Yn y canllaw hwn
2. Pwy sy'n gymwys
Mae'r cynllun yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi cael benthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ers blwyddyn academaidd 2010 i 2011 i'w helpu i astudio cwrs israddedig amser llawn. Nid yw'n berthnasol i'r rheini sy'n cael benthyciadau ar gyfer astudio cwrs israddedig rhan-amser neu gwrs ôl-radd.
Ni fydd myfyrwyr yn gymwys i gael swm wedi'i ddileu os oes ganddynt ffioedd, costau, treuliau neu gosbau heb eu talu mewn perthynas â'u benthyciad neu os ydynt wedi torri eu cytundeb benthyciad.
Os yw myfyrwyr yn cymryd benthyciad mewn mwy nag un flwyddyn academaidd, y benthyciad cynhaliaeth cyntaf a drefnwyd 1 fydd yn gymwys.
Cyn belled â bod y myfyriwr wedi cymryd benthyciad a'i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, bydd y swm yn cael ei ddileu pan fydd yn gwneud ei ad-daliad cyntaf. Gall hwn fod yn ad-daliad statudol neu wirfoddol. Bydd myfyriwr yn gwneud ad-daliad statudol os yw ei incwm, ar ôl i’r dyddiad statudol y mae’r ad-daliad yn ddyledus fynd heibio, yn uwch na'r trothwy ad-dalu perthnasol. Os yw ei incwm yn aros o dan y trothwy ad-dalu am sawl blwyddyn, bydd yn parhau i fod yn gymwys pan fydd yn gwneud ad-daliad statudol yn y dyfodol. Gall myfyriwr hefyd wneud taliad gwirfoddol ar unrhyw adeg, a bydd hwn hefyd yn cyfrif tuag at ad-dalu ei fenthyciadau.
Bydd y swm yn cael ei ddileu'n fuan ar ôl i'r ad-daliad cyntaf gael ei wneud a bydd i'w weld ar gyfriflen nesaf benthyciad y myfyriwr fel arfer.
Dim ond unwaith y gall myfyriwr gael swm wedi'i ddileu, hyd yn oed os mai £0 oedd y swm hwnnw am ei fod wedi talu'r ddyled a oedd yn weddill yn llawn. Dylai myfyrwyr ystyried hyn wrth wneud ad-daliadau gwirfoddol.