Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad ymchwil hwn yn cyflwyno canfyddiadau prosiect ar batrymau trosglwyddo iaith rhwng y cenedlaethau a defnydd o iaith ymhlith teuluoedd â phlant rhwng 0 a 4 oed.

Nod y prosiect oedd archwilio sut mae rhieni yn defnyddio’r Gymraeg â’u plant a sut mae gwahanol ffactorau yn dylanwadu ar y defnydd o’r Gymraeg yn y cartref. Yn benodol, nod y prosiect oedd ateb y cwestiynau ymchwil canlynol:

  • Beth yw’r amodau sydd yn hwyluso trosglwyddo’r Gymraeg o fewn teuluoedd, a’r amodau sydd yn gwneud trosglwyddo’r Gymraeg yn llai tebygol?
  • Pa amodau sydd yn dylanwadu ar batrymau defnydd o’r Gymraeg mewn teuluoedd sydd â phlant 0-4 oed?

Mae’r adroddiad ymchwil yn cynnwys:

  • adolygiad llenyddiaeth trylwyr ar gwaith rhyngwladol ar drosglwyddo iaith rhwng y cenedlaethau a gwaith ymchwil blaenorol ar drosglwyddo’r Gymraeg rhwng y cenedlaethau
  • dadansoddiad ystadegol o ddata perthnasol i drosglwyddo’r Gymraeg o’r Cyfrifiad Cenedlaethol (2011)
  • dadansoddiad dulliau cymysg (meintiol ac ansoddol) data gwreiddiol a gasglwyd gan 60 o deuluoedd trwy holiaduron ysgrifenedig a chyfweliadau lled-strwythuredig
  • trafodaeth drylwyr o’r canfyddiadau meintiol ac ansoddol ac argymhellion ar gyfer ymchwil pellach a pholisi i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid.

Adroddiadau

Trosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB

PDF
5 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Trosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd: adroddiad terfynol - Crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 504 KB

PDF
504 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Heledd Jenkins

Rhif ffôn: 0300 025 6255

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.