Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar y darpariaethau yn rhan 3 a rhan 5 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (DTGT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

DTGT/3000 Cyfrifo pwysau trethadwy deunyddiau a disgowntiau dŵr

Mae cyfrifo pwysau trethadwy deunyddiau a cheisiadau am ddisgowntiau dŵr yng Nghymru yn wahanol i rannau eraill o'r DU. Mae'r canllawiau hyn yn adlewyrchu darpariaethau yn rhan 3 a rhan 5 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

Maen nhw’n rhoi trosolwg o gyfrifo pwysau trethadwy deunyddiau, gan gynnwys:

  • defnyddio pontydd pwyso
  • dulliau pwyso amgen
  • disgowntiau dŵr

Maen nhw hefyd yn rhoi gwybodaeth am gosbau posibl am:

  • beidio â phennu pwysau trethadwy yn gywir
  • methu â chofrestru ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
  • cymhwyso disgownt dŵr yn anghywir

DTGT/3010 Cyfrifo pwysau trethadwy deunyddiau gan ddefnyddio pont bwyso

Mae’r dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei chyfrifo ar sail pwysau'r deunydd sy’n cael ei waredu. Rhaid i chi bwyso’r holl ddeunydd yn ofalus er mwyn sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei thalu.

Chi sy’n gyfrifol am gyfrifo pwysau trethadwy'r deunydd er mwyn pennu faint o dreth sy’n daladwy.

Rhaid i chi ddefnyddio pont bwyso er mwyn pennu pwysau'r deunydd sy'n cael ei waredu mewn tunelli. Wrth i'r deunydd fynd i mewn i'r safle tirlenwi fel arfer.

Nid yw’n dderbyniol

oni bai ein bod ni yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn cymeradwyo hynny ymlaen llaw.

Mae angen i chi sicrhau bod y bont bwyso’n cael ei graddnodi a'i chynnal a’i chadw’n rheolaidd, ei bod yn rhoi mesuriadau cywir, a lleihau'r risg ei bod yn torri i lawr. Rhaid i'r bont bwyso fodloni'r gofynion yn Neddf Pwysau a Mesurau 1985.

DTGT/3020 Cyfrifo pwysau trethadwy deunyddiau gan ddefnyddio dulliau pwyso amgen

Rydym yn cydnabod efallai na fyddwch yn gallu defnyddio pont bwyso mewn rhai amgylchiadau. Er enghraifft, os nad oes gan eich safle tirlenwi bont bwyso neu os yw wedi torri dros dro.

Gallwch wneud cais am gytundeb i ddefnyddio dull pwyso arall er mwyn pennu pwysau'r deunydd mewn gwarediad trethadwy. Mae'n rhaid i ni ei gymeradwyo cyn y gellir ei ddefnyddio.

Byddwn ond yn cytuno ar ddull amgen ond os ydym yn fodlon y bydd yn rhoi cyfrifiad teg a rhesymol o bwysau deunydd. Am fwy o wybodaeth, gweler ddulliau pwyso amgen (DTGT/3070).

Pont bwyso’n torri lawr y tu allan i oriau agor ACC

Rydym yn deall bod safleoedd tirlenwi yn gweithredu y tu allan i'n horiau agor ni, ac y gall pont bwyso dorri lawr yn ystod y cyfnodau hyn.

Rydym yn eich annog i wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer dull pwyso amgen ymlaen llaw er mwyn caniatáu i'r safle tirlenwi barhau i weithredu.

LDTA/3030 Disgownt mewn perthynas â dŵr sy’n bresennol mewn deunydd

Er mwyn cael disgownt am ddŵr sy'n bresennol mewn deunydd, mae’n rhaid i chi wneud cais i ni am gymeradwyaeth disgownt dŵr. Mae hyn yn wahanol i’r ffordd y mae trethi tirlenwi’n gweithio mewn rhannau eraill o’r DU.

Os ydych yn dymuno gwneud cais am ddisgownt dŵr, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Nid ydym yn ôl-ddyddio cymeradwyaethau.

Bydd yn ofynnol i chi hawlio'r disgownt dŵr yn eich ffurflen dreth a rhoi manylion am gyfanswm pwysau’r deunydd gwastraff ar gyfer pob cymeradwyaeth disgownt dŵr yn ystod y cyfnod cyfrifyddu.

Fel trethdalwr Treth Gwarediadau Tirlenwi, rydych yn atebol am y disgownt dŵr ac mae’n rhaid i chi fod â’r contractau a'r prosesau cywir ar waith gyda'ch cwsmeriaid (cynhyrchwyr gwastraff).

Mae'n rhaid i chi fod â’r holl ddogfennau a thystiolaeth er mwyn gwneud cais am gymeradwyaeth disgownt dŵr.

Defnydd angenrheidiol neu ychwanegiadau dŵr

Bydd disgowntiau dŵr ond yn cael eu cymeradwyo pan fydd angen ychwanegu neu ddefnyddio dŵr.

Os bydd cynhyrchwr gwastraff yn storio'r deunydd gwastraff y tu allan cyn ei waredu, ni ddylai unrhyw ddŵr ychwanegol sydd yn y deunydd oherwydd glaw neu eira gael ei ystyried fel rhan o'r disgownt dŵr.

Byddwn ond yn ystyried ceisiadau lle mae angen dŵr ar gyfer y canlynol:

  • lle’r oedd yn rhaid ei ychwanegu:
    • er mwyn galllu cludo’r deunydd i’w waredu
    • er mwyn echdynnu mwyn
    • yn ystod proses ddiwydiannol
  • ei fod yn ganlyniad angenrheidiol i broses ddiwydiannol
  • fod y deunydd yn weddillion trin elifiant neu garthion mewn gwaith trin dŵr

Y broses ymgeisio

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais wedi'i lenwi a'r dogfennau ategol, byddwn yn ei ystyried a gallwn ofyn am gyngor gan bartneriaid perthnasol, fel Cyfoeth Naturiol Cymru. Gallwn hefyd ofyn am ymweld â'r cynhyrchydd gwastraff.

Y dystiolaeth sydd ei hangen i gefnogi'r cais

Mae'n rhaid i chi ddarparu:

  • enw eich sefydliad
  • eich Rhif Cofrestru Treth Gwarediadau Tirlenwi (os yw'n hysbys)
  • rhif trwydded CNC (Cyfoeth Naturiol Cymru)
  • enw a chyfeiriad y safle tirlenwi sy'n gwneud cais am ddisgownt dŵr
  • enw a chyfeiriad eich cwsmer neu gynhyrchydd y gwastraff (os yw'n wahanol i'r cwsmer)
  • eu rhif trwydded Asiantaeth yr Amgylchedd / CNC
  • Cod Gwastraff Ewropeaidd (EWC) a disgrifiad o’r deunydd gwastraff a sut y cafodd ei gynhyrchu
  • manylion y cynnwys dŵr, gan gynnwys canran y lleithder sy'n bresennol yn y gwastraff
  • amcangyfrif o bwysau'r deunydd a anfonir i'r safle’n flynyddol
  • manylion unrhyw driniaeth a gaif y gwastraff tra bydd gyda'r cynhyrchydd gwastraff er mwyn lleihau ei gynnwys dŵr
  • pwysau neu gyffaint y deunydd gwastraff ar ddechrau'r broses
  • sut mae'r gwastraff yn cael ei ddidoli cyn ac ar ôl ei drin a chyn ei symud o'r safle
  • cadarnhad nad oes dŵr yn bresennol yn y deunydd oherwydd glaw neu eira
  • manylion y labordy UKAS (Gwasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig) achrededig sy'n cynnal y profion
  • manylion a chofnodion y samplu a wnaed
  • manylion amlder a methodoleg y samplu

Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais

Byddwn yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i chi beth yw ein penderfyniad. Os ydych yn anghytuno, gallwch:

  • ofyn i ni ei adolygu, neu
  • apelio’n syth i'r tribiwnlys treth annibynnol

Mae angen i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y byddwn yn cyhoeddi ein llythyr penderfyniad.

Os byddwch yn gofyn am adolygiad o’n penderfyniad, ni allwch apelio i'r tribiwnlys hyd nes bod ein hadolygiad wedi'i gwblhau.

Os yw eich cais yn cael ei gymeradwyo

Bydd ein cymeradwyaeth yn nodi'r manylion, gan gynnwys unrhyw amodau ac am faint y bydd yn para. Gallwn amrywio neu'n dirymu cymeradwyaeth unrhyw bryd, yn ysgrifenedig.

Rhaid i chi gadw cofnod disgownt dŵr sy’n nodi pob gwarediad trethadwy y cymhwysir disgownt ar ei gyfer.

Os byddwch yn rhoi unrhyw ddisgownt i gynhyrchydd gwastraff cyn i ni ei gymeradwyo, ni fydd y gostyngiad yn berthnasol. Byddwch yn atebol am dalu treth lawn ar gyfanswm pwysau'r gwarediad.

Amodau cymeradwyo

Mae amodau penodol a nodir yn yr hysbysiad cymeradwyo yn berthnasol i gymeradwyaethau disgownt dŵr. Gall pob cais fod ag amodau gwahanol. Gellir amrywio'r rhain yn ystod oes cymeradwyaeth.

Rydych yn gyfrifol am gydymffurfio â'r amodau, gan gynnwys unrhyw amodau sy'n seiliedig ar wybodaeth a roddir gan y cynhyrchydd gwastraff.

Gall eich amodau cymeradwyo gynnwys y canlynol. Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr.

Mae’n rhaid i chi:

  • ddarparu tystiolaeth o ddadansoddiad allanol o'r cynnwys dŵr sy'n bresennol yn y deunydd sy'n cael ei waredu o labordy UKAS achrededig
  • anfon copïau o'r dadansoddiad uchod at ACC ar gais
  • rhoi gwybod i ni os oes unrhyw newidiadau arfaethedig yn y broses trin gwastraff, yr offer neu'r dulliau cynhyrchu a allai effeithio ar y disgownt dŵr
  • rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i gyfansoddiad y ffrwd wastraff
  • dweud wrthym a ydych chi neu'r cynhyrchydd gwastraff yn ystyried newid y labordy UKAS achrededig sy'n cynnal y dadansoddiad
  • adrodd am unrhyw newidiadau o fewn 30 diwrnod i nodi neu gael gwybod am y newidiadau

Bydd eich cymeradwyaeth yn cael ei adolygu fel y nodir yn eich hysbysiad cymeradwyo. Gall hyn fod yn flynyddol, yn chwarterol neu'n fisol. Byddwn yn anfon ffurflen atoch pan fydd hi’n bryd cynnal adolygiad.

Os nad ydych yn cydymffurfio ag amodau cymeradwyaeth disgownt dŵr, gall fod angen i chi ad-dalu unrhyw dreth a gollwyd a/neu gosb. Gweler DTGT/3060 cosb am gymhwyso disgownt dŵr yn anghywir (DTGT/3060).

DTGT/3040 ACC yn cyfrifo pwysau trethadwy deunyddiau

Mae adegau pan fyddwn yn ei hystyried yn briodol cyfrifo pwysau trethadwy deunydd mewn gwarediad dan yr amgylchiadau canlynol:

  • nad ydych wedi dychwelyd ffurflen dreth mewn cysylltiad â'r gwarediad
  • nad ydych wedi pennu'r pwysau gan ddefnyddio pont bwyso neu ddull pwyso amgen sydd wedi’i gymeradwyo
  • rydych wedi torri amod eich cymeradwyaeth disgownt dŵr
  • nad oes gennych gofnod disgownt dŵr

Os oes angen i ni gyfrifo pwysau’r deunydd, gallwn ddiystyru neu leihau disgownt dŵr.

DTGT/3050 Cosb am fethu â phennu pwysau'n briodol

Yn ogystal ag atebolrwydd posibl am Dreth Gwarediadau Tirlenwi pellach, os nad ydych yn pennu pwysau'r deunydd sy'n cael ei waredu yn iawn, gallwn roi cosb os na fyddwch yn defnyddio pont bwyso neu ddull pwyso amgen sydd wedi’u gymeradwyo.

Gall y gosb fod hyd at £500 am bob gwarediad trethadwy. Byddwn yn rhoi hysbysiad yn dweud wrthych pa gosb rydym wedi'i rhoi.

Gallwch hefyd fod yn agored i gosbau pellach o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (DCRhT) 2016, megis cosbau am anghywirdebau mewn ffurflenni treth ac am fethu â thalu treth.

DTGT/3060 Cosb am gymhwyso disgownt dŵr yn anghywir

Yn ogystal ag atebolrwydd posibl am Dreth Gwarediadau Tirlenwi pellach, gallwn roi cosb os ydych:

  • yn cymhwyso disgownt heb ein cymeradwyaeth
  • yn cymhwyso disgownt mwy na'r disgownt rydym wedi'i gymeradwyo
  • yn torri un neu fwy o'ch amodau cymeradwyo

Gall y gosb fod hyd at £500 am bob gwarediad trethadwy, a byddwn yn eich hysbysu am y gosb rydym wedi’i rhoi.

Efallai gallech hefyd fod yn agored i gosbau pellach o dan Ddeddf DCRhT (Cymru) 2016, megis cosbau am anghywirdebau mewn ffurflenni treth a methu â thalu treth.

Gallwn leihau'r gosb ar sail yr amgylchiadau a faint rydych yn cydweithredu. Po fwyaf rydych chi'n ei ddweud wrthym, yn ein helpu, ac yn ei roi i ni, y mwyaf fydd gostyngiad y gosb. 

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 Cosbau: canllawiau technegol.

DTGT/3070 Dulliau Pwyso Amgen

Gallwch wneud cais i ACC am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull pwyso amgen. Mae'n rhaid i ni ei gymeradwyo cyn iddo gael ei ddefnyddio.

Byddwn ond yn cytuno iddo os ydym yn fodlon y bydd y dull amgen yn cynhyrchu cyfrifiad teg a rhesymol o bwysau’r deunydd. 

Pan fyddwch yn gwneud cais gyda dogfennau ategol, byddwn yn ei adolygu a gallwn ofyn am gyngor gan bartneriaid cysylltiedig fel Cyfoeth Naturiol Cymru.

Byddwn yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig i chi beth yw ein penderfyniad. Os byddwn yn cymeradwyo eich cais, byddwn yn anfon hysbysiad cymeradwyo atoch yn nodi'r manylion, gan gynnwys unrhyw amodau ac am faint y bydd yn para.

Gall y gymeradwyaeth ymwneud â'r holl warediadau trethadwy yn seiliedig ar y cais neu â mathau penodol o wastraff, megis rhai ffrydiau gwastraff penodol.

Lle mae dull pwyso amgen wedi'i gymeradwyo, mae’n rhaid i chi ei ddefnyddio’n unol â'r gymeradwyaeth. Gallwn wirio cywirdeb y dull a ddefnyddir, er enghraifft, trwy brofi llwythi yn ystod arolygiad.

Mae’n rhaid i chi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau i arferion busnes a fydd yn effeithio ar ddibynadwyedd y dull. Gallwn amrywio neu'n dirymu cymeradwyaeth unrhyw bryd, yn ysgrifenedig.

Os ydych yn anghytuno â’n penderfyniad, gallwch:

  • ofyn i ni ei adolygu, neu
  • apelio’n syth i'r tribiwnlys treth annibynnol

Mae angen i chi ofyn i ni ei adolygu o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y byddwn yn cyhoeddi ein llythyr penderfyniad treth.

Os ydych yn gofyn am adolygiad o'n penderfyniad, dim ond pan fydd ein hadolygiad wedi'i gwblhau y gallwch apelio i'r tribiwnlys. Yna bydd gennych 30 diwrnod arall o'r diwrnod y byddwn yn cyhoeddi ein llythyr ynglŷn â phenderfyniad adolygiad i apelio i'r tribiwnlys.

Enghreifftiau o ddulliau pwyso amgen (nid yw’n hollgynhwysfawr)

Dull penodedig 1: y pwysau mwyaf a ganiateir mewn cynhwysydd

Disgrifiad o'r dull

Mae'r dull hwn yn cynnwys cofnodi'r pwysau mwyaf y caniateir i gerbyd neu gynhwysydd (fel lori, sgip, wagen rheilffordd, ac ati) ei gludo a chymhwyso'r gyfradd dreth briodol.

Pwysau mwyaf

Gallwch naill ai ddefnyddio'r hyn a nodir ar y plât fel y pwysau mwyaf y caiff y cerbyd ei gludo, neu'r pwysau a nodir yn y tablau isod.

Dylech ddefnyddio’r pwysau gros ar blât y cerbyd neu'r cynhwysydd, llai ei bwysau pan yn wag.

Rhaid trin unrhyw gerbydau sydd wedi eu llenwi'n rhannol fel rhai llawn at ddibenion cyfrifo treth.

Lorïau heb graeniau na bwcedi

Math o gerbyd

Pwysau mwyaf

Lorïau 4 echel

20 tunnell

Lorïau 3 echel

15 tunnell

Lorïau 2 echel

10 tunnell

Lorïau gyda chraeniau neu fwcedi

Math o gerbyd

Pwysau mwyaf

Lorïau 4 echel gyda chrafanc

18 tunnell

Lorïau 3 echel gyda chrafanc

13 tunnell

Lorïau 2 echel gyda chrafanc

8 tunnell

Os oes craen neu fwced wedi'i osod ar gerbyd, mae'r pwysau mwyaf y gellir ei gludo yn cael ei ostwng o 2 dunnell.

Cerbydau nwyddau ysgafn, faniau, neu geir

Math o gerbyd

Pwysau mwyaf

Cerbydau nwyddau ysgafn

Mae plât y gwneuthurwr, sydd fel arfer yng nghafn drws y teithiwr, yn dangos y pwysau gros mwyaf.

Ceir a faniau eraill

Mae llawlyfr y cerbyd yn dangos pwysau gros mwyaf y cerbyd. Tynnwch o hyn y pwysau pan fydd y cerbyd yn wag, a ddangosir yn llawlyfr y cerbyd, er mwyn cael y pwysau y gall y cerbyd ei gludo.

Cofnodion sydd angen eu cadw

Er mwyn gweithredu'r dull hwn, rhaid i chi gofnodi'r holl wastraff sy’n dod ar eich safle, gan ddangos:

  • rhif adnabod a math y cerbyd neu’r cynhwysydd
  • disgrifiad o'r gwastraff sy’n cael ei gludo
  • dyddiad gwaredu’r gwastraff ar eich safle

Rhaid i chi hefyd sefydlu trywydd archwilio neu gofrestr sy'n cofnodi'r canlynol, ar gyfer pob cerbyd neu gynhwysydd sy’n defnyddio'ch safle i waredu gwastraff:

  • pwysau gros
  • pwysau net pan yn wag
  • pwysau mwyaf y gellir ei gludo

Dull penodedig 2: trosi o gyfaint i bwysau

Disgrifiad o'r dull

Er mwyn gweithredu'r dull hwn, bydd angen i chi wybod capasiti ciwbig y cerbydau (lori, sgip, wagen reilffordd, bad cludo nwyddau ac ati) sy'n cludo gwastraff i'ch safle. Dylid defnyddio'r rhain gyda'r categorïau gwastraff a'r ffactorau trosi a nodir isod.

Er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth pwysau a mesurau, rhaid i gapasiti ciwbig mwyaf y cynhwysydd fod yn lluosrif o 0.1 metr ciwbig. Dim ond i un lle degol y gall mesuriad fynd.

Os yw'r cyfrifiad yn arwain at dunelledd sy'n fwy na gallu cludo cyfreithlon y cerbyd, byddai’n fuddiol i chi ddefnyddio’r dull pwysau mwyaf a ganiateir ar gyfer y cynhwysydd (Dull penodedig 1).

Rhaid i chi seilio eich cyfrifiadau treth ar bob cynhwysydd a cherbyd yn llawn.

Ffactorau trosi

Os yw'r gwastraff yn dod o fewn mwy nag un categori, mae'r ffactor trosi uwch yn berthnasol i’r holl wastraff.

Categori gwastraff

Mathau nodweddiadol o wastraff

Metrau ciwbig i dunelli - lluoswch gyda

Llathenni ciwbig i dunelli - lluoswch gyda

Gwastraff anweithredol neu anadweithiol

Anhydawdd mewn dŵr gan mwyaf ac anfioddiraddadwy neu'n fioddiraddadwy’n araf iawn, er enghraifft, tywod, isbridd, concrid, brics, ffibrau mwynol, gwydr ffibr ac yn y blaen

 1.5

1.15

Gwastraff diwydiannol cyffredinol: anarbennig, heb ei gywasgu.

(Gan fod cywasgu’n gallu cynyddu dwysedd y categori gwastraff hwn yn sylweddol, os ydych yn derbyn gwastraff wedi’i gywasgu, bydd angen i chi godi'r ffactor trosi yn unol â hynny).

Papur a phlastigau

0.15

0.11

Cerdyn, paledi, plastrfwrdd, gwastraff ffreutur, blawd llifio, tecstilau, lledr

N/A

0.4

0.3

 

 

 

Pren, gwastraff adeiladu, gwastraff ffatri ac ar ôl ysgubo, ac yn y blaen

N/A

0.6

0.46

 

 

 

Tywod ffowndri, slag, lludw tanwydd wedi’i falu’n fân, lludw gwastraff wedi’i losgi

N/A

 1.5

1.15

 

Gwastraff cartref - heb ei gywasgu

Gwastraff anarbennig, anadweithiol o safleoedd domestig, gan gynnwys gwastraff cartref wedi’i gasglu

0.2

0.15

Gwastraff cartref - wedi'i gywasgu (yn cynnwys pob gwarediad swmpus)

Gwastraff anarbennig, anadweithiol o safleoedd domestig, gan gynnwys gwastraff cartref wedi’i gasglu

0.4

0.30

Gwastraff masnachol - heb ei gywasgu

(Gan y gall cywasgu gynyddu dwysedd y categori gwastraff hwn yn sylweddol, os ydych yn derbyn gwastraff wedi’i gywasgu, bydd angen i chi godi'r ffactor trosi yn unol â hynny).

Gwastraff anarbennig, anadweithiol o siopau, ysbytai, canolfannau hamdden, swyddfeydd, ac ati, gan gynnwys gwastraff amwynderau dinesig, gwastraff parciau a gerddi, sbwriel stryd, gwastraff archfarchnadoedd, siopau a bwytai, gwastraff cyffredinol swyddfeydd

0.2

0.15

Gwastraff arbennig

Wedi’i ddiffinio gan reoliadau amgylcheddol - yn cyfateb yn fras i wastraff peryglus

1.0

0.76

Cofnodion sydd angen eu cadw

Mae'n rhaid i chi gofnodi'r holl wastraff sy’n dod i’ch safle, gan ddangos y rhif adnabod a'r math o gerbyd/cynhwysydd, disgrifiad o'r gwastraff a gludir, a dyddiad ei waredu ar eich safle. Rhaid cofnodi cyfaint y cerbyd/cynhwysydd a rhaid rhoi tystiolaeth o hynny trwy ba bynnag ddogfennaeth sydd ar gael gan y cludwr.

Dull penodol 3: pwyso’r gwastraff cyn ei dderbyn ar y safle

Disgrifiad o'r dull

Efallai y byddwch yn derbyn gwastraff sy'n cael ei bwyso mewn man heblaw am eich safle tirlenwi. Os oes trywydd archwilio clir gan gynnwys cofnod o bwysau ar gyfer pob cerbyd, cynhwysydd, wagen, ac ati - a’u bod yn mynd yn uniongyrchol i'r safle, yna gellir defnyddio'r cynllun hwn i gyfrifo Treth Gwarediadau Tirlenwi.

Cofnodion sydd angen eu cadw

Er mwyn gweithredu'r dull hwn, mae’n rhaid i chi gofnodi'r holl wastraff sy’n dod i’ch safle, gan ddangos:

  • ble cafodd y gwastraff ei bwyso
  • rhif adnabod a math y cerbyd neu’r cynhwysydd
  • disgrifiad o'r gwastraff
  • dyddiad y cafodd ei waredu ar eich safle

Rhaid i chi hefyd gofnodi a chadw tocynnau’r bont bwyso.