Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

3. Faint o’r swm sy’n ddyledus fydd yn cael ei ddileu

Bydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn cyfrif faint fydd yn cael ei dynnu o falans y benthyciad cynhaliaeth cymwys cyn gynted ag y mae'r myfyriwr wedi gwneud ei ad-daliad cyntaf.

Bydd y swm a gaiff ei dynnu’n dibynnu ar yr ad-daliad cyntaf:

  • os bydd y myfyriwr yn ad-dalu'r benthyciad cymwys cyfan mewn un taliad, sero fydd y swm a gaiff ei ddileu. Ni fydd y myfyriwr yn gymwys ar gyfer dileu swm pellach yn y dyfodol
  • os yw balans y benthyciad yn llai na £1,500, bydd y balans sy'n weddill yn cael ei ddileu. Er mwyn i’r swm gael ei ddileu, rhaid i’r ad-daliad cyntaf gael ei dynnu o’r balans. Ni fydd y myfyriwr yn gymwys ar gyfer dileu swm pellach yn y dyfodol
  • os yw balans y benthyciad yn fwy na £1,500, gallai hyd at £1,500 gael ei ddileu. Er mwyn i’r swm gael ei ddileu, rhaid i’r ad-daliad cyntaf gael ei dynnu o’r balans. Ni fydd y myfyriwr yn gymwys ar gyfer dileu swm pellach yn y dyfodol

Os yw'r swm sy'n cael ei dynnu yn llai na £1,500, gan gynnwys lle mae'n £0, ni fydd modd dileu swm pellach o unrhyw ddyled benthyciad arall yn y dyfodol.