Canllawiau yn ymwneud â rhan 3A adran 81 o’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 mewn perthynas â rheol gwrth-osgoi cyffredinol.
Cynnwys
DCRhT/8010 Diben a statws yr arweiniad hwn
Mae'r Rheol Gwrthweithio Osgoi Trethi Cyffredinol ('GAAR') yn berthnasol i drethi datganoledig Cymru. Y trethi datganoledig yw’r Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Nid yw Rheol Gyffredinol ar Atal Camddefnydd y Deyrnas Unedig yn berthnasol i drethi datganoledig Cymru.
Dylid nodi, er bod yna debygrwydd rhwng y GAAR sydd ar waith mewn perthynas â threthi datganoledig Cymru a Rheol Gyffredinol ar Atal Camddefnydd y Deyrnas Unedig a Rheol Gwrthweithio Osgoi Trethi Cyffredinol yr Alban, mae'n cynnwys nifer o wahaniaethau penodol i'r ddwy reol hyn. Gan hynny, mae'n bwysig wrth ystyried cymhwyso'r GAAR i'r trethi datganoledig bod trethdalwyr, eu cynghorwyr a staff yr Awdurdod Cyllid yn gwbl ymwybodol o'r ddeddfwriaeth a geir yn Rhan 3A o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (adrannau 81A i 81I), a'r arweiniad hwn.
Mae gan yr arweiniad hwn dri phrif amcan:
- rhoi crynodeb eang o'r hyn y mae'r GAAR yn ceisio ei gyflawni, a sut mae'r GAAR yn gweithredu i'w gyflawni
- helpu gyda dehongli a chymhwyso'r GAAR, drwy drafod ei ddiben, ystyried nodweddion arbennig y GAAR a, lle bo'n briodol, dangos y drafodaeth honno drwy gyfrwng enghreifftiau, a
- nodi sut bydd yr Awdurdod Cyllid yn defnyddio’r GAAR i fynd i'r afael â gweithgarwch osgoi
Er y bwriedir i'r arweiniad fod yn offeryn defnyddiol i drethdalwyr, ni all ddarparu eglurder na sicrwydd cyflawn. Bwriad y GAAR yw dal sefyllfaoedd neu drafodion na ystyriwyd yn benodol ac na ragwelwyd pan ddeddfwyd. Os oes amheuaeth a ellir dal trafodiad penodol drwy’r GAAR, dylai trethdalwyr fod yn ofalus a rhagweld y bydd yr Awdurdod Cyllid yn mynd ati i geisio cymhwyso dehongliad eang o'r GAAR.
Yn wahanol i Reol Gyffredinol ar Atal Camddefnydd y Deyrnas Unedig, ni chyfeirir at yr arweiniad hwn yn benodol yn y ddeddfwriaeth. Nid oes gofyniad sy’n debyg i Adran 211(2) Deddf Cyllid 2013, sy'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw lys neu dribiwnlys sy'n ystyried cymhwyso Rheol Gyffredinol ar Atal Camddefnydd y Deyrnas Unedig ystyried arweiniad Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Mater i'r llys neu'r tribiwnlys fydd penderfynu pa dystiolaeth i'w hystyried a pha arwyddocâd y dylid ei roi i'r arweiniad hwn mewn unrhyw achos mewn perthynas â chymhwyso'r GAAR.
Mae'r arweiniad wedi ei deilwra i drethi datganoledig Cymru. Ni fydd y GAAR yn cwmpasu datganoli treth incwm yn rhannol i Gymru oherwydd bydd treth incwm yn parhau dan weinyddiaeth CThEM, a bydd Rheol Gyffredinol ar Atal Camddefnydd y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn gymwys.
Darperir arweiniad hefyd mewn perthynas ag agweddau gweithdrefnol rhoi'r GAAR ar waith. Mae hyn yn cynnwys yr Awdurdod Cyllid yn rhoi hysbysiadau gwrthgyfeirio arfaethedig a therfynol, a sut bydd addasiadau i ddod ag unrhyw dreth a gaiff ei hasesu o dan y GAAR yn cael eu gweithredu.
DCRhT/8020 I ba ddiben y cynlluniwyd y GAAR
Mae gweithredu'r GAAR gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ('y Cynulliad') yn ddatganiad clir na chaniateir i unrhyw un gyfyngu ar eu rhwymedigaeth i drethi datganoledig drwy ymgymryd â dulliau osgoi treth artiffisial.
Yn hytrach, mae'r Cynulliad wedi pennu terfyn statudol ar gyfer y graddau y gall trethdalwyr geisio cyfyngu ar eu rhwymedigaeth treth. Mae'n bosibl y bydd trethdalwr sy'n defnyddio trefniadau osgoi treth artiffisial nad ydynt yn gamau rhesymol yn canfod bod y GAAR yn cael ei ddefnyddio i weithio yn erbyn eu gwaith cynllunio treth.
Prif bwrpas y GAAR yw darparu offeryn cadarn i'r Awdurdod Cyllid fynd i'r afael â threfniadau artiffisial sy'n creu mantais dreth nad oedd y Cynulliad yn ei bwriadu wrth weithredu'r ddeddfwriaeth berthnasol. Gan hynny, dylai'r GAAR, yn bennaf, atal trethdalwyr rhag defnyddio trefniadau o'r fath.
Nid bwriad y GAAR yw atal trethdalwyr rhag trefnu eu materion - er enghraifft, hawlio rhyddhad y mae'r Cynulliad yn bwriadu iddo gael ei hawlio. Fodd bynnag, gall trethdalwyr sy'n trefnu eu materion mewn modd artiffisial i roi eu hunain, neu drethdalwr arall, mewn sefyllfa i hawlio rhyddhad na fyddai fel arall ar gael iddynt, ganfod y bydd GAAR yn cael ei ddefnyddio i weithio yn erbyn y fantais dreth a gafwyd.
DCRhT/8030 Trefniadau sy'n cael eu dal gan y GAAR
Mae'r GAAR yn rhoi pŵer i'r Awdurdod Cyllid weithio yn erbyn “mantais dreth” sy'n deillio o “drefniant osgoi treth artiffisial”. Mae tair elfen hyn ("mantais dreth", "artiffisial" a "threfniadau osgoi treth") wedi eu diffinio yn y DCRhT yn adrannau 81D, 81C ac 81B yn y drefn honno.
Ystyr “mantais dreth”
Yn y GAAR, dim ond un o'r pethau a restrir yn adran 81D y gall "mantais dreth" ei olygu. Y rhain yw:
- hawlio rhyddhad treth neu gynnydd yn y rhyddhad
- ad-dalu treth neu gynnydd mewn ad-daliad treth
- osgoi neu ostwng ffi dreth
- gohirio talu treth neu yrru ad-daliad treth ymlaen, ac
- osgoi rhwymedigaeth i ddidynnu treth neu roi cyfrif am dreth
Ystyr “trefniadau osgoi treth”
Nodir yn Adran 81B(1) bod trefniant yn “drefniant osgoi treth” os mai:
“cael mantais drethiannol ar gyfer unrhyw berson yw’r prif ddiben, neu un o’r prif ddibenion, pam y mae trethdalwr yn ymrwymo i’r trefniant.”
Er mwyn i faterion trethdalwr gael eu gwrthweithio gan y GAAR o bosibl, mae'n rhaid i'r trethdalwr fod wedi ceisio cael mantais iddo ei hunan neu unigolyn arall drwy (er enghraifft) dalu llai o dreth, gwneud hawliad am ad-daliad neu ohirio talu treth. Mae'n rhaid bod cael y fantais honno wedi bod yn brif reswm neu’n un o'r prif resymau dros gynnwys neu strwythuro'r trefniadau yn y modd a arweiniodd at y fantais.
Gan hynny, mae'r prawf yn cwmpasu sefyllfaoedd lle mai’r prif bwrpas oedd cael y fantais dreth ac achosion lle mai'r fantais dreth oedd un o'r prif ddibenion. Mewn llawer o achosion - er enghraifft, yn y Dreth Trafodiadau Tir, mae'n bosibl mai'r prif bwrpas fydd perchenogi'r tir.
Fodd bynnag, os yw trefniadau wedi eu strwythuro fel eu bod yn arwain at lai o dreth neu ddim treth o gwbl yn daladwy, er enghraifft, nag a fyddai fel arall wedi bod yn absennol yn y trefniadau hynny, yna mae gostwng y rhwymedigaeth treth yn debygol o fod yn un o'r prif resymau dros gyflwyno’r trefniadau. Wrth benderfynu a yw'r trefniadau yn drefniadau osgoi treth, mae'r dreth a fyddai wedi bod yn daladwy (neu na fyddai’n ad-daladwy) pe na bai’r trefniadau wedi cael eu cyflwyno, yn ffactor pwysig. Gan hynny, pe bai'r dreth a fyddai wedi bod yn daladwy yn absennol yn y trefniadau, yna yn absenoldeb tystiolaeth arall, gallai hyn awgrymu eu bod yn drefniadau osgoi treth.
Prawf prif ddiben, neu un o'r prif ddibenion
Mae'r diffiniad o “drefniant osgoi treth” yn cynnwys achosion lle mai “prif ddibenion, neu un o brif ddibenion” ('prawf prif ddiben') cyflwyno'r trefniant yw cael mantais dreth.
Wrth gymhwyso'r GAAR, bydd yr Awdurdod Cyllid yn ystyried penderfyniadau'r llysoedd a'r tribiwnlysoedd o ran ystyr prif ddiben ac un o'r prif ddibenion.
Dylid nodi nad yw'r prawf "prif ddiben" yn gweithredu ar ei ben ei hun, gan fod yn rhaid i'r trefniadau osgoi treth fod yn artiffisial hefyd.
Ystyr “trefniant”
Mae'r diffiniad o drefniant at ddibenion y GAAR yn eang, ac mae'n cynnwys (yn adran 81B(3)(a)) yr holl:
- drafodion
- cynlluniau
- camau gweithredu
- gweithrediadau
- cytundebau
- dyfarniadau
- dealltwriaethau
- addewidion
- ymgymeriadau
- digwyddiadau
Mae'r diffiniad hefyd yn cynnwys unrhyw gyfres o'r uchod, naill ai un o'r rhestr (er enghraifft, cyfres o drafodion) neu mewn cyfuniad ag un neu ragor o'r trefniadau rhestredig eraill.
Mae'r GAAR yn berthnasol i holl drethi datganoledig Cymru, felly mae'r diffiniad o "drefniant" yn sicrhau bod trefniadau osgoi sy'n cynnwys y dreth gwarediadau tirlenwi (a allai gynnwys "digwyddiad" penodol neu unigolyn yn ymgymryd â "gweithred" neu "weithrediad" penodol) hefyd o fewn cwmpas y GAAR.
Ystyr “artiffisial”
Bydd trefniant osgoi treth yn "artiffisial" os yw ei gyflwyno neu ei gyflawni yn gam nad yw’n rhesymol o ran y darpariaethau deddfwriaethol sy'n berthnasol i'r trefniadau.
Yn Adran 81C(2), nodir dau o'r ffactorau y gellid eu hystyried wrth benderfynu a yw trefniant yn artiffisial:
-
A oes gan y trefniant unrhyw “sylwedd economaidd neu fasnachol gwirioneddol”?
Mae ystyried a oes gan y trefniant “"unrhyw sylwedd economaidd neu fasnachol gwirioneddol” yn galluogi’r Awdurdod Cyllid (a thrwy hynny’r trethdalwr ac yn y pen draw unrhyw dribiwnlys neu lys) i ystyried y rhesymau y tu ôl i strwythur y trafodiad. Mae rheolau atal osgoi wedi eu targedu (“TAARs”) eraill ar lyfr statud y Deyrnas Unedig eisoes yn gweithredu drwy gyfeirio at “sylwedd masnachol dilys” y trefniant (Er enghraifft, adrannau 455 a 446A Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 a rheoliad 4(2) Rheoliadau Ymddiriedolaethau Buddsoddi mewn Eiddo Tirol (Trefniannau Rhagnodedig) 2009 (S.I. 2009/3315)), neu “bwrpas masnachol bona fide”, a bydd ymarferwyr a'r farnwriaeth yn gyfarwydd ag asesu a oes “sylwedd masnachol” i drefniant ai peidio (Er enghraifft, paragraffau 2(4A) ac 8(5B). Atodlen 7 o Ddeddf Cyllid 2003 ac adran 734 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010, a dyfarniad y Goruchaf Lys UBS AG v Commissioners for Revenue and Customs ([2016] UKSC 13). Bydd yr Awdurdod Cyllid yn ystyried penderfyniadau’r llysoedd a'r tribiwnlysoedd ar ystyr y profion lle mae'r geiriad yn union yr un fath â'r geiriad yn y GAAR.
Bydd y cwestiwn a oes gan drefniant unrhyw sylwedd "economaidd" neu "fasnachol" yn seiliedig ar ffeithiau, a mater i'r trethdalwr wrth lenwi ei ffurflen fydd penderfynu a oedd unrhyw sylwedd economaidd neu fasnachol y tu ôl i'r trefniant a'r strwythur a grëwyd.
Mewn llawer o achosion, bydd sylwedd masnachol neu economaidd trefniant yn ddigon amlwg. Er enghraifft, mewn achos lle gall prynwr tir brynu'r tir hwnnw yn uniongyrchol mewn trafodiad syml A-B, bydd y trethdalwr yn cyflawni ei nod economaidd a masnachol (hynny yw, bod yn berchen ar y tir) ac ni fydd wedi ymrwymo i unrhyw drefniant y gellid ei ystyried yn un artiffisial neu heb sylwedd economaidd neu fasnachol gwirioneddol. Fodd bynnag, pan fo'r prynwr yn ymrwymo i ffordd fwy cymhleth, a mwy costus (heblaw am unrhyw fantais dreth) o gael y tir, mae'n ddangosydd y gallai'r trefniant fod yn brin o sylwedd masnachol gwirioneddol. Heb ystyried y fantais dreth, mae'n rhesymol dadlau na fyddai'r prynwr wedi mynd i'r gost ychwanegol honno o ystyried amcanion economaidd a masnachol caffael y tir.
Mae'r rheol yn edrych ar y sylwedd "economaidd” - er enghraifft, gall caffael plot o dir o bwysigrwydd hanesyddol gan elusen gael ei ysgogi gan awydd yr elusen honno i hyrwyddo ei amcanion elusennol a gwarchod y tir dan sylw, yn hytrach na rhesymau masnachol. Ar ben hynny, mewn treth trafodion tir, mae rhywfaint o'r rhyddhad sy'n ymwneud â rhyddhad ar gyfer trafodion penodol sy'n berthnasol i dai cymdeithasol (Atodlen 14) yn debygol o fod â sylwedd economaidd (perchenogaeth cartref wedi ei gyflawni drwy roi ystyriaeth i'r perchennog) yn hytrach na sylwedd masnachol.
-
A yw'r trefniant yn arwain at swm o dreth i’w chodi nad oedd yn ganlyniad a ragwelwyd pan ddeddfwyd y ddarpariaeth berthnasol?
Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wrth basio deddfwriaeth trethi, wedi disgwyl y bydd y dreth yn cael ei thalu, a rhyddhad yn cael ei hawlio, yn unol â bwriad y ddeddfwriaeth. Os oes amgylchiadau lle mae'r trethdalwr yn hawlio rhyddhad sy'n arwain at swm is o dreth nag y byddai wedi ei thalu heb y trefniadau dan sylw, er enghraifft, yna mae'n bosibl na fyddai'r trefniadau hynny’n arwain at y swm disgwyliedig o dreth yn cael ei thalu.
Gan hynny, os yw rhywun yn gallu, o ganlyniad i'r trefniadau, hawlio rhyddhad na ragwelwyd y dylent allu ei hawlio, o ganlyniad i drefniadau cymhleth o bosibl, yna mae’n bosibl y bydd darpariaethau’r GAAR yn cael eu defnyddio. Mae'r GAAR yn annibynnol ar y rheolau atal osgoi eraill, ac fe ellir ei ddefnyddio i herio trefniant artiffisial a gafodd ei lunio i fanteisio ar ddiffyg, neu ddiffyg canfyddedig, yn y rheolau atal osgoi eraill.
Mae'n bwysig nodi y gallai ffactorau perthnasol eraill fod ar waith, ond bydd hyn yn dibynnu ar natur ac amgylchiadau'r trefniant. Bydd angen ystyried pob achos ar sail y ffeithiau.
DCRhT/8040 Prif arferion cyffredinol
Cynlluniwyd adran 81C(3) i fod yn 'darian' i drethdalwyr yn erbyn unrhyw hawliad gan yr Awdurdod Cyllid bod trefniant yn artiffisial mewn achosion lle mae'r trefniant yn gyson ag arfer cyffredinol, a bod yr arfer hwnnw wedi ei dderbyn gan yr Awdurdod Cyllid. Mae'r rheol hon yn fodd o ddarparu amddiffyniad ychwanegol i drethdalwyr: ni fyddai'n iawn i'r Awdurdod Cyllid geisio adennill treth a osgowyd pe bai'r Awdurdod Cyllid eisoes wedi nodi bod y trefniant yn dderbyniol.
Mae'r rheol arfer cyffredinol a ddarperir yn adran 81C(3) yn darparu gwaharddiad absoliwt ar drefniant yn cael ei ddosbarthu fel un "artiffisial" yng nghyd-destun y GAAR.
Fodd bynnag, pwynt allweddol yw bod yn rhaid i'r prif arfer cyffredinol fod yn rhywbeth y mae'r Awdurdod Cyllid yn ymwybodol ohono, ac y mae wedi nodi ei fod yn derbyn bod y trefniadau y tu allan i gwmpas y GAAR. Bydd yr Awdurdod Cyllid yn ystyried cyfraith achosion sy'n nodi'r hyn sy'n brif arferion yn gyffredinol, fel nad yw'n cynnwys camddealltwriaeth gyffredin o gymhwyso'r gyfraith (Boyer Allan Investment Services Limited v HMRC [2012] UKFTT 558). At hynny, os yw trethdalwyr neu gynghorwyr o'r farn bod set o drefniadau sy'n arwain at fantais dreth yn brif arferion cyffredinol, ni fydd yn brif arfer cyffredinol rhoi amddiffyniad i drethdalwyr o dan adran 81C(3) os nad yw'r Awdurdod Cyllid yn ymwybodol o'r arfer, neu os yw’n ymwybodol ond nad yw wedi nodi’n ysgrifenedig ei fod yn derbyn yr arfer hwnnw.
DCRhT/8050 A yw GAAR Cymru yn ehangach na Rheol Gyffredinol ar Atal Camddefnydd y Deyrnas Unedig?
Ni chredir bod GAAR Cymru yn sylweddol ehangach na Rheol Gyffredinol ar Atal Camddefnydd y Deyrnas Unedig. Ar wahân i'r derminoleg wahanol "artiffisial" a "chamdriniol", y gwahaniaeth allweddol rhwng GAAR Cymru o'i gymharu â Rheol Gwrthweithio Osgoi Trethi Cyffredinol y Deyrnas Unedig yw'r prawf “rhesymol dwbl”. Yn gyffredin â Rheol Gwrthweithio Osgoi Trethi Cyffredinol yr Alban, nid yw'r GAAR yn mabwysiadu'r rheol hon oherwydd, fel awdurdod cyhoeddus, bydd yr Awdurdod Cyllid yn rhwym gan egwyddorion cyfraith gyhoeddus arferol, gan gynnwys y gofyniad i weithredu'n rhesymol. Nid oes angen gwaharddiad statudol ar yr Awdurdod Cyllid rhag gwrthweithio trefniant, lle mae o'r farn afresymol fod yr angen i'r trefniant gael ei ddal gan y GAAR.
DCRhT/8060 Y GAAR ac Opiniwn treth yr Awdurdod Cyllid
Pan fydd trethdalwr yn cael opiniwn treth gan yr Awdurdod Cyllid ar weithredu’r trethi datganoledig yn unol â'r rheolau yn ACC Gwasanaeth Opiniwn Treth yna dylent allu dibynnu ar farn yr Awdurdod Cyllid ynghylch gweithredu’r ddeddfwriaeth yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd gan y trethdalwr.
Ni fydd yr Awdurdod Cyllid yn rhoi opiniwn treth ynghylch cymhwyso’r GAAR. Os bydd cais am opiniwn treth yn cyfeirio at gymhwyso'r GAAR i drafodiad, byddwn yn diystyru'r elfen hon o'r cais yn ein hymateb ac yn nodi ein barn ar ganlyniadau treth yr amgylchiadau neu drafodion penodol yn absenoldeb y GAAR.
Ar ben hynny, ni fydd y trethdalwr yn gallu dibynnu ar opiniwn treth yr Awdurdod lle ceisir barn mewn perthynas ag un rhan o drefniant, neu mewn perthynas ag un trefniant sy'n gysylltiedig â threfniadau eraill, er mwyn osgoi treth. sydd wedi’i fwriadu, neu y gellid disgwyl iddo osgoi treth. Wrth ofyn am opiniwn mae'n rhaid i drethdalwr ddarparu manylion llawn y trafodiad.
Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi ymrwymo i helpu trethdalwyr i dalu’r swm iawn o drethi ar yr adeg iawn. Os yw trethdalwr wedi ymrwymo i drefniant neu'n ystyried gwneud hynny ac y gellid disgwyl mai mantais treth ddatganoledig fydd y prif fudd, byddwn yn rhoi opiniwn ar agweddau technegol y trefniant hwnnw. Fodd bynnag, ni fyddwn yn rhoi barn o ran a yw hyn yn cyfrif fel osgoi treth ddatganoledig.
Ni fydd yr Awdurdod Cyllid yn darparu cyngor cynllunio treth, nac opiniwn ar geisiadau hapfasnachol, damcaniaethol neu “beth os”.
Felly, ni all trethdalwr ddibynnu ar opiniwn treth mewn perthynas â chymhwyso'r GAAR i drafodiad. Cyfrifoldeb y trethdalwr yw hunanasesu'r trafodiad mewn perthynas â'r GAAR. Ar ôl llenwi ffurflen dreth, gall yr Awdurdod Cyllid geisio cymhwyso'r GAAR i'r trafodiad pan fo'n briodol, a all newid y sefyllfa dreth.
DCRhT/8070 Y GAAR a rheolau trethi datganoledig eraill
Cynlluniwyd y GAAR i weithio yn erbyn manteision treth sy'n codi o ganlyniad i'r trefniadau osgoi treth artiffisial a ddefnyddiwyd gan y trethdalwr. Gan hynny, mae'n rhaid i'r Awdurdod Cyllid ddod i'r casgliad bod y trefniadau’n artiffisial cyn cymryd camau i wrthsefyll y fantais dreth gan ddefnyddio'r GAAR.
Mae'n debyg y bydd trethdalwr eisoes yn destun ymchwiliad cyn i'r Awdurdod Cyllid ddadlau fod y trethdalwr wedi sbarduno’r GAAR o bosibl. Mae'n bosibl y bydd yr Awdurdod Cyllid, cyn cyflwyno dadleuon o dan y GAAR, wedi datblygu dadleuon yn barod dan feysydd eraill o'r ddeddfwriaeth trethi datganoledig i herio'r canlyniad treth y mae'r trethdalwr wedi ceisio eu cyflawni. Gan hynny, mewn ymchwiliadau o'r fath, gall yr Awdurdod Cyllid redeg nifer o ddadleuon gyda chanlyniadau treth gwahanol ac, o bosibl, gyda gwahanol drethdalwyr yn rhwymedig i'r dreth (yn dibynnu ar y trefniadau dan sylw).
Mae'n bosibl y bydd rhai trefniadau yn ymddangos mor amlwg o artiffisial y byddai'n briodol i'r Awdurdod Cyllid ddechrau ei ymchwiliad gyda'r bwriad o ddangos bod y GAAR wedi cael ei sbarduno. Gallai hyn fod yn wir pan fo tystiolaeth yn dod i'r amlwg bod trethdalwr wedi ymrwymo i'r un trefniadau â threthdalwr arall (er enghraifft, os yw cynllun osgoi wedi cael ei farchnata'n helaeth) a bod her GAAR eisoes ar waith yn yr ymchwiliad arall hwnnw.
Er y gall dadleuon lluosog fod yn seiliedig ar feysydd eraill y ddeddfwriaeth dreth ddatganoledig, gall yr Awdurdod Cyllid ddewis defnyddio her GAAR yn unig. Ni chaiff trethdalwr wrthwynebu defnyddio’r GAAR oherwydd nad yw dulliau eraill sydd ar gael i'r Awdurdod Cyllid i herio'r trefniant artiffisial wedi cael eu defnyddio.
Mae darpariaethau statudol eraill sy'n ymwneud â threthi datganoledig yn cynnwys rheolau atal osgoi penodol. Gelwir rhai o'r rhain yn rheolau atal osgoi wedi eu targedu (TAAR), tra gall eraill fod ar ffurf amddiffyniad atal osgoi llai amlwg. Mewn perthynas â'r Dreth Trafodiadau Tir, y mwyaf arwyddocaol yw'r rheol yn adran 31 y Ddeddf Treth Trafodiadau Tir sydd wedi ei thargedu i atal hawliadau gan ddefnyddio trefniadau osgoi treth i gael mynediad at y rhyddhad.
Mae'r GAAR yn annibynnol ar y rheolau atal osgoi eraill, a gellid ei ddefnyddio i herio trefniant artiffisial, a ddefnyddiwyd mewn gwirionedd i fanteisio ar ddiffyg, neu ddiffyg canfyddedig, yn y rheolau atal osgoi eraill.
DCRhT/8080 Dechrau'r GAAR a’r rheol drosiannol
Bydd y GAAR yn gymwys i'r trefniadau osgoi treth hynny y cytunwyd arnynt ar neu ar ôl y dyddiad y daeth y GAAR i rym. 1 Ebrill 2018 yw'r dyddiad hwnnw.
Mae hyn yn golygu na all yr Awdurdod Cyllid ystyried unrhyw drefniant a gyflwynwyd cyn y dyddiad hwnnw i’w herio gan ddefnyddio'r GAAR. Fodd bynnag, gall heriau eraill sy'n defnyddio rhannau eraill o Ddeddfau Trethi Cymru fod yn bosibl o hyd.
I'r gwrthwyneb, bydd trethdalwr yn gallu ystyried a chyfeirio at drefniadau a wnaed cyn 1 Ebrill 2018 os bydd hynny'n cynorthwyo'r trethdalwr i ddangos nad oedd y trefniadau osgoi treth yn rhai artiffisial.
DCRhT/8090 Sut bydd yr Awdurdod Cyllid yn gweithio yn erbyn mantais?
Os bydd yr Awdurdod Cyllid o'r farn bod trefniant yn artiffisial a bod angen defnyddio’r GAAR i wrthsefyll y trefniadau osgoi treth, boed ar ei ben ei hun neu ynghyd â heriau eraill i'r trefniadau (er enghraifft, TAAR penodol), yna mae'n rhaid i’r Awdurdod Cyllid ddilyn y gweithdrefnau a bennwyd yn y ddeddfwriaeth GAAR.
Nodir yn Adran 81E DCRhT 2016 y dylai unrhyw addasiad a wneir gan yr Awdurdod Cyllid fod yn gyfiawn ac yn rhesymol i wrthweithio'r fantais dreth. Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai hyn fod yn dasg gymharol syml i benderfynu pa addasiadau y mae angen eu gwneud i gyflawni'r canlyniad cyfiawn a rhesymol hwnnw. Er enghraifft, o ran y Dreth Trafodiadau Tir lle mae trethdalwr wedi ymrwymo i drefniadau osgoi treth sydd wedi lleihau eu rhwymedigaeth i sero, lle byddai'r ystyriaeth a roddir ar gyfer pwnc y trafodiad tir wedi arwain at rwymedigaeth o £100,000, yna bydd y rhwymedigaeth o £100,000 yn cael ei geisio drwy'r hysbysiad gwrthweithio.
Fodd bynnag, pe byddai'r trefniadau osgoi trethi'n gymhleth, yna mae'n bosibl y gallai nifer o bwyntiau fod lle gallai'r GAAR arwain at dâl treth. Pe bai’r Awdurdod Cyllid yn ceisio'r tâl treth ar bob pwynt, gallai canlyniad y dreth fod yn uwch na phe na bai'r trefniadau artiffisial wedi cael eu gweithredu o gwbl. Gan ddefnyddio enghraifft y Dreth Trafodiadau Tir yn y paragraff blaenorol, pe bai'r trefniadau osgoi treth wedi arwain at drafodion lluosog (y bu'r trethdalwr yn dadlau eu bod wedi arwain at rwymedigaeth sero) yna, pe na bai'r trethdalwr yn rhan o'r trefniadau a’i fod wedi caffael yr eiddo gan y gwerthwr yn uniongyrchol, yna ni fydd yr Awdurdod Cyllid yn ceisio treth ar gyfer pob trafodiad sy'n deillio o'r trefniadau, ond yn hytrach yn ceisio trethu'r trafodiad amgen mwyaf tebygol neu briodol. Mae'n bosibl na fydd y trafodiad neu'r trefniant arall hwnnw'n un a fyddai'n arwain at y tâl treth uchaf.
Er mwyn diogelu ei sefyllfa, gall yr Awdurdod Cyllid wrthweithio mewn mwy nag un ffordd, gydag asesiadau cysylltiedig a hysbysiadau cau. Y rheswm am hyn yw, os digwydd apêl, mae'n bosibl y bydd yr Awdurdod Cyllid yn dymuno cyflwyno canlyniadau treth amgen i'r tribiwnlys, ac, o bosibl, pobl wahanol sy'n rhwymedig i'r dreth. Yn y pen draw, mae'n rhaid i'r Awdurdod Cyllid sicrhau nad yw'r addasiadau'n cynnwys unrhyw elfen o drethiant dwbl (pa un ai yn achos y trethdalwr a wnaeth y trafodiad(au) artiffisial, neu wrth ystyried rhwymedigaethau treth pobl eraill).
DCRhT/8100 Y GAAR a threfniadau treth hunanasesu
Mae’r trethi datganoledig yn drethi hunanasesu; mae'r trethdalwr yn asesu ac yn rhoi gwybod i'r Awdurdod Cyllid beth yw eu rhwymedigaeth treth drwy lenwi ffurflen. Mae’r GAAR yn rhan o’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer y trethi datganoledig. Gan fod y trethi datganoledig yn gweithredu ar sail hunanasesu, mae'n ofynnol i drethdalwyr ystyried darpariaethau'r GAAR wrth lenwi eu ffurflenni treth.
DCRhT/8110 Y GAAR a chosbau
Nid yw Deddfau Trethi Cymru yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth benodol sy'n pennu cosbau y gweithiwyd yn eu herbyn drwy'r GAAR. Fodd bynnag, o dan egwyddorion cyffredinol hunanasesu, mae gan drethdalwr ddyletswydd i gyflwyno ffurflen dreth gywir.
Gan hynny, os yw trethdalwr o'r farn ei fod wedi ymrwymo i drefniadau sy'n artiffisial, yna mae'n rhaid i'r ffurflen dreth wneud addasiad priodol i adlewyrchu'r ffaith bod y GAAR yn gymwys. Gallai methu â gwneud addasiad priodol olygu bod y trethdalwr wedi cyflawni trosedd drwy gyflwyno ffurflen sy'n cynnwys anghywirdebau, ac mae’n agored i gosb ar sail yr anghywirdeb.
Mae'n bosibl y byddai trethdalwr sy'n ansicr a yw trefniant o fewn cwmpas y GAAR yn dymuno cysylltu â’r Awdurdod Cyllid pan gyflwynir y ffurflen, gan nodi'r ansicrwydd. Mewn amgylchiadau o'r fath, cynghorir y trethdalwr i ddatgelu'r holl ffeithiau perthnasol yn llawn. Er y bydd cosbau am anghywirdeb yn dal i fod yn ddyledus, yn dibynnu ar ffeithiau penodol y trefniadau osgoi treth, gall datgelu’r ffeithiau’n llawn fod yn sail ar gyfer lliniaru unrhyw gosb sy'n daladwy. Bydd y gosb yn seiliedig ar y refeniw posibl a gollwyd o ganlyniad i'r trefniadau osgoi treth.
Pe bai trefniadau osgoi treth wedi eu gweithredu'n anghywir, fel na ellid fod wedi cyflawni'r fantais dreth y gofynnwyd amdani drwy ymuno â'r trefniadau, yna ceisir cosbau am anghywirdeb yn y ffurflen, lle bo'n briodol.
DCRhT/8120 Hysbysiadau Gwrthweithio
Mae'n rhaid i'r Awdurdod Cyllid ddilyn y weithdrefn a nodir yn adrannau 81E i 81G wrth ddefnyddio'r GAAR i weithio yn erbyn trefniadau osgoi treth. Mewn llawer o ymchwiliadau gall defnyddio’r GAAR fod yn un o nifer o ddadleuon a hyrwyddir gan yr Awdurdod Cyllid i herio hunanasesiad y trethdalwr. At hynny, mae'n bosibl y daw’r penderfyniad i fwrw ymlaen â dadleuon GAAR ar adeg yn yr ymchwiliad pan fo’r Awdurdod Cyllid wedi gwneud asesiad yn barod yn seiliedig ar ddadleuon technegol yn hytrach na'r GAAR.
Er bod angen defnyddio'r weithdrefn hysbysiad gwrthgyfeirio, bydd y dreth a godir yn parhau i gael ei hasesu drwy hysbysiad cau pan fo ymchwiliad agored, neu drwy asesiad gan yr Awdurdod Cyllid. Gan hynny, wrth wneud yr hysbysiad cau, mae'n bwysig bod pob canlyniad treth amgen wedi eu nodi'n llawn. Y mae hefyd yn bosibl, wrth ystyried gwneud asesiad neu benderfyniad, i'r Awdurdod Cyllid ystyried a all y trethdalwr fod wedi ymrwymo i drefniadau osgoi treth y gallai'r Awdurdod Cyllid ddymuno eu herio gan ddefnyddio'r GAAR.
DCRhT/8130 Hysbysiad Gwrthweithio Arfaethedig
Mae'n rhaid i'r Awdurdod Cyllid roi hysbysiad gwrthweithio arfaethedig i'r trethdalwr, yn nodi bod yr Awdurdod Cyllid o'r farn bod mantais dreth wedi deillio o drefniant osgoi treth artiffisial, ac y bydd y fantais dreth yn cael ei gwrthweithio drwy addasiad naill ai drwy asesiad neu hysbysiad cau.
Mae’n rhaid i’r hysbysiad gwrthweithio arfaethedig:
- bennu’r trefniant osgoi trethi a’r fantais drethiannol,
- esbonio pam mae’r Awdurdod Cyllid o’r farn bod mantais drethiannol wedi deillio o drefniant artiffisial i osgoi trethi,
- nodi addasiadau arfaethedig yr Awdurdod Cyllid i wrthweithio’r fantais dreth, a
- nodi’r swm y bydd yn ofynnol i'r trethdalwr ei dalu yn unol â'r asesiad arfaethedig (dylai hyn gynnwys treth sy'n codi o dan gamau gwrthweithio’r GAAR ac unrhyw dreth arall sy'n deillio o gamau gweithredu’r Awdurdod Cyllid - er enghraifft, heriau i agweddau eraill ar faterion trethdalwyr)
Yn ogystal, mae'n rhaid i'r hysbysiad gwrthweithio arfaethedig roi gwybod i'r trethdalwr:
- y bydd hysbysiad gwrthweithio terfynol yn cael ei roi ar ôl diwedd cyfnod o 45 o ddiwrnodau o ddiwrnod rhoi’r hysbysiad gwrthweithio arfaethedig,
- y caiff y trethdalwr ofyn i’r Awdurdod Cyllid ystyried ymestyn y cyfnod 45 diwrnod hwnnw, ac
- y gall y trethdalwr wneud sylwadau ysgrifenedig ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod 45 diwrnod hwnnw (neu am ba bynnag amser yr estynnir y cyfnod hwnnw)
Diben darparu 45 diwrnod i'r trethdalwr wneud sylwadau ysgrifenedig yw galluogi'r trethdalwr i herio casgliadau’r Awdurdod Cyllid bod trefniant osgoi treth artiffisial wedi arwain at fantais dreth. Ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben, ac os nad yw barn yr Awdurdod Cyllid wedi ei newid gan sylwadau ysgrifenedig y trethdalwr, yna bydd yr Awdurdod Cyllid yn rhoi hysbysiad gwrthgyfeirio terfynol.
DCRhT/8140 Hysbysiad gwrthweithio terfynol
Unwaith y bydd cyfnod 45 diwrnod rhoi'r hysbysiad gwrthweithio arfaethedig wedi dod i ben (neu'r cyfnod estynedig y cytunodd yr Awdurdod Cyllid arno), mae'n rhaid i'r Awdurdod roi hysbysiad gwrthgyfeirio terfynol i'r trethdalwr os yw'r Awdurdod yn dal o'r farn bod mantais dreth wedi codi o ganlyniad i drefniadau osgoi treth artiffisial.
Mae'n rhaid i'r Awdurdod Cyllid, lle mae wedi rhoi hysbysiad gwrthweithio arfaethedig, roi hysbysiad gwrthgyfeirio terfynol yn nodi a fydd y fantais dreth sy'n deillio o'r trefniant osgoi treth yn cael ei gwrthweithio naill ai gan hysbysiad cau neu asesiad gan yr Awdurdod. Golyga hyn, hyd yn oed os yw'r Awdurdod Cyllid yn derbyn nad yw ffurflen y trethdalwr yn ddarostyngedig i'r GAAR (oherwydd y sylwadau ysgrifenedig, o bosibl) mae'n rhaid i'r Awdurdod roi hysbysiad gwrthgyfeirio terfynol yn cadarnhau na fydd gweithredu dan y GAAR yn digwydd.
Os yw’r Awdurdod Cyllid o'r farn y dylid gwrthweithio’r fantais dreth gan y GAAR, yna mae’n rhaid i’r hysbysiad gwrthweithio terfynol hefyd:
- bennu’r addasiad sy’n ofynnol i weithredu’r gwrthweithio,
- nodi'r addasiad angenrheidiol, pan fo'r addasiad yn ymwneud â ffurflen sy'n destun ymchwiliad, i'w gynnwys yn yr hysbysiad cau,
- pan nad yw'r fantais dreth yn cael ei gwrthweithio drwy rybudd cau, rhaid cynnal asesiad ar yr un pryd â rhoi'r hysbysiad, neu mae'n rhaid i asesiad a wnaed eisoes gael ei nodi fel un sy'n gweithredu'r gwrthweithio, a
- nodi faint o dreth y mae'n rhaid ei thalu o ganlyniad i'r newid sydd ei angen neu’r asesiad
DCRhT/8150 Apeliadau trethdalwyr
Nid yw hysbysiadau gwrthweithio arfaethedig neu derfynol y GAAR yn benderfyniadau y gellir eu hadolygu nac apelio yn eu herbyn. Y rheswm yw nad yw'r hysbysiadau eu hunain yn creu rhwymedigaeth treth. Mae'r hysbysiad cau neu'r asesiad a roddir i weithredu'r hysbysiad gwrthgyfeirio yn benderfyniadau y gellir eu hadolygu ac apelio yn eu herbyn.
Mewn unrhyw achos a gaiff ei glywed gerbron y tribiwnlys, mater i’r Awdurdod Cyllid fydd dangos bod trefniant osgoi treth artiffisial, a bod yr addasiadau a wnaed (neu sydd i'w gwneud) i wrthweithio'r trefniant hwnnw yn gyfiawn ac yn rhesymol.
DCRhT/8160 Trefniadau pontio'r GAAR
Pan fo swm yn drethadwy i dreth ddatganoledig, yna bydd darpariaethau'r GAAR yn gymwys heblaw am pan fo'r trefniant osgoi treth wedi digwydd ar ddyddiad cyn y dyddiad y daeth rheolau’r GAAR i rym.
Fodd bynnag, os bydd unrhyw drefniant a wnaed cyn y dyddiad y daeth rheolau’r GAAR i rym yn awgrymu nad oedd y trefniadau'n artiffisial, yna ni ddylid anwybyddu'r trefniadau hynny.
DCRhT/8161 Atodiad 1
- Yn Inland Revenue Commissions v Brebner ([1967] 2 W.L.R. 1001), ystyriodd y Llys Apêl ai mantais dreth oedd "un o brif amcanion" ymrwymo mewn trefniant:
“… when the question of carrying out a genuine commercial transaction, as this was, is reviewed, the fact that there are two ways of carrying it out - one by paying the maximum amount of tax, the other by paying no, or much less, tax - it would be quite wrong, as a necessary consequence, to draw the inference that, in adopting the latter course, one of the main objects is, for the purposes of the section, avoidance of tax. No commercial man in his senses is going to carry out a commercial transaction except upon the footing of paying the smallest amount of tax that he can. The question whether in fact one of the main objects was to avoid tax is one for the Special Commissioners to decide upon a consideration of all the relevant evidence before them and the proper inferences to be drawn from that evidence.” [ym mharagraff 718-9]
- Yn Commissioners of Inland Revenue v Trustees of the Sema Group Pension Scheme ([2002] EWHC 94 (Ch). Yn dilyn hynny, cymeradwywyd y dyfyniad gan y Llys Apêl yn [2002] EWCA Civ. 1857 ym mharagraff 119. ), gofynnwyd i'r Uchel Lys ystyried ai cael mantais dreth oedd "un o brif ddibenion" ymrwymo mewn trefniant:
“The tax advantage may not be a relevant factor in the decision to purchase or sell or in the decision to purchase or sell at a particular price. Obviously if the tax advantage is mere “icing on the cake” it will not constitute a main object. Nor will it necessarily do so merely because it is a feature of the transaction or a relevant factor in the decision to buy or sell. The statutory criterion is that the tax advantage shall be more than relevant or indeed an object; it must be a main object.” [ym mharagraff 53]
- Yn fwy diweddar, yn Versteegh Ltd and others v Commissioners for Revenue and Customs ([2013] UKFTT 642 (TC)) y Tribiwnlys Haen Gyntaf, a oedd mantais dreth yn "brif ddiben neu’n un o brif ddibenion" y trethdalwr yn ymrwymo mewn trefniant:
“In the same way that the mere presence of a commercial purpose cannot rule out the existence of tax avoidance as being a main purposes, the mere existence of a tax advantage, known to the taxpayer, does not on its own render the obtaining of that advantage a main purpose. All the authorities point to the question being one of degree and significance to the taxpayer, and that the question is one of fact for the tribunal, having regard to all the circumstances.” [ym mharagraff 158]
- Yn UBS AG v Commissioners for Revenue and Customs ([2016] UKSC 13), ystyriodd y Goruchaf Lys a ddylid dehongli darpariaethau mewn deddfwriaeth treth incwm i arwain at ddyfarnu bonysau di-dreth a gan amrywiol fanciau yn 2004 mewn ffordd y gellir ystyried hynny fel modd o osgoi treth incwm:
“There is nothing in the background to suggest that Parliament intended that [the provisions allowing for the award of tax-free bonuses] should also apply to transactions having no connection to the real world of business, where a restrictive condition was deliberately contrived with no business or commercial purpose but solely in order to take advantage of the exemption.” [paragraff 78]