Rhaid i staff Llywodraeth Cymru ddilyn y polisi hwn wrth brynu unrhyw enw parth.
Cynnwys
Rhaid i'r gwaith o brynu'r holl barthau gael ei wneud gan y Tîm Digidol Corfforaethol (CDT).
Cysylltwch â ni pan fyddwch yn datblygu prosiect, gwasanaeth, ymgyrch neu sefydliad newydd. Yna, gallwn drafod enw parth addas.
Rhaid i wefannau a gwasanaethau sydd wedi'u hanelu at y cyhoedd ddilyn y broses gymeradwyo o ran cyfathrebu a marchnata. Byddwn ond yn prynu neu sefydlu parth ar gyfer gwasanaeth neu wefan allanol ar ôl i'r wefan neu'r gwasanaeth gael cymeradwyaeth.
Parthau ar gyfer gwefannau a ariennir gan Lywodraeth Cymru
Dylai pob gwefan a ariennir gan Lywodraeth Cymru ddefnyddio is-barth llyw.cymru a gov.wales. Rhaid i unrhyw eithriadau gael cymeradwyaeth y Cyfarwyddwr Cyfathrebu.
Os ydych am gael parth neu gyfeiriad e-bost llyw.cymru neu gov.wales, rhaid i chi wneud cais i Bwyllgor Enwi a Chymeradwyo Cymru.
Os bydd eich gwefan yn cael cymeradwyaeth i ddefnyddio parth nad yw'n llyw.cymru a gov.wales, bydd y Tîm Digidol Corfforaethol yn prynu enw parth ar eich rhan. Fel arfer, .cymru neu .wales fydd yr enw parth hwn. Os oes gan y wefan gynulleidfa fawr ar lefel fyd-eang, mae'n bosibl y bydd enw parth .com yn fwy addas.
Rhaid i bob enw parth:
- fod yn glir, yn ddiamwys, yn hawdd ei ddarllen ac yn hawdd ei rannu
- defnyddio geiriau mewn llythrennau bach
- peidio â chynnwys acronymau neu dalfyriadau
Bydd y Tîm Digidol Corfforaethol yn prynu eich enw(au) parth ac yn hawlio'r gost yn ôl gennych. Nodwch beth yw eich cyllideb a chodau eich canolfan gostau. Caiff nifer o enwau parthau eu hadnewyddu'n awtomatig a byddwn yn codi tâl am hyn i'r un cod. Bydd y Tîm Digidol Corfforaethol yn penderfynu ar y parthau nad oes eu hangen mwyach.
Fersiynau Cymraeg o wefannau
Rhaid i'r fersiwn Gymraeg gael ei barth ei hun, er enghraifft llyw.cymru. Nid yw is-ffolderi yn dderbyniol, er enghraifft myenglishdomain.com/cy.
Gwasanaethau
Prynu enw parth mewn modd amddiffynnol
Nid ydym yn argymell prynu enwau parthau dim ond fel nad yw eraill yn gallu eu defnyddio. Os yw gwefan neu wasanaeth yn risg uchel neu'n uchel ei broffil, dylech ystyried a yw'r risg yn cyfiawnhau'r gost o brynu'r enw parth perthnasol. Y Tîm Digidol Corfforaethol fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar a ddylid prynu parthau am y rheswm hwn ai peidio.
Perchnogaeth
Llywodraeth Cymru fydd yn berchen ar yr holl enwau parthau y byddwn yn eu prynu. Dim ond mewn achosion eithriadol y byddwn yn trosglwyddo perchnogaeth.
Os ydych chi neu eich cyflenwyr wedi prynu parthau ar gyfer gwefannau a ariennir gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn trosglwyddo'r berchnogaeth i'r Tîm Digidol Corfforaethol. Byddwn yn ceisio gwneud hyn cyn gynted â phosibl, a byddwn yn hawlio'r gost yn ôl gennych.
Adnewyddu a rhoi'r gorau i ddefnyddio enw parth
Bydd y Tîm Digidol Corfforaethol yn rheoli'r broses adnewyddu. Byddwn yn adnewyddu parthau nad ydynt yn rhai llyw.cymru neu gov.wales am ddwy flynedd ar ôl iddynt orffen gael eu defnyddio neu eu hyrwyddo. Ar ôl y ddwy flynedd, byddwn yn penderfynu a fyddwn yn rhyddhau neu'n adnewyddu'r parth.
Hyrwyddo enw parth
Gallwch hyrwyddo enw parth os ydych wedi:
- derbyn cadarnhad ysgrifenedig gan y Tîm Digidol Corfforaethol bod y broses brynu wedi'i chwblhau
- gwneud yn siŵr ei fod wedi'i osod yn gywir (er enghraifft, yn mynd i'r wefan gywir)
- sicrhau bod yr enwau parthau Cymraeg a Saesneg yn cael eu defnyddio mewn modd priodol
Os ydych yn defnyddio is-barth llyw.cymru neu gov.wales, byddwn yn gosod URL byr i chi ei hyrwyddo. Mae hyn yn golygu y bydd yr url y byddwch yn ei hyrwyddo yn edrych fel hyn gov.wales/workingwales (not workingwales.gov.wales).
Rhaid i chi beidio â:
- defnyddio parth llyw.cymru i ailgyfeirio i barth nad yw'n barth llyw.cymru
- defnyddio parth nad yw'n barth llyw.cymru i ailgyfeirio i barth llyw.cymru
- defnyddio blaenslaes ar ddiwedd eich url
Newidiadau i'r System Enwi Parthau
Os oes angen i chi newid enw eich parth chwiliwch am y ffurflen Newidiadau System Enwi Parthau ar ApTech. Dylech ganiatáu o leiaf 5 diwrnod gwaith i ni gwblhau eich cais.