Neidio i'r prif gynnwy

Cysylltwch ag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ynglŷn â’r Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Bydd y ddesg gymorth ar gau ar ddydd Iau 27 Mawrth.

Os oes gennych ymholiad, defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein a byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl ar ôl ailagor ar ddydd Gwener 28 Mawrth am 10yb.

Desg gymorth

Os yw eich ymholiad am y Dreth Trafodiadau Tir neu’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, cysylltwch â ni drwy:

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Ar gyfer ymholiadau treth incwm, cysylltwch â CThEM.

Os byddwch yn ein ffonio, efallai y byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen ar-lein er mwyn i ni allu eich helpu’n fwy effeithiol.

Nodwch ein bod yn darparu canllawiau ar reolau treth a byddwn yn rhoi opiniwn mewn rhai achosion os gofynnir amdano drwy ein gwasanaeth opiniwn treth. Ond ni allwn roi cyngor ar dreth i chi.

Anawsterau ariannol a chymorth ychwanegol

Os ydych chi’n cael anawsterau talu neu’n disgwyl cael anawsterau talu neu os oes angen help neu gymorth ychwanegol arnoch er mwyn defnyddio ein gwasanaethau, cysylltwch â ni. Rydym ni yma i helpu.

Gallwch hefyd awdurdodi rhywun i weithredu ar eich rhan.

Rydym wedi defnyddio eich adborth er mwyn gwella ein ffurflen gyswllt ar-lein. Nawr gallwch argraffu copi o'ch ffurflen a byddwn yn anfon e-bost cydnabod atoch. Rydym hefyd wedi lleihau nifer yr opsiynau er mwyn ei gwneud hi'n gyflymach i'w chwblhau. 

Os ydych wedi llyfrnodi'r ffurflen yn uniongyrchol, bydd angen i chi ddiweddaru'ch dolen. Er mwyn osgoi diweddaru dolenni yn y dyfodol, rydym yn argymell eich bod yn llyfrnodi ein tudalen gysylltu â ni.

Post

Awdurdod Cyllid Cymru

Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL

I anfon unrhyw ohebiaeth atom ni, gan gynnwys cyflwyno achosion cyfreithiol neu unrhyw ddogfennau cyfreithiol eraill, os y gallwch, defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.

Our helpdesk will be closed on Tuesday 21 January 2025.

If you have a query, please use our online contact form and we’ll get back to you as soon as possible after re-opening on Wednesday 22 January at 10am.