Mae TB Gwartheg yn cael effaith sylweddol ar ffermydd ac ar yr economi amaethyddol.
Mae'n effeithio ar:
- wartheg
- anifeiliaid fferm heblaw gwartheg (lamas ac alpacas)
- anifeiliaid gwyllt (moch daear a cheirw)
- pobl
Beth ydyn ni am ei wneud
Ein hamcan yw:
- cael hyd iddo
- delio â ffynhonnell yr haint
- ei ddileu
- ei rwystro rhag dychwelyd
Rhaid felly rheoli TB mewn moch daear ac mewn lamas ac alpacas. Rydyn ni hefyd yn cynnal profion ar anifeiliaid marw i weld a oedd TB arnyn nhw.
Sut byddwn yn gwneud hyn
Rydym wedi rhannu'r wlad yn Ardaloedd TB Isel, Canolradd ac Uchel, gan ddibynnu ar nifer yr achosion o'r clefyd. Drwy hynny, rydyn ni'n gallu dilyn mesurau sy'n addas i'r ardal dan sylw. A newid y mesurau hynny os yw'r TB yn yr ardal yn cynyddu neu'n gostwng.
ar MapDataCymru