Mae’r canllaw hwn yn adlewyrchu darpariaethau Rhan 5 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (‘DCRhT’) (penodau 2 – 7).

DCRhT/3010 Cyflwyniad

Mae’n bwysig bod y broses o gasglu a rheoli trethi datganoledig Cymru yn gweithredu’n deg ac yn effeithlon. Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn cydnabod bod y mwyafrif helaeth o drethdalwyr yn awyddus i gydymffurfio â’u rhwymedigaethau.

Mae gan ACC amryw o bwerau i helpu i wneud yn siŵr bod trethdalwyr yn bodloni eu cyfrifoldebau o ran trethi ac yn talu’r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir, a hynny i sicrhau bod y broses drethu’n gweithredu fel y bwriedir ac i ganfod ac atal y nifer fach o bobl sydd ddim yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau.

Er mwyn annog cydymffurfiad ac atal pobl rhag peidio â chydymffurfio, mae amrywiaeth o gosbau swm penodedig, dyddiol a rhai sifil yn ymwneud â threthi yn berthnasol i’r trethi datganoledig. Mewn rhai amgylchiadau ac ar gyfer rhai cosbau mae gan ACC y pŵer i ohirio, lleihau neu hepgor cosb hyd yn oed.

Mae’r adran hon yn darparu canllaw ar y system cosbau sifil sy’n berthnasol i’r trethi datganoledig ac sydd yn DCRhT (ac yn bennaf Rhan 5 o’r Ddeddf honno), gan gynnwys y rheolau asesu a gorfodi sy’n sail i bob cosb.

Mae gan drethdalwyr yr hawl i ofyn am adolygiad neu i apelio i’r Tribiwnlys mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad ynghylch cosb gan ACC.

Nid yw trethdalwyr yn agored i unrhyw gosb yn y canllaw hwn os ydynt eisoes wedi eu cael yn euog o drosedd yn sgil ymddygiad tebyg. Enw hyn yw’r rheol ‘gwahardd cosbi ddwywaith’.

Mae’r canllaw hwn yn ymwneud â’r meysydd canlynol:

  • Deddf Hawliau Dynol 1998
  • Cosbau sy’n ymwneud â methu dychwelyd ffurflenni treth neu dalu trethi datganoledig
  • Cosbau sy’n ymwneud ag anghywirdebau
  • Cosbau sy’n ymwneud â chadw cofnodion a threfniadau talu’n ôl, a
  • Chosbau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau
  • Esgus rhesymol
  • Lleihau cosbau mewn amgylchiadau arbennig
  • Lleihau cosbau am ddatgelu
  • Mwy nag un gosb yn daladwy

DCRhT/3020 Cosbau a Deddf Hawliau Dynol 1998

Mae Erthygl 6 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wedi’i hymgorffori yng nghyfraith y DU drwy Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Mae Erthygl 6 yn rhoi amrywiol hawliau a mesurau diogelu i berson pan fydd ACC yn penderfynu a ddylid gorfodi rhai cosbau ai peidio.

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn diffinio rhai cosbau fel cosbau “troseddol”, megis cosbau a orfodir oherwydd ymddygiad bwriadol. Nid ydy cosbau o’r fath yn droseddol o dan gyfraith y DU (hy cosbau sifil ydynt), er eu bod yn cael eu hystyried yn rhai ‘troseddol’ at ddibenion Siarter Hawliau Dynol Ewrop.

Mae’r hawliau a roddir o dan Erthygl 6 yn cynnwys:

  • yr hawl i berson gael gwybod yn brydlon am natur unrhyw gosb yn ei erbyn a’r rheswm drosti
  • hawl i wrandawiad teg a chyhoeddus o fewn amser rhesymol, ac
  • yr hawl i beidio ag euogi ei hun.

Bydd ACC yn rhoi gwybod i berson os bydd yn ystyried y gallai fod yn agored i gosb sy’n debygol o fod yn berthnasol i Erthygl 6.

DCRhT/3030 Cosbau am fethu dychwelyd ffurflen dreth

Mae trethdalwr y mae’n rhaid iddo ddychwelyd ffurflen dreth yn agored i gosb o £100 os na fydd yn dychwelyd y ffurflen ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny. 

Os bydd yn parhau i beidio â dychwelyd, mae’r trethdalwr yn agored i fwy o gosbau yn dibynnu ar ba mor hir mae’n parhau i beidio â dychwelyd.

Os oes rhaid i’r trethdalwr ddychwelyd ffurflen dreth a’i fod yn methu gwneud hynny cyn pen 6 mis o'r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio, mae’n agored i'r gosb fwyaf o blith y canlynol:

  • 5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, neu
  • £300.

Os oes rhaid i’r trethdalwr ddychwelyd ffurflen dreth a’i fod yn methu gwneud hynny cyn pen 12 mis o'r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio, mae’n agored i gosb arall. Y gosb a roddir am fethu â chyflwyno ffurflen cyn pen 12 mis ydy'r mwyaf o blith y canlynol:

  • 5% o swm y dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd, neu
  • £300.

Fodd bynnag, os bydd y trethdalwr yn dal yn ôl gwybodaeth a fyddai’n galluogi neu’n helpu ACC i asesu ei rwymedigaeth i dreth ddatganoledig, swm y gosb fydd y mwyaf o blith y canlynol:

  • £300, neu
  • swm heb fod yn fwy na 95% o’r swm o dreth ddatganoledig y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen dreth wedi ei dychwelyd.

Mae’n rhaid talu unrhyw gosb yn yr adran hon cyn pen 30 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi'r hysbysiad o'r gosb, oni bai fod y trethdalwr yn gofyn am adolygiad neu’n apelio i’r tribiwnlys.

Caiff ACC leihau cosb am fethu dychwelyd ffurflen dreth os bydd y trethdalwr yn datgelu gwybodaeth sydd wedi cael ei dal yn ôl o ganlyniad i’r methiant hwnnw.

Cosbau penodol i'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi am fethu dychwelyd ffurflenni treth fwy nag unwaith

Pan fydd trethdalwr yn dod yn agored i gosb am fethu dychwelyd ffurflen dreth ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, bydd rhagor o fethiannau i ddychwelyd ffurflenni treth cyn pen cyfnod cosbi penodol yn arwain at gyfradd gosbi uwch.

Bydd y cyfnod cosbi yn dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth, ac yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach. Gall y cyfnod cosbi gael ei ymestyn ar yr un sail os ceir mwy o fethiannau i ddychwelyd ffurflenni treth.

Ar gyfer y methiant cyntaf yn ystod y cyfnod cosbi, bydd y trethdalwr yn agored i gosb o £200. Ar gyfer yr ail fethiant yn ystod y cyfnod cosbi, bydd y trethdalwr yn agored i gosb o £300. Ar gyfer y trydydd methiant ac unrhyw fethiannau wedi hynny yn ystod y cyfnod cosbi, bydd y trethdalwr yn agored i gosb o £400 ar bob achlysur.

Enghraifft

Mae’n rhaid i Gwmni A ddychwelyd ffurflen dreth ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2018 i 30 Mehefin 2018 ar y dyddiad ffeilio, sef 31 Gorffennaf 2018, neu cyn hynny, ond nid yw’n gwneud hynny. Mae ACC yn rhoi cosb o £100 am fethu dychwelyd ffurflen dreth. Mae’r cyfnod cosbi yn dechrau ar 1 Awst 2018 ac yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2019.

Os bydd Cwmni A wedyn yn methu dychwelyd ffurflen dreth ar gyfer y cyfnod 1 Hydref 2018 i 31 Rhagfyr 2018, bydd y methiant hwn yn rhan o’r cyfnod cosbi. Bydd y cwmni’n agored i gosb o £200 a bydd y cyfnod cosbi’n cael ei ymestyn i 31 Ionawr 2020. Bydd trydydd methiant yn y cyfnod cosbi yn arwain at gosb o £300 a bydd y pedwerydd methiant a methiannau dilynol yn arwain at gosbau o £400.

DCRhT/3040 Cosbau am fethu talu treth

Mae trethdalwr yn agored i gosb os yw wedi methu talu swm o dreth ddatganoledig ar y dyddiad cosbi neu cyn hynny mewn cysylltiad â’r swm hwnnw.

Ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir, y gosb yw 5% o swm y dreth nas talwyd.

Ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, y gosb yw 1% o swm y dreth nas talwyd oni bai ei fod yn ail fethiant neu’n fethiant dilynol i dalu’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi cyn pen cyfnod cosbi penodol.

Cosbau penodol i'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi am fethu talu treth fwy nag unwaith

Pan fydd trethdalwr yn dod yn agored i gosb am fethu talu'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, bydd rhagor o achosion o fethu talu treth cyn pen cyfnod cosbi penodol yn arwain at gyfradd gosbi uwch.

Bydd y cyfnod cosbi yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad cosbi, ac yn dod i ben 12 mis yn ddiweddarach. Gall y cyfnod cosbi gael ei ymestyn ar yr un sail os ceir mwy o fethiannau i dalu’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Ar gyfer y methiant cyntaf yn ystod y cyfnod cosbi, bydd y trethdalwr yn agored i gosb o 2% o'r dreth nas talwyd. Ar gyfer yr ail fethiant yn ystod y cyfnod cosbi, bydd y trethdalwr yn agored i gosb o 3% o’r dreth nas talwyd. Ar gyfer y trydydd methiant ac unrhyw fethiannau wedi hynny yn ystod y cyfnod cosbi, bydd y trethdalwr yn agored i gosb o 4% o’r dreth nas talwyd ar bob achlysur.

Enghraifft

Mae’n rhaid i Gwmni A dalu £100,000 mewn Treth Gwarediadau Tirlenwi ar 31 Gorffennaf 2018 ar gyfer y cyfnod dychwelyd ffurflen dreth 1 Ebrill 2018 i 30 Mehefin 2018, ond nid yw’n gwneud hynny. Mae ACC yn rhoi cosb o £1,000 (1% o £100,000) am fethu talu treth. Mae’r cyfnod cosbi yn dechrau ar 1 Awst 2018 ac yn dod i ben ar 31 Gorffennaf 2019.

Os bydd Cwmni A wedyn yn methu talu gwerth £300,000 mewn treth ar 31 Ionawr 2019 ar gyfer y cyfnod ffurflen 1 Hydref 2018 i 31 Rhagfyr 2018, bydd y methiant hwn yn rhan o’r cyfnod cosbi. Bydd y cwmni’n agored i gosb o £6,000 (2% o £300,000) a bydd y cyfnod cosbi’n cael ei ymestyn i 31 Ionawr 2020. Bydd trydydd methiant yn y cyfnod cosbi yn arwain at gosb o 3% a bydd y pedwerydd methiant a methiannau dilynol yn arwain at gosbau o 4%.

Cosb am fethu ad-dalu credyd treth ar amser

Caiff ACC roi cosb pan fydd ACC yn cyflwyno asesiad i drethdalwr er mwyn adennill swm o gredyd treth na ddylid bod wedi ei dalu (neu ei osod yn erbyn rhwymedigaeth dreth), neu sydd wedi dod yn ormodol, a bod y swm a asesir ddim yn cael ei dalu gan y trethdalwr ar amser. Y gosb yw 5% o’r swm sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC.

Y dyddiad cosbi

Mae’r dyddiad cosbi (y dyddiad pryd mae trethdalwr yn dod yn agored i gosb) ar gyfer cosbau penodol wedi’i nodi yn y tabl isod:

Eitem Y dreth ddatganoledig Swm y dreth Y dyddiad cosbi
1 Y Dreth Trafodiadau Tir Y swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ffurflen dreth a ddychwelir gan y prynwr mewn trafodiad tir (oni bai fod y swm yn dod o dan eitem 8 neu 9). Y dyddiad sydd 30 diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.
2 Y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Y swm sy’n daladwy o ganlyniad i ffurflen dreth. Y dyddiad sydd 30 diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen dreth.
3 Unrhyw dreth ddatganoledig Y swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddyfarniad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth. Y dyddiad sydd 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae ACC yn credu yw'r dyddiad olaf ar gyfer dychwelyd ffurflen dreth.
4 Unrhyw dreth ddatganoledig Y swm sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir yn lle ffurflen dreth (oni bai fod y swm yn dod o dan eitem 7). Y dyddiad sydd 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y mae ACC yn credu yw'r dyddiad olaf ar gyfer dychwelyd ffurflen dreth.
5 Unrhyw dreth ddatganoledig Y swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir pan fo ffurflen dreth wedi ei dychwelyd. Y dyddiad sydd 30 diwrnod ar ôl y dyddiad olaf ar gyfer talu’r swm (neu swm ychwanegol).
6 Unrhyw dreth ddatganoledig Y swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC i adennill credyd treth Y dyddiad sydd 30 diwrnod ar ôl y dyddiad olaf ar gyfer talu’r swm (neu swm ychwanegol).
7 Unrhyw dreth ddatganoledig Y swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygio neu gywiro ffurflen dreth. TY dyddiad sydd 30 diwrnod ar ôl y dyddiad olaf ar gyfer talu’r swm (neu swm ychwanegol).
8 Unrhyw dreth ddatganoledig Y swm (neu swm ychwanegol) sy’n daladwy o ganlyniad i asesiad ACC a wneir at ddibenion gwneud addasiad i wrthweithio mantais dreth (gweler Rhan 3A DCRhT) mewn achos pan na fo ffurflen dreth y mae gan ACC reswm i gredu ei bod yn ofynnol ei dychwelyd wedi cael ei dychwelyd mewn gwirionedd. Y dyddiad sydd 30 diwrnod ar ôl y dyddiad olaf ar gyfer talu’r swm (neu swm ychwanegol).
9 Y Dreth Trafodiadau Tir Pan wneir cais gohirio o dan adran 58 y Ddeddf Treth Trafodiadau Tir, y swm gohiriedig y mae’n ofynnol ei dalu yn rhinwedd adran 61(1) y Ddeddf honno. Y dyddiad sydd 30 diwrnod ar ôl y dyddiad olaf ar gyfer talu’r swm gohiriedig.
10 Y Dreth Trafodiadau Tir Pan wneir cais gohirio o dan adran 58 o DTTT, swm a wrthodir  o  fewn ystyr adran 61(2)(a) o’r Ddeddf honno. Y dyddiad sydd 30 diwrnod ar ôl y dyddiad olaf ar gyfer talu’r swm a wrthodir.
11 Y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Y swm a godir gan hysbysiad codi treth a gyhoeddir o dan adran 48 neu 49 y Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi. Y dyddiad sydd 30 diwrnod ar ôl y dyddiad olaf ar gyfer talu’r swm.
12 Unrhyw dreth ddatganoledig Swm gohiriedig o fewn ystyr adran 181G(2) DCRhT. Y dyddiad sydd 30 diwrnod ar ôl dyddiad dod i ben y cyfnod gohirio (gweler adran 181G ynglŷn â chyfrifo cyfnodau gohirio).

Parhau i fethu talu treth ddatganoledig

Os bydd yn parhau i beidio â thalu treth, mae’r trethdalwr yn agored i fwy o gosbau yn dibynnu ar ba mor hir mae’n parhau i beidio â thalu.

Os oes rhaid i’r trethdalwr dalu treth a’i fod yn methu gwneud hynny cyn pen 6 mis o'r dyddiad sydd 30 diwrnod cyn y dyddiad cosbi, mae’n agored i gosb o 5% o’r swm sy’n dal heb ei dalu.

Os oes rhaid i’r trethdalwr dalu treth a’i fod yn methu gwneud hynny cyn pen 12 mis o'r dyddiad sydd 30 diwrnod cyn y dyddiad cosbi, mae’n agored i gosb ychwanegol o 5% o’r swm sy’n dal heb ei dalu.

DCRhT/3050 Cosbau sy’n ymwneud ag anghywirdeb

Mae person yn agored i gosb pan fo’n rhoi dogfen i ACC sydd, oherwydd diffyg gofal rhesymol (ymddygiad diofal), yn cynnwys anghywirdebau sy’n arwain at unrhyw o'r canlynol:

  • tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig
  • datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig
  • hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig, neu
  • hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth.

Mae swm y gosb a roddir yn dibynnu ar ymddygiad y trethdalwr. Mae’r cosbau wedyn yn cael eu cyfrifo fel canran o’r refeniw posibl a gollir. Mae DCRhT yn caniatáu i ACC roi cosbau sydd ddim yn fwy na swm penodol. Mae’r tabl isod yn dangos crynodeb o’r ystodau cosb a roddir gan ACC:

Math o ymddygiad Datgeliad heb ei gymell Datgeliad wedi’i gymell
Wedi cymryd gofal rhesymol Dim cosb Dim cosb
Diofal Rhwng 0% a 30% 15% to 30%
Bwriadol Rhwng 30% a 100% 50% to 100%

Mae anghywirdeb yn ddiofal os yw wedi digwydd gan fod y trethdalwr wedi methu cymryd gofal rhesymol. Mewn geiriau eraill, os cymerwyd gofal rhesymol, ni fyddai anghywirdeb yn fwriadol nac yn ddiofal.

Bydd anghywirdeb nad oedd yn fwriadol nac yn ddiofal ar ran y trethdalwr pan roddwyd y ddogfen â’r anghywirdeb i ACC yn cael ei ystyried yn ddiofal os oedd y trethdalwr wedi sylwi ar yr anghywirdeb yn nes ymlaen ond ddim wedi cymryd camau rhesymol i roi gwybod i ACC cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl sylwi ar yr anghywirdeb.

Penderfynu ar swm y gosb

Bydd ACC yn penderfynu ar swm y gosb, a hynny drwy bennu'r gosb ar uchafswm pob ystod cosb a phenderfynu wedyn a oes gostyngiad ar gael ac ystyried amgylchiadau a ffeithiau penodol yr achos.

Caiff ACC leihau swm y gosb:

  • oherwydd amgylchiadau arbennig, neu
  • os bydd y trethdalwr yn gwneud datgeliad cymwys i ACC.

Hefyd, caiff ACC ohirio’r gosb mewn rhai amgylchiadau (gweler isod).

Gohirio’r gosb

Caiff ACC, yn amodol ar un neu ragor o amodau, ohirio rhan o’r gosb neu'r gosb gyfan am anghywirdeb diofal (anfwriadol), ond dim ond os byddai cydymffurfio ag amod o'r gohiriad yn helpu’r trethdalwr i osgoi bod yn agored i fathau tebyg ychwanegol o gosbau am anghywirdebau diofal.

Os bydd ACC yn penderfynu bod modd cyfiawnhau gohiriad, rhaid cyhoeddi hysbysiad i'r trethdalwr yn nodi:

  • pa ran o’r gosb sydd i’w gohirio
  • y cyfnod gohirio (sydd ddim yn gallu bod yn fwy na dwy flynedd), ac
  • amod(au) y gohiriad y mae’n rhaid i’r trethdalwr gydymffurfio â nhw.

Efallai y bydd amod gohiriad yn nodi cam i’w gymryd, a’r cyfnod ar gyfer cymryd y cam hwnnw.

Pan ddaw’r cyfnod gohirio i ben:

  • os yw ACC yn fodlon bod y trethdalwr wedi cydymffurfio ag amodau'r gohiriad, bydd y gosb a ohiriwyd (neu’r rhan o'r gosb a ohiriwyd) yn cael ei chanslo, ond
  • os nad yw ACC yn fodlon bod y trethdalwr wedi cydymffurfio ag amodau'r gohiriad, bydd y gosb a ohiriwyd (neu’r rhan o’r gosb a ohiriwyd) yn daladwy, gan gynnwys unrhyw log ar y gosb a fyddai wedi bod yn daladwy oni bai am y gohiriad.

Os bydd y trethdalwr yn dod yn agored i gosb arall am ddarparu dogfen yn cynnwys anghywirdeb diofal neu fwriadol i ACC yn ystod y cyfnod gohirio, bydd y gosb a ohiriwyd (neu’r rhan o'r gosb a ohiriwyd) yn daladwy, ynghyd ag unrhyw log ar y gosb a fyddai wedi bod yn daladwy oni bai am y gohiriad.

Cosb am anghywirdeb bwriadol mewn dogfen a roddir i ACC gan barti arall

Mae person (‘A’) yn agored i swm cosb heb fod dros 100% o’r refeniw posibl a gollir os yw:

  • person arall (‘P’, sef y trethdalwr yn y rhan fwyaf o achosion) yn rhoi dogfen i ACC
  • a bod y ddogfen yn cynnwys anghywirdeb sy’n gyfystyr ag unrhyw o'r canlynol, neu’n arwain at unrhyw o’r canlynol
    • tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig
    • datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig
    • hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig
    • hawliad ffug neu ormodol am gredyd treth
  • ac y gellir priodoli’r anghywirdeb i:
    • A yn darparu gwybodaeth ffug i P yn fwriadol (boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), neu
    • P yn dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol
  • gyda’r bwriad fod y ddogfen yn cynnwys yr anghywirdeb yn y pen draw.

Mae A yn agored i'r gosb hon pa un a yw P yn agored i gosb am roi’r ddogfen â’r anghywirdeb i ACC ai peidio.

Caiff ACC leihau swm y gosb hon:

  • Os yw’n credu ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig, neu
  • Os yw Person A yn gwneud datgeliad cymwys i ACC.

Cosb am fethu hysbysu ynghylch tanasesiad neu danddyfarniad

Os:

  • bydd y trethdalwr yn cael asesiad neu ddyfarniad ACC
  • a bod y dyfarniad neu’r asesiad yn tanddatgan ei rwymedigaeth dreth, a
  • bod y trethdalwr yn methu cymryd camau rhesymol i roi gwybod i ACC ei fod wedi tanddyfarnu neu danasesu cyn pen 30 diwrnod ar ôl dyddiad cyhoeddi’r dyfarniad neu’r asesiad

bydd y trethdalwr yn agored i swm cosb heb fod dros 30% o’r refeniw posibl a gollir.

Wrth benderfynu pa gamau (os o gwbl) sy’n rhesymol, rhaid i ACC ystyried pa un a wyddai’r trethdalwr am y tanddyfarniad neu’r tanasesiad, neu a ddylai fod wedi gwybod amdano.

Asesu a thalu'r gosb

Rhaid i ACC gynnal asesiad a hysbysu’r trethdalwr am ei rwymedigaeth i'r gosb hon (gan nodi'r cyfnod yr aseswyd y gosb yn ei erbyn) cyn pen 12 mis yn dechrau:

  • ar ddiwedd y ‘cyfnod apelio’ (gweler isod) am benderfyniad sy’n cywiro’r anghywirdeb neu’r tanddatganiad (fel penderfyniad i gynnal asesiad ACC), neu
  • os nad oes asesiad gan ACC o ran y dreth dan sylw uchod, y dyddiad y mae’r anghywirdeb neu’r tanddatganiad yn cael ei gywiro.

Y ‘cyfnod apelio’ yw’r cyfnod lle gellir dwyn apêl yn erbyn penderfyniad ACC, neu’r cyfnod lle nad yw apêl a ddygwyd wedi cael ei thynnu’n ôl yn derfynol neu nad oes penderfyniad terfynol wedi cael ei wneud yn ei chylch.

Yn amodol ar y cyfyngiad amser uchod, gall ACC gynnal asesiad atodol o rwymedigaeth y trethdalwr i’r gosb hon os cafodd asesiad cynharach gan ACC ei gyfrifo gan ddefnyddio amcangyfrif rhy isel o'r refeniw posibl a gollir.

Er enghraifft, os bydd y trethdalwr yn rhoi dogfen i ACC sy’n cynnwys anghywirdeb diofal ac mae ACC yn y lle cyntaf yn asesu bod y trethdalwr yn agored i gosb o £300 (mewn cysylltiad â refeniw posibl a gollir o £1,000), ac mae ACC yn canfod yn nes ymlaen fod y refeniw posibl a gollir go iawn yn £1,500), gall ACC gynnal asesiad atodol gan ddod i’r casgliad fod y trethdalwr yn agored i gosb ychwanegol o £150 (fel bod y gosb wreiddiol a'r gosb ychwanegol yn dod i 30% o'r refeniw posibl a gollir go iawn, sef £450 yn yr enghraifft hon).

Gall ACC gyfuno asesiad (neu asesiad atodol) o'r gosb hon ag unrhyw asesiad a gynhelir mewn cysylltiad â rhwymedigaeth dreth y trethdalwr (fel asesiad ACC.

Rhaid i'r trethdalwr dalu’r gosb cyn pen 30 diwrnod ar ôl y dyddiad mae ACC yn cyhoeddi’r hysbysiad o’r gosb, oni bai fod y trethdalwr yn gofyn am adolygiad neu’n apelio i'r tribiwnlys.

Bydd ACC yn codi llog ar swm y gosb nas talwyd o’r dyddiad sy’n dilyn y dyddiad y mae’n rhaid talu’r gosb, a hynny nes ei bod yn cael ei thalu.

Mae cosb am roi dogfen sy’n cynnwys anghywirdeb bwriadol neu ddiofal i ACC yn cael ei hystyried at ddibenion gorfodi yn asesiad yng nghyswllt treth. Mae hyn yn golygu bod gan ACC yr un pwerau gorfodi ac adennill dyledion mewn cysylltiad â'r gosb hon (a chosbau eraill) ag sydd ganddo mewn cysylltiad â threth.

DCRhT/3060 Cyfrifo’r refeniw posibl a gollir

Refeniw posibl a gollir: y rheol arferol

Y rheol arferol ar gyfer refeniw posibl a gollir (‘PLR’) yw ei fod y swm ychwanegol sy’n daladwy i ACC o ganlyniad i'r canlynol:

  • cywiro anghywirdeb mewn dogfen, gan gynnwys anghywirdeb y gellir ei briodoli i berson arall
  • peidio â rhoi gwybod i ACC am danddyfarniad neu danasesiad
  • gwneud ad-daliad credyd anghywir i ACC o ganlyniad i’r anghywirdeb, neu
  • ad-daliad credyd a fyddai wedi cael ei wneud i ACC pe na bai’r anghywirdeb wedi cael ei gywiro.

Wrth bennu'r PLR at ddibenion cyfrifo swm cosb, efallai y bydd y PLR ei hun yn ddarostyngedig i broses adennill neu gadw drwy weithdrefn fel asesiad ACC neu'r ACC ei hun yn gwrthod hawliad yn ffurfiol.

Gall anghywirdeb effeithio ar y dreth daladwy mewn mwy nag un cyfnod treth. Mae'r swm ychwanegol o dreth sy’n daladwy o ganlyniad i gywiro anghywirdeb yn cynnwys unrhyw effaith dreth yn sgil yr anghywirdeb hwnnw sy’n codi mewn cyfnodau treth diweddarach neu gynharach – gweler y paragraff isod ynghylch nifer o wallau.

Bydd anghywirdebau mewn dogfennau eraill a roddir i ACC ar gyfer yr un trafodiad neu gyfnod yn cael eu hystyried ar wahân o ran cyfrifo symiau cosb – gweler y paragraff isod ynghylch nifer o wallau.

Enghraifft 1

Mae John yn prynu tŷ ac yn cyflwyno ffurflen Treth Trafodiadau Tir ar gyfer y trafodiad, a chanlyniad hynny yw bod John yn talu £5,000 mewn Treth Trafodiadau Tir. Yn dilyn gwiriad cydymffurfio, cytunir bod John wedi cynnwys anghywirdeb yn ddiofal wrth lenwi'r ffurflen Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i gywiro’r anghywirdeb, rhwymedigaeth Treth Trafodiadau Tir John bellach yw £8,000.

£3,000 yw’r PLR (£8,000 - £5,000).

Enghraifft 2

Mae Sarah yn gwneud hawliad am ad-daliad gwerth £3,000 i adennill swm o Dreth Trafodiadau Tir yr oedd hi wedi’i or-dalu. Mae ACC yn prosesu’r hawliad ac yn ad-dalu'r £3,000. Ar ôl ad-dalu, mae gwiriad cydymffurfio yn datgelu bod Sarah, o ganlyniad i anghywirdeb diofal, wedi hawlio swm nad oes modd ei adennill. O ganlyniad i gywiro’r anghywirdeb, mae hawliad Sarah yn gostwng i £1,400.

£1,600 yw’r PLR (£3,000 - £1,400).

Refeniw posibl a gollir: mwy nag un camgymeriad

Os yw'r trethdalwr yn agored i fwy nag un gosb o dan adran 129 DCRhT mewn cysylltiad â mwy nag un anghywirdeb yn yr un ddogfen, efallai y bydd y drefn y caiff yr anghywirdebau eu cywiro yn effeithio ar y swm o PLR. Lle bo hynny’n digwydd, ystyrir bod anghywirdeb diofal yn cael ei gywiro cyn anghywirdeb bwriadol.

Os yw'r trethdalwr yn agored i gosb o dan adran 129 DCRhT mewn cysylltiad ag un neu fwy o danddatganiadau mewn un neu fwy o ddogfennau sy’n ymwneud â thrafodiad neu gyfnod treth, wrth gyfrifo'r PLR bydd ACC yn ystyried unrhyw orddatganiad mewn unrhyw ddogfen y mae’r trethdalwr wedi’i rhoi i ni mewn cysylltiad â’r un trafodiad neu gyfnod treth.

Lle bo hynny’n digwydd, mae gorddatganiadau i’w gosod yn erbyn tanddatganiadau yn y drefn ganlynol:

  1. tanddatganiadau nad yw’r trethdalwr yn agored i gosb mewn cysylltiad â nhw;
  2. tanddatganiadau diofal, a
  3. tanddatganiadau bwriadol.

Yn yr achos hwn, ystyr ‘tanddatganiad’ yw anghywirdeb sy’n gyfystyr ag unrhyw o’r canlynol, neu’n arwain at unrhyw o'r canlynol:

  • tanddatganiad o rwymedigaeth i dreth ddatganoledig
  • datganiad ffug neu ormodol o golled sy’n ymwneud â threth ddatganoledig, neu
  • hawliad ffug neu ormodol am ad-daliad o dreth ddatganoledig.

Yn yr achos hwn, ystyr ‘gorddatganiad’ yw anghywirdeb nad yw’n danddatganiad. Mewn geiriau eraill, mae’n golygu anghywirdeb nad yw’n gyfystyr ag unrhyw o’r canlyniadau uchod nac yn arwain atynt.

Os mai effaith gyffredinol y gorddatganiadau a’r tanddatganiadau yw bod y rhwymedigaeth dreth wedi’i gorddatgan pan gyflwynwyd y ddogfen, ni fydd PLR.

Wrth gyfrifo PLR at ddibenion cosb o dan adran 129 DCRhT, ni ystyrir y ffaith fod PLR gan y trethdalwr (y person a roddodd y ddogfen sy’n cynnwys yr anghywirdeb i ACC) wedi’i wrthbwyso neu ei fod efallai wedi’i wrthbwyso gan ordaliad posibl gan berson arall (heblaw i’r graddau mae’r ddeddfwriaeth yn mynnu neu’n caniatáu addasu rhwymedigaeth dreth person arall drwy gyfeirio at rwymedigaeth dreth y trethdalwr.

Bydd anghywirdebau mewn dogfennau eraill a roddir i ACC ar gyfer yr un trafodiad neu gyfnod yn cael eu hystyried ar wahân o ran cyfrifo symiau cosb.

Refeniw posibl a gollir: colledion

  1. Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig a bod y golled wedi cael ei defnyddio’n gyfan gwbl i leihau faint o dreth sy’n ddyledus ac yn daladwy gan y trethdalwr, caiff y PLR ei gyfrifo yn unol â’r ‘rheol arferol’ (gweler y is-bennawd cyntaf yn yr adran hon ‘Refeniw posibl a gollir: Y rheol arferol’).
  2. Pan fo anghywirdeb yn arwain at gofnodi colled yn anghywir at ddibenion treth ddatganoledig ac nid yw rhan o'r golled a gofnodwyd yn anghywir neu’r golled gyfan wedi cael ei defnyddio eto i leihau faint o dreth sy’n ddyledus ac yn daladwy (ac felly nid yw’r effaith dreth yn hysbys eto), y PLR yw:
    1. Caiff y PLR ei gyfrifo yn unol â’r ‘rheol arferol’ (gweler yr is-bennawd cyntaf yn yr adran hon, ‘Refeniw posibl a gollir: Y rheol arferol’) mewn cysylltiad ag unrhyw ran o’r golled (os o gwbl) sydd wedi cael ei defnyddio i leihau faint o dreth sy’n ddyledus ac yn daladwy gan y trethdalwr; a
    2. chyfradd ostyngedig o 10% (y gyfradd ostyngedig) o’r golled nas defnyddir. Mae’r gyfradd ostyngedig yn cydnabod yr ansicrwydd ynghylch gwerth treth presennol y golled pan gaiff ei defnyddio yn y pen draw i leihau rhwymedigaeth y trethdalwr.

Mae’r ddwy reol uchod 1 a 2 (colled yn cael ei defnyddio’n gyfan gwbl neu’n rhannol i leihau faint o dreth sy’n ddyledus ac yn daladwy) yn berthnasol i:

  • achos pan na fyddai unrhyw golled wedi ei chofnodi oni bai am yr anghywirdeb, ac
  • achos pan fyddai swm gwahanol o golled wedi ei gofnodi – yn yr achos hwn, mae’r ddwy reol uchod ond yn berthnasol i’r gwahaniaeth rhwng y swm a gofnodwyd a’r swm gwirioneddol.

I gloi, mae’r PLR mewn cysylltiad â cholled mewn unrhyw achos yn ddim lle, oherwydd un ai natur y golled neu amgylchiadau'r trethdalwr, nid oes disgwyliad rhesymol y defnyddir y golled yn y dyfodol i gefnogi hawliad i leihau rhwymedigaeth dreth unrhyw berson.

Mae pa un ai a oes disgwyliad rhesymol y defnyddir colled o'r fath yn dibynnu ar natur y golled ac amgylchiadau’r trethdalwr. Wrth bennu a oes disgwyliad rhesymol ai peidio, bydd ACC yn ystyried a oes rheswm cyfreithiol neu ffeithiol sy’n golygu na fydd byth modd defnyddio'r golled. Os mai ‘oes’ yw'r ateb i hynny, dim fydd PLR y golled honno.

Refeniw posibl a gollir: treth oediedig

Pan fo anghywirdeb (‘anghywirdeb treth oediedig’) yn arwain at swm y dreth (‘y dreth oediedig’) yn cael ei ddatgan i ACC yn hwyrach nag y dylai, mae’r PLR yn:

  • 5% o’r dreth oediedig am bob blwyddyn o oedi, neu’n
  • ganran o’r dreth oediedig, ar gyfer pob cyfnod oedi unigol o lai na blwyddyn, sy’n cyfateb i 5% y flwyddyn.

Mae’r rheol hon (‘y rheol treth oediedig) yn berthnasol yn lle’r rheolau arferol ar gyfer cyfrifo’r PLR, ond nid yw’n berthnasol i achos sy’n dod o dan y pennawd ‘Refeniw posibl a gollir: colledion’ uchod (hy colled a gofnodwyd yn anghywir).

Mae’r rheol treth oediedig yn berthnasol i achosion lle mae’r anghywirdeb treth oediedig yn cael effaith o ran amseru yn unig, ac felly wrth gymharu cyfnod cynharach â chyfnod diweddarach, ni chollir treth yn gyffredinol (gan dybio bod yr un gyfradd dreth yn berthnasol i’r ddau gyfnod). Mae’r rheol hefyd yn berthnasol i sefyllfaoedd lle mae gor-hawliad mewn un cyfnod yn cyfateb i dan-hawliad mewn cyfnod diweddarach.

Mewn geiriau eraill, er mwyn i’r rheol treth oediedig fod yn berthnasol, mae gan anghywirdeb treth oediedig bob amser ddwy elfen wahanol mewn gwahanol gyfnodau treth (un tanddatganiad ac un gorddatganiad) – hyd yn oed os nad oes yn rhaid ffeilio ffurflen dreth ar gyfer un cyfnod (a fyddai’n cynnwys y gorddatganiad) eto. Mae'r ddwy elfen o’r anghywirdeb treth oediedig yn dod o dan y rheol treth oediedig felly nid yw’r rheolau ynghylch mwy nag un anghywirdeb (gweler y pennawd blaenorol) yn berthnasol i’r elfen tanddatganiad na’r elfen gorddatganiad o’r anghywirdeb treth oediedig.

Os nad yw’r ffurflen dreth ddiweddarach wedi cael ei ffeilio eto, mae’n rhaid i ACC benderfynu a fyddai’r gwrthdroad wedi digwydd heb i’r trethdalwr gymryd unrhyw gamau pe na bai’r anghywirdeb wedi cael ei ganfod. Os yw ACC yn fodlon y byddai wedi cael ei gywiro’n awtomatig (er enghraifft gan system gyfrifyddu’r trethdalwr), mae’r rheol treth oediedig yn berthnasol.

Enghraifft - tanddatganiad mewn un ffurflen dreth wedi’i ddilyn gan orddatganiad mewn ffurflen dreth ddiweddarach

Roedd gan Gwmni A broblem â’i system gyfrifyddu a oedd yn golygu bod anfoneb dirlenwi ddyddiedig 10 Mehefin 2018 wedi cael ei dyrannu’n anghywir i'w ail ffurflen dreth chwarterol (ar gyfer y cyfnod 01/07/18 i 30/09/18) yn hytrach na'r ffurflen ar gyfer y cyfnod chwarterol cyntaf (01/04/18 i 30/06/18). O ganlyniad i’r broblem gyfrifyddu, cafodd gwerth £10,000 o Dreth Gwarediadau Tirlenwi ei hepgor o’r ffurflen dreth chwarterol gyntaf a’i gynnwys yn hytrach yn yr ail ffurflen dreth chwarterol, ac ni chymerodd Cwmni A unrhyw gamau cywiro.

Yn ystod gwiriad cydymffurfio ym mis Tachwedd 2018, mae ACC yn sylwi ar y £10,000 a gafodd ei hepgor o’r ffurflen dreth chwarterol gyntaf a’i chynnwys yn yr ail ffurflen dreth chwarterol. Mae Cwmni A yn derbyn ei fod wedi methu cymryd gofal rhesymol drwy beidio â chynnal system gyfrifyddu ddigonol.

Mae’r £10,000 o Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi cael ei ddatgan yn hwyrach nag y dylai. Cafodd yr anghywirdeb ei wrthdroi mewn ffurflen dreth ddiweddarach heb i Gwmni A orfod gwneud unrhyw beth. Mae ACC yn fodlon bod yr anghywirdeb yn cynnwys tanddatganiad a gorddatganiad ac felly ei fod yn anghywirdeb treth oediedig.

Mae’r PLR felly’n cael ei gyfrifo gan ddefnyddio'r rheolau treth oediedig. Tri mis yw'r oedi yn yr achos hwn (y cyfnod rhwng dyddiadau ffeilio’r ddwy ffurflen dreth) felly y PLR ar gyfer y gosb yw 3/12 o 5% o'r anghywirdeb treth oediedig.

Y PLR yw: £10,000 x 5% x 3/12 = £125 

Enghraifft - hawliad wedi’i wneud cyn pryd

Mae Cwmni B, gweithredwr safle tirlenwi, wedi hawlio gwerth £3,000 o gredyd ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ei ffurflen dreth ar gyfer y cyfnod chwarterol cyntaf 01/07/19 i 30/09/19, pan ddylai fod wedi ei hawlio yn ei ffurflen dreth ar gyfer y cyfnod chwarterol canlynol, 01/10/19 i 31/12/19.

Wrth wneud gwiriadau cydymffurfio ym mis Tachwedd 2019, mae ACC yn sylwi ar yr anghywirdeb diofal hwn yn ffurflen dreth chwarterol Cwmni B. Ar yr adeg hon, nid oes yn rhaid dychwelyd y ffurflen dreth chwarterol ganlynol eto.

Ym marn ACC, ni fyddai systemau cyfrifyddu Cwmni B wedi hawlio’r swm credyd unwaith eto yn y ffurflen dreth chwarterol ganlynol, felly mae’r PLR ar gyfer y gosb yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio'r rheolau treth oediedig.  Tri mis yw'r oedi yn yr achos hwn (y cyfnod rhwng dyddiadau ffeilio’r ddwy ffurflen dreth) felly y PLR ar gyfer y gosb yw 3/12 o 5% o'r anghywirdeb treth oediedig.

Y PLR yw: £3,000 x 5% x 3/12 = £37.50

DCRhT/3070 Cosbau sy’n ymwneud â chadw cofnodion

os bydd trethdalwr yn methu cadw cofnodion a’u storio'n ddiogel fel sy’n ofynnol o dan:

  • adran 38 DCRhT - cadw cofnodion a’u storio'n ddiogel mewn cysylltiad â dychwelyd ffurflen dreth, sy’n berthnasol i'r Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi
  • adran 38A DCRhT - sydd ddim ond yn berthnasol i drafodiadau tir o dan y Dreth Trafodiadau Tir nad ydynt yn hysbysadwy
  • adran 69 DCRhT - sy’n berthnasol i'r Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac mae’n ymwneud â hawliadau a wneir o dan adrannau 62, 63 neu 63A DCRhT
  • Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Trefniadau Talu’n Ôl) (Cymru) 2018, Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) (Cymru) 2018, a Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cadw Cofnodion) (Cymru) 2018.

yna mae’n agored i dalu cosb o hyd at £3,000 oni bai:

  • bod ACC yn fodlon bod unrhyw ffeithiau mae’n rhesymol ofynnol ganddo iddynt gael eu profi (ac y byddai’r cofnodion na chawsant eu cadw na'u storio’n ddiogel wedi eu profi), yn cael eu profi gan dystiolaeth ddogfennol arall a ddarperir iddo, neu
  • fod y trethdalwr yn bodloni ACC neu (ar apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros fethu cydymffurfio a’r darpariaethau hyn.

Rhaid i ACC wneud asesiad a rhoi gwybod i’r person sy’n agored i’r gosb cyn pen 12 mis o’r dyddiad pan gredodd am y tro cyntaf bod y trethdalwr wedi methu cydymffurfio â’i rwymedigaethau i gadw cofnodion a’u storio'n ddiogel.

Rhaid talu'r gosb cyn pen 30 diwrnod ar ôl y dyddiad mae ACC yn cyhoeddi’r hysbysiad o’r asesiad o’r gosb, oni bai fod y trethdalwr yn gofyn am adolygiad neu’n apelio i'r tribiwnlys.

Bydd ACC yn codi llog ar swm y gosb nas talwyd o’r dyddiad sy’n dilyn y dyddiad y mae’n rhaid talu’r gosb, a hynny nes ei bod yn cael ei thalu.

Caiff cosb am fethu cadw cofnodion a’u storio’n ddiogel ei thrin fel swm perthnasol at ddibenion gorfodi. Mae hyn yn golygu bod gan ACC yr un pwerau gorfodi ac adennill dyledion mewn cysylltiad â'r gosb hon (a chosbau eraill) ag sydd ganddo mewn cysylltiad â threth.

DCRhT/3080 Cosbau sy’n ymwneud ag ymchwiliadau

Os bydd y trethdalwr yn methu:

  • cydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth, neu
  • rhwystro ACC yn fwriadol (neu rywun a fydd wedi’i awdurdodi gan ACC) yn ystod ymchwiliad neu wrth arfer pŵer sydd wedi cael ei gymeradwyo gan y tribiwnlys o dan adran 108 DCRhT.

yna bydd yn agored i dalu cosb benodedig o £300.

Os bydd y methiant neu'r rhwystro’n parhau ar ôl y dyddiad pan roddwyd y gosb benodedig gyntaf hon o £300, mae’r trethdalwr yn agored i dalu cosb arall (neu gosbau eraill) o hyd at £60 am bob diwrnod dilynol y mae’r methiant neu’r rhwystro’n parhau.

Mae modd cynyddu swm y gosb ddyddiol hon os, mewn perthynas â hysbysiad trydydd parti anhysbys, bydd y methiant neu’r rhwystro’n parhau dros gyfnod hirach. Fydd ACC ddim ond yn cael rhoi cosb ddiofyn ddyddiol uwch mewn perthynas â'r math hwn o hysbysiad gwybodaeth os:

  1. bydd y methiant yn parhau am fwy na 30 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad cosb
  2. bydd y sawl sydd wedi derbyn yr hysbysiad wedi cael gwybod y caiff cais ei wneud am gosb uwch, ac
  3. mae’r tribiwnlys, ar gais ACC, yn penderfynu y caiff roi cosb.

Mae’n rhaid i’r tribiwnlys ystyried ffactorau amrywiol, fel cost cydymffurfio â'r cais i'r sawl sy’n derbyn yr hysbysiad. Ni chaiff y tribiwnlys osod swm cosb sy’n fwy na £1000 am bob diwrnod perthnasol.

Fel arall, gall y trethdalwr fod yn agored (yn ogystal â’r £300 sefydlog a’r ‘hyd at’ £60 o gosbau dyddiol) i gosb ychwanegol, o swm a bennir gan y Tribiwnlys Uchaf, os oes gan ACC reswm dros gredu, o ganlyniad i’r methiant neu’r rhwystr parhaus, bod y swm o dreth a dalwyd gan y trethdalwr (neu y mae’n debygol o dalu), neu’r swm mae’r person wedi'i dalu (neu’n debygol o dalu) mewn perthynas â chredyd treth, yn is o lawer nag y byddai wedi bod fel arall heb y methiant neu’r rhwystr. Wrth benderfynu ar faint y gosb, mae’n rhaid i’r Tribiwnlys Uchaf ystyried swm y dreth sydd heb ei dalu, neu faint sydd heb ei dalu mewn perthynas â chredyd treth. Rhaid rhoi’r gosb cyn pen 12 mis o’r diwethaf o'r canlynol:

  • dyddiad yr hysbysiad cosb £300 cychwynnol
  • diwedd y cyfnod pan fyddid wedi gallu gwneud apêl yn erbyn yr hysbysiad gwybodaeth (ond na chafodd ei wneud), neu
  • y dyddiad pan benderfynir ar apêl yn erbyn yr hysbysiad gwybodaeth neu’r dyddiad y cafodd yr apêl ei thynnu’n ôl.  

Nid yw’r trethdalwr yn agored i dalu naill ai’r gosb benodedig o £300 na’r gosb ddyddiol o ‘hyd at’ £60 os:

  • yw’n bodloni ACC neu (ar apêl) y tribiwnlys bod esgus rhesymol dros naill ai’r methiant i gydymffurfio neu’r rhwystro
  • os bydd yn methu gwneud rhywbeth y mae’n rhaid ei wneud cyn pen cyfnod penodol (fel gofyniad mewn hysbysiad gwybodaeth i gyflwyno dogfennau erbyn amser penodol), ond mae’n gwneud hynny mewn amser ychwanegol y gallai ACC fod wedi’i ganiatáu.

Rhaid i ACC wneud asesiad a rhoi gwybod i'r trethdalwr ei fod yn agored i dalu'r naill gosb neu’r llall (y gosb sefydlog o £300 a’r gosb ddyddiol o ‘hyd at’ £60) cyn pen 12 mis o’r dyddiad pan ddaeth yn agored i dalu’r gosb am y tro cyntaf.

Rhaid i'r trethdalwr dalu’r gosb cyn pen 30 diwrnod ar ôl y dyddiad mae ACC yn cyhoeddi’r hysbysiad o'r asesiad o’r gosb, oni bai:

  • fod y trethdalwr yn rhoi hysbysiad o adolygiad yn erbyn y gosb, yn yr achos hwnnw bydd yn rhaid talu’r gosb ddim hwyrach na 30 diwrnod o’r dyddiad pan ddaw’r adolygiad i ben a chaiff y penderfyniad i ddyfarnu cosb ei gadarnhau, neu
  • fod y trethdalwr yn rhoi hysbysiad o adolygiad yn erbyn y gosb, yn yr achos hwnnw bydd yn rhaid talu’r gosb ddim hwyrach na 30 diwrnod o’r dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar yr apêl gan gynnal y penderfyniad i roi cosb neu pan gaiff yr apêl ei thynnu’n ôl.

Bydd ACC yn codi llog ar swm y gosb nas talwyd o’r dyddiad sy’n dilyn y dyddiad y mae’n rhaid talu’r gosb, a hynny nes ei bod yn cael ei thalu.

DCRhT/3090 Gofal rhesymol

Mae anghywirdeb diofal yng nghyd-destun cosb am naill ai:

  • roi math penodol o ddogfen i ACC sy’n cynnwys anghywirdeb diofal, neu
  • roi gwybodaeth neu gynhyrchu dogfen i ACC (i gydymffurfio â hysbysiad gwybodaeth) sy’n cynnwys anghywirdeb diofal,

yn anghywirdeb sy’n deillio o fethiant ar ran person i gymryd gofal rhesymol.

Y ffordd symlaf o ddiffinio ‘gofal rhesymol’ yw ymddygiad person rhesymol a doeth sydd yn sefyllfa’r person dan sylw.

Cafodd hyn ei awgrymu gan y Barnwr Berner ym mhenderfyniad Tribiwnlys yr Haen Gyntaf yn CThEM v David Collis, pan nodwyd:

“Bod cosb yn berthnasol os yw'r anghywirdeb yn y ddogfen berthnasol o ganlyniad i fethiant ar ran y trethdalwr (neu berson arall sy’n rhoi’r ddogfen) i gymryd gofal rhesymol. Rydym o’r farn mai’r safon ar gyfer pennu hyn yw trethdalwr doeth a rhesymol yn sefyllfa’r trethdalwr dan sylw.”

Mae ACC yn cydnabod bod pobl yn gwneud camgymeriadau. Wrth benderfynu a yw person wedi methu cymryd gofal rhesymol, bydd ACC yn ceisio sefydlu a yw'r person wedi rhoi’r gofal a’r sylw y gellid ei ddisgwyl gan berson rhesymol a fyddai’n cymryd gofal rhesymol mewn amgylchiadau tebyg.

Er mwyn i ofal rhesymol fod yn berthnasol rhaid bod dim cwestiwn, er enghraifft, ynghylch a oedd y person yn gwybod am anghywirdeb pan roedd wedi darparu'r wybodaeth neu’r ddogfen i ACC neu a oedd wedi methu cydymffurfio â’r gofyniad perthnasol. Os oedd y person yn gwybod am yr anghywirdeb wrth ddarparu’r wybodaeth i ACC neu os oedd wedi methu cydymffurfio â’r gofyniad perthnasol, byddai hynny’n anghywirdeb bwriadol neu’n fethiant bwriadol at ddibenion penderfynu ar y gosb.

Wrth benderfynu a oedd y person wedi methu cymryd gofal rhesymol ai peidio, bydd ACC yn archwilio beth wnaeth y person (neu beth na wnaeth y person), a bydd yn ystyried a fyddai person doeth a rhesymol wedi gwneud (neu beidio â gwneud) hynny yn yr amgylchiadau hynny. Er bod ACC yn disgwyl i bawb gymryd gofal rhesymol, ni all ACC benderfynu a ydynt wedi gwneud hynny heb ystyried gallu ac amgylchiadau’r person.

Er enghraifft, fel rheol ni fyddai ACC yn disgwyl yr un lefel o wybodaeth neu arbenigedd gan unigolyn hunangyflogedig heb gynrychiolaeth ag y byddai’n ei disgwyl gan gwmni rhyngwladol mawr. Byddai materion mawr neu gymhleth hefyd yn galw am fwy o ofal er mwyn cyrraedd y sefyllfa dreth gywir. Yn bwysig felly, mae ACC yn disgwyl i drethdalwyr gael cyngor proffesiynol priodol pan fo angen – byddai methu â gwneud hynny pan roedd y trafodiad yn amlwg yn mynnu hynny’n fethiant i gymryd gofal rhesymol.

Gall anghywirdebau rheolaidd neu fethiannau rheolaidd i gydymffurfio, er enghraifft, fod yn batrwm o ymddygiad sy’n awgrymu diffyg gofal gan y person wrth ddatblygu systemau digonol ar gyfer cofnodion trafodion neu baratoi ffurflenni treth. Os daw’r person yn ymwybodol o achosion anghywirdeb neu fethiant ond ar ôl hynny ei fod yn dal i ailadrodd yr anghywirdeb neu’r methiant, gall hyn awgrymu ymddygiad bwriadol ar ran y person mewn perthynas â’r ailadrodd hwnnw.

Mae enghreifftiau o adegau pan na allai cosb fod yn addas (oherwydd bod person wedi cymryd gofal rhesymol) yn cynnwys:

  • safbwynt sy’n rhesymol gredadwy na chaiff ei gynnal wedyn
  • anghywirdeb rhifyddol neu drosi nad yw mor fawr mewn termau absoliwt neu wrth gymharu â rhwymedigaeth dreth gyffredinol person, i gynhyrchu canlyniad sy’n amlwg yn od neu a fyddai’n cael ei godi gan archwiliad “synnwyr”
  • person sy’n gweithredu mewn ffordd sy’n arwain at yr anghywirdeb neu’r methiant ar ôl cael cyngor gan ACC a ganfyddir wedyn sy’n anghywir, ar yr amod fod y person wedi rhoi’r holl fanylion ac amgylchiadau i ACC pan ofynnwyd am y cyngor
  • person sy’n gweithredu ar gyngor gan gynghorydd cymwys a chanfyddir wedyn bod y cyngor hwnnw’n anghywir er gwaethaf y ffaith bod y cynghorydd wedi cael set lawn o’r ffeithiau cywir, a
  • pherson yn derbyn ac yn defnyddio gwybodaeth gan berson arall y byddai’n rhesymol i’r trethdalwr ddisgwyl y byddai modd dibynnu ar eu cymhwysedd ond lle nad yw’n bosibl gwirio bod y wybodaeth yn gywir ac yn gyflawn.

DCRhT/3100 Esgus rhesymol

Caiff y trethdalwr apelio yn erbyn rhai cosbau os oes ganddo esgus rhesymol, er enghraifft ynghylch pam fod ei ffurflen neu ei daliad yn hwyr.

Mae esgus rhesymol yn golygu rhywbeth a rwystrodd y trethdalwr rhag cyflawni rhwymedigaeth dreth ac yntau wedi cymryd gofal rhesymol i’w chyflawni.

Nid oes diffiniad statudol o esgus rhesymol: mae’n fater i’w ystyried yng ngoleuni holl amgylchiadau’r achos penodol. Bydd beth sy’n rhesymol yn wahanol rhwng un person a’r llall gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau a’u galluoedd penodol.

Mae'r categorïau canlynol yn enghreifftiau o bethau y gallai ACC ystyried yn esgus rhesymol am gyfnod, ond fel y nodwyd yn flaenorol, yn y pen draw bydd yn dibynnu ar amgylchiadau unigol pob achos, ac mae’n debyg y bydd angen ystyried nifer o ffactorau eraill.

  • profedigaeth – marwolaeth perthynas agos neu bartner domestig tua amser y methiant neu’r rhwystro
  • salwch difrifol – os bydd hyn yn effeithio ar y trethdalwr neu berthynas agos neu bartner domestig tua amser y methiant neu’r rhwystro
  • cyfnod annisgwyl yn yr ysbyty, a wnaeth rwystro’r trethdalwr rhag delio â’i faterion treth
  • colli cofnodion drwy dân, llifogydd neu ddwyn
  • colli personél allweddol yn annisgwyl
  • methiant cyfrifiadurol neu feddalwedd yn union cyn neu wrth i’r trethdalwr baratoi ei ffurflen ar-lein
  • amhariad annisgwyl i wasanaethau ar-lein ACC
  • oedi gyda’r post na fyddai’r trethdalwr wedi gallu ei ragweld
  • oedi sy’n ymwneud ag anabledd trethdalwr.

Ni fydd y canlynol yn cael eu hystyried yn esgusion rhesymol:

  • dibynnu ar rywun arall (oni bai fod y trethdalwr wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant neu’r rhwystro)
  • prinder arian sy’n golygu nad yw'r trethdalwr yn gallu talu’r hyn sy’n ddyledus
  • roedd y trethdalwr wedi gwneud camgymeriad ar ei ffurflen dreth. 

Ar ben hynny, yn gyffredinol ni fyddai ACC yn ystyried bod y canlynol yn esgus rhesymol:

  • mae hi’n rhy anodd llenwi’r ffurflen dreth
  • pwysau gwaith
  • diffyg gwybodaeth
  • y ffaith nad oedd ACC wedi atgoffa’r trethdalwr am rywbeth
  • anwybodaeth o’r gyfraith, neu
  • gyfuniad o unrhyw rai o’r uchod.

Y trethdalwr sy’n gyfrifol am fodloni ACC bod ganddo esgus rhesymol adeg y methiant neu’r rhwystro (pa un bynnag sy’n berthnasol). Mae’n bwysig gwerthfawrogi nad yw esgus rhesymol yn berthnasol pan roedd y methiant neu’r rhwystro’n fwriadol.

Rhaid i’r trethdalwr gydymffurfio â’i rwymedigaethau cyn gynted ag sy’n bosibl ar ôl datrys ei esgus rhesymol. Os na fydd yn cywiro’r weithred neu’r anweithred heb oedi afresymol ar ôl i’r esgus ddod i ben, mae’n dal yn agored i dalu’r gosb.

Bydd ACC yn ystyried yn ofalus pan ddaw esgus rhesymol i ben a’r camau gweithredu a gymerodd y trethdalwr ar ôl yr adeg honno i gywiro’r weithred/anweithred, neu i gywiro’r methiant fel arall. Rhaid delio â phob achos yn ôl ei rinweddau ei hun.
O ran oedi afresymol, nid oes diffiniad statudol o ‘afresymol’. Unwaith eto, rhaid penderfynu ar bob achos yn ôl ei rinweddau ei hun gan ystyried galluoedd ac amgylchiadau’r trethdalwr.

Os bydd ACC yn penderfynu peidio â derbyn bod esgus y trethdalwr yn rhesymol a’i fod yn rhoi cosb, caiff y trethdalwr ofyn am adolygiad neu apêl mewn perthynas â phenderfyniad ACC.

DCRhT/3110 Lleihau cosbau mewn amgylchiadau arbennig

Caiff ACC leihau swm unrhyw rai o’r cosbau canlynol (gan gynnwys unrhyw log mewn perthynas â’r gosb) os yw’n credu ei bod hi’n iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.

  • unrhyw gosb am fethu dychwelyd ffurflen dreth
  • unrhyw gosb am fethu talu treth
  • cosb am anghywirdeb mewn dogfen trethdalwr a roddir i ACC
  • cosb am anghywirdeb mewn dogfen trethdalwr a roddir i ACC ac mae modd ei briodoli i berson ar wahân i’r trethdalwr
  • cosb am fethu rhoi gwybod i ACC am danddyfarniad neu danasesiad o dreth.

Caiff ACC hefyd benderfynu, oherwydd amgylchiadau arbennig, defnyddio unrhyw un o’r camau gweithredu canlynol mewn perthynas â’r cosbau hyn (gan gynnwys unrhyw log mewn perthynas â’r gosb):

  • dileu’r gosb yn llwyr
  • ei gohirio, a
  • chytuno ar gyfaddawd gyda’r trethdalwr mewn perthynas ag achos yn ymwneud â’r gosb.

Nid yw’r ffaith na all trethdalwr dalu yn cynrychioli amgylchiadau arbennig nac ychwaith y ffaith y caiff unrhyw golled bosibl mewn refeniw i ACC gan y trethdalwr ei gwrthbwyso gan ordaliad posibl i ACC gan rywun arall.

Er mwyn cael eu hystyried yn amgylchiadau arbennig, rhaid i’r amgylchiadau dan sylw fod yn berthnasol i’r trethdalwr a rhaid iddynt beidio â bod yn amgylchiadau cyffredinol sy’n berthnasol i nifer o drethdalwyr yn rhinwedd deddfwriaeth cosbau.

Mae amgylchiadau arbennig yn rhywbeth na ddarperir ar eu cyfer fel arall mewn deddfwriaeth. Felly, er enghraifft, ni fyddant yn cynnwys:

  • materion sy’n esgus rhesymol neu ofal rhesymol, neu
  • y ffactorau arferol - dweud, helpu a rhoi mynediad - y mae ACC yn eu hystyried wrth bwyso a mesur a ddylid lleihau swm cosb am ansawdd datgeliad.

Mae amgylchiadau arbennig yn amgylchiadau anghyffredin neu eithriadol y dylai fod modd eu hadnabod yn glir fel hynny a’u bod yn hollol ar wahân i’r ystyriaethau eraill a nodir uchod.

Gall amgylchiadau arbennig gynnwys y ffaith fod ACC wedi cytuno y caiff person dalu swm o dreth ddatganoledig mewn rhandaliadau dros gyfnod y cytunir arno, ond mae’n bosibl na fydd hyn yn bendant; bydd ACC yn pwyso a mesur amgylchiadau pob achos penodol ac yn ystyried yr holl ffactorau perthnasol.

DCRhT/3120 Gostyngiad am ddatgelu

Caiff ACC leihau swm unrhyw un o'r cosbau canlynol os:

  • mewn perthynas ag unrhyw gosb am fethu dychwelyd ffurflen dreth, bydd y trethdalwr yn datgelu gwybodaeth berthnasol i ACC
  • mewn perthynas â chosb am anghywirdeb mewn dogfen trethdalwr a roddir i ACC, mae’r trethdalwr yn gwneud datgeliad cymwys i ACC (sy’n fwy na dim ond cyflwyno ffurflen dreth)
  • mewn perthynas â chosb am anghywirdeb mewn dogfen trethdalwr a roddir i ACC ac mae modd ei briodoli i berson arall, mae’r trethdalwr yn gwneud datgeliad cymwys i ACC
  • mewn perthynas â chosb am fethu rhoi gwybod i ACC am danddyfarniad neu danasesiad o dreth, mae'r trethdalwr yn gwneud datgeliad cymwys i ACC.

Datgelu ‘gwybodaeth berthnasol’ – Cosbau am fethu dychwelyd ffurflen dreth

Mae ‘gwybodaeth berthnasol’ yn golygu gwybodaeth sydd wedi cael ei dal yn ôl o ganlyniad i fethu dychwelyd ffurflen dreth i ACC.

Mae'r trethdalwr yn datgelu gwybodaeth berthnasol i ACC drwy:

  • ddweud wrth ACC amdano
  • rhoi cymorth rhesymol i ACC feintioli unrhyw dreth nas talwyd oherwydd i’r wybodaeth berthnasol gael ei dal yn ôl, a
  • chaniatáu i ACC gael mynediad at gofnodion y trethdalwr er mwyn i ACC allu gwirio faint o dreth sydd heb ei thalu.

Caiff unrhyw ostyngiadau am ddatgelu y bydd ACC yn eu gwneud i gosb am fethu dychwelyd ffurflen dreth adlewyrchu:

  • pa un a oedd datgelu’r wybodaeth berthnasol wedi ei gymell neu’n ddigymell, ac
  • ansawdd y datgeliad.

Mae datgelu gwybodaeth berthnasol yn ‘ddigymell’ os oedd y trethdalwr wedi datgelu ar adeg pan nad oedd gan y trethdalwr reswm dros gredu bod ACC wedi canfod, neu ar fin canfod, y wybodaeth berthnasol. Mae datgelu gwybodaeth berthnasol nad yw’n ‘ddigymell’ yn ddatgelu ‘wedi ei gymell’.

Mewn perthynas â datgelu, mae ‘ansawdd’ yn cynnwys amseru, natur a graddfa'r datgelu.

Mae’r pennawd ‘Gostyngiadau’ isod yn nodi’r lefelau gwahanol o ostyngiad y caiff ACC ei wneud i swm cosb, gan ddibynnu ar ansawdd y datgeliad ac a oedd wedi’i gymell neu’n ddigymell.

Datgeliadau cymwys

Mae ‘datgeliad cymwys’ (o dan adran 139(2) DCRhT) yn golygu datgelu:

  • anghywirdeb
  • cyflenwi gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth, neu
  • fethiant i ddatgelu tanasesiad neu danddyfarniad,

Mae’r trethdalwr yn gwneud datgeliad cymwys i ACC (dan adran 139(3) DCRhT) drwy:

  • ddweud wrth ACC amdano
  • rhoi help rhesymol i ACC i fesur yr anghywirdeb, yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth, neu'r tanasesiad neu’r tanddyfarniad, a
  • chaniatáu i ACC gael mynediad at gofnodion y trethdalwr er mwyn i ACC allu sicrhau bod yr anghywirdeb, yr anghywirdeb sydd i’w briodoli i ddarparu gwybodaeth ffug neu atal gwybodaeth, neu’r tanasesiad neu’r tanddyfarniad yn cael ei gywiro’n llawn.

Caiff unrhyw ostyngiadau am ddatgeliad cymwys adlewyrchu (dan adran 139(4) DCRhT):

  • pa un a oedd datgelu’r wybodaeth berthnasol wedi ei gymell neu’n ddigymell, ac
  • ansawdd y datgeliad.

Mae datgelu gwybodaeth berthnasol yn ‘ddigymell’ os oedd y trethdalwr wedi datgelu ar adeg pan nad oedd gan y trethdalwr reswm dros gredu bod ACC wedi canfod, neu ar fin canfod, yr anghywirdeb, bod gwybodaeth ffug wedi’i rhoi neu fod gwybodaeth wedi’i hatal, neu’r tanasesiad neu’r tanddyfarniad. Mae datgelu gwybodaeth berthnasol nad yw’n ‘ddigymell’ yn ddatgelu ‘wedi ei gymell’ (dan adran 139(5) DCRhT).

Mewn perthynas â datgelu, mae ‘ansawdd’ yn cynnwys amseru, natur a graddfa'r datgelu (adran 139(6) DCRhT).

Mae’r pennawd ‘Gostyngiadau’ isod yn nodi’r lefelau gwahanol o ostyngiad y caiff ACC ei wneud i swm cosb, gan ddibynnu ar ansawdd y datgeliad ac a oedd wedi’i gymell neu’n ddigymell.

Gostyngiadau

Fel y nodir uchod, yn ôl ei ddisgresiwn caiff ACC leihau swm cosb gan ddibynnu ar ansawdd datgeliad y trethdalwr ac a oedd yn ddigymell neu wedi ei gymell. Bydd y swm y caiff ACC leihau’r gosb yn amrywio o un achos i’r llall. 

Mae ansawdd y datgeliad yn edrych ar dair elfen graidd: ‘dweud, helpu a rhoi mynediad’. Mae’r rhain yn penderfynu lle bydd y gosb yn disgyn yn yr ystod o gosbau. 

Ar gyfer:

  • dweud, caiff ACC roi hyd at 30%
  • helpu, caiff ACC roi hyd at 40%
  • rhoi mynediad at gofnodion, caiff ACC roi hyd at 30%.

Gyda’i gilydd mae hyn yn rhoi 100% o gyfanswm y gostyngiad posibl.

Enghreifftiau:

  • dweud wrth ACC am, neu gytuno bod rhywbeth o'i le a sut a pham bod hynny wedi digwydd 
  • dweud wrth ACC am raddfa’r hyn sydd o’i le cyn gynted ag y bydd y trethdalwr yn gwybod amdano 
  • dweud a helpu ACC drwy ateb cwestiynau’n llawn 
  • helpu ACC i ddeall dogfennau a gwybodaeth 
  • helpu ACC drwy ateb llythyrau’n gyflym 
  • helpu ACC drwy gytuno i ddod i unrhyw gyfarfodydd, neu ymweliadau sydd ar adeg sy’n hwylus i’r naill ochr a’r llall 
  • helpu ACC drwy wirio cofnodion i ddod o hyd i raddfa'r anghywirdeb 
  • helpu ACC drwy ddefnyddio cofnodion preifat y trethdalwr i ddod o hyd i werthiant neu incwm nad yw wedi’i gynnwys yn ei ffurflen dreth 
  • rhoi mynediad at ddogfennau mae ACC wedi gofyn amdanynt heb oedi diangen 
  • rhoi mynediad at ddogfennau nad yw ACC yn gwybod amdanynt efallai, yn ogystal â’r rheini mae’n gofyn am gael eu gweld 

Efallai y bydd rhai o’r categorïau uchod yn gorgyffwrdd. Gallai un weithred olygu bod yn gymwys ar gyfer gostyngiad o dan un categori neu fwy.

Enghraifft - Cyfrifo cyfradd canran y gosb

Penderfynir ar gyfradd canran y gosb gan ystod y gosb a’r gostyngiad
ar gyfer ansawdd y datgeliad.

Er enghraifft, os canfu ACC anghywirdeb diofal mewn ffurflen dreth nad oedd y trethdalwr wedi dweud wrtho amdano cyn dechrau ymchwiliad. Pan ddywedodd ACC wrth y trethdalwr am yr anghywirdeb, roedd yn cytuno ag ACC. Roedd hyn yn ddatgeliad wedi’i gymell. 

Ystod y gosb am anghywirdeb diofal gyda datgeliad wedi’i gymell yw
0% i 30% o’r refeniw posibl a gollir.

Y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) oedd 70%.

Er mwyn cyfrifo cyfradd canran y gosb, yn gyntaf mae ACC yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng y canrannau cosb isaf ac uchaf 30% tynnu 15% = 15%
Mae ACC wedyn yn lluosi’r ffigur hwnnw gyda’r gostyngiad am ansawdd y datgeliad er mwyn cyrraedd y gostyngiad canran 15% x 70% = 10.5%
Mae ACC wedyn yn tynnu’r gostyngiad canran o’r ganran cosb uchaf y caiff godi 30% tynnu 10.5% = 19.5%
Mae hyn yn rhoi’r gyfradd canran cosb 19.5%

DCRhT/3130 Apeliadau ac adolygiadau o benderfyniadau cosb

Mae gan drethdalwyr yr hawl i ofyn am adolygiad neu i apelio i’r Tribiwnlys mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad ynghylch cosb gan ACC.

Os caiff apêl ei gwneud yn erbyn y gosb neu os bydd ACC yn cynnal adolygiad o’r penderfyniad ynghylch y gosb, caiff adennill swm y gosb ei ohirio nes penderfynir ar yr apêl neu nes caiff yr adolygiad ei gwblhau.

DCRhT/3140 Penderfynu ar swm y gosb

Mae cosbau yn disgyn i ddau gategori cyffredinol: rhai swm penodedig, a’r rheini lle gall y swm amrywio (fel rheol hyd at derfyn penodol).

Ar gyfer cosbau lle na chaiff y swm a roddir fynd dros derfyn penodol, bydd ACC yn cyfrifo swm y gosb, a hynny fel rheol drwy ddechrau o’r terfyn uchaf ym mhob ystod cosb a phenderfynu a oes gostyngiad ar gael ac ystyried amgylchiadau a ffeithiau penodol yr achos.

Mwy nag un gosb yn daladwy

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen talu mwy nag un gosb i ACC pan fydd trethdalwr wedi methu cydymffurfio â'r rhwymedigaethau yn y ddeddfwriaeth treth ddatganoledig. Mewn amgylchiadau o'r fath, bydd ACC yn penderfynu a yw pob cosb yn berthnasol yn ei rhinwedd ei hun yn ôl y ffeithiau. Fodd bynnag, wrth benderfynu ar swm cosb pan nad yw'r swm yn benodedig, bydd ACC hefyd yn ystyried canlyniad cyfun y cosbau gyda’i gilydd i sicrhau eu bod yn gymesur i amgylchiadau ac ymddygiad y trethdalwr, a faint o dreth a oedd wedi cael ei tanddatgan (neu ei cholli drwy ddatganiad gormodol o golled, hawliad am ad-daliad neu gredyd treth).

Enghraifft

Mae cwmni A wedi cytuno ar ddull pwyso amgen gydag ACC i gyfrifo pwysau’r gwastraff a gaiff ei waredu yn ei safle tirlenwi awdurdodedig. Fodd bynnag, nid yw'r cwmni’n defnyddio’r dull amgen yn unol â’r cytundeb. Mae hyn hefyd yn arwain at ffeilio ffurflen dreth anghywir ar gyfer y cyfnod dan sylw, gan fod y pwysau anghywir wedi cael eu defnyddio wrth gyfrifo gwarediadau trethadwy. Mae ACC yn dod yn ymwybodol o’r mater wrth gynnal ymchwiliad i’r ffurflen dreth ar gyfer y chwarter pan ddefnyddiwyd y dull anghywir. Cododd yr anghywirdeb o fethu cymryd gofal rhesymol.

O ganlyniad, mae’r cwmni’n agored i gosb na fydd yn fwy na £500 o dan adran 61 Deddf y Dreth Gwarediadau Tirlenwi 2017 (am beidio â phennu pwysau trethadwy yn gywir), ac am gosb na fydd yn fwy na 30% o’r refeniw posibl a gollir o dan adran 129 DCRhT (am anghywirdeb diofal mewn ffurflen).

Mewn achosion o’r fath, yn ogystal ag ystyried a oes modd lleihau cosbau ar eu telerau eu hunain, bydd ACC hefyd yn ystyried effaith y cosbau cyfun er mwyn sicrhau bod y canlyniad cyffredinol yn gymesur i’r amgylchiadau a faint o dreth ddatganoledig a oedd wedi cael ei tanddatgan.