Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i helpu sicrhau bod cynnyrch LLYW.CYMRU yn cael eu dylunio'n gyson.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Dylai fod cynnyrch LLYW.CYMRU fod wedi eu dylunio'n dda o'r cychwyn.

Mae'n hanfodol bod pob rhan o LLYW.CYMRU yn cael eu dylunio i safonau uchel. Ni ddylai dylunio fod yn ôl-ystyriaeth.

Mae pobl yn arfer â dylunio da, ac maent yn gwybod pan fyddant yn gweld dylunio gwael. Pan fod rhywbeth wedi ei ddylunio'n wael, mae'n ei wneud yn anos i bobl gwblhau tasgau a deall gwybodaeth. Gallant wneud camgymeriadau, ac mae'n rhoi llai o hyder iddynt ar gyfer y tro nesaf. Mae hyn yn achosi mwy o waith ydyn nhw ac i'r llywodraeth.

Rydym wedi creu'r safonau dylunio hyn i'ch helpu chi i gaffael neu adeiladu cynnyrch digidol. Maent wedi eu creu i'ch helpu chi i ddeall beth sy'n rhaid i chi ei wneud a'r gefnogaeth sydd ar gael.

Cam 1: dewis y categori dylunio LLYW.CYMRU priodol

Mae cynnyrch LLYW.CYMRU yn dod o dan y categorïau cynnyrch LLYW.CYMRU hyn:

  • Craidd LLYW.CYMRU
  • Gwasanaethau LLYW.CYMRU
  • Teclynnau LLYW.CYMRU
  • Microwefannau LLYW.CYMRU
  • Ymgyrchoedd LLYW.CYMRU
  • Sefydliadau LLYW.CYMRU

Bydd Tîm Digidol Corfforaethol Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chi ac yn nodi pa un o'r rhain sy'n briodol.

Gall fod beth yr ydych yn ei adeiladu o fewn LLYW.CYMRU gael ei wneud dros sawl cynnyrch LLYW.CYMRU. Er enghraifft, efallai bod ymgyrch LLYW.CYMRU yn darparu dolenni i ganllawiau craidd LLYW.CYMRU.

Cam 2: recriwtio dylunwyr LLYW.CYMRU

Dylai eich tîm gynnwys dylunwyr i sicrhau eich bod yn creu cynnyrch LLYW.CYMRU sydd o safon uchel ac sy'n addas i'r defnyddiwr. Dylent fod yn eu lle o'r dechrau, iddynt ddeall anghenion defnyddwyr yn gynnar, a dechrau mapio syniadau i ddiwallu'r anghenion.

Yn ddibynnol ar beth yr ydych yn ei adeiladu efallai bydd angen tîm o ddylunwyr arnoch gyda gwahanol fathau o sgiliau.

Mae angen i'ch dylunwyr roi profiad dylunio LLYW.CYMRU effeithiol. Mae angen iddynt gael lefel uchel o sgil dylunio, disgyblaeth, y gallu i addasu ac empathi at ddefnyddwyr.

Cam 3: defnyddiwch system ddylunio LLYW.CYMRU

Dylid dylunio pob rhan o LLYW.CYMRU gyda system ddylunio LLYW.CYMRU. Ry'n ni'n ei alw'n Global Experience Language (GEL) LLYW.CYMRU.

Mae'n gasgliad mawr o batrymau dylunio cyson sy'n cael eu gwella'n barhaus.

Dylunio gyda phatrymau dylunio GEL LLYW.CYMRU

Mae patrymau dylunio GEL LLYW.CYMRU yn darparu datrysiadau swyddogol cyson i broblemau dylunio cyffredin.

Mae'n rhaid i chi eu defnyddio wrth i chi ddechrau creu cynnyrch LLYW.CYMRU.

Mae defnyddio patrwm dylunio GEL LLYW.CYMRU yn golygu eich bod yn:

  • osgoi dyblygu gwaith sydd eisoes wedi ei wneud
  • osgoi datrysiadau gwael sydd eisoes wedi eu gwrthod
  • adeiladu ar ymchwil a phrofiad timau ledled LLYW.CYMRU
  • gwneud eich cynnyrch LLYW.CYMRU yn rhan ddi-dor a chyson o LLYW.CYMRU

Asedau patrymau dylunio LLYW.CYMRU

Bydd y Tîm Digidol Corfforaethol yn rhoi'r asedau GEL LLYW.CYMRU i chi, i ddylunio ac adeiladu eich cynnyrch LLYW.CYMRU chi.

Addasu neu greu patrymau dylunio LLYW.CYMRU newydd

Mae patrymau dylunio GEL LLYW.CYMRU yn addas ar gyfer nifer o anghenion defnyddwyr. Os and eos dim o'r patrymau presennol yn bodloni anghenion eich defnyddwyr, efallai y gallwch estyn neu greu patrwm dylunio newydd.

Rhaid i'r Tîm Digidol Corfforaethol gymeradwyo unrhyw estyniad i batrwm neu ddyluniad patrwm newydd.

Cam 4: cael cymeradwyaeth dylunio LLYW.CYMRU

Mae angen i bob cynnyrch LLYW.CYMRU fodloni safonau dylunio uchel. Mae hyn yn golygu rhoi patrymau dylunio GEL LLYW.CYMRU ar waith. Dim ond os yw hi'n hanfodol y dylech estyn a chreu patrymau dylunio newydd.

Mae cynnyrch LLYW.CYMRU yn mynd trwy broses adolygu ac iteriadau gyda'r Tîm Digidol Corfforaethol. Mae hyn i wneud yn siŵr eu bod yn bodloni safonau dylunio. Proses sicrwydd ansawdd GEL LLYW.CYMRU yw'r broses yma.

Proses sicrwydd ansawdd GEL LLYW.CYMRU

Ar ôl derbyn asedau GEL LLYW.CYMRU, byddwch yn cychwyn ar y gwaith o ddylunio ac adeiladu eich cynnyrch LLYW.CYMRU.

Bydd angen i chi rannu eich gwaith gyda'r Tîm Digidol Corfforaethol ar wahanol gamau o ddatblygiad eich cynnyrch. Mae hyn yn cynnwys dyluniadau cychwynnol, prototeipiau a hyd at y cynnyrch terfynol. Byddwn yn eich cefnogi drwy adolygu eich gwaith a rhoi adroddiad sicrwydd ansawdd GEL LLYW.CYMRU i chi. Mae'r adroddiad yn dangos y newidiadau sydd angen i chi wneud i'ch cynnyrch. Mae hyn i wneud yn siŵr ein bod yn darparu LLYW.CYMRU cyson ac wedi optimeiddio.

Wedi i chi wneud y newidiadau, byddwn yn diweddaru'r adroddiad sicrwydd ansawdd. Byddwn yn parhau i weithio gyda chi hyd nes bod y cynnyrch yn cyrraedd safon ddylunio uchel ar gyfer lansio.

wedi i'r cynnyrch gael ei lansio, byddwn yn parhau i weithio gyda chi ar ddatblygiadau pellach. Byddwn yn parhau i'ch diweddaru ar unrhyw welliannau i GEL LLYW.CYMRU.