Adroddiad ar ganfyddiadau yn ymwneud â COVID-19 a’i effaith ar grwpiau cymunedol Cymraeg, a sut y gwnaethon nhw weithredu.
Y cyhoeddiad diweddaraf
I ddarganfod sut mae COVID-19 a'i gyfyngiadau wedi effeithio ar grwpiau cymunedol Cymraeg, cynhaliwyd arolwg ar-lein rhwng 14 Medi a 9 Hydref 2020.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru help gan y Mentrau Iaith i weinyddu’r arolwg. Fe wnaethon adnabod grwpiau oedd yn darparu cyfleoedd i gymdeithasu, gwirfoddoli a chymryd rhan mewn gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu hardaloedd lleol. Gofynnwyd i’r grwpiau a’u hadnabyddir i gwblhau’r arolwg, oedd yn casglu tystiolaeth ar sut roedd y grwpiau wedi gweithredu cyn y pandemig, os oedden nhw wedi gallu gweithredu ers cychwyn y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 a beth oedd eu disgwyliadau ar gyfer y dyfodol. Cafwyd 1,092 ymateb i’r arolwg.
Prif ganfyddiadau
Cyn y pandemig
Roedd dros hanner o’r grwpiau wnaeth ymateb i’r arolwg yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr yn unig, gyda nifer ohonynt yn dibynnu ar 20 o wirfoddolwyr neu fwy. Gweithgareddau cymdeithasol dan-do oedd fwyaf tebygol o gael eu cynnal. Yn gyffredinol, merched a’r rheiny rhwng 50 a 69 mlwydd oed oedd fwyaf tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau wedi eu trefnu gan grwpiau cymunedol.
Dim ond 2% o'r grwpiau a ymatebodd a adroddodd eu bod yn cynnal unrhyw weithgareddau ar-lein cyn diwedd mis Mawrth 2020. Mae hyn yn awgrymu cam mor sylweddol oedd hi i rai o'r grwpiau hyn addasu eu gweithgareddau yn sgil y pandemig.
Yn ystod y pandemig
Roedd pumed o’r grwpiau (20%) wedi gallu addasu eu gweithgareddau er mwyn gweithredu mewn rhyw ffordd ers dechrau'r cyfnod clo ym mis Mawrth. Efallai bod yr 80% arall wedi cadw mewn cysylltiad â'u grŵp, ond heb barhau i weithredu. O’r rhain:
- nododd 93% mai’r rheswm dros beidio â gweithredu oedd nad oedd ‘yn ymarferol i barhau o dan gyfyngiadau a rheoliadau COVID-19’
- nododd 28% fod eu haelodau'n teimlo yn ‘ofni neu ddim yn ddiogel’; grwpiau cymdeithasol a partneriaethau cymunedol, grwpiau crefyddol a changhennau Merched y Wawr oedd fwyaf tebygol o nodi mae dyma’r rheswm dros beidio â gweithredu
Ar gyfer yr holl weithgareddau a oedd fel arfer yn cael eu cyflawni gan grwpiau cymunedol cyn y pandemig, roedd dros ddwy ran o dair (68%) ohonynt heb gael eu cynnal o gwbl ers dechrau'r cyfnod clo.
- Tripiau wedi eu trefnu, gwyliau/eisteddfodau, ymgyrchoedd codi arian, perfformiadau ac ymarferion cerddorol oedd y gweithgareddau oedd fwyaf tebygol o fod wedi peidio â digwydd.
- Gweithgareddau dysgu (er enghraifft, gweithgareddau ar gyfer plant neu'r rheiny oedd yn dysgu Cymraeg) oedd y gweithgareddau mwyaf tebygol o fod wedi eu cynnal ar-lein (31% wedi eu cynnal ar-lein) a gwirfoddoli yn y gymuned oedd fwyaf tebygol o fod wedi cael ei addasu ond heb ddigwydd ar-lein (wedi digwydd yn yr awyr agored fel arfer).
- Roedd grwpiau cymunedol lle roedd y trefnwyr yn derbyn cyflog yn fwy tebygol o fod wedi llwyddo i weithredu o’u cymharu â grwpiau a oedd yn dibynnu ar wirfoddolwyr yn unig.
Disgwyliadau ar gyfer y dyfodol
Dywedodd 62% o'r grwpiau y byddent yn parhau i fodoli fel grŵp hyd yn oed pe bai’r rheolau am gadw pellter cymdeithasol yn parhau i fodoli mewn blwyddyn. Y papurau bro, Mentrau Iaith a chynghorau cymuned oedd fwyaf tebygol o deimlo y byddent yn gallu parhau, tra roedd clybiau am yr ardal, corau, grwpiau cymdeithasol a grwpiau perfformio yn llai tebygol o barhau yn y dyfodol.
Gan feddwl am y dyfodol, gofynnwyd i’r grwpiau sut y bydden nhw’n gweithredu pe na bai rheolau cadw pellter cymdeithasol yn bodoli. Yr ateb mwyaf cyffredin i’r cwestiwn hwn oedd y bydden nhw’n gwneud newidiadau bach, ond ar y cyfan yn parhau yn yr un ffordd ag yr oeddent wedi gweithredu cyn y pandemig. Dywedodd 31% o’r grwpiau y bydden nhw’n mynd yn ôl i weithredu yn union fel yr oeddent wedi gweithredu cyn y pandemig.
Pan ofynnwyd iddynt am y mathau o bethau a fyddai’n eu cynorthwyo i lwyddo yn y dyfodol nododd rhan fwyaf y grwpiau y mater o sicrhau diogelwch aelodau. Dywedodd nifer o grwpiau hefyd y byddai cymorth i ddatblygu eu defnydd o dechnoleg; cymorth i uwchsgilio eu haelodau i gael mynediad i weithgareddau ar-lein; cyllid ychwanegol neu gyllid parhaus, a chymorth i hysbysebu neu godi ymwybyddiaeth am eu grŵp yn eu helpu i lwyddo yn y dyfodol.
Adroddiadau
Effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg: canfyddiadau arolwg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 4 MB
Cyswllt
Lisa Walters
Rhif ffôn: 0300 025 6282
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.