1. Pethau sydd angen i chi wybod am yr ystadegau hyn

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl  y math o drafodiad. Mae'r rhestr lawn o gyfraddau treth a bandiau treth i’w gweld ar wefan yr Awdurdod.

Ni ellir cymharu ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn llawn ag ystadegau blaenorol Treth Dir y Dreth Stamp gan fod gwahanol gyfraddau a bandiau yn cael eu defnyddio yn y Dreth Trafodiadau Tir. Gall y rhyddhadau hefyd fod yn wahanol ar gyfer y ddwy dreth (er enghraifft, mae rhyddhad prynwyr tro cyntaf yn berthnasol i Dreth Dir y Dreth Stamp, ond nid i’r Dreth Trafodiadau Tir).

Hyd yma, rydym wedi cyhoeddi ystadegau Treth Trafodiadau Tir misol a chwarterol a'r datganiad hwn yw ein cyhoeddiad ystadegol blynyddol cyntaf. Yn ein datganiad chwarterol ar gyfer Ionawr i Fawrth 2019 (a gyhoeddwyd yn Ebrill 2019), gwnaethom gynnwys amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2018-19. Mae'r ystadegau hyn wedi'u diwygio yn y datganiad hwn ac erbyn hyn rydym yn disgwyl ein bod wedi derbyn bron pob trafodiad sy'n ymwneud â 2018-19. Fodd bynnag, mae’n bosibl bod yr ystadegau ar gyfer 2018-19 yn cael eu diwygio eto yn y dyfodol er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau i drafodiadau. Yn fwyaf arbennig, bydd hyn o ganlyniad i ad-daliadau cyfradd uwch (yn ymwneud â thrafodiadau a ddaeth i rym yn ystod 2018-19) yn parhau i gael eu gwneud am yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Wrth ddarllen y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y rhestr termau a’r wybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân. Mae’r termau perthnasol yn cael eu diffinio yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.

Oni nodir yn wahanol, mae'r holl ddata’n ymwneud â'r flwyddyn ariannol 2018-19 (Ebrill 2018 i Fawrth 2019). Lle cyflwynir data misol mewn siartiau, caiff ei chyflwyno hyd at fis Mai 2019 fel arfer. Y rheswm am hyn yw ein bod hefyd, ynghyd â'r datganiad blynyddol hwn a gyhoeddwyd ar 27 Mehefin 2019, yn cyhoeddi ein datganiad misol diweddaraf o ddata yn unig, sy'n cynnwys data hyd at fis Mai 2019.

Mae'r ystadegau hyn yn ymwneud â thrafodiadau a ddaeth i rym yn ystod 2018-19. Mae'n bosibl bod eiddo neu ddarn o dir wedi cael ei werthu fwy nag unwaith yn ystod 2018-19, ac os felly, byddai'n ymddangos nifer o weithiau yn yr ystadegau. Ein hamcangyfrif gorau yw bod rhwng 3.5% a 4% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn ystod 2018-19.

Defnyddir y symbolau canlynol yn y datganiad hwn:

r     Mae’r gwerth hwn wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn
p    Mae'r gwerth hwn yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol

2. Trafodiadau, treth oedd yn ddyledus a gwerth yr eiddo a drethwyd

Ffigur 2.1  Nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl dyddiad dod i rym [1]

Mae Ffigur 2.1 yn dangos nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn dod i rym. Mae Ffigur 2.1 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

  • Ar ddiwedd 17 Mehefin 2019, roedd 61,750 o drafodiadau hysbysadwy wedi’u cofnodi oedd â dyddiad dod i rym yn ystod 2018-19. Roedd 90% o'r trafodiadau’n rhai preswyl ac roedd 10% yn rhai amhreswyl.
     
  • Rydym yn disgwyl ein bod bellach wedi derbyn bron pob trafodiad sydd â dyddiad dod i rym yn ystod 2018-19, er ei bod yn dal yn bosibl diwygio trafodiadau sy’n bodoli’n barod (er enghraifft oherwydd ad-daliad o'r gyfradd breswyl uwch). Os bydd rhagor o drafodiadau’n ymwneud â 2018-19 yn cael eu derbyn neu eu diwygio yn y dyfodol, bydd datganiadau ystadegol y dyfodol yn cyflwyno data wedi’i diwygio.

Ffigur 2.2  Treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl dyddiad dod i rym [1]

Mae Ffigur 2.2 yn dangos y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn y daeth y trafodiadau i rym. Mae Ffigur 2.2 hefyd yn dangos dadansoddiad ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

  • Ar ddiwedd 17 Mehefin 2019, roedd £226.9 miliwn o dreth yn ddyledus ar gyfer trafodiadau oedd â dyddiad dod i rym yn ystod 2018-19. Mae'r gwerth hwn am 2018-19 wedi'i ddiwygio am i lawr fymryn ers ein cyhoeddiad blaenorol ym mis Mai 2019 (diweddariad data yn unig) pan oedd y ffigur yn £227.5 miliwn. Mae'r gostyngiad hwn oherwydd bod ad-daliadau wedi'u talu yn ystod y mis diwethaf (ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch a ddaeth i rym yn ystod 2018-19).
     
  • Roedd trafodiadau preswyl i gyfrif am ychydig dros ddwy ran o dair o gyfanswm y trethi a oedd yn ddyledus a thrafodiadau amhreswyl i gyfrif am ychydig yn llai na thraean o'r holl dreth a oedd yn ddyledus.

Ffigur 2.3  Gwerth a briodolir i eiddo sy’n agored i Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl dyddiad dod i rym [1]

Mae Ffigur 2.3 yn dangos gwerth yr eiddo oedd yn agored i’r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl y chwarter a’r flwyddyn yr oedd y trafodiadau mewn grym.

  • Gwerth yr eiddo a drethwyd yn 2018-19 oedd £12.4 biliwn, ac ar wahân i hynny, roedd y gwerth rhent ar gyfer lesoedd amhreswyl oedd newydd eu rhoi yn £693 miliwn.

Ffigur 2.4  Nifer y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym

Mae Ffigur 2.4 yn dangos niferoedd misol y trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2018 a Mai 2019, ar gyfer trafodiadau preswyl a amhreswyl.

  • Mae nifer y trafodiadau yn ôl y mis y daeth y trafodiadau hynny i rym wedi amrywio'n fawr ers mis Ebrill 2018. Gwelwyd niferoedd uwch yn gyffredinol yn ail hanner 2018, gan gyrraedd uchafbwynt ym mis Tachwedd 2018. Roedd hyn yn rhannol oherwydd bod pum dydd Gwener ym mis Tachwedd 2018 (Mae Ffigur 10.8 yn adran 10 o'r datganiad hwn yn dangos bod gan bron i hanner y trafodiadau ddyddiad dod i rym sy'n ddydd Gwener).
     
  • Ym mis Mawrth 2019, cafwyd cynnydd ers y mis blaenorol mewn trafodiadau amhreswyl. Mae hyn i’w ddisgwyl, gan ei bod yn gyffredin i lesoedd amhreswyl gael eu hadnewyddu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Ffigur 2.5  Treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd, yn ôl mis dod i rym

Mae Ffigur 2.5 yn dangos swm misol y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd rhwng Ebrill 2018 a Mai 2019, ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

  • Fel y gellir disgwyl, mae tueddiadau tebyg i’w gweld yn y dreth oedd yn ddyledus yn fisol ag y gwelir yn nifer misol y trafodiadau.
     
  • Fodd bynnag, mae'r gymhariaeth hon yn fwy anwadal wrth ystyried trafodiadau amhreswyl yn unig.
     
  • Mae'r dreth oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau amhreswyl hefyd yn gyfran fwy o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus nag ydyw o ran nifer y trafodiadau. Mae'r un peth yn wir am y refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Ffigur 2.6  Trafodiadau yn ôl y math o drafodiad

Mae Ffigur 2.6 yn dangos canran y trafodiadau oedd yn ymwneud â thrawsgludo / trosglwyddo perchenogaeth, rhoi lesoedd newydd neu aseinio lesoedd. Rhoddir canrannau ar wahân ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl.

  • Roedd prisiad yr eiddo a oedd yn gysylltiedig â'r trawsgludiadau hynny a throsglwyddiadau perchenogaeth yn ystod 2018-19 yn £11.6 biliwn (ni ddangosir hyn yn Ffigur 2.6).
     
  • Roedd trawsgludo neu drosglwyddo perchenogaeth i gyfrif am y rhan fwyaf o’r trafodiadau hysbysadwy a gofnodwyd yn 2018-19. 94% oedd y ffigur hwn ar gyfer trafodiadau preswyl a 67% ar gyfer trafodiadau amhreswyl.
     
  • Rhoddwyd les newydd mewn 29% o drafodiadau amhreswyl (o’i gymharu â 2% o drafodiadau preswyl).

3. Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth

Ffigur 3.1  Nifer y trafodiadau preswyl a’r dreth sy'n ddyledus ar yr eiddo hwnnw, yn ôl band treth preswyl

Mae Ffigur 3.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl a faint o dreth oedd yn ddyledus, yn ôl band treth preswyl. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau neu'r dreth oedd yn ddyledus ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym ym mis Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

  • Roedd bron i ddwy ran o dair o'r trafodiadau preswyl o fewn y band treth cyntaf (pris prynu £180,000 neu is). Er bod y prif gyfradd dreth ar drafodiadau preswyl hyd at £180,000 yn 0%, roedd y trafodiadau hyn yn dal i fod i gyfrif am bron i bumed ran o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus, sydd i gyd yn ymwneud ag elfen cyfraddau uwch preswyl y dreth.
     
  • Gan gyfuno'r pedwerydd, pumed a'r chweched band (pris prynu o fwy na £400,000), roedd y rhain i gyfrif am 4% yn unig o'r trafodiadau. Fodd bynnag, roedd y dreth a oedd yn ddyledus am y trafodiadau hyn i gyfrif am bron i draean o gyfanswm y dreth breswyl a oedd yn ddyledus.

4. Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth

Ffigur 4.1  Nifer y trafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth

Mae Ffigur 4.1 yn dangos nifer y trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym ym mis Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

Ffigur 4.2  Treth sy'n ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth

Mae Ffigur 4.2 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth yr eiddo. Cyflwynir y data fel canran y trafodiadau ac mae'n ymwneud â thrafodiadau oedd mewn grym ym mis Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

  • Roedd 6,090 o drafodiadau amhreswyl hysbysadwy a gofnodwyd, mewn grym yn 2018-19, gyda threth o £72.5 miliwn yn ddyledus.
     
  • Mae Ffigur 4.1, yn dangos er mai dim ond 6% o'r trafodiadau hyn oedd â gwerth nad oedd yn werth rhent o fwy na £1 miliwn, roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am ychydig dros ddwy ran o dair o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus (Ffigur 4.2).
     
  • Mae Ffigur 4.1 hefyd yn dangos, yn achos ychydig dros un rhan o bump o drafodiadau amhreswyl, fod gwerth rhent yn gysylltiedig â'r eiddo (a gyfrannodd at y dreth a dalwyd ar y trafodiad).
     
  • Roedd gwerth rhent eiddo amhreswyl i gyfrif am 14% o gyfanswm y dreth amhreswyl oedd yn ddyledus (Ffigur 4.2).

5. Rhyddhadau

Gellir hawlio rhyddhad ar eiddo preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi sawl rhyddhad ar un trafodiad a gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus i sero (a elwir yn rhyddhad llawn) neu o ganran neu swm penodol (a elwir yn rhyddhad rhannol).

Figure 5.1 Nifer y trafodiadau a ryddhawyd, yn ôl y math o ryddhad [1]

Mae Ffigur 5.1 yn dangos nifer y rhyddhadau a roddwyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl ym mis Ebrill 2018 i Fawrth 2019, yn ôl y math o ryddhad. Dangosir ffigur ar wahân ar gyfer nifer y rhyddhadau lle na chafodd y rhyddhad effaith ar y dreth a oedd yn ddyledus.

  • Mae Ffigur 5.1 yn dangos bod 1,130 o drafodiadau nad oeddent yn drafodiadau cysylltiol yn 2018-19 a gafodd ryddhad arnynt, gan leihau'r dreth gysylltiedig a oedd yn ddyledus. Y rhyddhad mwyaf cyffredin a ddefnyddiwyd oedd rhyddhad i elusennau, a roddwyd ar 300 o drafodiadau.
     
  • Mae Ffigur 5.1 hefyd yn dangos bod 440 rhyddhad wedi’u hawlio yn 2018-19 na chafodd unrhyw effaith ar y dreth a oedd yn ddyledus (dangosir y rhain ar wahân). Mae llawer ohonynt wedi cael eu hadrodd yn ddiangen gan y sefydliadau sy'n llenwi'r ffurflen dreth. Er enghraifft, mae rhai o'r rhain yn berthnasol i drafodiadau preswyl gwerth isel. Mae'r arwyddion yn awgrymu bod hyn o ganlyniad i gred anghywir bod angen hawlio rhyddhad prynwr am y tro cyntaf (sy'n berthnasol i'r dreth flaenorol, ond nid i'r Dreth Trafodiadau Tir). Gwyddwn hyn o ganlyniad i holi sawl asiant pam bod gostyngiadau treth wedi cael eu hawlio lle nad oes effaith ar werth y dreth. Mae rhagor o wybodaeth am y categori hwn o ryddhad i'w chael yn Enghraifft 4 yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd.
     
  • Mae'r enghraifft hon hefyd yn disgrifio rhai addasiadau a wnaed er mwyn nodi’n fwy cywir werth y dreth a ryddhawyd sy'n gysylltiedig â'r trafodiadau hyn. Disgwylir mwy o addasiadau yn y dyfodol; ac felly rydym yn disgwyl diwygio'r eitem olaf hon yn Ffigur 5.1 yn y dyfodol.

Ffigur 5.2  Treth a ryddhawyd, yn ôl y math o ryddhad [1]

Mae Ffigur 5.2 yn dangos swm y dreth a ryddhawyd ar drafodiadau preswyl ac amhreswyl a oedd mewn grym ym mis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019, yn ôl y math o ryddhad.

  • Y math o ryddhad a gafodd yr effaith fwyaf ar y dreth a oedd yn ddyledus yn 2018-19 oedd rhyddhad grŵp, mewn trafodiadau amhreswyl yn bennaf. Roedd y rhyddhad hwn i gyfrif bron dau rhan o dri o gyfanswm y dreth a gafodd ei rhyddhau ar gyfer trafodiadau nad oeddent yn drafodiadau cysylltiol. Roedd cyfanswm gwerth y rhyddhad a hawliwyd am drafodiadau nad oeddent yn drafodiadau cysylltiol yn 2018-19 yn £51.0 miliwn.

6. Ad-daliadau cyfradd uwch

Ffigur 6.1  Nifer a gwerth yr ad-daliadau cyfradd uwch preswyl a roddwyd, yn ôl dyddiad dod i rym [1]

Mae Ffigur 6.1 yn dangos nifer a gwerth yr ad-daliadau treth cyfradd uwch preswyl a roddwyd, yn ôl chwarter a blwyddyn yr oedd y trafodiad gwreiddiol mewn grym.

Pan fydd ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Mae'r data yn y datganiad hwn wedi cael ei addasu ar gyfer unrhyw ad-daliadau a gymeradwywyd gan yr Awdurdod hyd at a chan gynnwys 17 Mehefin 2019.

Mae Ffigur 6.1 yn dangos bod 880 o ad-daliadau cyfradd uwch wedi’u hawlio ar gyfer trafodiadau gyda dyddiad dod i rym yn ystod 2018-19, gyda £6.7 miliwn wedi'i ad-dalu i drethdalwyr.

Gan fod hyd at dair blynedd i drethdalwyr werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad, bydd y data hwn ar gyfer 2018-19 yn parhau i gael ei ddiwygio ar i fyny mewn rhifynnau o'n hystadegau yn y dyfodol (gyda gostyngiad felly yng nghyfanswm y dreth a ddangosir mewn tablau eraill).

Mae nifer a gwerth yr ad-daliadau a gyflwynwyd ar gyfer Ionawr i Fawrth 2019 yn is nag ar gyfer cyfnodau cynharach. Mae hyn oherwydd, o gymharu â chyfnodau cynharach, nad oes digon o amser wedi mynd heibio ers i’r trafodiad ddod i rym i lawer o'r trethdalwyr perthnasol werthu eu prif breswylfa flaenorol a hawlio eu had-daliad.

Ceir rhagor o wybodaeth am yr ad-daliadau a wnaed i drethdalwyr, yn ôl y mis y'u gwnaed, yn Nhabl 6A o'n hystadegau misol a chwarterol. Caiff y rhain eu darparu, yn bennaf, er mwyn cefnogi gofynion rhagfynegi.

Mae Ffigur 6.2 isod yn dangos ffordd ddefnyddiol arall o gyflwyno data ar ad-daliadau cyfraddau uwch, gan ddefnyddio'r dyddiad pan gymeradwywyd yr ad-daliad gan yr Awdurdod.

Ffigur 6.2  Ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl a gyhoeddwyd, yn ôl chwarter y cymeradwywyd yr ad-daliad

Mae Ffigur 6.2 yn dangos nifer a gwerth yr ad-daliadau cyfraddau uwch preswyl a roddwyd, yn ôl y chwarter y cymeradwywyd yr ad-daliad gan yr Awdurdod.

Cynyddodd nifer yr ad-daliadau a gymeradwywyd (a gwerth yr ad-daliadau hynny) yn ystod pob chwarter yn 2018-19, gan adlewyrchu’r disgwyliad bod digon o amser wedi mynd heibio er mwyn i hawliadau gael eu gwneud. Bu gostyngiad yn y data ar gyfer chwarter 1 2019-20, ond dylid nodi mai dim ond ad-daliadau a gymeradwywyd hyd at 17 Mehefin 2019 sydd wedi'u cynnwys yn Ffigur 6.2 (hynny yw, nad yw'r data ar gyfer chwarter 1 2019-20 yn gyflawn eto).

Ar gyfer pob trafodiad cyfraddau uwch, mae’r Awdurdod yn gofyn y cwestiwn a yw'r trethdalwr yn bwriadu adhawlio'r elfen cyfraddau uwch yn y dyfodol. Er y bydd yn cymryd sawl blwyddyn cyn y byddwn yn gwybod pa mor debygol ydyw y bydd rhywun yn hawlio ar sail ei fwriadau datganedig (gall gymryd hyd at dair blynedd i wneud yr hawliad), rydym yn gwybod ar hyn o bryd bod tua 70% o'r rhai sy'n hawlio yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol.

7. Treth a dalwyd

Mae Ffigur 7.1  Treth Trafodiadau Tir a dalwyd i’r Awdurdod

Mae Ffigur 7.1 yn dangos symiau misol o Dreth Trafodiadau Tir a dalwyd i’r Awdurdod, ar gyfer Ebrill 2018 i Fai 2019.

  • Yn 2018-19, derbyniodd yr Awdurdod £220.2 miliwn mewn taliadau Treth Trafodiadau Tir. Mae'r ffigurau hyn yn llai na'r rhai a nodwyd yn Ffigur 2.2 gan eu bod yn ymwneud â'r taliadau a dderbyniwyd mewn gwirionedd bob mis (cyfeirir at hyn yn aml fel 'ar sail arian parod'), yn hytrach na'r symiau oedd yn ddyledus ar drafodiadau a oedd mewn grym yn ystod y mis.
     
  • Yn fwyaf arbennig, mae gwahaniaeth ym mis Ebrill 2018, gan mai dim ond yn ystod y mis hwnnw y dechreuodd yr Awdurdod gasglu'r dreth. Felly, nid oedd unrhyw daliadau yn ymwneud â thrafodiadau a oedd mewn grym yn ystod misoedd blaenorol yn berthnasol.
     
  • Ar ôl Ebrill 2018, cynyddodd y derbyniadau yn gyffredinol hyd Awst 2018, a dilynwyd hynny gan gyfnod o sefydlogrwydd cymharol tan Chwefror 2019 a welodd y ffigur isaf ers mis Ebrill 2018. Mae ffigurau wedi bod ychydig yn uwch ers hynny.

Cyfrifon yr Awdurdod 

Gall trafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir gael eu diwygio am amryw o resymau, er enghraifft yn dilyn adolygiad i'w cywirdeb, neu roi ad-daliadau cyfraddau uwch. Gan fod y data yn y datganiad hwn yn seiliedig i raddau helaeth ar y dyddiad y daeth y trafodiadau i rym, a gan nad yw'r dyddiad dod i rym wedi newid fel arfer oherwydd y diwygiadau hyn, yna gall llawer o'r data a gyhoeddir yma newid o hyd.

Er y dylai bron pob trafodiad sy’n ymwneud â 2018-19 fod wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn (oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers diwedd y flwyddyn), ni fydd y data ar gyfer 2018-19 wedi’i gwblhau'n llawn hyd nes bod y cyfnod ar gyfer adolygu wedi dod i ben. Yn achos ad-daliadau cyfradd uwch, gall hyn fod gyhyd â thair blynedd ar ôl y trafodiad gwreiddiol, gyda ffenestr hirach o bosibl ar gael ar gyfer rhai trafodiadau eraill, megis y rhai y mae’r Awdurdod yn dewis agor ymchwiliad iddynt.

At ddibenion cyfrifo a rhagfynegi, mae angen creu ffigur terfynol ar lefel Cymru ar gyfer cyfanswm y dreth sy'n ddyledus am 2018-19.  Er bod gwerth yr arian a dderbyniwyd yn Ffigur 7.1 yn cael ei bennu cyn gynted ag y daw pob cyfnod i ben, mae hyn yn rhy syml ar gyfer y diben hwn.

Yn hytrach, diffinnir y ffigur cyfrifyddu terfynol hwn drwy gynnwys trafodiadau (neu unrhyw ddiwygiadau i drafodiadau) a dderbyniwyd hyd at 30 Ebrill 2019 oedd â dyddiad dod i rym yn ystod 2018-19. Nid yw unrhyw drafodiadau a dderbyniwyd (neu ddiwygiadau a wnaed) ers 30 Ebrill 2019, neu sydd eto i'w derbyn, wedi'u cynnwys. Mae'r ffigur hwn ar ffurf drafft ar hyn o bryd ac mae'n £227.8 miliwn, gyda £155.4 miliwn o drafodiadau preswyl a £72.4 miliwn o drafodiadau amhreswyl. Bydd yn cael ei gyhoeddi'n ffurfiol pan fydd cyfrifon yr Awdurdod ar gyfer 2018-19 yn cael eu rhoi gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Gorffennaf 2019.

Noder y caiff unrhyw newidiadau i'r ffigur hwn eu hadlewyrchu yma pan gaiff y cyfrifon eu rhoi yn ffurfiol ac yn y dyfodol bydd y ffigur yn rhan o dabl sy'n cynnwys data ar gyfer pob un o'r blynyddoedd o 2018-19 ymlaen.

8. Dadansoddiad o fewn Cymru

Am y tro cyntaf, mae'r datganiad hwn yn cyflwyno dadansoddiadau daearyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir (ar sail flynyddol yn unig). Nid ydym wedi darparu dadansoddiadau fesul mis na chwarter, gan na fyddai digon o drafodiadau yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ddarparu ystadegau dibynadwy.

Mae ym mha awdurdod lleol mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn gorfodol ar y ffurflen dreth. Mae cod post y lle mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn dewisol ar y ffurflen dreth. Rydym wedi cyfuno'r ddau ddarn yma o wybodaeth er mwyn cyfrifo ein hystadegau awdurdodau lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ac ansawdd y data ar gael yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd ar gyfer ystadegau Treth Trafodiadau Tir.

Cyflwynir data awdurdodau lleol ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl a threth sy'n ddyledus, tra bod data awdurdodau lleol ar werth eiddo sy'n cael ei drethu (a elwir yn gydnabyddiaeth) yn cael ei gyflwyno ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Mae hyn oherwydd bod rhai trafodiadau amhreswyl â chydnabyddiaeth arbennig o fawr a risg posibl o adnabod trethdalwr pe byddem yn cyhoeddi data blynyddol awdurdodau lleol ar y rhain. Yn y dyfodol, byddwn yn ymchwilio i ymarferoldeb cyfuno nifer o flynyddoedd o drafodiadau amhreswyl er mwyn caniatáu cyhoeddi data cydnabyddiaeth yn ddiogel.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau blynyddol ar gyfer etholaethau'r Cynulliad Cenedlaethol. Nid yw’r ystadegau hyn yn cael eu dadansoddi yn y datganiad hwn ond maent ar gael ar y gwefan StatsCymru. Cyhoeddir yr ystadegau hyn ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r etholaeth Cynulliad Cenedlaethol. Lle na chaiff y cod post ei nodi, mae gogwydd amlwg tuag at drafodiadau amhreswyl mwy o faint, a chan na ellir eu dosbarthu i ardaloedd etholaethau’r Cynulliad Cenedlaethol, nid yw'r ystadegau canlyniadol yn ddibynadwy. Felly, nid yw'n briodol ar hyn o bryd cynhyrchu ystadegau ar drafodiadau amhreswyl ar gyfer etholaethau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Lle caiff cyfartaleddau Cymru eu cyflwyno yn yr adran hon, mae'r rhain yn gymedrau wedi’u pwysoli sy'n ystyried gwahanol niferoedd o drafodiadau ym mhob awdurdod lleol.

Mae ffigurau 8.1 i 8.4 yn rhoi cymarebau (er enghraifft, treth sy'n ddyledus fesul trafodiad neu drafodiadau cyfraddau uwch fel cyfran o'r holl drafodiadau). Mae angen y defnydd hwn o gymarebau er mwyn creu data y gellir ei gymharu ar draws yr holl awdurdodau lleol, gan y bydd y cysyniadau unigol yn aml yn amrywio'n fawr rhwng awdurdodau lleol oherwydd yr amrywiaeth o ran eu maint a'u poblogaeth. 

Er enghraifft, ystyriwch Ffigur 8.1. Ymhlith awdurdodau lleol Cymru, Caerdydd oedd â’r swm uchaf o dreth breswyl yn ddyledus a nifer uchaf y trafodiadau preswyl. Oherwydd eu maint, byddai hyn yn atal cymhariaeth ystyrlon ar draws awdurdodau lleol, ond wrth edrych ar dreth a oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl, awdurdod llawer llai (Sir Fynwy) oedd yn â’r swm uchaf, gyda'r swm cymaradwy yng Nghaerdydd y pedwerydd fwyaf. 

Ffigur 8.1 Treth sy'n ddyledus fesul trafodiad preswyl, yn ôl awdurdod lleol (£)

Mae Ffigur 8.1 yn dangos ar gyfer trafodiadau preswyl: swm y dreth oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru.

  • Mae Ffigur 8.1 yn dangos, ar gyfer trafodiadau preswyl, bod y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar ei huchaf yn Sir Fynwy (£6,640) a Bro Morgannwg (£5,090).
     
  • Roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad preswyl ar ei isaf ym Mlaenau Gwent (£810) a Merthyr Tudful (£940).

Ffigur 8.2  Treth sy'n ddyledus fesul trafodiad amhreswyl, yn ôl awdurdod lleol (£)

Mae Ffigur 8.2 yn dangos ar gyfer trafodiadau amhreswyl: swm y dreth oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru.

  • Mae Ffigur 8.2 yn dangos, ar gyfer trafodiadau amhreswyl, bod y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad ar ei huchaf yng Nghaerdydd (£31,570). 
     
  • Roedd y dreth gyfartalog a oedd yn ddyledus fesul trafodiad amhreswyl ar ei isaf ym Mlaenau Gwent (£4,230).
     
  • Yn yr un modd â thrafodiadau preswyl, roedd y dreth a oedd yn ddyledus ar gyfer trafodiadau unigol mewn awdurdod lleol yn amrywio'n fawr o amgylch y ffigur cyfartalog ar gyfer Cymru.
     
  • Er bod y patrymau a welir ar gyfer preswyl a amhreswyl yn eithaf tebyg, mae rhai gwahaniaethau clir yn nhrefn yr awdurdodau lleol rhwng y ddau siart.

Ffigur 8.3  Trafodiadau cyfradd uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl awdurdod lleol

Mae Ffigur 8.3 yn dangos trafodiadau cyfradd uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru.

Mae Ffigur 8.3 yn dangos yr amrywiaeth eang rhwng awdurdodau lleol o ran lefel y trafodiadau preswyl cyfradd uwch. Cyflwynir y data hwn fel canran o'r holl drafodiadau preswyl.

Mae'n bwysig nodi y gall cyfraddau uwch fod yn berthnasol i drafodiadau preswyl am amryw o resymau, gan gynnwys:  

  • pryniant eiddo prynu-i-osod
  • ail gartrefi neu gartrefi gwyliau;  
  • pontio rhwng dau eiddo; a  
  • phryniannau gan gwmnïau e.e. darparwyr tai cymdeithasol    

Er na allwn bennu dylanwad rhai o'r categorïau hyn (am nad yw'r ffurflen Treth Trafodiadau Tir yn gofyn y cwestiwn), mae dadansoddiad yn Adran 9 y datganiad hwn (yn ôl amddifadedd) yn ein galluogi i ddod i gasgliad petrus bod eiddo prynu i osod yr un mor gyffredin o leiaf ag ail gartrefi neu dai gwyliau fel ffactor sy'n esbonio pam bod y cyfraddau treth uwch yn cael eu codi.

Hefyd, dylid nodi mai dim ond eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf sy’n cael ei gynnwys yn yr ystadegau Treth Trafodiadau Tir. Nid yw'r ystadegau hyn felly yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo sydd mewn awdurdodau lleol.

  • Roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn fwy cyffredin yn gyffredinol yn awdurdodau Gogledd a Gorllewin Cymru. Gwelwyd y canrannau uchaf yng Ngwynedd (37%), Ynys Môn (33%) ac Abertawe (28%).
     
  • Gwelwyd y canrannau isaf yn Nhorfaen (16%) a Sir y Fflint (18%).

Ffigur 8.4  Cyfartaledd gwerth eiddo fesul trafodiad preswyl, yn ôl awdurdod lleol (£)

Mae Ffigur 8.4 yn dangos gwerth cyfartalog eiddo fesul trafodiad preswyl, ar gyfer pob awdurdod lleol a chyfartaledd ar gyfer Cymru.

  • Ar gyfer trafodiadau preswyl, roedd y gwerthoedd eiddo cyfartalog (neu gydnabyddiaeth) uchaf, fesul trafodiad yn Sir Fynwy (£274,000) a Bro Morgannwg (£245,700), ac isaf ym Mlaenau Gwent (£102,200) a Merthyr Tudful (£109,000).

9. Dadansoddiad yn ôl ardal Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Rydym hefyd wedi gallu cynnwys dadansoddiad o'r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer ardaloedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC). Mae'r dadansoddiad hwn yn dangos lefel y trafodiadau a'r dreth sy'n ddyledus yn yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru.

Cyhoeddir yr ystadegau hyn ar gyfer ardaloedd MALlC ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig. Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r ardal MALlC. Lle na chaiff y cod post ei nodi, mae gogwydd amlwg tuag at drafodiadau amhreswyl mwy o faint, a chan na ellir eu dosbarthu i ardaloedd MALlC nid yw'r ystadegau canlyniadol yn ddibynadwy. Felly, nid yw'n briodol ar hyn o bryd cynhyrchu ystadegau ar drafodiadau amhreswyl ar gyfer ardaloedd MALlC.

Beth yw MALlC a sut yr ydym yn ei ddefnyddio?

Mae MALlC wedi'i gynllunio er mwyn nodi’r ardaloedd bychain hynny o Gymru sydd fwyaf difreintiedig. Ar hyn o bryd mae MALlC yn cynnwys wyth gwahanol faes (neu fath) o amddifadedd. Mae pob maes wedi'i lunio o ystod o wahanol ddangosyddion. Yr wyth maes yw incwm, cyflogaeth, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, diogelwch cymunedol, yr amgylchedd ffisegol a thai. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen we MALlC.

Pan fo wedi’i gofnodi, rydym wedi cysylltu'r cod post o’r ffurflen dreth i tua 1,900 o ardaloedd bychain yng Nghymru. Caiff yr ardaloedd bychain hyn eu rhestru gan MALlC o'r mwyaf i'r lleiaf difreintiedig. Mae'r ardaloedd hyn wedi'u rhannu'n ddeg band cyfartal eu maint o'r mwyaf i’r lleiaf difreintiedig (a elwir yn 'ddegfedau').

Diweddarwyd safleoedd MALlC ddiwethaf yn 2014. Mae pob diweddariad o safleoedd MALlC wedi'i gynllunio i bara am oddeutu tair i chwe blynedd. Mae'r diweddariad nesaf o safleoedd MALlC wedi'i gyhoeddi ar gyfer Tachwedd 2019.

Lle caiff cyfartaleddau eu cyflwyno yn yr adran hon, mae hwn yn gymedr wedi’i bwysoli sy'n ystyried gwahanol niferoedd y trafodiadau ym mhob degfed MALlC.

Mae'n bwysig nodi mai mesuriad ar sail ardal yw MALlC. Yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, nid yw pawb sy'n byw yn yr ardaloedd hynny yn ddifreintiedig. Yn yr un modd, gall rhai o'r boblogaeth sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig fod yn ddifreintiedig.

Mae’n bwysig nodi bod MALlC yn canolbwyntio ar amddifadedd cymharol yn unig, felly nid yr ardaloedd lleiaf difreintiedig fydd y rhai mwyaf cefnog o reidrwydd. Dylai cyfeiriad y symudiad a nodir yma gael ei ystyried fel y symudiad o’r mwyaf i’r lleiaf difreintiedig ac nid o’r difreintiedig i’r cefnog.

Yn ogystal, mae'r rhan fwyaf o'r amrywiad o ran amddifadedd i'w weld yn y degfedau mwyaf difreintiedig. Mae'r gwahaniaeth (mewn amddifadedd cymharol) rhwng y degfed mwyaf difreintiedig a'r ail fwyaf difreintiedig yn fwy nag ydyw ym mhen arall y dosbarthiad.

Ffigur 9.1  Nifer y Trafodiadau, yn ôl degfed MALlC

Mae Ffigur 9.1 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac ar y cyfraddau uwch, yn ôl degfedau MALlC, ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019. Cyflwynir gwerthoedd cyfartalog dros holl ddegfedau MALlC hefyd.

Ffigur 9.2  Treth sy’n ddyledus, yn ôl degfed MALlC (£)

Mae Ffigur 9.2 yn dangos swm y dreth oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl a’r refeniw ychwanegol o'r cyfraddau uwch, yn ôl degfedau MALlC, ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019. Cyflwynir gwerthoedd cyfartalog dros holl ddegfedau MALlC hefyd.

  • Gan fod pob un o'r degfedau hyn o faint tebyg o ran poblogaeth, gallwn ddadansoddi'r data heb eu graddio ar gyfer eu maint, fel yr oedd yn angenrheidiol ar gyfer awdurdodau lleol (gweler y blwch gwyrdd yn Adran 8 y datganiad hwn). Mae hyn yn ein galluogi i ystyried nifer y trafodiadau a'r dreth sy'n ddyledus ar wahân yn hytrach na'r gymhareb rhwng y ddwy eitem a ddadansoddwyd gennym ar gyfer awdurdodau lleol.
     
  • Mae Ffigur 9.2 yn dangos, fel y gellid disgwyl, bod cyfanswm y dreth breswyl sy'n ddyledus yn tyfu'n sylweddol ac yn eithaf unffurf drwy'r ystod o ardaloedd (o'r mwyaf difreintiedig i'r lleiaf difreintiedig). Mae hyn yn cynrychioli gwahaniaethau tebygol yng ngwerth eiddo yn yr ardaloedd hyn.
     
  • Fodd bynnag, mae Ffigur 9.1 hefyd yn dangos fod nifer y trafodiadau preswyl ar ei isaf yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, gan gyrraedd uchafbwynt tua chanol a thug at ran olaf y dosbarthiad, a gostwng ychydig ar gyfer y degfed lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn awgrymu bod amddifadedd nid yn cysylltu â’r prisiau ond hefyd i’r lefel y gweithgaredd yn y farchnad dai yng Nghymru.
     
  • Yn gyffredinol, mae'r refeniw ychwanegol o'r cyfraddau uwch hefyd yn tyfu o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig hyd at ddiwedd y dosbarthiad, cyn disgyn yn y ddau degfed lleiaf difreintiedig.

Ffigur 9.3  Trafodiadau cyfradd uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl degfed MALlC 

Mae Ffigur 9.3 yn dangos trafodiadau cyfradd uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl degfedau MALlC, ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019. Cyflwynir gwerthoedd cyfartalog dros holl ddegfedau MALlC hefyd.

  • Mae Ffigur 9.3 yn dangos canran y trafodiadau cyfraddau uwch o fewn cyfanswm y trafodiadau preswyl ar gyfer pob degfed MALlC. Yn gyffredinol, mae cyfran y trafodiadau preswyl sy'n cael eu trethu ar y cyfraddau uwch yn disgyn o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig i'r ardaloedd lleiaf difreintiedig (gyda rhai eithriadau).
     
  • Fel y nodwyd yn Adran 8 y datganiad hwn, mae amryw o resymau am godi’r cyfraddau treth uwch, dau o'r rhain yw pryniant eiddo prynu-i-osod a phrynu ail gartrefi neu dai gwyliau. Mae Ffigur 9.3, ynghyd â ffigur 9.1 (sy'n dangos mai ychydig iawn o wahaniaeth sydd yn nifer y trafodiadau cyfraddau uwch rhwng degfedau MALlC), yn gallu rhoi cipolwg ar y cydbwysedd rhwng y ddwy eitem hyn.
     
  • Gan dybio bod eiddo prynu-i-osod yn fwy tebygol o gael ei brynu mewn ardaloedd mwy difreintiedig, tra bod ail gartrefi neu dai gwyliau yn fwy tebygol o gael eu prynu ymhellach i fyny'r dosbarthiad, yna gellir dod i gasgliad petrus bod eiddo prynu-i-osod yr un mor gyffredin o leiaf ag ail gartrefi neu dai gwyliau fel ffactor sy'n esbonio pam bod y cyfraddau treth uwch yn cael eu codi. Mae'n bwysig, felly, peidio â thybio mai unrhyw ffactor unigol yw achos codi’r gyfradd uwch.

10. Data gweithredol

Dadansoddi perfformiad

Mae gan yr Awdurdod ddull cymysg o fesur ei berfformiad, gan gyfuno cyfres o ddangosyddion rhifiadol gyda naratif ar y dull gweithredu yr ydym yn ei ddefnyddio i reoli ein busnes o ddydd i ddydd. 

Gellir mesur rhai o'r mesurau perfformiad a nodir yng Nghynllun Corfforaethol 2019-2022 eisoes, a chyflwynir y rhain isod ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018-19. Mae’r mesurau yn y Cynllun Corfforaethol sy'n cyfateb i'r dadansoddiadau hyn wedi’u nodi islaw pob un.

Ffigur 10.1  Canran y taliadau a dderbyniwyd yn electronig, yn ôl y mis derbyn

Mae Ffigur 10.1 yn dangos y tueddiad misol yng nghanran y taliadau a dderbyniwyd yn electronig neu drwy siec am ffurflenni treth a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019.

Mae Ffigur 10.1 yn cyfateb i Fesur 1.2 yng Nghynllun Corfforaethol yr Awdurdod ac mae'n cynnwys yr holl daliadau a wnaed i’r Awdurdod. 

Dengys hyn bod gwelliant cyffredinol yn ystod y flwyddyn o ran cyfran y taliadau a dderbyniwyd yn electronig, sy’n cynnwys y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Ffigur 10.1).

Ffigur 10.2  Canran y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd o fewn 31 diwrnod, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Mae Ffigur 10.2 yn dangos y tueddiadau misol yng nghanran y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd o fewn 14 diwrnod a 31 diwrnod, ar gyfer trafodiadau oedd mewn grym rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019.

Mae Ffigur 10.2 yn cyfateb i Fesur 5.1 yng Nghynllun Corfforaethol yr Awdurdod ac mae'n ymwneud â'r Dreth Trafodiadau Tir yn unig. 

Mae'n dangos bod lefel yr amseroldeb o ran derbyn ffurflenni treth trafodiadau tir (h.y. y gyfran a dderbyniwyd o fewn mis i'r dyddiad y daeth y trafodiad i rym) wedi aros yn agos i 100% yn ystod y flwyddyn, gyda chynnydd yn y gyfran a dderbyniwyd o fewn 14 diwrnod wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi. Mae hyn yn debygol o fod yn gysylltiedig â newid yn CThEM lle mae bellach yn ofynnol cyflwyno ffurflenni Treth Dir y Dreth Stamp o fewn 14 diwrnod.

Ffigur 10.3  Canran y dyledion Treth Trafodiadau Tir a gasglwyd o fewn 30 diwrnod, yn ôl mis y daeth y trafodiad i rym

Mae Ffigur 10.3 yn dangos y tueddiad misol mewn dyledion Treth Trafodiadau Tir a gasglwyd o fewn 30 diwrnod, ar gyfer trafodiadau oedd mewn grym rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019.

Mae Ffigur 10.3 yn cyfateb i Fesur 5.2 yng Nghynllun Corfforaethol yr Awdurdod ac mae'n ymwneud â'r Dreth Trafodiadau Tir yn unig.

Mae'n dangos bod amseroldeb o ran casglu symiau'r Dreth Trafodiadau Tir sydd wedi mynd i ddyled yn y pen draw hefyd yn gwella, yn enwedig yn ystod deufis olaf y flwyddyn.

Ffigur 10.4  Canran y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd yn electronig neu ar bapur, yn ôl y mis derbyn

Mae Ffigur 10.4 yn dangos y tueddiad misol yn ffurflenni'r Dreth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd yn electronig neu ar bapur, ar gyfer ffurflenni a dderbyniwyd yn Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

Mae Ffigur 10.4 uchod yn cyfateb i Fesur 1.1 yng Nghynllun Corfforaethol yr Awdurdod ac mae'n ymwneud â’r Dreth Trafodiadau Tir yn unig. 

Mae'n dangos bod y gyfradd cyflwyno’n electronig ar gyfer ffurflenni treth wedi amrywio ychydig o gwmpas cyfartaledd o 97%. Roedd y cynnydd yn y mesur hwn ym mis Mawrth 2019 (a welir yn haws yn y ganran o ffurflenni treth a dderbyniwyd ar bapur) yn dilyn gostyngiad cynharach a arweiniodd at weithred gan dîm gwasanaeth cwsmeriaid yr Awdurdod. Noder bod ffurflenni’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi i gyd yn cael eu ffeilio'n electronig a heb eu cynnwys uchod gan nad oes dewis i gyflwyno ffurflen bapur.

Ffigur 10.5  Canran y trafodiadau sy'n mynd ymlaen yn awtomatig at derfyniad cychwynnol* heb unrhyw weithred gan yr Awdurdod, yn ôl dyddiad derbyn

Mae Ffigur 10.5 yn dangos y tueddiadau misol yng nghanran y trafodiadau sy'n mynd ymlaen yn awtomatig at derfyniad cychwynol heb unrhyw ymyriad gan yr Awdurdod, ar gyfer ffurflenni a dderbyniwyd rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019.

Mae Ffigur 10.5 yn cynnwys cyflwyniad a thaliad cychwynnol (os yn berthnasol) yn unig ac nid unrhyw weithred y gall yr Awdurdod ymgymryd â hi yn y dyfodol er mwyn rheoli risg treth. Mae'n cyfateb i fesur 6 yng Nghynllun Corfforaethol yr Awdurdod ac mae'n cynnwys pob trafodiad treth. 

Mae'n dangos bod prosesu awtomatig (h.y. ffurflenni a dderbyniwyd yn ddigidol a, lle bo'n berthnasol, wedi’u talu heb unrhyw ymyrraeth â llaw) wedi gwella dros y flwyddyn. Mae hyn yn ymwneud â’r Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Ffigur 10.6  Canran yr ad-daliadau Treth Trafodiadau Tir cyfradd uwch a wnaed o fewn 30 diwrnod i’w cymeradwyo, yn ôl dyddiad cymeradwyo

Mae Ffigur 10.6 yn dangos canran yr ad-daliadau Treth Trafodiadau Tir cyfradd uwch a dalwyd o fewn 30 diwrnod i’w cymeradwyo, a nifer y diwrnodau ar gyfartaledd a gymerwyd i’w talu ar ôl eu cymeradwyo. Dangosir y data yn ôl y mis pan gymeradwywyd yr ad-daliad Treth Trafodiadau Tir cyfradd uwch, ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

Mae Ffigur 10.6 yn cyfateb i fesur 5.3 yng Nghynllun Corfforaethol yr Awdurdod.

Mae'r amser prosesu (o'r gymeradwyaeth i'r taliad) ar gyfer ad-daliadau cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir wedi cwrdd â tharged yr Awdurdod o dalu o fewn 30 diwrnod ers haf 2018 (pan dderbyniwyd y ceisiadau arwyddocaol cyntaf). Mae nifer gyfartalog y diwrnodau ar gyfer prosesu wedi bod oddeutu pum diwrnod ar gyfer ail hanner y flwyddyn. 

Mae'r Awdurdod yn ymwybodol y bydd cyflawni’r targed hwn yn y dyfodol yn debygol o fod yn fwy heriol gan fod disgwyl i nifer yr ad-daliadau gynyddu, ac mae hefyd yn cydnabod y dylai'r mesur gynnwys rhywfaint o wybodaeth am yr amser a gymerir i gymeradwyo'r ad-daliad yn y lle cyntaf. Bydd hyn yn cael ei ychwanegu yn ystod y flwyddyn sydd i ddod a bydd yn cael ei gynnwys mewn datganiad ystadegol blynyddol yn y dyfodol

Dadansoddiad yn ôl dyddiad cyflwyno'r ffurflen dreth

Rydym yn ymwybodol bod rhai cyhoeddiadau ystadegol eraill yn y DU yn seilio eu dadansoddiad ar y dyddiad y cyflwynir y ffurflen dreth. Felly rydym wedi cynhyrchu rhai ffigurau y gellir eu cymharu â gwledydd eraill y DU (gan ddefnyddio dyddiad cyflwyno) ac rydym hefyd wedi cymharu'r rhain â'n hystadegau dyddiad dod i rym ni.

Ffigur 10.7  Trafodiadau yr hysbyswyd yr Awdurdod ohonynt yn ôl mis cyflwyno’r trafodiad, yn erbyn ei ddyddiad dod i rym

Mae Ffigur 10.7 yn dangos nifer misol y trafodiadau a ddaeth i rym ac a gyflwynwyd, o fis Ebrill 2018 i fis Mai 2019.

Yn 2018-19 (Ebrill 2018 i Fawrth 2019), roedd 61,750 o drafodiadau mewn grym, tra bod 60,460 ohonynt wedi'u cyflwyno i'r Awdurdod yn yr un cyfnod. Mae balans y trafodiadau hyn wedi'i gyflwyno ers 31 Mawrth.

Fel y gellid disgwyl, mae'r tueddiad misol yn eithaf tebyg ar y cyfan ar gyfer y ddwy gyfres. Gwelwyd y gwahaniaethau mwyaf rhwng y ddau rif yn y misoedd canlynol.

  • Yn Ebrill 2018, roedd 1,350 yn fwy o drafodiadau mewn grym nag a gyflwynwyd. Y rheswm pennaf am hyn yw oherwydd nad oedd unrhyw drafodiadau Treth Trafodiadau Tir a fyddai wedi bod mewn grym ym mis Mawrth 2018 i wrthbwyso rhai a oedd mewn grym ym mis Ebrill a dderbyniwyd ym mis Mai 2018. Roedd y trafodiadau Mawrth 2018 hyn yn dal i gael eu cyflwyno i CThEM o dan gyfundrefn dreth flaenorol Treth Dir y Dreth Stamp.
     
  • Ym mis Ionawr 2019, cyflwynwyd 560 yn rhagor o drafodiadau nag a oedd wedi dod i rym. Mae hyn yn debygol o fod oherwydd gwyliau'r Nadolig a chyflwyniad, yn Ionawr 2019, mwy o drafodiadau a oedd wedi dod i rym ym mis Rhagfyr 2018.

Ffigur 10.8  Trafodiadau yr hysbyswyd yr Awdurdod ohonynt, yn ôl diwrnod yr wythnos y cyflwynwyd y trafodiad, yn erbyn ei ddyddiad dod i rym

Mae Ffigur 10.8 yn dangos canran y trafodiadau a ddaeth i rym ac a gyflwynwyd ar wahanol ddyddiau'r wythnos. Mae'r data yn ymwneud â thrafodiadau a oedd mewn grym ym mis Ebrill 2018 hyd at fis Mawrth 2019, a thrafodiadau a gyflwynwyd i’r Awdurdod rhwng mis Ebrill 2018 a mis Mawrth 2019.

Dydd Gwener oedd y diwrnod mwyaf poblogaidd ar gyfer cyflwyno’r ddau drafodiad ac i'r trafodiadau ddod i rym, gydag ond ychydig iawn ar benwythnosau. Mae hyn yn adlewyrchiad o wythnos waith arferol asiantau sy'n cwblhau ffurflenni Treth Trafodiadau Tir.

Daeth bron i hanner y trafodiadau i rym yn 2018-19 ar ddydd Gwener. Er bod cyfran uwch na'r cyfartaledd o'r ffurflenni treth wedi cael eu cyflwyno ar ddydd Gwener, mae'r gwahaniaeth yn llawer llai amlwg nag ar gyfer y dyddiad dod i rym. Mae hyn yn awgrymu nad yw ffurflenni'n cael eu cyflwyno’n gyffredinol ar yr un diwrnod ag y mae'r trafodiadau’n cael eu cwblhau.

Ystadegau cryno

Wybodaeth allweddol am ansawdd

Rhestr termau