Neidio i'r prif gynnwy

Clefyd sy'n effeithio ar ysgyfaint gwartheg yw TB (Twbercwlosis) Gwartheg. Mae'n glefyd hysbysadwy a gall effeithio ar bobl ac ar anifeiliaid eraill.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r clefyd yn cael effaith sylweddol ar ffermydd ac ar yr economi amaethyddol.

Amheuon a chadarnhad

Os ydych chi'n meddwl y gall TB Gwartheg fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 ar unwaith.

Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn. 

Arwyddion clinigol

Mae'r arwyddion clinigol yn cynnwys: 

  • peswch cas 
  • mastitis/y garged
  • colli pwysau

Nid yw'r arwyddion hyn yn dod i'r amlwg yn aml iawn gan fod ein system brofion yn cael hyd i'r clefyd cyn iddyn nhw ymddangos. 

Trosglwyddo ac atal

Mae'r clefyd yn cael ei ledaenu: 

  • trwy gysylltiad clos rhwng anifeiliaid heb eu heintio ac anifeiliaid wedi'u heintio
  • trwy yfed llaeth a chynnyrch llaeth heintiedig
  • trwy dail a slyri, llaeth ac weithiau wrin wedi'u heintio

Mae'r perygl i iechyd pobl yn fach. Mae cynnal profion rheolaidd ar wartheg, pasteureiddio llaeth ac archwilio lladd-dai: 

  • yn golygu bod modd cael hyd i'r clefyd yn fuan 
  • bod modd cael gwared ar anifeiliaid sydd wedi'u heintio 
  • ein bod yn lleihau'r risg o heintio gweddill y fuches

Nid oes triniaeth effeithiol ar gael ar gyfer gwartheg. Bydd angen cyfuniad o fesurau sy'n canolbwyntio ar holl ffynonellau’r clefyd i reoli TB Gwartheg.

Gwnaethon ni greu Rhaglen i Ddileu TB i gael gwared ar y clefyd. Mae anifeiliaid gwyllt (yn enwedig moch daear a cheirw) yn gallu cael eu heintio hefyd. Mae hyn yn ei wneud yn anodd ei reoli gan fod angen rhwystro gwartheg ac anifeiliaid gwyllt rhag heintio'i gilydd.