Mae'r adroddiad yn cyflwyno’r canfyddiadau, yn trafod sut ddylent gael eu dehongli a pham eu bod yn wahanol i ganlyniadau’r Cyfrifiad.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau’r Arolwg Blynyddol ar allu pobl i siarad, darllen, ysgrifennu a deall Cymraeg llafar. Mae hefyd yn cyflwyno canlyniadau am ba mor aml mae pobl yn siarad Cymraeg.
Cyfrifiad y Boblogaeth yw’r brif ffynhonnell a ddefnyddir i fesur y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Cofnodir bod llawer mwy o bobl yn siarad Cymraeg yn yr Arolwg Blynyddol nag yn y cyfrifiad ac mae hyn wedi cynyddu eto yn y blynyddoedd diweddaraf. Mae'r bwletin hwn yn edrych ar rai o'r rhesymau pam fod canlyniadau'r Arolwg Blynyddol mor wahanol i ganlyniadau’r cyfrifiad.
Mae'r bwletin yn ymhelaethu ar y blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn ddiweddar, lle cafwyd trafodaeth ar sut ddylid ddehongli data’r Arolwg Blynyddol ar y Gymraeg.
Gan fod yr Arolwg Blynyddol yn darparu canlyniadau chwarterol, mae'n ddefnyddiol i’w ddefnyddio i edrych ar dueddiadau’r Gymraeg rhwng cyfrifiadau.
Gellir cael manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Adroddiadau
Canlyniadau mewn perthynas â’r Gymraeg: Yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, 2001 i 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Lisa Walters
Rhif ffôn: 0300 025 6682
E-bost: DataIaithGymraeg@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.