyffredinol ac yn cwblhau naratif yr astudiaeth achos. Ond ni ddylai’r cynnwys Saesneg fod yn fwy na 25% o’r fideo a dylid ceisio cyngor gan Safonau.Standards@llyw.cymru cyn mynd ati i roi unrhyw gynnwys Saesneg mewn fideo Cymraeg. Is-deitlau Cymraeg fyddai ar y fideo gyfan.

Dylanwadwyr

Mewn ymgyrch, gellir defnyddio dylanwadwyr i gefnogi cyfathrebu negeseuon Llywodraeth Cymru.

Ar blatfformau Llywodraeth Cymru yr allbwn fydd Cymraeg:Saesneg 50:50.

Cyfarfodydd, digwyddiadau ac arddangosfeydd

Mae’r canlynol yn berthnasol i gyfarfodydd a drefnir gan Lywodraeth Cymru sy’n agored i’r cyhoedd a digwyddiadau cyhoeddus sy’n cael eu trefnu neu eu hariannu 50% gan Lywodraeth Cymru.

Cyfarfod, cynhadledd neu seminar sy’n agored i’r cyhoedd

Bydd y gwahoddiad yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg wedi’i gosod fel ei bod yn debygol o gael ei darllen yn gyntaf. Os ydych yn defnyddio system archebu, rydym yn argymell defnyddio un gwbl ddwyieithog, ee Tocyn.Cymru.

Bydd holl ddeunyddiau hysbysebu’r cyfarfod, gan gynnwys y gwahoddiad, yn datgan bod croeso i unrhyw un ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod.

Yr arfer gorau yw cael Cadeirydd dwyieithog sy’n gallu cynnal y cyfarfod yn y ddwy iaith.

Gofynnir i’r siaradwyr cyn y digwyddiad a ydynt ma siarad yn Gymraeg.

Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i’r rhai nad ydynt yn ddwyieithog. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael gwybod ar lafar, yn Gymraeg, bod croeso iddynt gyfrannu yn Gymraeg, a bydd y di-Gymraeg yn cael esboniad o sut i ddefnyddio’r offer cyfieithu.

Bydd unrhyw arwyddion neu ddeunyddiau arddangos yn y digwyddiad neu gyfarfod yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg wedi’i gosod i gael ei darllen yn gyntaf.

Cyflwynir manylion siaradwyr a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ar sleidiau dwyieithog, a bydd unrhyw gyflwyniadau yn ddwyieithog hefyd, gyda’r Gymraeg wedi’i gosod i gael ei darllen yn gyntaf.

Bydd trydar o unrhyw ddigwyddiad yn ddwyieithog; gweler ein pennod ar y Cyfryngau Cymdeithasol am ragor o ganllawiau. Dylai staff dwyiethog fod yn cymedroli.

Pan fo trydydd parti’n darparu eitemau ar gyfer unrhyw ddigwyddiad, nhw fydd yn gyfrifol am gydymffurfio’n briodol â’r gofynion iaith Gymraeg wrth baratoi a chyflwyno’r eitemau hynny.

Bydd pob agenda, cofnodion a phapurau eraill gan Lywodraeth Cymru sydd ar gael i’r cyhoedd yn ddwyieithog. 
Bydd negeseuon cyfarch neu gyhoeddiadau a wneir dros system sain yn cael eu clywed yn Gymraeg yn gyntaf ac yn Saesneg wedyn.

Dylid sicrhau bod staff dwyieithog yno i dderbyn a chroesau gwesteion wrth iddynt gyrraedd, fel y bo’n briodol. Dylai staff dwyieithog wisgo bathodyn neu laniard i ddangos eu bod yn siarad Cymraeg.

Ni fydd cynnwys rhaglen unrhyw Wasanaeth Cenedlaethol neu ddigwyddiad dathlu a drefnir neu a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Digwyddiad rhithiol/ar-lein. Seminarau, cynadleddau a digwyddiadau

Yn ychwanegol at yr uchod, dylid dilyn y canllawiau canlynol:

  • Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio Microsoft Teams ar gyfer y rhan fwyaf o gyfarfodydd a digwyddiadau ar-lein. Gall y Gwasanaeth Cyfieithu gynghori ynghylch Cyfieithu ar y Pryd yn eich digwyddiad Teams.
  • Caniateir defnyddio platfformau eraill mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, i’w trafod gyda threfnydd y digwyddiad.
  • Yr arfer gorau yw cal Cadeirydd dwyieithog sy’n gallu cynnal y cyfarfod yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • Bydd sleidiau a chyflwyniadau Power Point siaradwyr a chynrychiolwyr yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg wedi’i gosod i’w darllen gyntaf.
  • Dylai’r Cadeirydd annog pawb i bostio cwestiynau neu sylwadau yn eu dewis iaith yn y sgwrs ar-lein. Bydd angen cymedrolwyr dwyieithog i oruchwylio’r cyfraniadau i’w sgwrs ar y dydd.

Presenoldeb Llywodraeth Cymru mewn arddangosfa neu sioe

Mae’r canlynol yn berthnasol i bresenoldeb Llywodraeth Cymru menw arddangosfa neu sioe yng Nghymru:

  • Bydd unrhyw ddeunydd i hyrwyddo presenoldeb llywodraeth Cymru, gan gynnwys hysbyseb yn rhaglen y digwyddiad, yn ddwyieithog.
  • Bydd y deunyddiau arddangos ac arwyddion yn ddwyieithog.
  • Bydd staff dwyieithog yn bresennol trwy gydol yr arddangosfa. Byddant yn gwisgo bathodyn a/neu laniard i ddangos eu bod yn siarad Cymraeg.
  • Bydd unrhyw wasanaeth a gynigir i’r rhai sy’n dod i arddangosfa Llywodraeth Cymru ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Os bydd trydydd parti’n cael cynnig lle i’w deunyddiau yn un o arddangosfeydd Llywodraeth Cymru, cyfrifoldeb y parti hwnnw fydd darparu’r deunyddiau yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Yr arfer gorau yw tynnu sylw at yr iaith Gymraeg, fel rhan o’n diwylliant ni, mewn arddangosfeydd rhyngwladol a phan fo cynrychiolwyr o wledydd eraill yn ymweld â digwyddiad yng Nghymru.
  • Mewn digwyddiadau Cymraeg fel Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol bydd deunyddiau yn Gymraeg yn unig, e.e. sylw yn rhaglen y digwyddiad, adloniant ar ein stondin.
  • Ni fydd canllawiau ar gyfer cystadlaethau neu enwebiadau Gwobrau yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
  • Os chwaraeir cerddoriaeth ar stondinau neu mewn digwyddiadau, ee seremonïau Gwobrau, byddai’n arfer da defnyddio cerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg.

Hysbysebu (gan gynnwys ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, recriwtio, hysbysiadau cyhoeddus, atodiadau ac erthyglau y telir amdanynt)

Hysbysebion print

Bydd hysbysebion print yn Gymraeg a Saesneg gyda’r Gymraeg wedi’i lleoli fel ei bod yn debygol o gael ei darllen yn gyntaf.

Cyhoeddir hysbysebion Cymraeg yn unig mewn Papurau Bro a chylchgronau neu bapurau newydd Cymraeg.

Hysbysiadau cyhoeddus

Cyhoeddir hysbysiadau cyhoeddus yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg wedi’i gosod i gael ei darllen yn gyntaf.

Hysbysebion tu allan i’r cartref

Bydd pob hysbyseb tu allan i’r cartref yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg wedi’i gosod i gael ei darllen yn gyntaf. (ee posteri, sgriniau hysbysebu digidol, ee wrth fynedfeydd archfarchnadoedd, meysydd awyr, cefn ac ochr bysiau, mewn trenau, ar gefn tocynnau bws).

Ni ddylid gwahanu’r ddwy iaith ar ddau boster. Dylid gweld y ddwy iaith ar yr un pryd, ond gosod y Gymraeg i gael ei darllen yn gyntaf.

Dangosir dau URL neu ddau god QR yn cysylltu i wefannau yn y ddwy iaith.

Hysbysebion teledu

Cynhyrchir hysbysebion teledu yn Gymraeg ac yn Saesneg bob amser.

Ni chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth gynhyrchu’r hysbysebion.

Ni fydd hysbysebion yn cael eu dybio i unrhyw iaith.

Dangosir dau URL neu ddau god QR yn cysylltu i wefannau yn y ddwy iaith.

Hysbysebion teledu: prynu cyfryngau

S4C

Byddwn yn prynu cymaint o TVR ag y bydd y gyllideb yn ganiatáu, gan ddibynnu ar fanylion demograffig a’r pwnc dan sylw. Ni fyddwn yn is-deitlo ein hysbysebion Cymraeg yn Saesneg ar gyfer S4C.

Dangosir hysbysebion Cymraeg ar sianeli eraill o fewn Cymru, gydag is-deitlau Saesneg,  i gymhareb fras o 70:30 Saesneg:Cymraeg.

Un elfen o ymgyrch ehangach yw hysbysebion teledu a radio. Os bydd yn anodd prynu’r lefel briodol o amser darlledy ar deledu a radio Cymraeg, dylid ystyried sut i sicrhau mwy o sylw drwy ddefnyddio sianeli Cymraeg eraill.

Hysbysebion radio

Cynhyrchir hysbysebion radio yn Gymraeg a Saesneg.

Ni chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg wrth gynhyrchu’r hysbysebion radio.

Hysbysebion radio: Prynu cyfryngau

Cymhareb o 80:20 o amser ar yr awyr (Saesneg:Cymraeg) o leiaf fesul gorsaf unigol. Bydd hyn yn cynyddu i 65:35 pan fo:

  • Darlledu mewn ardal lle mae gogwydd mawr tuag at siaradwyr Cymraeg.
  • Yr hysbyseb wedi’i dargedu at bobl o dan 25 oed
  • Yr orsaf yn darlledu rhaglenni Cymraeg

Hysbysebion sinema

Prynir slotiau sinema ar gymhareb o 50:50 (Saesneg:Cymraeg).

Caiff hysbysebion sinema Cymrage eu his-deitlo yn Saesneg.

Hysbysebion ar-lein

Facebook

Facebook: Rydym yn argymell hysbysebu dwyieithog, h.y. hysbysebion unigol â’r ddwy iaith yn yr un hysbyseb. Pan nad yw hyn yn bosibl, gellir arddangos hysbysebion uniaith ar ffurf carwsél.

Ar Facebook ac Instagram, Gellir targedu siaradwyr Cymraeg gyda hysbysebion y telir amdanynt yn eu dewis iaith. Ond nid yw hyn yn adlewyrchiad o gyfanswm y gynulleidfa sy’n siarad a deall Cymraeg ar Facebook/Instagram.

Mae Twitter a Tiktok yn derbyn hysbysebion dwyieithog y telir amdanynt ar hyn o bryd.

Google, YouTube

Rydym yn argymell hysbysebu dwyieithog, h.y. hysbysebion unigol â’r ddwy iaith yn yr un hysbyseb. Pan nad yw hyn yn bosibl, gellir arddangos hysbysebion uniaith ar ffurf carwsélneu ar gymhareb 50:50.

Spotify

Bydd yr hysbysebion yn Gymraeg a Saesneg; mae’r platfform yn cyfyngu hysbysebion Cymraeg i gymhareb 1:10.

Cyflwyno a chyfathrebu

Hunaniaeth gorfforaethol

Ni fydd yr hunaniaeth gorfforaethol (newydd neu ddiwygiedig) yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae hyn yn cynnwys datganiadau gweledol, enw, brandio a sloganau.

Bydd pob papur ysgrifennu a chyfeiriadau electronig yn defnyddio’r hunaniaeth gorfforaethol yn gywir i sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Caiff y Gymraeg ei hystyried o’r cychwyn wrth greu unrhyw hunaniaeth ar gyfer ymgyrchoedd neu raglenni Llywodraeth Cymru ee enwau ac is-benawdau. Gall y rhain fod yn Gymraeg yn unig neu’n ddwyieithog.

Rhaid i sloganau weithio cystal yn y ddwy iaith. Rhaid rhoi ystyriaeth lawn i idiom y ddwy iaith.

Mae’r uchod yn berthnasol hefyd i waith a gyflenwir gan drydydd parti ar ran Llywodraeth Cymru.

Arwyddion

Mae hyn yn berthnasol i arwyddion mewnol ac allanol gan gynnwys placiau a hysbysfyrddau sy’n hyrwyddo unrhyw raglen neu gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Bydd arwyddion (newydd, yn disodli hen rai neu dros dro) yn arddangos y testun yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bydd y testun Cymrage yn gywir o ran ystyr a mynegiant.

Yr arfer gorau yw rhoi’r testun dwyieithog ar yr un arwydd. Pan fo’r Gymraeg a’r Saesneg ar arwyddion ar wahân, rhaid iddynt gael eu gosod mewn lle sydd yr un mor amlwg a gweladwy a’i gilydd. Gosodir y Gymraeg fel bod modd ei darllen yn gyntaf bob amser.

Cefndiroedd ac arddangosfeydd

Bydd unrhyw gefndir neu arddangosfa gan Lywodraeth Cymru yn y Gymraeg a’r Saesneg. Pan fo testunau Cymraeg a Saesneg yn ymddangos ar yr un cefndir gosodir y Gymraeg fel ei bod yr un mor hawdd ei darllen â’r Saesneg ac ni ddylai’r ffordd mae’r ystafell wedi’i gosod guddio’r testun o gwbl.

Gohebiaeth a anfonir at lawer o bobl ee llythyr, cylchlythyr, ebost

Anfonir y fersiwn Gymraeg ar yr un pryd â’r Saesneg ac fe’i cyflwynir yn yr un ffordd. Ee os yw fersiwn Saesneg y llythyr wedi’i llofnodi neu’n rhoi manylion cyswllt, dylai’r fersiwn Gymraeg fod yr un fath.

Bydd gohebiaeth sy’n gofyn am ragor o ohebu neu am ymateb yn datgan y croesewir gohebiaeth yn y Gymraeg, y ceir ymateb Cymraeg ac na fydd hyn yn arwain at oedi.

Trwy e-bost

Bydd testun ebost yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg i gael ei darllen yn gyntaf. Yr arfer gorau yw gosod y testun ochr yn ochr gyda’r Gymraeg ar y chwith a’r Saesneg ar y dde.

Bydd llinell pwnc yn  ddwyieithog, gyda’r Gymraeg gyntaf. Cofiwch fod yn gryno fel bod modd gweld y teitl cyfan yn y ddwy iaith ar unwaith.

Mewn ebost html lleolir y Gymraeg fel bod modd ei darllen yn gyntaf.

Bydd gan atodiadau deitl yn yr iaith berthnasol, a theitl dwyieithog i atodiadau dwyieithog.

Neges testun SMS

Bydd negeseuon SMS yn cael eu hanfon yn Gymraeg a Saesneg gyda’r neges Gymraeg yn ymddangos gyntaf.

Bydd negeseuon ffôn awtomatig yn cael eu clywed yn Gymraeg a Saesneg, gyda’r Gymraeg gyntaf.

Trwy’r post

Defnyddir y fformat mwyaf addas ar gyfer gohebiaeth wedi’i hargraffu. Ee bydd taflenni a ddosberthir i gartrefi yn defnyddio’r diwyg wyneb i waered; bydd llythyr yn argraffu’r testun Cymraeg a Saesneg gefn wrth gefn.

Os defnyddir cyfeiriad post argymhellir argraffu’r cyfeiriad ar yr amlen yn hytrach na defnyddio amlen gyda ffenestr. Ni ddylid rhoi’r cyfeiriad ar y llythyr ei hun, yn hytrach rhoddir “At ddeiliad y cartref” a “To the Household”.

Dylid nodi’r enwau llefydd yn Gymraeg neu'n ddwyieithog mewn cyfeiriadau post. Nid yw cyfeiriadau Saesneg yn unig yn dderbyniol, oni bai bod y llefydd yn Lloegr.

Bydd y llythyr Cymraeg yn wynebu at allan mewn unrhyw ohebiaeth trwy’r post.

Os na ddefnyddir cyfeiriad (gollwng trwy’r drws), bydd yr amlen yn cael ei chyfeirion ddwyieithog ‘At ddeiliad y cartref/To the household’. Os defnyddir amlen â ffenestr bydd ‘At ddeiliad y cartref/To the household’ ar y ddau llythyr.

Pan fo ymgynghori wedi bod â grŵp penodol ynghylch ei ddewis iaith ar gyfer cyfathrebu, yn yr iaith honno yn unig y bydd yr ohebiaeth.

Wrth lofnodi llythyrau, dylid rhoi teitlau swyddi llywodraeth Cymru yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg i’w darllen yn gyntaf.

Cyfathrebu gyda’r cyfryngau

Mae hwn yn berthnasol i’r ffordd y mae Swyddfa’r Wasg Llywodraeth Cymru’n cyfathrebu â’r cyfryngau

Bydd datganiadau i’r wasg yn cael eu cyhoeddi yn y ddwy iaith a ryr un pryd. Os anfonir nhw trwy ebost, dylid eu gosod fel bod y Gymraeg i’w darllen yn gyntaf.

Bydd datganiadau i’r wasg yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ar yr un pryd â’i gilydd yn y ddwy iaith.

Gellir cyhoeddi datganiad i’r wasg yn Saesneg yn unig gyda’r Gymraeg i ddilyn cyn gynted ag y bo modd wedyn) os penderfynir bod risg uniongyrchol ac arwyddocaol i iechyd y cyhoedd neu i les dinasyddion, neu effaith ariannol bosibl, ee i brisiau cyfranddaliadau. Dylid cael caniatâd Gweinidogion cyn cyfathrebu mewn un iaith yn unig ond, mewn amgylchiadau eithriadol pan nad yw  hynny’n bosibl, gall y Pennaeth Newyddion awdurdodi hyn, gan sicrhau bod  y deunyddiau dwyieithog yn cael ei gyhoeddi cyn gyntad ag y bo’n ymarferol bosibl wedi hynny.

Ysgrifennir llinellau ymateb yn iaith yr ymholiad. Paratoir llinell yn Gymraeg ar gais yn unig neu os yw’r cyfryngau Cymraeg yn debygol o ddangos diddordeb.

Bydd unrhyw un sy’n cysylltu â Swyddfa’r Wasg ac yn dymuno gohebu yn Gymraeg yn cael ateb yn Gymraeg. Pan fo angen, caiff galwad ei throsglwyddo i gydweithiwr sy’n siarad Cymraeg. Tu allan i oriau gwaith, bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i drosglwyddo’r alwad i Swyddog sy’n siarad Cymraeg os nad yw’r swyddog ar ddyletswydd yn medru’r iaith.

Wrth ddarlledu’n fyw o Gynadleddau i’r Wasg Llywodraeth Cymru, caiff newyddiadurwyr ofyn cwestiynau yn eu dewis iaith. Pan atebir yn Gymraeg dilynir yr ateb hwnnw gan ateb yn Saesneg hefyd. Cyflwynir sleidiau gwybodaeth yn y ddwy iaith yn ystod y Cynadleddau i’r Wasg ac fe’y cyhoeddir ar-lein yn ddwyieithog ar yr un pryd.

Pan ddefnyddir dehongli Iaith Arwyddion Prydain (BSL), bydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Bydd neges peiriant ateb tu allan i oriau gwaith yn Gymraeg a Saesneg, gyda’r Gymraeg i’w chlywed gyntaf.

Bydd gohebiaeth gyffredinol â’r cyfryngau, ee Nodiadau Gweithredol neu Nodiadau Dyddiadur, yn ddwyieithog.

Pan nad yw Gweinidog yn medru’r Gymraeg, ni ddisgwylir fel rheol i gyfweliadau ddigwydd trwy gyfrwng y Gymraeg, oni bai bod cais penodol wedi’i wneud a bod y Gweinidog wedi cytuno i unigolyn arall gael ei gyfweld.

Colofnau ac erthyglau papur newydd

Os bydd copi yn cael ei ysgrifennu gan Weinidogion neu staff uwch Llywodraeth Cymru i’w ddarparu yn ddi-dâl drwy Swyddfa’r Wasg i bapurau newydd i hyrwyddo polisïau’r Llywodraeth, darperir y copi hwnnw yn iaith y cyhoeddiad perthnasol.

Bydd pob atodiad neu erthygl hysbysebu y telir amdanynt yn dilyn y canllawiau ar gyfer hysbysebu mewn papurau newydd.

Llinellau cymorth neu ganolfannau galwadau

Bydd Llinellau Cymorth/Canolfannau Galwadau’n darparu gwasanaeth Cymraeg o’r un safon â’r gwasanaeth Saesneg.

Defnyddir yr un rhif ffôn ar gyfer y gwasanaeth yn y ddwy iaith.

Wrth hysbysebu’r gwasanaeth bydd y rhif ffôn yn datgan (yn Gymraeg) bod galwadau yn Gymrage yn cael eu croesawu.

Rhaid i ddangosyddion perfformiad ar gyfer delio â galwadau beidio â thrin galwadau Cymraeg yn llai ffafriol na galwadau Saesneg.

Ymchwil

Comisiynir ymchwil a grwpiau ffocws ar sail Cymru-gyfan i gynorthwyo a llywio ein gwaith marchnata a chyfathrebu. Dylid cynnal cymhareb o 8:2 Saesneg:Cymraeg.

Pan fo’r pwnc ymchwil neu ddemograffeg y grŵp targed yn awgrymu, hynny, gellid cynyddu nifer y grwpiau ffocws Cymraeg.

Graniau nawdd a chontractau

Bydd pawb sydd dan gontract i ddarparu gwasanaeth ar ran Llywodraeth Cymru’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg.

Byddai’n ddoeth bob amser i’r sefydliadau hyn sy’n cael grantiau neu nawdd gan Lywodraeth Cymru geisio cyngor ynghylch cyflenwi gwaith cyfathrebu’n ddwyieithog ac yn unol â’r Safonau.

Mewn argyfwng

Yn ystod 24 awr gyntaf argyfwng iechyd cyhoeddus neu argyfwng diogelwch annisgwyl, gwneir pob ymdrech i sicrhau bod deunyddiau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Fodd bynnag, cyflymder rhyddhau’r wybodaeth a chywirdeb yr wybodaeth, er diogelwch a lles y cyhoedd, fydd yr ystyriaeth bwysicaf oll.